Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Ofgem wedi ymgymryd â’r dasg fawr o gefnogi cwsmeriaid drwy argyfwng ynni eithriadol a diogelu buddiannau defnyddwyr ynni domestig ac annomestig, nawr ac yn y dyfodol.
Mae ein dibyniaeth ar farchnadoedd nwy rhyngwladol sydd wedi’u rheoli gan wladwriaeth ymosodol yn golygu bod geowleidyddiaeth yn cael llawer mwy o ddylanwad ar ein polisi ynni nag sy’n ddymunol, neu yr oeddwn wedi cynllunio ar ei gyfer. Ochr yn ochr â hyn, mae newidiadau seismig o ran economeg ynni – gyda phrosesau cynhyrchu ynni carbon isel yn gyflym ddod yn ddewis mwy cadarn yn ogystal ag un llai costus – yn golygu ein bod wedi gorfod ailystyried sut i ddarparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ynni a gynhyrchir yn y wlad hon er mwyn sicrhau na fyddwn ar drugaredd prisiau ynni rhyngwladol mwyach.
Am y rheswm hwn, mae gwaith y Bwrdd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi cynnwys newid sylfaenol i’n dull o ymdrin â sicrwydd cyflenwad, risgiau strategol ac, a thybio y bydd prisiau yn parhau i fod yn anwadal am flynyddoedd lawer i ddod, sut rydym yn rhyngweithio â marchnadoedd ynni byd-eang. Mae Ofgem wedi chwarae rhan hollbwysig yn yr agenda hon, gan dderbyn cyfrifoldebau newydd gan y llywodraeth, ar yr ochr reoleiddio a’r ochr gyflenwi i’n gweithrediadau.
Ym mis Rhagfyr, er mwyn darparu ar gyfer y swyddogaethau newydd hyn, cytunodd y Bwrdd i ailganolbwyntio Fframwaith Strategaeth Ofgem ar sicrhau prisiau teg, darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i ddefnyddwyr a sicrhau sector cadarn yn y byrdymor ac ar alluogi buddsoddi yn ein gweithdrefnau marchnad a’n gweithdrefnau llywodraethu a’u diwygio er mwyn hwyluso’r broses o bontio i system ynni wedi’i datgarboneiddio a chost isel yn yr hirdymor.
Mae hyn wedi cynnwys datblygu newidiadau sylfaenol i’r ffordd rydym yn cynllunio ac yn adeiladu seilwaith ynni newydd ac yn goruchwylio’r gwaith o’i gyflwyno, ar gyflymder nas gwelwyd ers degawdau ac, ar yr un pryd, ailffurfio marchnad fanwerthu a all wrthsefyll risg ariannol ac sydd hefyd yn ddigon arloesol a dynamig i ddarparu cynigion newydd i gwsmeriaid.
Mae creu’r system ynni fwy hyblyg hon hefyd wedi cynnwys cryn dipyn o waith i ddatblygu ein syniadaeth ynglŷn â diogelu prisiau defnyddwyr, sut i godi safonau cyflenwyr mewn marchnad lle na fydd rôl pobl yn newid cyflenwr yn chwarae’r rôl roeddwn yn gobeithio y byddai’n ei chwarae ac, uwchlaw pob dim, ar adeg pan fo biliau ynni yn uchel iawn, sut i sicrhau bod cwsmeriaid mewn sefyllfaoedd bregus yn cael eu trin yn deg ac yn briodol.
Mae argyfwng fforddiadwyedd o’r maint hwn, sydd i’w briodoli i wrthdaro byd-eang sy’n peryglu sicrwydd ein cyflenwadau ynni a bygythiadau ehangach i gadernid ein system ynni, o’u hystyried gyda’i gilydd, yn wirioneddol ddigynsail. Rydym wedi gwneud camgymeriadau ac wedi’u cydnabod, ond rwy’n falch o fod wedi cyfrannu at ein rôl yn y gwaith o gyflawni’r genhadaeth bwysig iawn hon a gwn fod fy nghydweithwyr ar y Bwrdd yr un mor falch hefyd.
Mae Ofgem wedi dangos ymroddiad mawr wrth fynd ati i ateb yr heriau digynsail hyn a delio â’r argyfwng ynni ac, ar ran y Bwrdd, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Jonathan Brearly, ein Prif Swyddog Gweithredol, a’r holl staff yn Ofgem ac, yn wir, yr holl staff sy’n gysylltiedig â’r dasg hon yn y sector, am eu gwaith ymroddedig a chaled i wynebu’r heriau hyn a gofalu am gwsmeriaid.
Fel rheoleiddiwr, wrth i’m penodiad dynnu at ei derfyn, rwyf wedi canfod ysbrydoliaeth yn ein dyletswydd i ddiogelu buddiannau pob cwsmer drwy gydol yr argyfwng presennol, rhoi sylw arbennig i anghenion pobl sy’n agored i niwed a phontio i farchnad ynni yn y dyfodol sy’n wyrddach ac yn llai agored i brisiau ynni rhyngwladol anwadal. Mae’n amlwg ein bod ar lwybr anodd, ond mae dyddiau gwell o’n blaen. Mae Ofgem yn gweithio’n galed i gael effaith gadarnhaol yn diogelu defnyddwyr drwy’r gaeaf i ddod ac ar ôl hynny, a helpu i greu system ynni ratach, wyrddach a diogelach yn yr hirdymor.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i holl aelodau presennol y Bwrdd, yn ogystal â Christine Farnish, am ei blynyddoedd o wasanaeth gwerthfawr ar y Bwrdd rhwng Ionawr 2016 ac Awst 2022.
Martin Cave
Cadeirydd
Drwy gydol cam nesaf yr argyfwng nwy, mae Ofgem wedi parhau i ganolbwyntio ar ddiogelu buddiannau cwsmeriaid, heddiw ac ar gyfer yr hirdymor. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi dod â heriau enfawr i’r sector ynni ac, yn bwysicach, y cwsmeriaid rydym yma i’w gwasanaethu. Ni welwyd y fath gynnydd mewn prisiau ynni rydym wedi’u hwynebu, sydd i’w briodoli’n bennaf i ymosodiad Rwsia ar Wcráin, ers ergydion prisiau olew’r 1970au o leiaf.
Fel rheoleiddiwr ynni Prydain, cyfrifoldeb Ofgem yw gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi defnyddwyr domestig ac annomestig, a hoffwn ddiolch i grwpiau defnyddwyr ac elusennau, y diwydiant, y llywodraeth a staff Ofgem am yr holl waith caled y maent wedi’i wneud i’r perwyl hwn mewn blwyddyn anodd a chythryblus.
Bu’n rhaid i ni ymateb yn gyflym, gan ymgymryd â swyddogaethau a chyfrifoldebau newydd, yn ogystal ag ymateb i amgylchiadau a oedd yn newid yn gyflym yn ystod yr argyfwng. Roedd hyn yn cynnwys gwaith mewn perthynas â gwella cydnerthedd cyflenwyr ac osgoi methiannau costus, diwygio marchnadoedd ynni ac ymgymryd â rolau rheoleiddio ychwanegol newydd. Ar yr un pryd, gwnaethom barhau i gyflwyno cynlluniau presennol y llywodraeth a’i chynlluniau ar gyfer y dyfodol ac, yn fwy cyffredinol, hwyluso targedau’r llywodraeth ar gyfer creu system bŵer sero net erbyn 2035 a chyflawni sero net erbyn 2050.
Yn yr un modd, rydym wedi gweithio i ymgorffori gwersi a ddysgwyd o gam cynnar yr argyfwng, megis datblygu fframwaith buddiannau defnyddwyr newydd, cyflwyno rheoliadau i wella cydnerthedd ariannol cyflenwyr ac addasu ein strwythurau a’n trefniadau llywodraethu er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r rôl ehangach rydym bellach yn ei chwarae yn y farchnad ynni.
Mae’r angen i ymateb ar frys i’r argyfwng ynni wedi golygu na fu’n bosibl gwneud popeth yr hoffem yn ddelfrydol ei wneud, gyda gweithgareddau arfaethedig penodol, megis rhai diweddariadau i’n gwaith ehangach ar y sector manwerthu, yn cael eu hatal dros dro. Fodd bynnag, drwy flaenoriaethu ein gwaith pwysicaf, rhoi’r gorau i weithgareddau nad ydynt yn hanfodol a sicrhau arbedion maint sylweddol, rydym wedi llwyddo i ganolbwyntio adnoddau ar ein blaenoriaeth gyntaf, sef diogelu pob cwsmer a chwsmeriaid mewn sefyllfa fregus yn arbennig.
Rwy’n siarad â chwsmeriaid, elusennau a’u cynrychiolwyr yn rheolaidd a, hyd yn oed gyda’r Warant Pris Ynni a chymorth helaeth arall a roddwyd ar waith gan y llywodraeth ac a gyflwynwyd mewn partneriaeth ag Ofgem, gwn fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn i lawer o aelwydydd ledled Prydain.
Dyma pam y gwnaethom lansio ein hymgyrch ‘Energy Aware’ sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr er mwyn dwyn ynghyd gyngor i ddefnyddwyr ar faterion gan gynnwys pa gymorth sydd ar gael a sut i’w hawlio, beth i’w wneud os byddant mewn dyled a sut i arbed arian ar filiau drwy wneud newidiadau syml yn eu cartrefi.
Ar gyfer y tymor hwy, rydym wedi parhau i weithio gyda’r llywodraeth ar opsiynau i fynd i’r afael â fforddiadwyedd ehangach ynni.
At hynny, rydym wedi rhoi mesurau llym ar waith er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y safonau uchel a ddisgwylir gan ddefnyddwyr a dileu arferion gwael ble bynnag y’u ceir.Fel rhan o’n rhaglen o Adolygiadau Cydymffurfiaeth Marchnadoedd o ymddygiad cyflenwyr, gwnaethom ddatgelu gwendidau sylweddol ymhlith rhai cyflenwyr o ran y ffordd y maent yn trin cwsmeriaid mewn sefyllfa fregus a’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd talu biliau.
Rydym wedi bod yn hollol glir gyda chyflenwyr bod yn rhaid iddynt sicrhau diogelwch eu cwsmeriaid mwyaf bregus ac wedi cynnal gweithgareddau cydymffurfiaeth a gorfodi mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys defnyddio ein pwerau i atal niwed i ddefnyddwyr yn gyflym a sicrhau bod miliynau o bunnau yn cael eu had-dalu neu eu talu fel iawndal i gwsmeriaid.
Gwnaethom ddatgelu problemau difrifol a oedd yn ymwneud â gosod mesuryddion rhagdalu dan orfodaeth. Gwnaethom lansio adolygiad helaeth a mynnu bod gwelliannau’n cael eu gwneud yn gyflym, gan gynnwys iawndal i gwsmeriaid lle na ddilynwyd y rheolau a symud mesuryddion rhagdalu os cawsant eu gosod yn anghyfreithlon. Rydym hefyd wedi rhoi Cod Ymarfer newydd ar waith, sy’n gwahardd gosod mesuryddion rhaglen ar gyfer y grwpiau mwyaf bregus. Caiff y Cod Ymarfer hwn ei drosi’n llawn yn rheoliadau a chanllawiau yn ystod y misoedd i ddod.
Cylch gorchwyl Ofgem yw diogelu buddiannau pob defnyddiwr – gan gynnwys defnyddwyr ynni busnes. Felly, rydym yn gweithio’n galed er mwyn cynyddu ein gweithgarwch monitro ym mhob rhan o’r farchnad annomestig, gan gynnal adolygiad o gydymffurfiaeth i ymchwilio i brisiau uchel i ddefnyddwyr annomestig ac adolygiad o rwymedigaethau cyflenwyr yn y maes hwn.
