Ein strwythur a'n harweinyddiaeth
Aelodau GEMA
Martin Cave yw Cadeirydd Awdurdod Marchnadoedd Nwy a Thrydan (GEMA) y DU. Mae Martin Cave wedi gweithio yn y llywodraeth ac academia fel economegydd yn arbenigo mewn cyfraith cystadleuaeth a rheoleiddio diwydiannau rhwydwaith.
Rhwng 2012 a 2018 roedd yn ddirprwy gadeirydd panel yn yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd neu ei ragflaenydd, yn cadeirio ymchwiliadau marchnad, ymholiadau uno ac apeliadau rheoleiddiol.
Cynhaliodd bum adolygiad rheoleiddiol annibynnol ar ran Llywodraeth y DU ac mae wedi cynghori nifer o reoleiddwyr yn y DU ac yn rhyngwladol.
Mae wedi cadeirio mewn amrywiaeth o brifysgolion yn y DU, gan gynnwys Warwig ac Ysgol Economeg Llundain, ac mae'n awdur sawl llyfr ac erthygl ar reoleiddio.
Daeth Jonathan Brearley yn Brif Swyddog Gweithredol Ofgem ar 3 Chwefror 2020.
Cyn hyn, cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Systemau a Rhwydweithiau gennym ym mis Ebrill 2018.Mae ganddo ystod eang o brofiad yn y sector ynni gan ei fod wedi arwain ymgyrch Diwygio'r Farchnad Drydan fel Cyfarwyddwr Marchnadoedd Ynni a Rhwydweithiau yn yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd.
Cyn gwneud hyn, roedd yn Gyfarwyddwr y Swyddfa Newid Hinsawdd, sef uned strategaeth drawslywodraethol sy'n canolbwyntio ar newid hinsawdd a materion ynni, lle bu'n arwain y broses o ddatblygu'r Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd. Yn ystod blynyddoedd cynnar ei yrfa, bu Jonathan yn uwch-gynghorydd yn Uned Strategaeth y Prif Weinidog.
Mae ganddo radd Baglor mewn Mathemateg a Ffiseg o Brifysgol Glasgow a gradd Meistr mewn Economeg o Brifysgol Caergrawnt.
Mae Paul Grout yn aelod anweithredol o'r Awdurdod Marchnadoedd Nwy a Thrydan. Mae gan Paul Gadair mewn Economi Wleidyddol ym Mhrifysgol Bryste, mae'n un o'r uwch-gynghorwyr ar gyfer Cystadleuaeth ym Manc Lloegr ac mae'n aelod o Banel Ofcom o Gynghorwyr Academaidd.
Mae wedi cyhoeddi'n helaeth ar bolisi rheoleiddio a chystadlu, wedi cynghori llawer o adrannau llywodraeth y DU a rhai rhyngwladol a chyrff cyhoeddus ar faterion rheoleiddiol a bu'n gynghorydd i Bwyllgor Materion Economaidd Tŷ'r Arglwyddi ac yn aelod o Dasglu Cydffederasiwn Diwydiant Prydain.
Mae gan Christine brofiad amrywiol ym maes gwasanaethau rheoleiddio, defnyddwyr ac ariannol. Ar hyn o bryd mae'n un o gyfarwyddwyr anweithredol Byrddau Ofwat ac ABTA ac mae'n cadeirio'r P2PFA, y corff sy'n cynrychioli llwyfannau benthyg cymheiriad i gymheiriad.
Yn flaenorol, gwasanaethodd fel cadeirydd Llais Defnyddwyr, cyfarwyddwr defnyddwyr yn Oftel a'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Genedlaethol y Cronfeydd Pensiwn a Rheolwr Gyfarwyddwr yn Barclays. Bu'n gyfarwyddwr anweithredol ar fyrddau OFT, yr Awdurdod Safonau Hysbysebu ac ING Direct ac roedd hi'n Gomisiynydd y Gwasanaeth Sifil hefyd.
Graddiodd Christine o Brifysgol Manceinion ac mae ganddi radd Meistr mewn Cadwraeth o Goleg Prifysgol Llundain.
