Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned y cap ar brisiau ynni fesul rhanbarth

Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned ar gyfer trydan a nwy yn ôl y math o daliad ar gyfer rhanbarthau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Mae'r pris rydych yn ei dalu am y tâl sefydlog a phob uned o ynni rydych yn ei defnyddio yn wahanol yn dibynnu ar ble rydych yn byw. 

Gall prisiau uned eich helpu i gyfrifo faint y gall cyflenwyr ynni ei godi arnoch am yr ynni rydych yn ei ddefnyddio os ydych ar dariff safonol. Os nad ydych yn gwybod pa daliadau sefydlog a thaliadau uned rydych yn eu talu, edrychwch ar eich biliau trydan a nwy, neu cysylltwch â'ch cyflenwr.

Pethau y mae angen i chi eu gwybod

Nid yw'r cap ar brisiau ynni yn gosod terfyn ar y gyfradd fesul uned neu'r tâl sefydlog y gall cyflenwr ei chodi/godi arnoch, ond mae'n gosod terfyn ar y swm terfynol y byddwch yn ei dalu. Er enghraifft, gallech fod ar dariff sydd â chyfradd uwch fesul uned ond tâl sefydlog is.

Y taliadau sefydlog yw'r costau uchaf y gall cyflenwr eu codi ar gwsmer nad yw wedi defnyddio unrhyw ynni. Gall cyflenwyr hefyd godi llai na'r terfyn naill ai am dâl sefydlog neu gyfradd fesul uned.

Cyfraddau fesul uned trydan a nwy

Cyfradd pris uned yw'r gyfradd a godir fesul uned neu fesul awr cilowat (kWh) o drydan neu nwy rydych yn ei ddefnyddio.

Taliadau sefydlog trydan a nwy

Cost a gaiff ei chynnwys ym mhob bil trydan a nwy yw'r tâl sefydlog. Caiff y gost hon ei gosod gan eich cyflenwr. Bydd eich cyflenwyr yn codi'r gost hon arnoch bob diwrnod, hyd yn oed os na fyddwch yn defnyddio unrhyw ynni ar y diwrnod hwnnw. 

Mae'r tâl yn cwmpasu'r gost o gynnal y rhwydwaith cyflenwi ynni, cymryd darlleniadau mesurydd a chefnogi rhai cynlluniau cymdeithasol ac amgylcheddol gan y llywodraeth. Darllenwch am gostau eraill a gaiff eu cynnwys yn eich biliau ynni a deall eich biliau trydan a nwy.

Tariff Economy 7 neu gwsmeriaid aml-gyfradd

Os ydych yn gwsmer aml-gyfradd neu ar dariff Economy 7, mae'n debyg y bydd mwy nag un gyfradd fesul uned ar gyfer trydan ar eich bil. Er enghraifft, cyfradd ar gyfer yr ynni rydych yn ei ddefnyddio yn ystod oriau allfrig a chyfradd yn ystod oriau brig. Mae'r cyfraddau fesul uned yn y cap ar brisiau ynni yn gyfradd gyfartalog o'r uned yn seiliedig ar faint o ynni a gaiff ei ddefnyddio yn ystod oriau brig ac allfrig. Edrychwch i weld a allwch newid i dariff Economy 7 yn y Canllaw i ddefnyddwyr Economy 7.

Cael data o'r tablau ar y dudalen hon 

Gallwch lawrlwytho data o'r tabl mewn fformatau gwahanol drwy ddewis y ddewislen wrth ymyl pob tabl. 

Gallwch chwilio am eich rhanbarth ym mhob tabl. 
 

Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned a delir drwy Ddebyd Uniongyrchol, 1 Ebrill i 30 Mehefin 2025

Pobl sy'n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol am yr ynni y maent yn ei ddefnyddio. Mae'r prisiau yn cynnwys TAW ac maent wedi'u talgrynnu i ddau le degol. 

Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned a delir drwy gredyd safonol, 1 Ebrill i 30 Mehefin 2025

Pobl sy'n talu am yr ynni maent eisoes wedi'i ddefnyddio wedi iddynt gael eu bil. Mae'r prisiau yn cynnwys TAW ac maent wedi'u talgrynnu i ddau le degol.  

Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned a delir drwy fesurydd rhagdalu, 1 Ebrill i 30 Mehefin 2025

Pobl sydd â mesurydd rhagdalu wedi'i osod yn eu cartref ac sy'n talu am ynni cyn iddynt ei ddefnyddio. Mae'r prisiau yn cynnwys TAW ac maent wedi'u talgrynnu i ddau le degol.