Yn yr un modd, mae angen sector cymharol broffidiol ac ariannol gydnerth arnom sy’n darparu gwasanaeth da i gwsmeriaid. Felly, rydym yn diwygio’r farchnad ynni fanwerthu, gan adeiladu ar y diwygiadau a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf er mwyn sicrhau bod y farchnad yn fwy abl i wrthsefyll amodau eithafol yn y farchnad fel na fyddwn yn gweld y methiannau ymhlith cyflenwyr a welwyd y gaeaf diwethaf sy’n cynyddu biliau yn y pen draw.
Arweiniodd yr argyfwng nwy y llynedd at risgiau i sicrwydd cyflenwad hefyd. Gwnaethom weithio’n agos gyda’r diwydiant a’r llywodraeth i gyfyngu ar y risgiau hyn, gan helpu i sicrhau cyfenwadau cyson o nwy a thrydan yn ystod y gaeaf. Oherwydd y tywydd mwyn, storfeydd nwy a ail-lenwyd ledled Ewrop a Dwyrain Asia ac amodau mwy ffafriol ar gyfer masnachu mewn ynni, mae’r sefyllfa bellach yn ymddangos yn fwy ffafriol. Fodd bynnag, ni ddylem fod yn hunanfodlon. Mae risgiau o hyn, ar gyfer y gaeaf sydd i ddod ac ar ôl hynny, a bydd Ofgem, y Grid Cenedlaethol a’r llywodraeth yn parhau i gydweithio’n agos i liniaru’r risgiau hyn a pharatoi ar gyfer argyfyngau posibl.
Er bod prisiau ynni bellach yn gostwng, mae prisiau yn annhebygol o ddychwelyd i’r lefelau a welwyd cyn 2020. Yn fy marn i, er nad yw’r argyfwng ynni ar ben, mae’n dechrau ar gyfnod gwahanol. Felly, mae Ofgem yn ymateb drwy newid o reoli argyfwng i greu sector ynni mwy cydnerth, gyda chostau is a llai o ddibyniaeth ar danwyddau ffosil a fewnforir, wrth i ni gyflymu’r broses o bontio i sero net.
Er mwyn galluogi’r broses bontio hon, drwy ein setliad rheoli prisiau i rwydweithiau dosbarthu trydan lleol, mae Ofgem wedi cymeradwyo buddsoddi biliynau o bunnau er mwyn atgyfnerthu ac ehangu’r rhwydweithiau hynny, gan ei gwneud yn bosibl i fwy o brosiectau ynni adnewyddadwy gael eu cysylltu a mwy o gerbydau trydan a phympiau gwres gael eu mabwysiadu.
Yn y rhwydwaith trawsyrru, rydym yn ymgynghori ar y posibilrwydd o newid i bolisi ‘buddsoddi a chysylltu’ newydd, lle y gall seilwaith gael ei adeiladu a bod yn barod cyn yr adeg y bydd ei angen. Rydym eisoes wedi dangos y gall hyn weithio drwy fframwaith rheoleiddio symlach newydd a elwir yn Fuddsoddiad Carlam mewn Prosiectau Trawsyrru Ynni neu ‘ASTI’, a ryddhaodd swm o fuddsoddiad rhagflaenorol nas gwelwyd mo’i debyg o’r blaen, gwerth cyfanswm o tua £20 biliwn. Cymerodd yr hyn y gallai fod wedi cymryd blynyddoedd i Ofgem ei gymeradwyo o dan amodau ‘busnes fel arfer’, gan ei ailadrodd gyda phob cwmni rhwydwaith unigol ar bob prosiect, ychydig o fisoedd, unwaith yr oeddem yn hyderus bod hyn eisoes wedi’i nodi mewn asesiad cyfannol o’r hyn sydd ei angen.
Rydym hefyd yn cyflwyno diwygiadau a fydd yn sicrhau bod defnyddwyr yn gallu rheoli eu defnydd o ynni i raddau nas gwelwyd o’r blaen, gan greu system ynni a all roi mwy o hyblygrwydd o ran y ffordd rydym yn cynhyrchu, yn defnyddio ac yn storio ynni.
Mae’r diwygiadau hyn yn mynd y tu hwnt i’r newidiadau ‘pen y wifren’ ac yn cynnwys cyfleoedd newydd i ddefnyddwyr.
Drwy alluogi teclynnau deallus a systemau storio mwy effeithiol a fydd yn gwneud ynni yn rhatach pan fo llai o alw, neu fwy o gyflenwad, megis pan fo’n wyntog neu’n heulog, gall cwsmeriaid ddefnyddio ynni ar wahanol adegau ac mewn ffyrdd mwy deallus, gan ddefnyddio technoleg newydd wedi’i galluogi â gwell deallusrwydd artiffisial a data. Bydd hyn yn arwain at lai o alw am ynni yn gyffredinol yn ogystal â biliau is. Mae hyn yn golygu na fydd angen i ni gynhyrchu cymaint o ynni, a fydd yn lleihau’r pwysau ar y grid ac yn ein helpu i bontio i sero net am y gost isaf.
Yn fy marn i, amrywiaeth y safbwyntiau o amgylch y bwrdd pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau mawr, natur gynhwysol ein gweithleoedd a’r ffaith ein bod yn trin ein gilydd yn gyfartal, yw un o’r ffactorau mwyaf sylfaenol ar gyfer ein llwyddiant. Felly, mae gwella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol i reoli’r argyfwng ynni a chreu math gwahanol o sector ynni yn y dyfodol a bod yn rheoleiddiwr effeithiol. Felly, ym mis Medi, gwnaethom lansio ein strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd, gan gynnwys rhoi blaenoriaeth i ysgogi newid ym mhob rhan o’r diwydiant. Mae bod yn rhan o’r Tasglu ar gyfer Mynd i’r Afael â Chynhwysiant ac Amrywiaeth yn y Sector Ynni (TIDE) yn gyfrwng allweddol i ni helpu i gyflawni’r uchelgais hon.
Mewn blwyddyn anodd, mae Ofgem wedi cefnogi defnyddwyr drwy’r argyfwng ynni, wedi cymryd camau tuag at fod yn fwy annibynnol o ran ynni ac, yn anad dim, wedi gweithio er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg a’u diogelu’n briodol, yn enwedig y rhai mewn sefyllfaoedd bregus. Gan weithio’n agos gyda’r llywodraeth, y diwydiant, grwpiau defnyddwyr ac elusennau, edrychaf ymlaen at barhau â’r gwaith hollbwysig hwn yn y flwyddyn sydd i ddod.
Jonathan Brearley
Prif Swyddog Gweithredol
Ymgysylltu â’n rhanddeiliaid
Bu’n flwyddyn anodd i ddefnyddwyr, busnesau a’r diwydiant gyda chynnwrf ac anwaladrwydd mewn marchnadoedd ynni yn Ewrop a thu hwnt yn achosi i brisiau ynni gynyddu i lefelau nas gwelwyd o’r blaen. O ganlyniad i hynny, mae ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi bod yn bwysicach nag erioed.
Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi parhau i ymgysylltu â’n rhanddeiliaid er mwyn deall eu heriau a’u hanghenion ac wedi casglu gwybodaeth er mwyn llywio ein penderfyniadau a’n polisïau. Mae Martin Cave a Jonathan Brearley, ynghyd ag uwch-arweinwyr eraill yn Ofgem, wedi cyfarfod â rhanddeiliaid megis elusennau a chynrychiolwyr defnyddwyr domestig ac annomestig er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth o’r heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Mae uwch-arweinwyr hefyd wedi parhau i gyfarfod â Phrif Swyddogion Gweithredol cyflenwyr ac wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach ar lefel uchel er mwyn casglu gwybodaeth a chynnal trafodaethau agored a thryloyw.
Rydym wedi parhau i gwrdd yn rheolaidd â’n gweithgorau gan gynnwys Grwpiau Cymunedol ac Elusennau, y Grŵp Defnyddwyr Mawr a’r Grŵp Defnyddwyr Bach ar gyfer defnyddwyr annomestig, gan eu galluogi i roi adborth ar newidiadau arfaethedig i bolisïau ac ymgynghoriadau, a rhannu eu pryderon a’u blaenoriaethau.
Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â’r rhanddeiliaid hyn i lunio dogfennau er mwyn helpu i ateb cwestiynau, rhoi cyngor a chyfeirio pobl at ffynonellau cymorth yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rydym wedi llunio dogfennau i ddefnyddwyr domestig yn ogystal â defnyddwyr annomestig.
Oherwydd yr heriau cynyddol y mae defnyddwyr ynni annomestig wedi’u hwynebu yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym wedi datblygu strategaeth i ehangu cwmpas ein gweithgarwch ymgysylltu â’r sector a sicrhau ei fod yn digwydd yn amlach. Rydym wedi cynyddu nifer aelodau’r Grŵp Defnyddwyr Bach, gan ein galluogi i gyrraedd y gwahanol sectorau diwydiannol sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â phroblemau marchnadoedd ynni yn ogystal â meithrin cydberthnasau strategol newydd rhwng Ofgem a defnyddwyr ynni annomestig craidd/eu cymdeithasau masnach.
Er mwyn helpu i leihau pryderon defnyddwyr y gaeaf hwn a sicrhau bod pobl yn cael eu hysbysu am darfu posibl ar gyflenwadau ynni, daethom â’r llywodraeth a phartneriaid yn y diwydiant at ei gilydd er mwyn datblygu ymgyrch negeseuon i roi gwybod i’r cyhoedd beth i’w ddisgwyl petai angen datgysylltu cyflenwadau ar sail rota a sut y gallent baratoi.
Rydym wedi gweithio gyda rhanddeiliaid er mwyn cefnogi a hyrwyddo ymgyrch gyfathrebu gaeaf gyntaf Ofgem a oedd wedi’i hanelu at ddefnyddwyr a fu’n hyrwyddo hawliau defnyddwyr ac yn rhoi cyngor y gellid gweithredu arno er mwyn helpu defnyddwyr i oroesi’r gaeaf. Roedd hyn yn cynnwys cydgysylltu cyflwyniadau i bartneriaid yn uniongyrchol a chymryd rhan yn y Sioe Cartrefi Delfrydol lle y rhoddodd staff Ofgem gyngor yn uniongyrchol i ddefnyddwyr ar faterion a oedd yn cynnwys effeithlonrwydd ynni, arbed ynni a’r cynlluniau y mae Ofgem yn eu gweinyddu. Mae staff Ofgem hefyd yn gwirfoddoli yng Nghanolfan Bromley by Bow er mwyn rhoi cyngor diduedd a chyfrinachol am ddim ar ynni.
Mae Fforwm Sustainable Energy Futures yn bartneriaeth rhwng Ofgem a Sustainability First, sy’n helpu pobl ifanc (18-25 oed) i gyfrannu gwybodaeth a mewnbwn gwerthfawr at brosesau gwneud penderfyniadau yn y sector ynni ym Mhrydain Fawr. Bydd hyn yn cynnig cyfle i’n huwch-aelodau o staff ymgysylltu â phobl ifanc a chasglu gwybodaeth ac adborth a all fwydo i mewn i brosesau gwneud penderfyniadau ar bolisi.
Daeth diddordeb yn rôl Ofgem mewn perthynas â mesuryddion rhagdalu a gosodiadau dan orfodaeth a beirniadaeth o’r rôl honno i’r amlwg eleni. Rydym wedi defnyddio ein sianeli presennol, gan gynnwys gweithgorau prif swyddogion gweithredol cyflenwyr a chyfarwyddwyr rheoleiddiol a gweithgorau grwpiau defnyddwyr ac elusennau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid am ein ffrydiau gwaith sy’n ymwneud â mesuryddion rhagdalu a hyrwyddo’r ffrydiau gwaith hynny. Rydym hefyd wedi sefydlu gweithdai a chyfarfodydd bord gron wedi’u targedu ar lefel prif swyddog gweithredol er mwyn sicrhau cefnogaeth rhanddeiliaid i ddatblygu’r Cod Ymarfer.
