Tâl sefydlog ar gyfer trydan a nwy
Costau wedi'u cynnwys yn y tâl sefydlog a'r tâl sefydlog blynyddol cyfartalog ar gyfer trydan a nwy.
Tâl sefydlog yw un o'r costau sydd wedi'u cynnwys yn eich bil trydan a nwy. Mae hefyd wedi'i gynnwys yn y cap ar brisiau ynni.
Bydd eich cyflenwyr ynni yn codi cost tâl sefydlog arnoch bob diwrnod, hyd yn oed os na fyddwch yn defnyddio unrhyw ynni ar y diwrnod hwnnw. Bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar eich cyflenwr, sut rydych yn talu am eich ynni, a ble rydych chi'n byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban. Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned y cap ar brisiau ynni fesul rhanbarth.
Y costau sydd wedi'u cynnwys yn y tâl sefydlog
Cost wedi'i gosod gan eich cyflenwr yw'r tâl sefydlog. Mae'n cwmpasu'r costau i wneud y canlynol:
- symud trydan neu nwy drwy geblau a phibellau i gartrefi a busnesau
- talu tuag at gostau busnes y cyflenwr, er enghraifft canolfannau galw
- talu tuag at rai o gynlluniau cymdeithasol ac amgylcheddol y llywodraeth, fel Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Tâl sefydlog blynyddol cyfartalog ar gyfer trydan, o fis Ionawr i fis Mawrth 2025, yn ôl math o daliad, Prydain Fawr (Cymru, Lloegr, a'r Alban)
Tâl sefydlog blynyddol cyfartalog ar gyfer nwy, o fis Ionawr i fis Mawrth 2025, yn ôl math o daliad, Prydain Fawr (Cymru, Lloegr, a'r Alban)
Adolygiad tâl sefydlog
Rydym yn adolygu taliadau sefydlog sy'n cael eu gosod gan eich cyflenwyr ynni. Darllenwch y diweddariad ar ein hadolygiad taliadau sefydlog.