Daw Lynne â chyfoeth o brofiad ym meysydd strategaeth, cwsmeriaid a phrosesau gweithredol a enillodd yn y sector hedfan. Mae'n aelod o bwyllgor rheoli'r Grŵp Cwmnïau Hedfan Rhyngwladol, a hi yw Prif Swyddog Gweithredol IAG Cargo ar hyn o bryd ac mae'n gyfarwyddwr anweithredol ar fwrdd British Airways.
Mae ei swyddogaethau gweithredol blaenorol yn cynnwys Rheolwr Gyfarwyddwr busnes BA ym Maes Awyr Gatwick a Chyfarwyddwr Strategaeth BA, lle roedd yn gyfrifol am reoleiddio economaidd. Mae ei swyddogaethau anweithredol blaenorol yn cynnwys cadeirydd BA CityFlyer Ltd ac aelod anweithredol British Midland Airways Ltd.
Mae gan Lynne radd BSc mewn mathemateg, gradd MSc mewn gwyddor rheoli ac MBA.
Mae gan John gyfoeth o brofiad yn y sector ynni, a diwydiannau eraill wedi'u rheoleiddio. Mae'n Beiriannydd Siartredig, a dreuliodd ei yrfa gynnar yn cynllunio, yn adeiladu ac yn gweithredu gorsafoedd ynni. Ers hynny, mae wedi rhedeg busnesau TG, gwasanaethau busnes a gwasanaethau ynni ar gyfer cwmnïau ynni rhyngwladol. Ei rôl llawn amser ddiwethaf yn y sector oedd fel rheolwr gyfarwyddwr Central Networks, ail ddosbarthwr trydan mwyaf y DU, a oedd yn eiddo i E.ON UK ar y pryd. Ymddeolodd o fwrdd E.ON UK yn 2011.
Mae wedi cyflawni rolau anweithredol yn y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear ac mewn cwmni telathrebu. Mae wedi bod yn aelod o Fwrdd y Fyddin, mae'n cynghori'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar gynhyrchu a dosbarthu trydan, ac mae'n weithgar gydag elusennau tai ac elusennau i gyn-filwyr.
Mae Myriam wedi dal uwch-swyddi gweithredol ym maes cyllid a gweithrediadau mewn cwmnïau technoleg byd-eang, gwasanaethau ariannol yn y DU, yr UD ac Ewrop, yn ogystal â'r sector cyhoeddus. Mae Myriam yn Gyfarwyddwr Gweithredol profiadol, sy'n arbenigo mewn trawsnewid busnesau, ailstrwythuro gweithredol a chyllid yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus.
Mae Myriam yn gyfrifydd rheoli siartredig ac yn aelod o Fwrdd Safonau Moesegol Rhyngwladol y Cyfrifwyr (IESBA). Mae'n aelod Bwrdd o Home Group, ac yn gadeirydd eu his-gwmni yn yr Alban, mae'n aelod Bwrdd o Traverse Theatre ac yn cadeirio ei phwyllgor Archwilio.
Arferai Myriam fod yn aelod anweithredol o Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg BEIS. Bu hefyd yn aelod Bwrdd o Sefydliad y Cyfrifwyr Cyhoeddus Siartredig yn America ac yn Llywydd Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli, ill dau yn gyrff cyfrifyddu byd-eang.
Mae Barry yn arbenigo mewn data a thrawsnewid digidol ac mae wedi gweithio ym maes data drwy gydol ei yrfa. Ef yw Prif Swyddog Data Grŵp Bancio Lloyds ar hyn o bryd, lle mae'n arwain y timau strategaeth data, llywodraethu a gwyddor data.
Cyn ei gyfnod yn Grŵp Bancio Lloyds, treuliodd Barry y mwyafrif o'i yrfa gynnar yn Ernst & Young yn helpu i arwain arferion data a dadansoddeg ac ers hynny, mae wedi arwain timau data a digidol mewn sefydliadau fel Bupa a Virgin.