Rydym wedi trefnu’r Uwchgynhadledd ar Fregusrwydd, gan ddod ag arweinwyr o’r sector cyfleustodau, grwpiau defnyddwyr, elusennau, cynrychiolwyr masnach a’r llywodraeth at ei gilydd i fyfyrio ar heriau’r gaeaf diwethaf. Gwnaethom hefyd ystyried sut y gallwn helpu aelwydydd sy’n wynebu’r anawsterau mwyaf i gael gafael ar wasanaethau hanfodol cyn y gaeaf.
Mae gwella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn fewnol ac ym mhob rhan o’r sector ynni yn flaenoriaeth allweddol i’r sefydliad. Ym mis Medi 2022, lansiwyd ein strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd. Fel rhan o drydydd conglfaen y strategaeth rydym yn mynd ati i ysgogi newid ym mhob rhan o’r diwydiant. Mae bod yn rhan o’r Tasglu ar gyfer Mynd i’r Afael â Chynhwysiant ac Amrywiaeth yn y Sector Ynni (TIDE) yn gyfrwng allweddol inni helpu i gyflawni’r uchelgais hon.
Lansiwyd Tasglu TIDE ym mis Mehefin 2022 yn y Gynhadledd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant flynyddol. Grŵp traws-ddiwydiant ydyw sy’n ymrwymedig i wella Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym mhob rhan o’r sector ynni ac fe’i harweinir gan Ofgem, y Gymdeithas Rhwydweithiau Ynni (ENA), y Sefydliad Ynni ac Energy UK ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o fwy na 30 o sefydliadau eraill. Pennir blaenoriaethau’r grŵp ar sail mewnbwn gan Uwch-arweinwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y gynhadledd. Maent yn cynnwys rhannu adnoddau ymarferol ar gyfer arferion gorau, casglu gwybodaeth ac ymgysylltu ag arweinwyr er mwyn ysgogi newid.
Yn y gynhadledd eleni, cawn gyfle i glywed am y cynnydd sydd wedi’i wneud a chynlluniau pellach ar gyfer
y dyfodol.
Buddiannau i Ddefnyddwyr
Mae Ofgem wedi parhau i fonitro gwerth penderfyniadau a wnaed gan ein Bwrdd yn ystod y flwyddyn a fesurir drwy asesiadau effaith ffurfiol. Rydym wedi cyfrifo mai cyfanswm y buddiannau i ddefnyddwyr yn 2022-23 sydd wedi deillio o’n gweithgareddau yw £2.5 biliwn (2021-22: £1.5 biliwn). Mae hyn yn golygu, am bob punt a gaiff ei gwario, fod y defnyddiwr yn cael budd gwerth £13. Mae rhai o’r prif fuddiannau yn cynnwys penderfyniadau o’r modelau Cap ar Brisiau, gweithgareddau sy’n deillio o gyflymu buddsoddiad mewn prosiectau trawsyrru trydan ar y tir a buddiannau a geisiwyd o Benderfyniadau Terfynol RIIO-ED2. Mae’r rhan fwyaf o’r effeithiau hyn yn rhai uniongyrchol. Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau hyn hefyd wedi cael effeithiau anuniongyrchol ansoddol cadarnhaol.
Gellir gweld y fethodoleg ar gyfer ein cyfrifiad yma ar ein gwefan.
O blith y buddiannau i ddefnyddwyr gwerth £2.5 biliwn, mae rhai uchafbwyntiau allweddol yn cynnwys y canlynol:
Bydd y Warant Pris Ynni wedi arbed tua £1,100 i aelwyd nodweddiadol ym Mhrydain Fawr rhwng mis Hydref 2022 a diwedd mis Mehefin 2023, o gymharu â phrisiau ynni heb eu disgowntio o dan y Cap ar Brisiau Tariffau Diofyn.
Roedd y taliadau hyn yn cynnwys:
Am fanylion ein gweithgarwch gorfodi, gweler Atodiad II
Cymeradwywyd yr holl brosiectau ar gyfer Dyluniad Rhwydwaith Cyfrannol Gweithredwr y System Drydan, gwerth mwy nag £20 biliwn, a roddodd fframwaith rheoleiddio newydd a elwir yn Fuddsoddiad Carlam mewn Prosiectau Trawsyrru Ynni (‘ASTI’), ar waith er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hadeiladu mor gyflym â phosibl.
Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod ein rhwydweithiau ar y môr yn barod i gysylltu hyd at 50 GW o ynni gwynt a gynhyrchir ar y môr erbyn 2030.
Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom barhau i fonitro’r broses o gyflwyno ein Fframwaith Strategol, y cytunodd y Bwrdd arno ym mis Rhagfyr 2020, a oedd yn canolbwyntio ar gyflawni ein prif amcan, sef: diogelu buddiannau’r defnyddiwr, nawr ac yn y dyfodol.
Mae’r Adroddiad hwn ar berfformiad yn nodi ein cyflawniadau o ran cyflawni ein Blaenraglen Waith ar gyfer 2022-23, sy’n seiliedig ar bum rhaglen newid strategol a dwy flaenoriaeth barhaus ein Fframwaith Strategol.
Nodwyd bod ein rhaglenni newid strategol yn feysydd polisi lle y gallwn lywio’r system ynni i sicrhau newid gwirioneddol i fuddiannau defnyddwyr a’r hinsawdd, Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi gweithio tuag at gyflawni’r rhaglenni newid hyn er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl.
Y rhaglenni newid strategol yn 2022-23 oedd:
Mae ein dwy flaenoriaeth barhaus yn rolau hanfodol y byddwn yn parhau i’w cyflawni.
Y blaenoriaethau hyn yw:
Ym mis Rhagfyr 2022, cytunodd ein Bwrdd i ddiweddaru ein Fframwaith Strategol, sydd bellach yn canolbwyntio ar gyflawni’r canlynol:
O dan y rhain, rydym wedi cynllunio i gyflawni 20 o brosiectau a rhaglenni â blaenoriaeth, sydd wedi’u nodi ein Blaenraglen Waith ar gyfer 2023-24.
Maent yn cynnwys cyfuniad o weithgareddau rheoleiddio craidd a gweithgareddau datblygu polisi.
Rydym yn parhau i nodi’r holl weithgareddau rheoleiddio craidd sy’n weddill a’r ffordd rydym yn gweinyddu cynlluniau amgylcheddol a chymdeithasol ar ran y llywodraeth.
Nod Rhaglen Newid Strategol ‘Dyfodol Manwerthu’ oedd nodi pa ddiwygiadau sydd eu hangen er mwyn cyflawni sero net yn y ffordd orau posibl, diogelu defnyddwyr a chyflwyno ein gweledigaeth i ddarparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ynni iddynt. Yn ystod 2022, gwnaethom ddatblygu Strategaeth ar gyfer y Farchnad Fanwerthu er mwyn canolbwyntio ein gweithgarwch rheoleiddio yn y sector manwerthu ar sicrhau marchnad cyflenwi ynni ar ôl yr argyfwng ynni a fydd yn gweithio’n well i ddefnyddwyr.
Mae gan y Strategaeth bedwar amcan, sef:
Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi datblygu’r gweithgareddau allweddol (fel y nodir isod), sy’n cyfrannu at y Strategaeth, gan barhau i fonitro ac asesu’r risgiau a’r problemau y mae defnyddwyr yn eu hwynebu a pharhau i ymateb i flaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg yn ôl y gofyn.
Y canlyniad a geisir: Creu marchnad fanwerthu sy’n sicrhau bod cyflenwyr yn gallu gwrthsefyll digwyddiadau annisgwyl yn y farchnad a sicrhau bod y sector yn ddeniadol i fuddsoddiad er mwyn hwyluso’r broses o bontio i sero net
Yn dilyn adolygiad i atgyfnerthu’r gyfundrefn reoleiddio ariannol ar gyfer cyflenwyr a blaenoriaethu safonau ariannol gofynnol a gofynion cyfalaf sylfaenol, gwnaethom ddiweddaru ein canllawiau ym mis Mai 2022 ac amodau trwydded cyflenwyr ym mis Awst 2022.
Ym mis Tachwedd 2022, gwnaethom hefyd ymgynghori ar y posibilrwydd o gyflwyno cyfundrefn digonolrwydd cyfalaf, a fyddai’n ymgorffori Egwyddor Cyfrifoldeb Ariannol uwch (‘FRP’) a gofyniad cyfalaf sylfaenol cyffredin, a rhwymedigaeth ar gyfer y farchnad gyfan i glustnodi derbyniadau o dan y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy y gellir eu priodoli i gyflenwad domestig a phwerau i gyfarwyddo bod balansau credyd cwsmeriaid yn cael eu clustnodi.
Fel y nodir yn ein penderfyniad a gyhoeddwyd yn ddiweddar, bydd yr Egwyddor Cyfrifoldeb Ariannol uwch a’r gofyniad cyfalaf sylfaenol cyffredin yn gwella cadernid ariannol drwy greu fframwaith adrodd mwy rhagweithiol, er mwyn i gyflenwyr allu nodi risgiau yn gynnar a’u hunioni.
Bydd y gofyniad cyfalaf yn pennu capasiti clustogol gofynnol a fydd yn golygu bod cyflenwyr yn fwy abl i wrthsefyll straen ariannol yn y dyfodol. Mae clustnodi derbyniadau o dan y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy yn golygu na all cyflenwyr ddibynnu ar daliadau’r Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy ar gyfer cyfalaf gwaith, a ddylai leihau’r perygl moesol sy’n gysylltiedig â chymryd gormod o risg ag arian defnyddwyr.
Ar gyfer clustnodi balansau credyd cwsmeriaid, rydym wedi ystyried pryderon sydd wedi’u codi ynghylch y pwerau arfaethedig a byddwn yn ceisio rhagor o sylwadau ar sut y gellid mireinio’r pwerau hyn mewn newidiadau pellach i drwyddedau.
Y canlyniad a geisir: Marchnad fanwerthu a all wrthsefyll anwadalrwydd prisiau a chyflawni canlyniadau i ddefnyddwyr domestig ac annomestig sy’n diogelu eu buddiannau ac yn hyrwyddo dewisiadau sero net. Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom barhau i weithio gyda rhanddeiliaid er mwyn nodi mesurau i ddiogelu defnyddwyr domestig ac annomestig a’u rhoi ar waith. Roedd y rhain mewn tri phrif faes polisi.
Tâl Sefydlogi’r Farchnad a Gwaharddiad ar Dariffau Caffael yn Unig)
Oherwydd natur anwadal y farchnad ynni gyfanwerthu yn ystod y flwyddyn, a gyda phrisiau gryn dipyn yn uwch na phrisiau nodweddiadol hanesyddol, ym mis Mai 2022 gwnaethom benderfynu cyflwyno Tâl Sefydlogi’r Farchnad, yn dilyn mesurau diogelu byrdymor cynharach ar gyfer y Gwaharddiad ar Dariffau Caffael yn Unig a mesurau eraill (Chwefror 2022), fel mesurau dros dro er mwyn helpu i ddiogelu defnyddwyr rhag y costau hyn tan fis Mawrth 2023. Ym mis Chwefror 2023, gwnaethom benderfyniad dilynol i ymestyn y ddau fesur tan fis Mawrth 2024, gan gydnabod ar yr un pryd mai diben y mesurau oedd sefydlogi’r farchnad yn ystod cyfnod eithriadol ac y gallai Tâl Sefydlogi’r Farchnad effeithio ar gystadleuaeth yn y farchnad. Y tu hwnt i fis Mawrth 2024, rydym wedi rhoi mecanweithiau trwydded ar waith er mwyn i’r mesurau allu cael eu hymestyn bob blwyddyn, ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid.
