Cael iawndal am broblemau wrth newid cyflenwyr ynni

Gallwch gael £40 neu fwy naill ai gan eich hen gyflenwr ynni neu'ch cyflenwr ynni newydd am gamgymeriadau neu oedi wrth newid cyflenwyr ynni eich aelwyd.

Oedi wrth newid cyflenwr

Rhaid i'ch cyflenwyr newid eich cyflenwad trydan neu nwy o'ch hen gyflenwr i'ch cyflenwr newydd o fewn 5 diwrnod gwaith. Os na fyddant yn gwneud hynny, rhaid i'ch cyflenwr newydd dalu £40 i chi. Bydd y £40 yn cael eidalu'n awtomatig naill ai i'ch cyfrif ynni neu'ch cyfrif banc. 

Os caiff eich cyflenwad ei newid mewn camgymeriad

Gallwch hefyd gael £40 os bydd eich cyflenwad ynni yn cael ei newid mewn camgymeriad. Rhaid i chi gysylltu â'ch hen gyflenwr a rhoi gwybod iddo. Bydd ganddo 21 diwrnod gwaith i'ch newid nôl ar ôl i'r camgymeriad gael ei wneud. Gelwir hyn yn 'drosglwyddiad gwallus' yn ein rheolau y dylai cyflenwyr eu dilyn fel rhan o'u trwydded ynni. 

Os bydd hyn yn digwydd bydd eich cyflenwr newydd yn talu £40 i chi'n awtomatig am y camgymeriad . Dylai dalu hwn i chi o fewn 10 diwrnod gwaith o'r dyddiad y bydd yn cytuno bod camgymeriad wedi cael ei wneud. Bydd naill ai'n anfon siec atoch neu'n talu'n uniongyrchol i mewn i'ch cyfrif banc. 

Iawndal ychwanegol os bydd oedi wrth newid neu ddatrys camgymeriadau

Mae'n rhaid i gyflenwyr dalu'r iawndal y mae gennych hawl iddo o fewn 10 diwrnod gwaith. Os fydd yn gwneud hyn , bydd yn rhaid iddo dalu £40 ychwanegol i chi. Mae hyn yn rhan o'n 'Safon Perfformiad Gwarantedig y Cyflenwr' . Mae'r safonau hyn yn sicrhau bod y cyflenwyr yn gwneud iawn am bethau a'ch bod chi'n cael eich talu am broblem a oedd yn fai arnyn nhw. 

Gallwch hefyd gael iawndal ychwanegol o £40 os bydd y canlynol yn gymwys i chi: 

  • mae'r cyflenwr yn cymryd mwy na 20 diwrnod gwaith i ymateb i chi ar ôl i chi ddweud wrthyn nhw am y camgymeriad newid 
  • mae eich hen gyflenwr a'ch cyflenwr newydd yn cymryd mwy na 20 diwrnod gwaith i gytuno p'un a oedd y newid yn gywir ai peidio - bydd y ddau gyflenwr yn talu £40 i chi os bydd hyn yn digwydd 
  • mae eich hen gyflenwr yn cymryd mwy na 21 diwrnod gwaith i ail-gofrestru eich cyflenwad unwaith y byddant yn gwybod am y camgymeriad 

Ni allwch hawlio iawndal os bydd eich cyflenwr yn mynd i'r wal. Darllenwchbeth i'w wneud os bydd eich cyflenwr yn mynd i'r wal.