Newid cyflenwr ynni

Yn cynnwys newid eich cyflenwr ynni os ydych yn talu biliau'r aelwyd, yn rhedeg busnes o gartref, bod gennych fesurydd rhagdalu, yn symud tŷ neu mewn dyled.

Trosolwg

Gall newid cyflenwr ynni a chael tariff newydd arbed arian i chi.

Os mai chi sy'n talu bil ynni'r aelwyd, gallwch ddewis pa gyflenwr yr hoffech iddo gyflenwi ynni i'ch cartref a pha dariff. Byddwch yn cael eich rhoi ar gontract o'r enw ‘contract domestig’.

Os ydych yn rhedeg busnes bach megis tafarn neu fwyty, gallwch hefyd newid cyflenwyr. Mae'n rhaid i chi gael contract ynni busnes. Gall ymgynghorydd ynni eich helpu i newid, ond bydd yn codi ffi am y gwasanaeth hwn. Darllenwch sut i sefydlu contract ynni busnes.

Dylai gymryd hyd at 5 diwrnod gwaith i newid enw eich cyflenwr. Gallwch hefyd ofyn am gael newid cyflenwr ar ddyddiad diweddarach.

Busnesau bach sy'n cael eu rhedeg o gartref

Os ydych yn rhedeg eich busnes o gartref, gallwch gael contract ynni domestig neu fusnes. Dylech gysylltu â'ch cyflenwr i weld pa un sydd gennych.

Disgrifir busnes sydd ganddo lai na 10 cyflogai, neu'r hyn sy'n gyfwerth ag amser llawn, a bod ganddo drosiant blynyddol neu fantolen nad yw'n fwy na £2 filiwn yn ficrobusnes. Os byddwch yn rhedeg eich microfusnes o gartref, bydd angen contract ynni busnes arnoch. Darllenwch sut i gael ynni ar gyfer eich busnes.

Dod o hyd i dariffau ynni a'u cymharu

Mae rhai gwefannau cymharu prisiau sy'n rhestru tariffau ynni domestig wedi ymrwymo i'n codgwirfoddol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r gwefannau hyn wneud y canlynol:

  • bod yn glir beth mae'r tariff ynni a nodir ar eu gwefan yn ei gynnwys, er enghraifft os bydd angen mesurydd clyfar arnoch er mwyn cael y tariff
  • bod yn glir y gellir trefnu'r tariff ynni yn uniongyrchol drwy eu gwefan a pha dariffau na ellir gwneud hynny ar eu cyfer
  • rhestru tariffau yn ôl trefn pris

Defnyddiwch wefan cymharu prisiau wedi'i hachredu i ddod o hyd i dariffau ynni a'u cymharu:

Sut i newid cyflenwyr ynni

Pan fyddwch wedi dewis cyflenwr a thariff rydych am symud iddo, bydd angen i chi roi'r wybodaeth sydd ar eich bil ynni i'r cyflenwr. Bydd angen y canlynol arno:

  • cod post
  • enw eich cyflenwr ynni neu gontract presennol
  • enw'r tariff presennol
  • y swm rydych yn ei dalu am eich ynni fesul uned, mae hyn i'w weld mewn oriau cilowat (kWh) ar eich bil 
  • y swm o ynni rydych yn ei ddefnyddio bob blwyddyn

Bydd eich cyflenwr ynni newydd yn cysylltu â chi  ac yn dweud wrthych pryd y bydd yn newid eich cyflenwad ynni iddyn nhw. Gall gymryd hyd at bum   diwrnod gwaith i aelwydydd.

Os na fydd eich cyflenwr yn cwblhau'r gwaith o fewn yr amser hwn, gallwch gael iawndal am y problemau wrth newid cyflenwyr ynni. Ni all busnesau gael iawndal.

Gellir canslo contractau domestig o fewn 14 diwrnod os byddwch yn newid eich meddwl, ond ni all y rhan fwyaf o gontractau ynni busnes wneud hynny.