Yn dilyn gwaith ymchwil helaeth gyda defnyddwyr ar ddechrau 2023, buom yn gweithio gyda chyflenwyr ynni domestig i ddiweddaru Cod Ymarfer, er mwyn diogelu defnyddwyr mewn sefyllfa fregus rhag mesuryddion rhagdalu a osodir dan orfodaeth. Mae’r cod yn adeiladu ar reolau a chanllawiau presennol Ofgem ynglŷn â thrwyddedau, drwy nodi categorïau risg uchel mwy penodol, lle y dylid gwahardd gosodiadau dan orfodaeth. Mae hefyd yn egluro mai dim ond fel y dewis olaf ar ôl rhoi cynnig ar bob opsiwn arall y dylid ystyried gosod mesurydd rhagdalu dan orfodaeth a dim ond pan fo’n ddiogel ac yn ymarferol gwneud hynny.
Yn ystod y flwyddyn, roeddem wedi bwriadu cynnal adolygiad cyffredinol o’n Strategaeth ar gyfer Defnyddwyr mewn Sefyllfa Fregus ond, yn lle hynny, gwnaethom ganolbwyntio’r adnoddau hyn ar ddiweddaru’r Cod Ymarfer ar gyfer Mesuryddion Rhagdalu.
Y canlyniad a geisir: Marchnad fanwerthu sy’n galluogi prisiau teg, yn darparu ansawdd a safonau ac yn sicrhau cadernid.
Yn ystod haf 2022, gwnaethom gynnal adolygiad cynhwysfawr o elfennau cyfanwerthu’r Cap ar Brisiau, nad oeddent yn adlewyrchu mwyach y costau i gyflenwyr a oedd yn gysylltiedig â’r amgylchedd prisiau ynni uchel ac anwadal, gan gynnwys elfen ‘gohirdal’ prisiau cyfanwerthu. Gwnaethom newid amlder pennu lefel y Cap i unwaith bob chwarter er mwyn sicrhau y byddai costau yn adlewyrchu amodau presennol y farchnad yn fwy cywir ac y byddent yn ei gwneud yn bosibl i’r Cap ostwng yn gyflymach pan fyddai prisiau yn gostwng yn y pen draw.
Gwnaethom nifer o newidiadau technegol i’r Cap ar Brisiau hefyd er mwyn adlewyrchu costau polisïau newydd a pholisïau a newidiwyd sy’n effeithio ar gostau cyflenwyr a gweithio’n agos gyda’r Llywodraeth i roi’r Warant Pris Ynni (gweler yr adran Swyddogaethau Rheoleiddio Craidd – Cynlluniau’r Llywodraeth) ar waith er mwyn diogelu cwsmeriaid rhag prisiau cyfanwerthu uchel iawn.
Yn ein Blaenraglen Waith ar gyfer 2022-23, aethom ati hefyd i roi Polisi Tariffau Gwyrdd a Rhanddirymiadau o’r Cap ar Brisiau ar waith. Er i’r gweithgareddau hyn gael eu hatal dros dro er mwyn i ni ganolbwyntio ein hadnoddau ar ymateb i’r argyfwng ynni, cyhoeddwyd ein Rhaglen Waith ar y Cap ar Brisiau ym mis Tachwedd 2022, er mwyn ymgynghori â rhanddeiliaid ynghylch pa ffrydiau gwaith y dylem roi blaenoriaeth iddynt. Ers hynny mae’r Rhaglen wedi’i chadarnhau ac mae bellach yn cael ei rhoi ar waith.
Drwy ein gweithgarwch monitro ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, gwnaethom nodi amrywiaeth ehangach o bryderon yn y farchnad annomestig, y tu hwnt i effeithio ar gwsmeriaid sy’n ficrofusnesau, yr honnwyd eu bod yn cynyddu costau ac a allai adlewyrchu lefelau isel o gystadleuaeth yn y farchnad yn ystod yr argyfwng ynni. Yn ogystal â dechrau adolygiadau o gydymffurfiaeth tua diwedd 2022, rydym wedi bod yn casglu rhagor o dystiolaeth er mwyn deall lle y gallai fod angen i ni roi mesurau newydd ar waith i ddiogelu a chefnogi cwsmeriaid annomestig. Gwnaethom ddarparu diweddariad ar y gwaith hwn i Ganghellor y Trysorlys ym mis Mawrth 2023 ac rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi adroddiad llawn ac atebion arfaethedig yn ystod haf 2023.
Y canlyniad a geisir: Y Setliad Hanner Awr drwy’r Farchnad Gyfan yn cyflawni amcanion yn erbyn cynlluniau a chostau y cytunwyd arnynt.
Mae Ofgem yn goruchwylio Exelon fel rheolwr y prosiect, sy’n cydgysylltu’r gwaith o gyflwyno’r Setliad Hanner Awr drwy’r Farchnad Gyfan. Ym mis Rhagfyr 2022, gwnaethom gyhoeddi ein penderfyniad polisi ar lywodraethiant ‘Saernïaeth a Lywir gan Ddigwyddiadau’ fel y bwriadwyd ym mis Ebrill 2022, gydag Elexon yn bwrw ymlaen â’r broses fanwl o ddatblygu’r cod. Disgwylir i’r gwaith hwn gael ei gwblhau yn 2024.
Pennwyd y llinell sylfaen ar gyfer dyluniad ffisegol y Setliad Hanner Awr drwy’r Farchnad Gyfan ym mis Chwefror 2023, a oedd yn hwyrach na’r disgwyl, oherwydd oedi gan y diwydiant cyn egluro manyleb fanwl y dyluniad. Mae newidiadau i God y Setliad Hanner Awr drwy’r Farchnad Gyfan yn dibynnu ar y broses pennu llinell sylfaen, sydd wedi cael effeithiau dilynol ar waith datblygu newidiadau i’r cod sydd eisoes ar ei hôl hi. Disgwylir i’r gwaith o ddrafftio’r cod gan y diwydiant gael ei gwblhau yn 2024 ac i’r cod ei hun gael ei roi ar waith ar ddechrau 2025.
Mae’r gwaith o ddylunio ac adeiladu systemau canolog wedi dechrau ac mae partïon yn cwblhau profion ar welliannau i’w systemau a phrofion cyn integreiddio.
Yn yr un modd, oherwydd yr oedi cyn pennu llinell sylfaen y dyluniad, nid yw’r gwaith o ddylunio ac adeiladu systemau canolog wedi’i gwblhau a byddant yn mynd yn fyw chwe mis yn hwyrach na’r disgwyl.
O ganlyniad i’r oedi hwn, mae rhaglen y Setliad Hanner Awr drwy’r Farchnad Gyfan yn cael ei hailgynllunio ar hyn o bryd, a disgwylir cais am newidiadau gan Exelon.
Y canlyniad a geisir: Trefniadau newid cyflymach a mwy dibynadwy yn gweithredu yn unol â Chytundebau Lefel Gwasanaeth.
Cyflwynwyd y trefniadau newid cyflymach newydd ar amser a daethant yn weithredol yn ystod mis Gorffennaf 2022. Daeth Ofgem â’r rhaglen hon i ben ym mis Hydref 2022. Ei nod oedd cyflwyno ‘Gwasanaeth Newid Canolog’ newydd a fyddai’n galluogi defnyddwyr domestig i newid cyflenwyr o fewn 36 awr a defnyddwyr annomestig i newid cyflenwyr o fewn 48 awr, yn ogystal â chynyddu nifer y prosesau newid y gall y system ymdrin â nhw.
Cyflwynwyd y Gwasanaeth Newid Canolog gan y Cwmni Data a Chysylltiadau (gweler yr adran Swyddogaethau Rheoleiddio Craidd – Goruchwyliaeth Reoleiddiol: y Cwmni Data a Chysylltiadau), yn ogystal â fframwaith llywodraethu newydd, drwy’r Cod Ynni Manwerthu. Fel rhan o’r fframwaith hwn, mae Bwrdd Sicrhau Perfformiad wedi’i sefydlu er mwyn sicrhau y cydymffurfir â rhwymedigaethau’r Cod a monitro nifer y defnyddwyr sy’n manteisio ar y trefniadau newid cyflymach.
Er mwyn pontio i sero net, bydd angen trawsnewid y sector ynni yn sylweddol: parhau â’r broses o ddatgarboneiddio pŵer, trydaneiddio’r rhan fwyaf o drafnidiaeth arwyneb a newid i ffynonellau ynni carbon isel i wresogi ein cartrefi a’n gweithleoedd. Mewn rhai ardaloedd mae consensws cyffredinol ynglŷn â’r cyfeiriad teithio, megis cyflymu’r broses o drosglwyddo i ffynonellau ynni adnewyddadwy a cherbydau trydan. Fodd bynnag, mae rhywfaint o ansicrwydd o hyd ynghylch cwestiynau allweddol megis rôl hydrogen mewn gwres, faint o ynni niwclear fydd ei angen a faint o garbon y bydd angen i ni ei ddal, ei ddefnyddio a’i storio.
Drwy ein Rhaglen Newid Strategol ‘Seilwaith Carbon Isel’, ein nod yw sicrhau bod y galluogwyr angenrheidiol ar waith er mwyn hwyluso dull mwy cydgysylltiedig o drawsnewid seilwaith rhwydwaith Prydain Fawr er mwyn cyflawni sero net a diogelu sicrwydd ynni. Mae hyn yn cynnwys chwarae rhan weithredol yn y gwaith o sicrhau buddsoddiad amserol ac effeithlon yn y rhwydweithiau, gan gadw costau i ddefnyddwyr mor isel â phosibl.
Mae ein Rhaglen Newid Strategol ‘Seilwaith Carbon Isel’ yn ymdrin â thair thema strategol allweddol:
Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi datblygu’r gweithgareddau allweddol (fel y’u nodir isod), sy’n cyfrannu at gyflawni’r tri amcan allweddol hyn.
Y canlyniad a geisir: Sicrhau buddsoddiad mawr effeithlon yn asedau rhwydweithiau trawsyrru trydan – o gymharu â’r 20 mlynedd diwethaf – er mwyn cysylltu prosiectau cynhyrchu newydd â chanolfannau galw yn unol â thargedau sero net.
Ym mis Tachwedd 2022, penderfynodd Ofgem y dylai Gweithredwr System y Dyfodol (gweler yr adran ar Hyblygrwydd Cadwyn Lawn) gyflwyno’r Cynllun Rhwydweithiau Strategol Canolog newydd; un o ganfyddiadau allweddol yr Adolygiad Cynllunio Rhwydweithiau Trawsyrru Trydan.
Nod y Cynllun Rhwydweithiau Strategol Canolog yw darparu dull annibynnol, cyfannol a chydgysylltiedig o gynllunio ledled Prydain Fawr, a fydd yn canolbwyntio i ddechrau ar y rhwydwaith trawsyrru trydan (ar y tir, ar y môr a rhyng-gysylltwyr). Bydd hyn yn helpu i sicrhau y caiff penderfyniadau ar fuddsoddi mewn rhwydweithiau eu gwneud yn gyflymach er mwyn helpu i sicrhau bod nifer y ffynonellau ynni adnewyddadwy newydd a gysylltir yn parhau i gynyddu.
Bydd hefyd yn helpu i gadw costau’r buddsoddiad hwn mor isel â phosibl, er enghraifft, drwy helpu i sicrhau cystadleuaeth ym maes dylunio a chyflwyno rhwydweithiau ar y tir.