Mae Barry yn hyrwyddo pŵer data, nid dim ond ar gyfer sefydliadau ond ar gyfer cymdeithas gyfan, ac mae wedi gweithio ar nifer o fentrau yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus yn ogystal â hyrwyddo pwysigrwydd sgiliau digidol yn ein cymdeithas.
Pwyllgor Gweithredol Ofgem
Daeth Jonathan Brearley yn Brif Swyddog Gweithredol Ofgem ar 3 Chwefror 2020.
Cyn hyn, cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Systemau a Rhwydweithiau gennym ym mis Ebrill 2018.Mae ganddo ystod eang o brofiad yn y sector ynni gan ei fod wedi arwain ymgyrch Diwygio'r Farchnad Drydan fel Cyfarwyddwr Marchnadoedd Ynni a Rhwydweithiau yn yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd.
Cyn gwneud hyn, roedd yn Gyfarwyddwr y Swyddfa Newid Hinsawdd, sef uned strategaeth drawslywodraethol sy'n canolbwyntio ar newid hinsawdd a materion ynni, lle bu'n arwain y broses o ddatblygu'r Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd. Yn ystod blynyddoedd cynnar ei yrfa, bu Jonathan yn uwch-gynghorydd yn Uned Strategaeth y Prif Weinidog.
Mae ganddo radd Baglor mewn Mathemateg a Ffiseg o Brifysgol Glasgow a gradd Meistr mewn Economeg o Brifysgol Caergrawnt.
Mae Priya Brahmbhatt-Patel wedi bod yn gweithio yng nghanol Whitehall ers 15 mlynedd, ac mae wedi magu cyfoeth o brofiad arwain ym maes cysylltiadau'r llywodraeth. Dechreuodd ei gyrfa fel swyddog cysylltiadau cyhoeddus i Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Lloegr, a symudodd i weithio fel swyddog y wasg ar gyfer adrannau'r llywodraeth yn cynnwys yr Adran Drafnidiaeth a'r Swyddfa Gartref, cyn dod yn brif swyddog y wasg yn yr Adran Addysg a Sgiliau.
Bu Priya yn gweithio i'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, cyn cael ei dyrchafu i fod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Cysylltiadau, ac yna weithio fel Cyfarwyddwr Cysylltiadau dros dro yn y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.
View my profileAkshay sy'n gyfrifol am brosesau rheoleiddio economaidd rhwydweithiau ynni Prydain Fawr. Mae hyn yn cynnwys datblygu'r genhedlaeth nesaf o systemau rheoli prisiau rhwydweithiau ar y tir sef RIIO2, y broses o reoleiddio seilwaith trawsyrru alltraeth, a darparu rhaglen rhyng-gysylltu drawsffiniol uchelgeisiol drwy'r drefn capio a phennu terfyn isaf.
Cyn ymuno ag Ofgem, bu Akshay ar secondiad o Drysorlys EM i Transport for London, lle bu'n arwain gwaith TfL o gyllido'r seilwaith trafnidiaeth yn Llundain drwy fanteisio ar y cynnydd mewn gwerthoedd tir ac eiddo sy'n gysylltiedig â phrosiectau trafnidiaeth megis Estyniad Barking Riverside, Crossrail 2 a'r Estyniad i Linell Bakerloo.
Cyn hynny, treuliodd Akshay gyfnod o bum mlynedd yn Nhrysorlys EM, lle bu'n cyfarwyddo prosiectau ynni a thrafnidiaeth ar gyfer Infrastructure UK. Mae wedi bod yn gysylltiedig â'r gwaith o gynllunio a chyflwyno diwygiadau i'r farchnad drydan, y gystadleuaeth ar gyfer dal a storio carbon, datblygu'r rhaglen ynni niwclear newydd, diwygio'r rhwydwaith ffyrdd strategol a phrosiectau adfywio megis estyniad y Northern Line i Orsaf Bŵer Battersea yn Llundain.
Astudiodd Akshay economeg, cyllid, rheoli a'r biowyddorau yn Ysgol Economeg Llundain, prifysgolion Llundain a Delhi, a Sefydliad Rheoli India.
Neil Kenward yw Cyfarwyddwr newydd Ofgem ar gyfer Strategaeth a Datgarboneiddio, ac ymunodd ag Ofgem ym mis Ebrill.