Os byddwch am symud eich cyflenwad trydan neu nwy i dariff cyfradd sefydlog

Gall costau ynni fynd i fyny ac i lawr. Ystyr tariff cyfradd sefydlog yw os bydd costau ynni yn mynd i fyny, byddwch yn dal i dalu'r un gost fesul uned am yr ynni rydych yn ei ddefnyddio. Ond os bydd costau ynni yn gostwng, bydd y gost yn parhau'r un peth.

Dylech ddewis eich tariff ynni yn seiliedig ar faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio a defnyddio eich amgylchiadau eich hunain.

Efallai y bydd angen i chi dalu ffi, a elwir yn 'ffi gadael', os byddwch yn newid tariff neu gyflenwyr cyn i'ch tariff cyfradd sefydlog ddod i ben.

Symud cartref neu eiddo

Gallwch ddewis cyflenwr ynni a thariff newydd unwaith ar ôl i chi symud i mewn i eiddo newydd. 
Os oes gan yr eiddo rydych yn symud i mewn iddo fesurydd rhagdalu, bydd angen i chi gysylltu â'r cyflenwrcyn gynted â phosibl . Darllenwch beth i'w wneud os oes gennych fesurydd rhagdalu yn eich cartref neu safle yn ein Canllawiau i ddefnyddwyr mesuryddion rhagdalu.

If you do not know who your supplier is, contact your network operator. Search for your network operator on the Energy networks association website.

Rhentu eich cartref neu eich eiddo

Edrychwch ar eich cytundeb rhentu i weld pwy sy'n talu'r biliau ynni ar gyfer yr eiddo.

Os mai eich landlord sy'n talu, bydd yn gwneud y canlynol:

  • talu'r cyflenwr ynni yn uniongyrchol, a byddwch chi'n eu talu nhw
  • cynnwys cost yr ynni y byddwch yn ei ddefnyddio yn eich rhent
  • talu am y cyflenwad ynni i'r eiddo rhwng tenantiaethau

Os bydd yn rhaid i chi dalu eich biliau ynni,gallwch ddewis newid eich cyflenwr a'ch tariff ar gyfer yr eiddo ar unrhyw adeg. Rhaid i'ch landlord ganiatáu i chi ddewis eich cyflenwr ynni.

Check the Citizen’s Advice guidance about what your landlord can charge for your energy.

Cyn newid eich cyflenwr, dylech wirio'r canlynol:

  • bod gan eich cytundeb rhentu restr o gyflenwyr y gallwch ddewis ohonynt, a elwir yn ‘gymal cyflenwr diofyn’
  • a ellir newid y rhestr o gyflenwyr yn eich cytundeb rhentu
  • a oes angen i chi roi gwybod i'ch asiant gosod neu landlord eich bod am newid cyflenwra oes gan eich cytundeb rhentu hysbysiad a chymal dychwelyd — os felly, bydd angen i chi newid y cyflenwad ynni yn ei ôl pan ddaw eich tenantiaeth i ben

Ad-dalu dyled

Gallwch newid  i gyflenwr newydd hyd yn oed os oes arnoch arian i'ch hen gyflenwr a'ch bod wedi bod mewn dyled iddynt am lai na 28 diwrnod. Bydd eich hen gyflenwr yn ychwanegu unrhyw arian sy'n ddyledus at eich bil terfynol.

Ni allwch newid os byddwch wedi bod mewn dyled i'ch cyflenwr am fwy na 28 diwrnod. Bydd angen i chi ad-dalu'r ddyled yn gyntaf cyn symud i gyflenwr neu dariff newydd.

Mae'n rhaid i'ch cyflenwr dalu'n ôl unrhyw arian y mae wedi codi arnoch am ynni nad ydych wedi ei ddefnyddio. Darllenwch am sut i gael cymorth os na  allwch fforddio eich biliau ynni.