Y canlyniad a geisir: Dyluniad cychwynnol fframwaith/mecanweithiau ariannu rhwydweithiau’r dyfodol er mwyn galluogi sero net.
Gwnaethom gyhoeddi Llythyr Agored ym mis Medi 2022, yn nodi’r cyd-destun ar gyfer datblygu systemau rheoli prisiau rhwydweithiau’r dyfodol a dechrau’r broses o ystyried sut rydym yn rheoleiddio cwmnïau rhwydweithiau trydan a nwy o 2026 ymlaen. Cyhoeddwyd ymgynghoriad hefyd ym mis Mawrth 2023, yn nodi opsiynau ar gyfer dyluniad cyffredinol y fframwaith ar gyfer y systemau rheoli prisiau rhwydweithiau hyn. Bydd canfyddiadau’r ymgynghoriad hwn yn llywio strwythur terfynol y fframwaith a methodolegau sector-benodol.
Y canlyniad a geisir: Datblygu marchnadoedd cystadleuol gwahanol er mwyn ysgogi buddsoddiadau mawr mewn asedau rhwydweithiau trawsyrru, yn unol â thargedau sero net.
Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom barhau i helpu’r llywodraeth i ddatblygu sail dystiolaeth ar gyfer penderfyniadau polisi ar ddyfodol hydrogen er mwyn deall ymarferoldeb, costau a chyfleuster defnyddio hydrogen i wresogi eiddo domestig.
Ym mis Mai 2022, gwnaeth pentref hydrogen sicrhau cyllid RIIO gwerth mwy na £9m (dosbarthu nwy), sy’n cefnogi’r uchelgais hwnnw yn uniongyrchol. Mae’r ‘astudiaethau dylunio manwl’ yn cael eu defnyddio i lywio penderfyniad y llywodraeth ar leoliad y pentref peilot a phenderfyniadau ariannu ar y cyd gan Ofgem a’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS).
Defnyddir cyllid Cam Dichonoldeb ‘Project Union’ i ailystyried ymarferoldeb addasu asedau Trawsyrru Nwy Cenedlaethol o nwy naturiol i ffurfio rhwydwaith trawsyrru hydrogen, er mwyn cefnogi penderfyniadau’r llywodraeth yn y dyfodol.
Y canlyniad a geisir: DDatblygu marchnadoedd cystadleuol gwahanol er mwyn ysgogi buddsoddiadau mawr mewn asedau rhwydweithiau trawsyrru, yn unol â thargedau sero net.
Mae’r gweithgareddau a gyflawnwyd yn 2022-23 wedi bod yn gam mawr tuag at ein canlyniad arfaethedig. Mae cyhoeddi penderfyniadau ‘o fwriad’ ar dri maes polisi: Rhyng-gysylltwyr Amlbwrpas – Fframwaith dros dro; Cydgysylltu rhwydweithiau ar y môr – Cyfleoedd cynnar ar gyfer buddsoddiad rhagflaenorol; a Llwybrau at 2030 wedi cyflwyno newidiadau radical i’r ffordd y caiff rhwydweithiau ar y môr eu dylunio a’u cyflwyno.
Yn 2022-23 cyhoeddwyd y Dyluniad Rhwydwaith Cyfrannol, sef y glasbrint cyntaf ar gyfer seilwaith cydgysylltiedig, wedi’i gynllunio’n strategol ar y môr. Nododd ein penderfyniadau ddosbarthiad yr asedau a oedd wedi’u cynnwys yn y Dyluniad Rhwydwaith Cyfannol, a ategwyd gan benderfyniad pellach ym mis Hydref 2022 ar gyfer polisi buddsoddiad rhagflaenorol newydd a modelau cyflawni newydd ar gyfer yr asedau hyn.
Gan weithio ochr yn ochr, bydd y newidiadau hyn yn golygu y gall rhwydweithiau newydd ar y môr gael eu cyflwyno’n gyflym er mwyn cyflawni targedau uchelgeisiol y llywodraeth ar gyfer ynni gwynt a gynhyrchir ar y môr a byddant yn cynnig cyfleoedd newydd i dendro ar gyfer asedau cydgysylltiedig. Yn 2023-24, byddwn yn parhau â’n gwaith i sefydlu’r fframweithiau newydd a’u rhoi ar waith, gan alluogi a rhyddhau buddsoddiad newydd gwerth biliynau o bunnau.
Y canlyniad a geisir: Dyluniad cychwynnol fframwaith/mecanweithiau ariannu rhwydweithiau’r dyfodol er mwyn galluogi sero net
Ailgyfeiriwyd adnoddau y bwriadwyd iddynt gael eu defnyddio ar gyfer y gweithgarwch hwn er mwyn ymateb i’r argyfwng ynni yn ystod y flwyddyn, er i ni ailddechrau ar y gwaith hwn yn ddiweddar.
Y canlyniad a geisir: Galluogi buddsoddiad mawr mewn asedau rhwydweithiau trawsyrru er mwyn cysylltu prosiectau cynhyrchu newydd â chanolfannau galw yn unol â thargedau sero net.
el y nodwyd uchod, gwnaethom barhau i ddatblygu cyfundrefn reoleiddio Rhyng-gysylltwyr Amlbwrpas yn ystod y flwyddyn, er i’n hymgynghoriad gael ei ohirio yn sgil y penderfyniad i ailgyfeirio adnoddau at ein hymateb i’r argyfwng ynni. Cyhoeddwyd fframwaith peilot Rhyng-gysylltwyr Amlbwrpas ym mis Hydref 2022 a dewiswyd dau brosiect peilot. Bydd gwaith yn parhau yn 2023-24 er mwyn asesu’r prosiectau hyn a datblygu’r fframwaith rheoleiddio rhyng-gysylltwyr amlbwrpas.
Y canlyniad a geisir: Penderfyniadau sy’n helpu rhwydweithiau i gyflawni sero net am y gost leiaf i ddefnyddwyr.
Drwy holl systemau rheoli prisiau RIIO-2, mae Ofgem wedi nodi fframwaith rheoleiddio hyblyg y gellir ei addasu a fydd yn helpu i gyflymu’r broses o adeiladu seilwaith ein rhwydwaith. Dechreuodd systemau rheoli prisiau RIIO-ED2 yn unol â’r amserlen ar 1 Ebrill 2023, ar ôl i’r Penderfyniadau Terfynol gael eu cadarnhau ym mis Tachwedd 2022 ac ar ôl i drwyddedau gael eu haddasu ym mis Chwefror 2023. Cadarnhaodd y setliad hwn raglen fuddsoddi gychwynnol gwerth mwy na £22bn ar gyfer y rhwydweithiau dosbarthu trydan lleol dros y cyfnod o bum mlynedd hyd at 2028, sy’n cynnwys mwy na £3bn ar wella rhwydweithiau er mwyn darparu ar gyfer mwy o gerbydau trydan a phympiau gwres yn ogystal â chysylltu ag asedau cynhyrchu lleol newydd – gan bron i ddyblu buddsoddiad o gymharu â gwariant blaenorol RIIO-ED1.
Bydd dull rheoleiddio hyblyg y gellir ei addasu hefyd yn darparu ar gyfer buddsoddiad i alinio’r newidiadau y bydd y rhwydweithiau yn eu gweld mewn gwirionedd dros amser, gan sicrhau bod cwsmeriaid yn talu am waith sydd ei angen.
Bydd y setliad hefyd yn sicrhau y darperir gwasanaethau rhwydwaith mwy dibynadwy a chadarn i ddefnyddwyr, gan annog dulliau newydd o reoli systemau lleol sy’n osgoi taliadau rhwydwaith cynyddol diangen ar filiau pobl.
Y canlyniad a geisir: Datblygu cyfundrefn sylfaen asedau rheoleiddiedig niwclear er mwyn galluogi buddsoddiad mewn prosiectau cynhyrchu ynni carbon isel lleol. Helpu BEIS i wneud Penderfyniad Buddsoddi Terfynol ym mis Ebrill/Mai 2023.
Mae Ofgem yn parhau i symud tuag at gyflawni’r canlyniad o Benderfyniad Buddsoddi Terfynol yn ystod y sesiwn seneddol hon, gyda rheoliadau ynglyn â chasglu refeniw yn dod yn gyfraith ym mis Mawrth 2023. Mae Ofgem wedi parhau i weithredu fel ‘uwch-gynghorydd’ hollbwysig ar gyfer y rhaglen, gan weithio ar draws yr elfennau rheoleiddiol, cyfreithiol, llywodraethu a strategaeth er mwyn datblygu’r gyfundrefn reoleiddio. Rydym hefyd wedi ychwanegu llais annibynnol at y broses llunio polisi, gan sicrhau y caiff buddiannau defnyddwyr eu cynrychioli, a ddangosir orau gan ein hymateb i’r penderfyniad ynghylch dynodiad Sizewell C.
Y canlyniad a geisir: Fframwaith rheoleiddio dal, defnyddio a storio carbon ar gyfer Trafnidiaeth a Storio sy’n aeddfed ac a all reoleiddio a chymell sector dal, defnyddio a storio carbon sy’n tyfu a hynny mewn ffordd gynaliadwy.
Fel gyda phrosiectau niwclear newydd, rydym yn parhau i ddatblygu cyfundrefn reoleiddio newydd ar gyfer dal, defnyddio a storio carbon, gan weithio gyda’r BEIS/yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net (DESNZ) ac ar draws y llywodraeth.
Felly, rydym yn dal i fod yn elfen hollbwysig o fodel cyflawni DESNZ, gan roi cyngor ar ddeddfwriaeth, codau, cynllunio marchnadoedd a sectorau, rheoliadau, gofynion sectorau yn y dyfodol a rhyngweithio masnachol.
Y canlyniad a geisir: Gwell dealltwriaeth o’r gofynion o ran cadernid seilwaith ynni mewn hinsawdd sy’n newid a gyda’r gofynion ychwanegol sy’n gysylltiedig â sero net.
Dechreuodd gwaith i gwmpasu rhaglen strategol ar flaenoriaethau ar gyfer camau gweithredu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd ar ddiwedd 2022. Cafodd cynnig terfynol ar gyfer y rhaglen hon ei ohirio a chaiff ei adolygu bellach yn ystod gwanwyn 2023. Caiff y gwaith hwn ei lywio gan yr argymhelliad yn adolygiad Ofgem ac (wedyn) adolygiad BEIS o Storm Arwen, yn ogystal ag argymhellion gan gynghorwyr y llywodraeth megis adroddiad cynnydd statudol y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd ar addasu ac adroddiad y Pwyllgor Seilwaith Cenedlaethol ar Systemau Seilwaith Cadarn. Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi parhau i lywio rhaglen ymchwil BEIS ar sicrhau bod rhwydweithiau ynni Prydain Fawr yn fwy abl i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd.
Y canlyniad a geisir: Datblygu marchnadoedd cystadleuol gwahanol er mwyn sicrhau buddsoddiadau mewn rhwydweithiau
Ar ddiwedd mis Mawrth 2022, gwnaethom gyhoeddi penderfyniad, a gadarnhaodd ein bwriad i ddatblygu model cystadleuaeth gynnar ar gyfer buddsoddi mewn rhwydweithiau. Ochr yn ochr â hyn, gwnaethom gyhoeddi Asesiad Effaith wedi’i ddiweddaru a ystyriodd yr achos dros ddatblygu cystadleuaeth gynnar ymhellach, fel y gallai fod yn barod i’w defnyddio mewn prosesau dylunio a chyflwyno, er mwyn diwallu anghenion o ran trawsyrru trydan. Er i adnoddau ar gyfer y gweithgarwch hwn gael eu hailgyfeirio er mwyn cefnogi ein hymateb i’r argyfwng ynni ym mis Mai 2022, cafodd Gweithredwyr y System Drydan gyllid i ddatblygu’r model masnachol. Mae’r gwaith ategol hwn wedi sicrhau bod y pecyn ehangach o waith yn parhau ar y trywydd cywir.
