Caffael a chystadlu am gontractau
Prosesau caffael Ofgem
Gan ein bod yn ddarostyngedig i Gyfarwyddebau Caffael yr UE, mae gennym nifer o gytundebau fframwaith sy'n cydymffurfio â chyfarwyddebau'r UE a ddefnyddir gennym i gaffael cyfran helaeth o'r hyn sydd ei angen arnom. Cyflwynwyd Cyfarwyddebau Caffael yr UE i agor y farchnad gaffael gyhoeddus yn yr UE er mwyn sicrhau rhyddid i symud mewn perthynas â nwyddau, gwasanaethau a gwaith.
Mae'r cytundebau fframwaith yn sicrhau llwybr effeithlon i farchnadoedd, yn sicrhau bod cyflenwyr yn cael eu fetio ymlaen llaw ac yn dileu'r angen i negodi telerau ac amodau pob pryniant. Caiff ein holl gytundebau fframwaith eu hysbysebu yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.
Os na all ein fframweithiau ein hunain ddiwallu ein hanghenion yna byddwn yn ystyried llwybrau eraill i farchnadoedd. Mae'r rhain yn cynnwys cytundebau fframwaith ar draws y llywodraeth, fel y rheini a sefydlwyd gan Wasanaeth Caffael y Llywodraeth, neu hysbysebu ein gofynion ar Contracts Finder.
Mae Ofgem yn ystyried unig fasnachwyr a mentrau bach a chanolig eu maint fel adnodd gwerthfawr wrth gyflawni ei nodau strategol ac mae'n awyddus i'w hannog i gystadlu ar gyfer ei gontractau gwaith lle bynnag y bo modd.
Beth rydym yn ei brynu
Rydym yn prynu amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau yn cynnwys y canlynol:
- Ymgynghoriaeth economaidd (e.e. astudiaethau o'r farchnad, archwilio, cyngor ar gyllid corfforaethol)
- Ymgynghoriaeth beirianyddol (e.e. archwilio technegol, adroddiadau ar gostau peirianyddol)
- Gwasanaethau cyfreithiol
- Ymchwil i'r farchnad
- Gwasanaethau, caledwedd ac ymgynghoriaeth TG.
Sut rydym yn prynu
Ein prif lwybr ar gyfer caffael nwyddau a gwasanaethau yw amrywiaeth o gytundebau fframwaith. Nodir manylion am fframweithiau a rhestrau cyflenwyr Ofgem ym mhob un o'r dolenni: ymgynghoriaeth economaidd; ymgynghoriaeth beirianyddol a gwasanaethau cyfreithiol. Mae gennym nifer o unig fasnachwyr a BBaChau ar ein cytundebau fframwaith eisoes ond lle nad yw cyflenwr wedi'i restru, bydd ganddo'r opsiwn i is-gontractio er mwyn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i Ofgem. Rydym hefyd yn defnyddio cytundebau fframwaith a grëwyd ar ran y sector cyhoeddus ehangach, er enghraifft Fframwaith Ymchwil i'r Farchnad CCS.
Lle nad oes cytundeb fframwaith addas, bydd Ofgem yn ceisio hysbysebu ei ofynion i'r farchnad gan ddefnyddio Contracts Finder a MyTenders. Mae'r wefan yn rhestru'r holl gyfleoedd presennol ac mae'n cynnwys manylion am y ffordd y gall cyflenwyr gofrestru a chystadlu am waith.
Caffael cynaliadwy
Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i'r amgylchedd a, lle y bo'n bosibl, yn ceisio dangos hyn drwy ein gweithgareddau prynu. Ym mis Awst 2010 gwnaethom gyflawni safon Lefel Aur Cod Caffael Gwyrdd Maer Llundain ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o brynu mewn modd cynaliadwy.
Ardystiad CIPS
Gwnaethom gyflawni ardystiad y Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (CIPS) a'r Safon Rhagoriaeth ym mis Mawrth 2010. Dyma'r achrediad byd-eang a gydnabyddir am gyflawni rhagoriaeth o ran caffael drwy bolisïau, gweithdrefnau a strategaethau caffael a chadwyn gyflenwi sefydliad.
Ni oedd y Corff Rheoleiddio cyntaf yn y DU i gyflawni ardystiad y CIPS ac mae'n ein meincnodi'n annibynnol yn erbyn y goreuon yn y maes ac yn bodloni gofynion prynu ISO 9001:2000. Rydym bellach wedi cael cydnabyddiaeth grŵp cymheiriaid gan ein rhanddeiliaid a bydd y Safon hon yn gosod sylfaen ar gyfer gwelliant pellach a pharhaus.
Rydym yn cynnal safonau moesegol uchel ac yn defnyddio prosesau caffael cadarn, teg a thryloyw.
Cytundebau fframwaith
Ein cytundebau fframwaith a ddefnyddir amlaf yw ein cytundebau fframwaith economaidd, cyfreithiol a thechnegol. Ceir rhestrau cyrchu ar gyfer pob cytundeb fframwaith isod.
Angen help?
Mae gennym dîm bach sy'n gyfrifol am gaffael amrywiaeth eang o nwyddau a gwasanaethau yn ogystal â gweithgareddau rheoli contractau.
Gallwch gysylltu â'r tîm yn procurement@ofgem.org.uk.
Ceir manylion am gyfleoedd ar gyfer contractau yn ofgem.mytenders.org.
Telerau ac amodau
Rydym wedi creu cyfres o delerau ymgynghoriaeth byr i'w defnyddio wrth lunio contractau ag unig fasnachwyr a BBaChau. Nod y rhain yw bod yn syml ac yn deg i'r ddwy ochr a sicrhau proses gontractio gyflym a hawdd