Cynllunio ar gyfer toriad pŵer

Yn cynnwys pwy y dylech gysylltu â nhw os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch yn ystod toriad pŵer, sut i roi gwybod am doriad pŵer ac os gallech hawlio iawndal.

Mae toriadau pŵer fel arfer yn digwydd o ganlyniad i'r canlynol:

  • difrod i wifrau, ceblau a chyfarpar arall, er enghraifft yn ystod storm
  • gwaith y mae angen ei wneud i gynnal a gwella'r rhwydwaith pŵer

Gwybod sut i roi gwybod am doriad pŵer

Os bydd toriad pŵer, dylech roi gwybod i'ch gweithredwr rhwydwaith amdano. Eich gweithredwr rhwydwaith yw'r cwmni sy'n gyfrifol am y gwifrau sy'n cludo ynni i gartrefi a busnesau. Gallwch ddod o hyd i'ch gweithredwr rhwydwaith trydan ar wefan Powercut 105.

Os byddwch yn colli pŵer oherwydd mesurydd ynni diffygiol, cysylltwch â'ch cyflenwr ynni.

Os nad ydych yn gwybod pwy yw eich cyflenwr ynni, darllenwch sut i ddod o hyd i'ch cyflenwr ynni.

Gwnewch gynllun os oes angen cymorth ychwanegol ar bobl sy'n byw yn eich cartref

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi neu rywun sy'n byw yn eich cartref, dylech wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i'ch gweithredwr rhwydwaith, a allai roi cymorth ychwanegol i chi yn ystod toriad pŵer, er enghraifft os ydych yn dibynnu ar eich cyflenwad ynni am resymau meddygol
  • rhoi gwybod i'ch cyflenwr ynni
  • ymuno â Chofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth eich cyflenwr
  • gwirio a oes gan eich cyfarpar meddygol fatri wrth gefn ac os felly, pa mor hir y bydd yn para

Os ydych yn rhedeg busnes

Cysylltwch â'ch gweithredwr rhwydwaith trydan a dywedwch wrtho am amgylchiadau eich busnes.

Os oes gennych gyflenwr nwy, cysylltwch â'ch rhwydwaith dosbarthu nwy. Gallwch ddod o hyd i'ch gweithredwr rhwydwaith trydan neu nwy ar wefan y gymdeithas rhwydweithiau ynni.

Gall eich gweithredwr rhwydwaith helpu i wneud yn siŵr eich bod yn parhau i gael cyflenwad pŵer yn ystod toriad pŵer, er enghraifft drwy ddarparu generaduron wrth gefn.

Darparwyr gofal a llety byw â chymorth

Os ydych yn rhedeg cartref gofal, yn gofalu am bobl sy'n byw mewn cartref gofal neu yn eu cartref eu hunain, darllenwch ganllawiau'r Gymdeithas Rhwydweithiau Ynni ar gynllunio ar gyfer toriad pŵer.

Edrychwch i weld a allwch hawlio iawndal

Efallai y byddwch yn gallu hawlio iawndal gan eich gweithredwr rhwydwaith os bydd eich cyflenwad pŵer yn diffodd. Bydd hyn yn dibynnu ar y rheswm dros y toriad pŵer a pha mor hir y buoch heb bŵer. Edrychwch i weld a allwch hawlio iawndal ar gyfer materion cyflenwad ynni.