Mae system ynni ddeallus a hyblyg yn hanfodol i gyflawni nodau hinsawdd y DU mewn perthynas â sero net ac, ar yr un pryd, sicrhau bod biliau ynni yn parhau i fod yn fforddiadwy i bawb. Bydd bod yn ddeallus a hyblyg o ran y ffordd rydym yn cynhyrchu, yn defnyddio ac yn storio ynni yn helpu i ddatgarboneiddio’r sectorau pŵer, gwres, trafnidiaeth a diwydiant.
Wrth i ni newid y ffordd rydym yn pweru ein ceir ac yn gwresogi ein cartrefi, bydd y galw am drydan yn cynyddu o filiynau o gerbydau trydan a phympiau gwres newydd. Bydd bod yn fwy hyblyg o ran pryd rydym yn defnyddio trydan yn helpu i osgoi’r angen i greu capasiti cynhyrchu a chapasiti grid newydd er mwyn ateb y galw hwn. Bydd hyn yn sicrhau arbedion sylweddol ar filiau ynni, yr amcangyfrifir y gallent fod yn werth hyd at £10 biliwn y flwyddyn hyd at 2050. Gall defnyddwyr hefyd chwarae rhan weithredol, gan fanteisio ar dariffau newydd a dyfeisiau clyfar fel gwefrwyr cerbydau trydan clyfar, a fydd yn eu galluogi i arbed arian drwy ddefnyddio trydan pan adegau pan fo’n rhatach.
Yn ystod haf 2021, cyhoeddodd Ofgem a BEIS y Cynllun Systemau Deallus a Hyblygrwydd yn nodi gweledigaeth, gwaith dadansoddi a rhaglen waith ar gyfer cyflwyno system drydan ddeallus a hyblyg a fydd yn sail i sicrwydd ein cyflenwad ynni a’r broses o bontio i sero net. Mae Rhaglen Newid Strategol ‘Hyblygrwydd Cadwyn Lawn’ yn cwmpasu camau gweithredu Ofgem o’r Cynllun Systemau Deallus a Hyblygrwydd.
Mae’r Cynllun yn nodi diwygiadau er mwyn gwneud y canlynol:
Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi datblygu’r gweithgareddau allweddol (fel y’u nodir isod), sy’n cyfrannu at y Cynllun.
Y canlyniad a geisir: Gall trefniadau’r farchnad ei gwneud yn bosibl i holl adnoddau ynni cyflenwad a galw hyblyg gyfrannu eu potensial llawn, gan ymateb yn effeithlon i adnoddau ynni ac adnoddau rhwydweithiau sydd ar gael.
Gwnaethom barhau i weithio gyda’r llywodraeth a Gweithredwr y System Drydan i ystyried opsiynau ar gyfer diwygio cynllun y farchnad, er mwyn sicrhau bod trefniadau’r farchnad yn addas i gyflawni sero net. Er i gynnydd mewn cwmpas ohirio dechrau’r gwaith hwn, gwnaethom gwblhau gwaith modelu economaidd manwl ar gyfer modelau prisio lleoliadol.
Cafodd yr asesiad economaidd-gymdeithasol ehangach ei ohirio (oherwydd y cynnydd mewn cwmpas), a chaiff ei gynnal yn ystod haf 2023.
Bydd canfyddiadau allweddol y gwaith modelu a rannwyd â BEIS a Gweithredwr y System Drydan yn llywio adolygiad o ddiwygio’r farchnad. Mae’r dystiolaeth a gasglwyd hyd yma yn awgrymu bod achos cryf dros gredu y gallai model prisio lleoliadaol ddod â manteision sylweddol i ddefnyddwyr.
Y canlyniad a geisir: Mae’r trefniadau ar gyfer rhyng-gysylltwyr yn defnyddio potensial llawn hyblygrwydd, gan ei gwneud yn bosibl i ryng-gysylltwyr ddod yn rhan hanfodol o ateb ar gyfer grid hyblyg mwyfwy datgarboneiddiedig.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Arbenigol ar Ynni, sy’n fforwm ar y cyd rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, argymhelliad ym mis Chwefror 2023, a oedd yn cynnwys cais i weithredwyr systemau trawsyrru wneud rhagor o waith dadansoddi ar yr opsiynau ar gyfer trefniadau masnachu mewn trydan trawsffiniol newydd. Rydym yn parhau i gefnogi cynnydd y gwaith hwn drwy roi cyngor technegol i’r llywodraeth ac ymgysylltu ag ACER ac awdurdodaethau rheoleiddio Ewropeaidd perthnasol, yn ogystal â helpu gweithredwyr systemau trawsyrru yn y Deyrnas Unedig i gyflawni.
Y canlyniad a geisir: Mae’r trefniadau taliadau ar gyfer rhwydweithiau trawsyrru yn ei gwneud yn bosibl i holl adnoddau ynni cyflenwad a galw hyblyg gyfrannu eu potensial llawn, gan ymateb yn effeithlon i adnoddau ynni ac adnoddau rhwydweithiau sydd ar gael.
Lansiwyd y Tasglu ar y Defnydd o System Rhwydwaith Trawsyrru (‘TNUoS’) ym mis Chwefror 2022 er mwyn deall achos sylfaenol natur anrhagweladwy taliadau TNUoS ac ystyried sut y gall taliadau barhau i fod yn gosteffeithiol. Er i Ofgem ddadflaenoriaethu’r gwaith hwn ym mis Mai 2022 er mwyn canolbwyntio adnoddau ar ein hymateb i’r argyfwng ynni, roedd gwaith dadansoddi parhaus yn cael ei wneud gan Weithredwr y System Drydan, a ddefnyddir gan y Tasglu, pan fydd yn ailymgynnull yn ystod gwanwyn 2023. Gwnaed gwaith parhaus ar agweddau eraill ar daliadau trawsyrru yn y cyfamser, a oedd yn canolbwyntio ar fforddiadwyedd, sefydlogrwydd marchnadoedd a sicrwydd cyflenwad.
Y canlyniad a geisir: Mae’r trefniadau taliadau ar gyfer dosbarthu yn ei gwneud yn bosibl i holl adnoddau ynni cyflenwad a galw hyblyg gyfrannu hyd at eu potensial llawn, gan ymateb yn effeithlon
i adnoddau ynni ac adnoddau rhwydweithiau sydd
ar gael.
Yn dilyn cyhoeddi penderfyniad terfynol a chyfarwyddyd ynghylch Mynediad a Thaliadau Tuag at y Dyfodol ym mis Mai 2022, gwnaethom gyhoeddi addasiadau i’r cod er mwyn rhoi’r Adolygiad Cod Sylweddol (‘yr Adolygiad Cod Sylweddol o Fynediad’) ar waith, a oedd wedi’i weithredu’n llawn erbyn mis Ebrill 2023. Nod yr Adolygiad Cod Sylweddol o Fynediad oedd sicrhau y caiff rhwydweithiau trydan eu defnyddio’n effeithlon a hyblyg, gan adlewyrchu anghenion defnyddwyr a’u galluogi i gael budd o dechnolegau a gwasanaethau newydd, gan osgoi costau diangen ar filiau ynni.
Cafodd y gwaith o ddatblygu opsiynau ar gyfer diwygio taliadau am y Defnydd o Systemau Dosbarthu (’DUoS’) ymhellach ei ddadflaenoriaethu yn ystod y flwyddyn er mwyn ymateb i’r argyfwng ynni. Ar hyn o bryd, rydym yn ailddechrau ar ein gwaith i ddatblygu ein opsiynau ar gyfer diwygio taliadau DUoS ar gyfer 2023-24.
Y canlyniad a geisir: Caiff rhwystrau i hyblygrwydd ar y grid eu dileu ac mae trefniadau y gellir buddsoddi ynddynt yn cyflwyno’r gallu hyblyg carbon isel cywir, ar yr adeg gywir ac yn y lleoliadau cywir.
Ailgyfeiriwyd adnoddau y bwriadwyd iddynt gael eu defnyddio ar gyfer y gweithgarwch hwn er mwyn ymateb i’r argyfwng ynni.
Ataliwyd y gweithgarwch hwn dros dro tra bod BEIS/DESNZ yn datblygu eu safbwynt polisi.
Y canlyniad a geisir: Mae polisïau rheoleiddio Ofgem yn ei gwneud yn bosibl i gerbydau trydan gael eu cyflwyno’n gyflym am y gost leiaf – bydd gan ddefnyddwyr gyfle a chymhelliad priodol i ddarparu hyblygrwydd i’r system drwy systemau gwefru cerbydau trydan clyfar.
Ailgyfeiriwyd adnoddau y bwriadwyd iddynt gael eu defnyddio ar gyfer y gweithgarwch hwn er mwyn ymateb i’r argyfwng ynni. Bydd y gweithgarwch hwn yn ailddechrau yn 2023-24.
Y canlyniad a geisir: Hyblygrwydd cadwyn lawn wedi’i rhyddhau, sy’n golygu y gall yr holl adnoddau ynni cyflenwad a galw hyblyg gyfrannu hyd at eu potensial llawn, gan ymateb yn effeithlon i adnoddau ynni ac adnoddau rhwydweithiau sydd ar gael.
Drwy gydol y flwyddyn, gwnaethom gasglu tystiolaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, er mwyn deall sut y gallem ddatblygu marchnadoedd hyblygrwydd yn lleol.
Roedd hyn yn cynnwys:
Bydd y dystiolaeth a’r gweithgarwch ymgysylltu hwn yn ein galluogi i ddatblygu diwygiadau ar gyfer marchnadoedd hyblygrwydd amlochrog cydgysylltiedig a hyblyg, sy’n rhai digidol eu dyluniad ac sy’n ei gwneud yn bosibl i dechnolegau carbon isel gyfranogi, a bwrw ymlaen â’r diwygiadau hynny.
Nod y Rhaglen Newid Strategol hon oedd ystyried y strwythurau sefydliadol a’r strwythurau llywodraethu yn y sector ynni - gan gynnwys rôl Ofgem ei hun - ac ystyried a oedd y strwythurau hynny yn addas at y diben wrth i’r system ynni bontio i sero net.
Cafodd cwmpas y rhaglen ei leihau y llynedd er mwyn canolbwyntio ar yr agweddau craidd o’i mewn, sef y prosiectau sefydledig sy’n cyflawni, ochr yn ochr â’r Llywodraeth, Gweithredwr System y Dyfodol a diwygio’r Codau Ynni; wrth i ni hefyd geisio adolygu trefniadau llywodraethu Gweithrediad y System Ddosbarthu.
Yn ein Blaenraglen Waith, gwnaethom hefyd ychwanegu ein bod yn ceisio sicrhau, drwy’r Rhaglen Newid hon, fod nodau tymor canolig a thymor hwy Ofgem yn llywio ffurf ein sefydliad a’r swyddogaethau a gyflawnir gennym. O ystyried y goblygiadau strategol i’r sefydliad yn gyffredinol, yn lle hynny mae hyn yn rhan o’r gwaith ehangach i gyflawni canlyniadau strategol Ofgem (yn hytrach na bod yn brosiect yn ei rinwedd ei hun).
Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi datblygu’r gweithgareddau allweddol (fel y’u nodir isod), ar gyfer y Rhaglen Newid Strategol hon.
Y canlyniad a geisir: Cefnogi trefniadau sefydliadol er mwyn cefnogi diwygiadau i Weithredwr y System.
