Hawlio iawndal am faterion cyflenwad ynni
Mae'n bosibl y gallech hawlio iawndal os byddwch yn cael problemau gyda'ch cyflenwad ynni.
Cadarnhewch a ydych yn gymwys i gael iawndal
Cwmnïau rhwydwaith sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r cyflenwad grid a thrwsio toriadau yn y pŵer.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael iawndal os bydd eich cyflenwad trydan neu nwy yn diffodd. Mae'r swm y gallech ei hawlio yn dibynnu ar b'un a oedd y toriad yn y cyflenwad wedi'i gynllunio, pa mor hir y gwnaeth bara, neu ai'r cwmni rhwydwaith oedd ar fai.
Mae gwefan Powercut 105 hefyd yn esbonio beth i'w wneud yn ystod toriad yn y cyflenwad.
Os bydd eich cyflenwad wedi'i dorri oherwydd mesurydd ynni diffygiol neu os byddwch yn rhedeg allan o gredyd yn eich mesurydd rhagdalu, cysylltwch â'ch cyflenwr ynni.
Iawndal ar gyfer toriadau yn y pŵer mewn tywydd arferol
Mae gan eich cwmni rhwydwaith lleol naill ai 12 awr neu 24 awr i adfer cyflenwadau os caiff eich pŵer ei dorri. Mae'r amser y bydd yn ei gymryd yn dibynnu ar faint o gartrefi yr effeithiwyd arnynt gan un nam.
Toriad yn y cyflenwad mewn llai na 5,000 o safleoedd
Os bydd eich cartref heb bŵer am 12 awr neu fwy, gallwch gael £95.
Gall busnesau ar gontract ynni annomestig gael £180. Os nad ydych yn siŵr pa fath o gontract ynni sydd gennych ar gyfer eich busnes, darllenwch y canllaw Cael ynni ar gyfer eich busnes.
Gall cartrefi a busnesau gael £40 arall am bob 12 awr ychwanegol y byddwch heb gyflenwad.
Toriad yn y cyflenwad i fwy na 5,000 o safleoedd
Os bydd eich cartref heb bŵer am 24 awr neu fwy, gallwch gael £95. Gall busnesau gael £180 fel cwsmeriaid annomestig.
Gall cartrefi a busnesau gael £40 arall am bob 12 awr ychwanegol y byddant heb drydan, hyd at gyfanswm o £360.
Mwy na phedwar toriad yn y cyflenwad mewn blwyddyn
Os bydd toriad yng nghyflenwad eich cartref neu fusnes fwy na phedair gwaith mewn blwyddyn, am o leiaf dair awr ar bob achlysur, gallwch hawlio £95 arall.
Mae'r flwyddyn yn rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth.
Iawndal am doriadau yn y pŵer mewn tywydd difrifol
Mae lefel yr iawndal y gallech ei gael yn dibynnu ar gategori'r tywydd difrifol a hyd eich diffyg cyflenwad pŵer.
Mae dau gategori stormydd. Maent yn seiliedig ar yr effaith y mae’r storm yn ei chael ar y rhwydwaith trydan, fel difrod i beilonau a cheblau uwchben.
Mae’r categorïau yn wahanol i’r categorïau stormydd a gyhoeddir gan y Swyddfa Dywydd.
Storm categori 1
Gallwch hawlio £85 am doriad yn eich pŵer sy'n para 24 awr.
Byddwch yn cael £40 arall am bob chwe awr wedi hynny. £2,000 yw'r swm uchaf y gallwch ei hawlio.
Storm categori 2
Gallwch hawlio £85 am doriad yn eich pŵer sy'n para 48 awr.
Byddwch yn cael £40 arall am bob chwe awr wedi hynny. £2,000 yw'r swm uchaf y gallwch ei hawlio.
Ni fyddwch yn gymwys i gael iawndal os bydd y toriad yn y cyflenwad yn digwydd oherwydd achos o darfu ar y cyflenwad ynni cenedlaethol. Mae hyn am nad nam ar y rhwydwaith yw'r broblem.
Iawndal os bydd eich cyflenwad nwy yn diffodd
Os byddwch wedi cael gwybod gan eich gweithredwr rhwydwaith lai na 7 diwrnod cyn i'ch cyflenwad nwy gael ei ddiffodd yn eich cartref, gallwch hawlio £50. Gall busnesau gael £120.
Os bydd eich cyflenwad nwy yn diffodd yn eich cartref heb unrhyw rybudd, gallwch hawlio £70 am bob 24 awr y bydd eich cyflenwad nwy wedi'i ddiffodd. Gall busnesau gael £120.
Gallwch hawlio mwy o iawndal os bydd eich cyflenwad nwy wedi'i ddiffodd am fwy na 24 awr. Mae'r swm yn cynyddu yn dibynnu ar ba mor hir y mae eich cyflenwad nwy wedi'i ddiffodd.
Os yw eich cartref wedi'i gynnwys ar Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth eich rhwydwaith, gallwch gael cymorth ychwanegol os bydd eich cyflenwad nwy yn diffodd. Mae gennych hawl i gael iawndal ychwanegol os na fydd eich darparwr rhwydwaith yn darparu gwasanaethau eraill i chi. Darllenwch sut i gynllunio ar gyfer toriad yn y cyflenwad.
Ni fyddwch yn gymwys i gael iawndal os bydd eich cyflenwad nwy yn diffodd oherwydd achos o darfu ar y cyflenwad ynni cenedlaethol. Mae hyn am nad nam ar y rhwydwaith yw'r broblem.
Sut i gael iawndal
Bydd eich gweithredwr rhwydwaith yn trefnu i chi gael unrhyw daliadau iawndal y mae gennych hawl iddynt. Fel arfer, caiff taliadau eu gwneud yn awtomatig, ond os credwch eich bod yn gymwys i gael iawndal, gallwch hefyd gysylltu â’ch gweithredwr rhwydwaith.
Gweithredwr rhwydwaith ar wefan y Gymdeithas rhwydweithiau ynni.
Ein rôl
Os bydd problemau'n codi, byddwn am sicrhau bod cyflenwadau'n cael eu hadfer yn gyflym.
Byddwn yn monitro pa mor dda y mae cwmnïau rhwydwaith yn gwneud hyn a pha mor dda y maent wedi paratoi i ddelio ag effeithiau ar y rhwydwaith.
Os byddwn o'r farn nad yw cwmnïau yn bodloni eu rhwymedigaethau i gwsmeriaid, byddwn yn gweithredu.