Cyngor ar ynni i fusnesau
Help swyddogol ar gwynion am ynni i fusnesau, nwy neu drydan i ficrofusnesau a chyngor ar gynlluniau effeithlonrwydd ynni gan reoleiddiwr ynni Prydain Fawr, Ofgem.
Gwneud yn siŵr bod y farchnad ynni yn gweithio'n deg i chi
Ni yw'r rheoleiddiwr ynni ar gyfer Prydain Fawr. Rydym yn gwneud yn siŵr bod y farchnad ynni yn gweithio'n deg i chi.
Mae ynni yn hanfodol i'r rhan fwyaf o fusnesau, o weithio gliniaduron neu beiriannau mewn ffatrïoedd i oleuadau a gwres i'ch swyddfa. Mae eich anghenion yn wahanol i gartref arferol; bydd angen i chi fod yn ymwybodol o nifer o bethau wrth wneud eich dewisiadau ynni masnachol.
Yma, gallwch weld sut mae contractau ynni busnes yn gweithio a beth i'w gadarnhau wrth ddewis tariff neu gyflenwr, neu ddefnyddio brocer ynni. Rydym hefyd yn esbonio gyda phwy y gallwch siarad os bydd angen help ychwanegol arnoch, os byddwch yn cael anawsterau â chyflenwad ynni eich busnes neu os byddwch am gwyno. Gallwch weithredu mewn ffordd wyrddach ac arbed arian ar eich ynni hefyd, gyda'n ganllaw ar gynlluniau a grantiau effeithlonrwydd ynni.
Os na chewch yr ateb rydych yn chwilio amdano, gallwch ofyn i ni ar Twitter hefyd.