Ein strategaeth

Ein gweledigaeth strategol

Cyhoeddwyd Strategaeth Amlflwyddyn Ofgem ‘Protect, Build, Change, Deliver’ am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2024, ac mae'n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf a thu hwnt. Mae'r Strategaeth Amlflwyddyn yn cynnwys ein gwaith rheoleiddio a'r gwaith o weinyddu cynlluniau ynni carbon isel a chynlluniau cymdeithasol rydym yn eu cyflawni ar ran llywodraeth y DU. 

Ein blaenoriaethau strategol yw: 

  • llunio marchnad fanwerthu sy'n gweithio i ddefnyddwyr 
  • galluogi seilwaith i sicrhau sero net yn gyflym 
  • sefydlu system ynni effeithlon, deg, a hyblyg 
  • hyrwyddo datgarboneiddio drwy gynlluniau ynni carbon isel a chynlluniau cymdeithasol 
  • cryfhau Ofgem fel sefydliad 

Lawrlwythwch ein strategaeth 

Protect, Build, Change, Deliver: Ofgem’s Multiyear Strategy [PDF, 3.36MB]  

Datblygiadau newydd 

Ers cyhoeddi ein Strategaeth Amlflwyddyn ym mis Mawrth 2024, cafwyd datblygiadau sylweddol yn y sector ynni. 

Pŵer Glân 2030 

Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bwriad i Brydain gael system pŵer glân erbyn 2030. Mae hefyd wedi tynnu sylw at ei phrif genhadaeth i hyrwyddo twf economaidd. Mae gennym rôl bwysig i'w chwarae yn llwyddiant y ddwy genhadaeth hyn fel yr adlewyrchir yn ein Blaenraglen Waith. 

Adolygiad o Ofgem 

Ar 19 Rhagfyr 2024, cyhoeddodd yr Adran dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net adolygiad cynhwysfawr o'n rôl, ein pwerau, ein dyletswyddau, a chwmpas yr hyn rydym yn ei reoleiddio. Nod yr adolygiad, sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, yw: 

  • cryfhau ein rôl yn y gwaith o gefnogi defnyddwyr a diogelu cartrefi rhag gwasanaeth gwael 
  • parhau i gefnogi tyfiant ac arloesedd yn y sector ynni  

Rydym yn disgwyl i'r Adran dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net rannu ei chanfyddiadau yn ddiweddarach yn 2025. 

Darllenwch ein hymateb i'r adolygiad o Ofgem

Newidiadau i'n strategaeth 

Rydym yn ymrwymedig i adolygu ein Strategaeth Amlflwyddyn yn rheolaidd a sicrhau ei bod yn ymateb i newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, datblygiadau newydd yn y sector ynni, ac unrhyw newidiadau i'n rôl a'n cyfrifoldebau. 

Er y gall adolygiad y llywodraeth o Ofgem olygu bod angen i ni wneud newidiadau i'n strategaeth yn y dyfodol, rydym yn credu bod ein blaenoriaethau a'n hamcanion ar gyfer eleni yn parhau i fod yn gyson ag anghenion y sector ynni. 

Ein cynllun blynyddol 

Mae ein Blaenraglen Waith yn pennu'r gwaith y byddwn yn ei wneud yn y flwyddyn sydd i ddod i gyflawni ein hamcanion strategol. 

Darllenwch ein Blaenraglen Waith am 2025 i 2026