Ymunodd ag Ofgem o Drysorlys EM, lle roedd yn bennaeth y tîm Ynni a'r Amgylchedd, gan gynghori Gweinidogion y Trysorlys ar bolisïau a phenderfyniadau gwariant ar gyfer polisïau ynni a'r hinsawdd.
Cyn hynny, bu Neil yn gweithio mewn amrywiaeth o rolau ar draws y llywodraeth, yn cynnwys yn Uned Strategaeth y Prif Weinidog, Uned Strategaeth y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, a thîm Uwchgynhadledd G20 Llundain.
Dechreuodd ei yrfa yn y sector preifat, fel ymgynghorydd yn gweithio'n bennaf ar brosesau diwygio'r sector ynni a hwyluso buddsoddiad, yn y DU ac yn rhyngwladol.
Mae Neil wedi'i hyfforddi fel economegydd.
View my profileMae Philippa Pickford, a arferai fod yn gyfarwyddwr rheoleiddiol ar gyfer manwerthu, wedi arwain cyfarwyddiaeth Delivery and Schemes ers 1 Chwefror 2021.
Mae Philippa wedi bod gydag Ofgem ers dros ddegawd. Cyn ei rôl bresennol, bu'n arwain ein gwaith i reoleiddio'r Gweithredwr System Drydan a gwahanu'r Gweithredwr System Drydan yn gyfreithiol o'r Grid Cenedlaethol. Fel rhan o hynny, goruchwyliodd y gwaith o gyflwyno fframwaith rheoleiddio a chymhelliant newydd ar gyfer y Gweithredwr System Drydan.
Cyn hynny, bu'n arwain gwaith Ofgem yn ymwneud â rôl y gweithredwr system ddosbarthu; diogelwch, cynllunio'r marchnadoedd cyfanwerthu, gan gynnwys y Farchnad Gapasiti, ymddygiad y farchnad gyfanwerthu a mesuryddion deallus.
Mae Charlotte Ramsay wedi gweithio ym mhob rhan o'r sector ynni mewn sawl rôl uwch. Yn fwyaf diweddar, bu'n gweithio i'r Grid Cenedlaethol, lle bu'n arwain y broses o greu Gweithredwr System Trydan ar wahân gan sicrhau penderfyniadau buddsoddi ar bortffolio'r Grid Cenedlaethol o ryng-gysylltwyr trydan. Treuliodd sawl blwyddyn yn Ofgem, yn datblygu'r drefn “Capio a Phennu Terfyn Isaf” ar gyfer buddsoddiadau gan ryng-gysylltwyr ac yn arwain gwaith ar gynllunio a rheoleiddio trawsyrru integredig.
Cyn hyn, bu'n gweithio i'r Bartneriaeth Ymchwil Ynni a'r Gymdeithas Arbed Ynni (sydd bellach yn rhan o'r Gymdeithas Datganoli Ynni). Mae ganddi PhD mewn Economeg Systemau Pŵer o Goleg Imperial.
Anna sy'n gyfrifol am reoleiddio'r sector ynni manwerthu, ar sail dros dro.
Cyn hyn, hi oedd yn gyfrifol am y polisi sy'n gysylltiedig â'r cap ar brisiau tariffau diofyn, ar ôl cyflwyno'r cap yn llwyddiannus ar ddechrau 2019. Mae hefyd wedi arwain tîm defnyddwyr y dyfodol, gan ystyried y rôl y bydd defnyddwyr yn ei chwarae ym marchnad fanwerthu'r dyfodol, a'r hyn fydd ei angen i sicrhau y gallant gymryd rhan yn llwyddiannus.
Cyn hyn, bu Anna yn gweithio yn isadran Rhwydweithiau Ofgem, yn arwain adolygiad rheoli prisiau RIIO-ED1 a barodd dair blynedd er mwyn pennu'r refeniw y caniatawyd i gwmnïau rhwydweithiau dosbarthu trydan Prydain Fawr ei ennill o 2015. Gwnaeth hefyd arwain proses o amddiffyn yr adolygiad yn llwyddiannus yn wyneb dwy apêl i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.