Ym mis Ebrill 2022, gyda’r Llywodraeth, gwnaethom gyhoeddi ein hymateb i ymgynghoriad a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2021, a nododd gynigion ar gyfer corff annibynnol diduedd a fyddai’n gyfrifol am y systemau trydan a nwy, er mwyn ysgogi cynnydd tuag ar sero net, gan gynnal sicrwydd cyflenwad a lleihau costau i ddefnyddwyr.
Yn ein hymateb, gwnaethom gadarnhau ein penderfyniad i fwrw ymlaen â’r gwaith o greu Gweithredwr System y Dyfodol newydd ac annibynnol. Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Llywodraeth ar y camau gweithredu angenrheidiol, gan gynnwys:
Y canlyniad a geisir: Cefnogi trefniadau sefydliadol er mwyn cefnogi diwygiadau i Weithredwr y System Ddosbarthu.
Ym mis Ebrill 2022, lansiwyd ein hadolygiad o effeithiolrwydd trefniadau sefydliadol a threfniadau llywodraethu ynni lleol ar lefel is-genedlaethol, drwy gyhoeddi ‘Cais am Fewnbwn’.
Dilysodd ymatebion gan randdeiliaid ein hachos dros newid ac, o ganlyniad, gwnaethom gyhoeddi ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig ym mis Mawrth 2023.
At hynny, drwy Benderfyniadau Drafft ac, wedyn, Benderfyniadau Terfynol RIIO-ED2 (gweler yr adran ar Swyddogaethau Rheoleiddio Craidd – Rheoleiddio Gweithredwr y System Ddosbarthu), gwnaethom roi ymarfer ailagor ar gyfer Gweithredwr y System Ddosbarthu ar waith, er mwyn sicrhau y gellid diwygio’r system rheoli prisiau i adlewyrchu unrhyw newid i’r rolau, y cyfrifoldebau a’r trefniadau llywodraethu ar gyfer gweithredu system ddosbarthu.
Y canlyniad a geisir: Cefnogi trefniadau llywodraethu mwy effeithiol ar gyfer y system ynni drwy ddiwygiadau strategol i godau.
Yn dilyn cyhoeddi ymateb ar y cyd BEIS ac Ofgem (y llywodraeth) mewn perthynas â Diwygio Codau Ynni ym mis Ebrill 2022, gwnaethom weithio’n agos gyda BEIS er mwyn datblygu’r ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer trwyddedu a’r trefniadau ar gyfer codau.
Cyflwynwyd darpariaethau i ddiwygio’r trefniadau llywodraethu ar gyfer codau’r diwydiannau nwy a thrydan yn y Bil Ynni ym mis Gorffennaf 2022.
Ym mis Rhagfyr 2022, gwnaethom gyhoeddi ‘Cais am Fewnbwn’, a oedd yn canolbwyntio ar gyfuno codau a’r fframwaith rheoleiddio i reolwyr codau. Ers hynny, rydym wedi gweithio gyda BEIS ar ddatblygu is-ddeddfwriaeth.
Bydd y broses trawsnewid ynni yn parhau i gyflwyno mwy a mwy o gymhlethdod wrth i nifer y marchnadoedd ynni, asedau, gwasanaethau a chyfranogwyr mewn marchnadoedd gynyddu ac wrth i’r angen i gyfathrebu’n glir a rhannu data dyfu. Felly, mae creu, casglu, rhannu a defnyddio data ar y system ynni yn hanfodol er mwyn rheoli’r cymhlethdod hwn a rhyddhau gwasanaethau a gwerth newydd i bob rhanddeiliad ynni, gan gynnwys gwell mesurau i ddiogelu defnyddwyr.
Mae angen i’r gwasanaethau seilwaith digidol cysylltiedig hefyd integreiddio â data a gwasanaethau cyfatebol o sectorau eraill. Bydd hyn yn cynyddu nifer y cyfleoedd ar gyfer marchnadoedd newydd a marchnadoedd gyflawni’r broses ddatgarboneiddio a sicrhau bod yr ymdrechion hynny’n fwy gweladwy.
Mae Ofgem yn un o symbylwyr, hyrwyddwyr, cefnogwyr a buddiolwyr trawsnewid data. Drwy Raglen Newid Strategol ‘Data a Digideiddio’, rydym wedi annog trawsnewid data ynni ar draws diwydiannau ac wedi ymrwymo i ddefnyddio a rhannu data yn effeithiol fel un o elfennau craidd ein gweithrediadau a’n penderfyniadau rheoleiddio. Drwy’r arweinyddiaeth a’r cydweithio hyn, rydym wedi gwneud y canlynol:
ceisio sicrhau bod mwy o ddata yn cael eu rhannu rhwng diwydiannau, er mwyn galluogi marchnadoedd newydd a mwy effeithlon, gwell buddsoddi a phenderfyniadau rheoleiddio a gyflëir yn glir
Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi datblygu’r gweithgareddau allweddol hyn (fel y’u nodir isod), ar gyfer y Rhaglen Newid Strategol hon.
Y canlyniad a geisir: Ysgogi mwy o ddefnydd o ddata a digideiddio yn Sector Ynni’r DU er mwyn sicrhau mwy o fanteision i ddefnyddwyr a chyfranogwyr allweddol yn y diwydiant – hwyluso gwell prosesau gwneud penderfyniadau a sicrhau bod y sector/system yn cael ei (d)digideiddio’n fwy er mwyn iddo/iddi allu gweithredu’n fwy effeithlon, yn fwy cywir ac yn fwy ystwyth.
yn ystod y flwyddyn, gwnaethom barhau i weithio gyda’r llywodraeth a’r diwydiant er mwyn nodi rhwystrau i rannu data, hygyrchedd data a’r gallu i ryngweithredu, gan ystyried cyfleoedd i arloesi.
Gwnaethom gyhoeddi ymateb ar y cyd â BEIS ac Innovate UK, er mwyn ymateb i adroddiad a gyhoeddwyd gan y Tasglu Digideiddio Ynni (‘EDiT’) ym mis Ionawr 2022, a oedd yn ein hymrwymo i’n camau nesaf a’u rolau a’n cyfrifoldebau unigol.
Comisiynwyd EDiT gan Ofgem, BEIS ac Innovate UK i barhau â’n ffocws ar foderneiddio’r system ynni, rhyddhau hyblygrwydd ac ysgogi twf glân tuag at sicrhau allyriadau sero net erbyn 2050.
Yn ei adroddiad, gwnaeth EDiT chwe argymhelliad, a oedd yn cynnwys un i greu ‘colofn ddigidol’ ar gyfer y system ynni. Mewn ymateb i hyn, datblygodd Ofgem a BEIS raglenni arloesi allweddol er mwyn deall yr opsiynau technegol, y cyfaddawdau a’r risgiau yn well.
Yn ogystal â’r astudiaeth ddichonoldeb o’r golofn ddigidol, rydym hefyd wedi cefnogi Cam 1 y Rhaglen Cofrestru Asedau Awtomatig, (ac wedi cynnal adolygiad technegol o Gam 2, a fydd yn dechrau’n fuan), a fydd yn ategu’r broses cyfnewid data ddiogel ar gyfer cofrestru, casglu a chyrchu data asedau ynni ar raddfa fach.
Ein hail ffocws yn ystod y flwyddyn oedd sefydlu arferion gorau ar gyfer data a digideiddio, drwy weithio gyda gweithredwyr rhwydweithiau dosbarthu trydan, er mwyn ymgorffori ‘Amodau Trwydded Ddigideiddio’ yn eu trwyddedau RIIO-ED2. Drwy wneud hyn, cafodd amodau eu trwydded eu cysoni ag amodau trwydded yr holl weithredwyr rhwydweithiau a systemau eraill.
Gwnaethom hefyd gyhoeddi ymgynghoriad ar fanylion arferion gorau data a’r ffordd y cânt eu cymhwyso ym mis Chwefror 2022, lle rydym yn cynnig y dylid gwneud newidiadau i’r canllawiau. Mae hyn mewn ymateb i ddatblygiadau yn y sector ynni digidol a rhai bylchau a nodwyd yn y canllawiau cychwynnol ac mae’n dilyn ymateb cadarn i’r ‘Cais am Fewnbwn’ a gyhoeddwyd gennym ym mis Medi 2022.
Drwy gydol y flwyddyn, gwnaethom barhau i weithio gyda’r diwydiant er mwyn datblygu safon ar gyfer data rhwydweithiau, gyda’r fersiwn gychwynnol yn cael ei chwblhau ym mis Ebrill 2023; caiff y safon hon ei rhoi ar waith yn ystod 2023-24.
Y canlyniad a geisir: Ysgogi mwy o ddefnydd o ddata a digideiddio yn sector Ynni’r DU er mwyn gwella dealltwriaeth o gynhyrchion a gwasanaethau ynni ac ymddygiadau monopolistig – bydd hyn yn helpu i lywio prosesau gwneud penderfyniadau Ofgem a BEIS ar gyfer gweithgareddau eu cyfundrefnau Ecosystem a Rheoleiddio Ynni a bydd yn helpu i wella ystwythder.
Gyda’r nod o wella ein gwybodaeth ddadansoddol er mwyn ategu eu penderfyniad rheoleiddiol, eleni cafodd tîm dadansoddeg canolog ei greu a’i ddatblygu am y tro cyntaf yn Ofgem. Adeiladodd y tîm newydd hwnnw saernïaeth technoleg newydd, pennodd ffyrdd o weithio a dechreuodd gyflwyno amrywiaeth eang o gynnwys dangosfwrdd ac adrodd sydd bellach yn cael ei ddefnyddio’n helaeth.
Darn sylfaenol allweddol o allu oedd ein Platfform Data Cwmwl Microsoft. Cafodd y broses o gyflwyno’r platfform hwn ei gohirio yn ystod y flwyddyn ond aeth yn fyw ym mis Mawrth 2023. Bydd yn ein galluogi i lwytho a pharatoi data yn awtomatig ar raddfa fwy er mwyn ei gwneud yn bosibl i fwy o fetrigau gael eu monitro a rhybuddion gael eu cynhyrchu i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
At hynny, gwnaethom ddechrau cyflwyno modelau mathemategol a gwyddor data uwch, a fydd yn sicrhau gwaith dadansoddi ar raddfa fawr a/neu fwy manwl nag a oedd yn bosibl yn flaenorol. Byddwn yn dechrau ymgorffori hyn mewn mwy o brosesau craidd yn ystod y flwyddyn i ddod, nawr bod y tîm ar waith a’r platfform yn fyw.
Yn ystod y flwyddyn, rhoddodd ein platfform CRM tactegol olwg ganolog i bob aelod o’r staff ar ddata trwyddedau a chysylltiadau allweddol am y tro cyntaf. Yn ystod y flwyddyn i ddod, byddwn yn caffael platfform CRM penodol er mwyn storio’r data hyn a’r wybodaeth hon yn fwy diogel ac ymgorffori’r wybodaeth hon mewn mewnflychau, er mwyn iddi allu llywio’r ffordd y mae pobl yn gweithio o ddydd i ddydd.
Cynlluniau’r Llywodraeth
Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi helpu’r Llywodraeth i gyflwyno sawl cynllun er mwyn helpu defnyddwyr gyda chost gynyddol biliau. Ein prif rôl oedd sicrhau cydymffurfiaeth â phob cynllun a’i orfodi, gan weithio gyda’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (‘BEIS’) er mwyn diogelu defnyddwyr. Mae’r cynlluniau fel a ganlyn:
Gwarant Pris Ynni
Mae’r Warant Pris Ynni yn diogelu cwsmeriaid rhag cynnydd mewn biliau ynni drwy gyfyngu ar y swm y gall cyflenwyr ei godi fesul uned o ynni a ddefnyddir. Mae biliau wedi cael eu lleihau rhwng mis Hydref 2022 a mis Ebrill 2024 gan adlewyrchu’r disgownt sydd ei angen rhwng y cap ar dariffau diofyn a gyfrifwyd a’r lefel darged o gymorth. Pennwyd y lefel darged ar gyfer bil aelwyd nodweddiadol ar y lefelau canlynol: rhwng mis Hydref 2022 a mis Mehefin 2023 (£2,500); rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Mawrth 2024 (£3,000).