Ymunodd Cathryn yn 2013 fel y Cyfarwyddwr Cyfreithiol ar gyfer cynlluniau amgylcheddol E-Serve a'n system tendrau trawsyrru alltraeth. Rhwng 2016 a 2018, hi oedd un o'r Partneriaid ar gyfer y Marchnadoedd Cyfanwerthu a Materion Cyfreithiol yn yr isadran Systemau Ynni, gan arwain ar y gwaith o ddarparu cyngor cyfreithiol a goruchwylio'r farchnad gyfanwerthu ynni, materion yn ymwneud â systemau nwy a diwygio setliad. Ym mis Ebrill 2018, cafodd ei phenodi'n Gyfarwyddwr Marchnadoedd Cyfanwerthu a Materion Masnachol, ac ym mis Awst 2020, yn Gyfarwyddwr Gorfodi a Materion sy'n Dod i'r Amlwg.
Cyn ymuno ag Ofgem, roedd ei phrofiad yn y sector cyhoeddus yn cynnwys gweithredu fel Dirprwy Gwnsler Cyffredinol yn yr Adran Drafnidiaeth, lle roedd yn gyfrifol am dimau a oedd yn cynghori ar reoleiddio'r diwydiant hedfan a rheilffyrdd. Mae ganddi brofiad cyfreithiol helaeth ym meysydd cystadleuaeth, rheoleiddio a chaffael, ac mae hefyd wedi gweithio i'r Comisiwn Cystadleuaeth a Grŵp yr UE a Chystadleuaeth Linklaters. Cyn hynny, bu'n gweithio yn is-adran ymgyfreitha Adran Cyfreithiwr y Trysorlys ac fel Cynorthwyydd i'r Cwnsler Siaradwyr Ewropeaidd yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae ganddi PhD o Sefydliad y Brifysgol Ewropeaidd yn Fflorens.
Yn beiriannydd yn wreiddiol, gweithiodd Richard Smith i'r Grid Cenedlaethol am sawl blwyddyn yn cyflawni amrywiaeth o rolau gan fagu profiad arwain eang. Fel rhan o'i rolau diweddaraf, sy'n cynnwys Pennaeth Rhwydweithiau, Pennaeth Newid yn y Farchnad a Phennaeth Materion Masnachol, bu'n aelod o dîm gweithredol Gweithredwyr System Drydan y Grid Cenedlaethol, yn cyfrannu at yr agenda strategaeth gorfforaethol.
Mae portffolio busnes Richard hefyd yn cynnwys arwain y broses o greu'r system ynni Senarios Ynni yn y Dyfodol gyntaf ledled y DU, gan annog rhanddeiliaid i gyfrannu'n wleidyddol ac yn rheoleiddiol ar draws y diwydiant.
Ymunodd Simon ag Ofgem ym mis Awst 2018, i arwain timau rheoleiddio a chyllid corfforaethol a chysylltiadau buddsoddwyr Ofgem. Cyn ymuno ag Ofgem, treuliodd 26 o flynyddoedd ym maes bancio buddsoddi, gan ganolbwyntio'n bennaf ar y sectorau cyfleustodau, ynni adnewyddadwy a seilwaith.
Arferai Simon fod yn uwch-fanciwr ynni yn Macquarie Capital ac yn bennaeth pŵer a chyfleustodau Ewropeaidd yn RBS / ABN Amro, gan gynghori ar drafodion yn cynnwys proses Iberdrola o gaffael Scottish Power, Cheung Kong Infrastructure / UK Power Networks a'r broses o gaffael Bristol Water.
Mae Simon yn ddarlithydd gwadd ac yn gymrawd ymchwil yn Ysgol Fusnes Coleg Imperial ac mae wedi gweithio mewn sawl rôl cyllid ym Mhrifysgol Caerfaddon ac ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr Bryste.
Mae gan Simon raddau meistr o Ysgol Economeg Llundain a Bryste a graddiodd yn y gyfraith ac economeg o Brifysgol Caergrawnt.