Y Cynllun Cymorth Biliau Ynni
Gwnaethom helpu i ddarparu mwy na £10 biliwn i gwsmeriaid domestig cymwys drwy’r Cynllun Cymorth Biliau Ynni. Ein rôl oedd monitro cydymffurfiaeth a chymryd camau gorfodi lle roedd angen. Helpodd hyn i sicrhau bod defnyddwyr cymwys yn cael £400 oddi ar eu biliau mewn rhandaliadau bob chwe mis.
Bu’r cynllun ar waith rhwng mis Hydref 2022 a mis Mawrth 2023 ac fe’i gelwid yn flaenorol yn Ad-daliad y Farchnad Ynni fel y cynlluniwyd ar ei gyfer yn ein Blaenraglen Waith ar gyfer 2022-23.
Y Cynllun Taliadau Tanwydd Amgen
Darparodd y Cynllun Taliadau Tanwydd Amgen daliad untro gwerth £200 i gwsmeriaid penodol oddi ar y grid sy’n defnyddio tanwyddau amgen. Mae’r taliad hwn yn cael ei ddarparu gan gyflenwyr ym mis Chwefror 2023. Ein rôl yw darparu camau gorfodi ar gyfer y cynllun, drwy weithio gyda BEIS i ddatblygu trefniadau llywodraethu a deall cydymffurfiaeth cyflenwyr yn gyffredinol.
Y Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni
Rhwng 1 Hydref 2022 a 31 Mawrth 2023, cynigiodd y Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni ostyngiad oddi ar filiau cwsmeriaid annomestig, yn seiliedig ar gyfran o bris ynni cyfanwerthu. Ein rôl oedd monitro cydymffurfiaeth ag elfen ‘Cwsmeriaid Dan Anfantais Ariannol Cymwys’ y cynllun, a gynigiodd ostyngiad ychwanegol mewn prisiau i gwsmeriaid contract tybiedig penodol. Helpodd hyn i sicrhau bod y cwsmeriaid hyn yn cael gostyngiadau priodol.
Rydym hefyd yn gyfrifol am orfodi’r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni ac rydym wedi rhoi prosesau ar waith er mwyn i achosion gorfodi gael eu trosglwyddo gennym i BEIS. Disodlodd y Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni y Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni o 1 Ebrill 2023. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda’r Adran Diogeledd Ynni a Sero Net (‘DESNZ’), sydd newydd ei sefydlu, i egluro rôl a chyfrifoldebau Ofgem er mwyn helpu i gyflwyno’r cynllun hwn.
Pennu Lefel y Cap ar Brisiau Tariffau Diofyn
Mae’r Cap ar Brisiau Tariffau Diofyn yn diogelu defnyddwyr ynni domestig rhag talu tariffau diofyn gormodol drwy roi cap ar y swm y gall cyflenwyr ynni ei godi. Gwnaethom ddiweddaru’r Cap ar Brisiau Tariffau Diofyn (y ‘Cap ar Brisiau’) deirgwaith yn 2022-23. Un diweddariad chwe-misol a dau ddiweddariad chwarterol, yn dilyn ein penderfyniad i newid yr amlder ym mis Awst 2022. Roedd lefelau’r Cap ar Brisiau a gyhoeddwyd gennym yn seiliedig yn bennaf ar brisiau cyfanwerthu uchel iawn a welwyd yn ystod y flwyddyn, ond o fis Hydref 2022, cafodd effaith hyn ei leihau gan bolisi Gwarant Pris Ynni’r Llywodraeth, a gyfyngodd y prif gap i £2,500. Buom yn gweithio’n agos gyda’r llywodraeth, cyflenwyr a grwpiau defnyddwyr i roi’r Warant Pris Ynni ar waith yn gyflym er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu diogelu a bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol.
Mae’r cyhoeddiadau ynglŷn â’r cap ar brisiau fel a ganlyn:
Awst 2022: £3,549 o fis Hydref 2022, sef cynnydd o 80%, a oedd yn seiliedig ar brisiau cyfanwerthu uchel, gan gynnwys y penderfyniad i gynnwys lwfans penodol ar gyfer elfen ‘gohirdal’ prisiau cyfanwerthu. Cafodd hyn ei gyfyngu ar ôl hynny i £2,500 gan y Warant Pris Ynni.
Tachwedd 2022: £4,279 o fis Ionawr 2023, sef cynnydd o 21%, a oedd yn seiliedig ar brisiau cyfanwerthu uchel. Cafodd hyn ei gyfyngu i £2,500 gan y Warant Pris Ynni.
Chwefror 2022: £3,280 o fis Ebrill 2023, sef cynnydd 23%, a oedd yn seiliedig ar brisiau cyfanwerthu a oedd yn gostwng. Cafodd hyn ei gyfyngu i £2,500 gan y Warant Pris Ynni.
Cydymffurfiaeth Manwerthwyr
Gwnaethom barhau i ddwyn cyflenwyr ynni manwerthu i gyfrif am ddiffyg cydymffurfio, er mwyn sicrhau bod y farchnad yn parhau i fod yn deg i ddefnyddwyr. Eleni, gwnaethom gynnal cyfres o Adolygiadau o Gydymffurfiaeth y Farchnad er mwyn caglu data perthnasol er mwyn i ni allu sicrhau ein hunain bod cyflenwyr ynni yn parhau i fodloni amodau eu trwydded.
Ymdriniodd yr Adolygiadau o Gydymffurfiaeth y Farchnad â’r pynciau canlynol:
pennu debydau uniongyrchol cwsmeriaid yn gywir
cefnogi cwsmeriaid a oedd yn ei chael hi’n anodd talu neu a oedd mewn dyled
nodi a chefnogi cwsmeriaid mewn sefyllfaoedd bregus
darparu gwasanaeth da i gwsmeriaid a delio â chwynion yn effeithiol
sicrhau bod uwch-aelodau o staff mewn cyflenwyr yn gymwys ac yn briodol
sicrhau rheolaeth ddigonol ar yr holl asedau sydd eu hangen ar gyflenwyr i weithredu a chyflawni ar gyfer defnyddwyr
gosod mesuryddion rhagdalu gan orfodaeth a newid moddau o bell.
O ganlyniad i’r Adolygiadau o Gydymffurfiaeth y Farchnad, gwnaethom ymchwilio i 125 o achosion o ddiffyg cydymffurfio posibl; y mae 33 ohonynt wedi’u cwblhau. Mae’r Adolygiadau o Gydymffurfiaeth y Farchnad hefyd wedi cyfrannu dau ‘Orchymyn Dros Dro’ a gyflwynwyd i gyflenwyr. Cyflwynwyd y gorchmynion hyn lle roedd risg uchel o ganlyniadau gwael i ddefnyddwyr, pan oeddem o’r farn bod angen i gyflenwyr wella eu harferion yn gyflym.
Yn ogystal â hyn, gwnaethom barhau i ymgysylltu â chyflenwyr, casglu gwybodaeth, ymyrryd lle roedd angen a hyrwyddo arferion da. Yn ystod 2022-23, ymchwiliodd Ofgem i 34 o achosion o ddiffyg cydymffurfio posibl. Rydym wedi sicrhau ad-daliadau, iawndal a thaliadau unioni gwerth £12.8 miliwn i fwy na 238,000 o gwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt (nid yw hyn yn cynnwys arian a sicrhawyd drwy ein gweithgareddau gorfodi).
Codau Diwydiant a Thrwyddedu
Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom barhau i hwyluso cystadleuaeth ac arloesi drwy roi trwyddedau yn unol â’n meini prawf cyhoeddedig a chyflawni ein rôl i gymeradwyo addasiadau buddiol i’r codau diwydiant, yn unol â thargedau ein fframwaith perfformiad.
Dyled a Bregusrwydd Defnyddwyr
Gwnaethom barhau â’n proses ‘Achosion Cymhleth’, gan weithio gyda grwpiau defnyddwyr ac elusennau ar y materion mwy cymhleth y mae defnyddwyr yn eu hwynebu gyda’u cyflenwyr ynni manwerthu. Gan ystyried 62 o achosion yn ystod y flwyddyn, gwnaethom feithrin cysylltiadau cryf â’r grwpiau defnyddwyr a’r elusennau ym mhob rhan o farchnad Prydain Fawr a chawsom ganlyniadau da o’r broses hon eleni. Roedd y mwyafrif o’r 40 o achosion a gafodd eu huwchgyfeirio at gyflenwyr i’w datrys yn ymwneud â biliau a mesuryddion. Cafodd gwybodaeth o’r achosion ei throsglwyddo hefyd i’n timau cydymffurfiaeth a gorfodi, i’w hystyried ochr yn ochr â’n Hadolygiad o Gydymffurfiaeth y Farchnad (gweler isod) a’r ymchwiliad i Nwy Prydain.
Gwybodaeth am y Sector Manwerthu a Sefydlogrwydd Marchnadoedd
Rydym wedi parhau i ymgysylltu â chyfranogwyr yn y farchnad er mwyn monitro cyfranogwyr cyflenwi ynni a sicrhau eu bod yn gadarn. Roedd y gweithgarwch hwn yn cynnwys asesiadau o sefydlogrwydd y farchnad ac asesiadau ariannol yn erbyn amodau trwydded uwch ar gyfer ‘Cadernid Ariannol a Rheolaethau’ (gweler yr adran ‘Dyfodol Manwerthu’ am ragor o fanylion).
Os nad oedd cyflenwyr wedi bodloni gofynion trwydded gyflenwi, gwnaethom gymryd camau priodol, a oedd yn cynnwys gweithgarwch ymgysylltu i sicrhau cydymffurfiaeth neu orfodi’r amodau, neu gyflenwyr yn gadael y farchnad. Pan fydd cyflenwr yn gadael y farchnad (naill ai’n wirfoddol neu o ganlyniad i ddirymu ei drwydded), byddwn yn gweithio gydag ef er mwyn sicrhau bod y broses o adael y farchnad yn mynd rhagddi’n ddidrafferth, drwy’r gyfundrefn gadael y farchnad briodol (e.e. proses y Cyflenwr Pan Fetho Popeth Arall, proses y Gyfundrefn Gweinyddu Arbennig neu’r broses Gwerthiant Masnachol) er mwyn lleihau costau wedi’u cilyddu ac effeithiau andwyol ar ddefnyddwyr a’r farchnad. Ym mis Gorffennaf 2022, gwnaethom ddefnyddio proses y Cyflenwr pan Fetho Popeth Arall wrth benodi Octopus Energy yn Gyflenwr Pan Fetho Popeth Arall ar gyfer 3,000 o gwsmeriaid domestig UK Energy Incubator Hub. Dyma’r unig dro y defnyddiwyd y broses yn ystod 2022-23, o gymharu â 2.3 miliwn o gwsmeriaid domestig a 64,000 o gwsmeriaid annomestig yn 2021-22.
Goruchwyliaeth Reoleiddiol Cwmni Data a Chysylltiadau
Mae’r Cwmni Data a Chysylltiadau wedi’i gontractio i gynnal y rhwydwaith cyfathrebu ar gyfer mesuryddion deallus ledled Prydain Fawr. Mae Ofgem yn rheoleiddio’r Cwmni Data a Chysylltiadau fel unig ddarparwr drwy ddefnyddio system rheoli prisiau er mwyn sicrhau ei fod yn cynnig gwerth am arian i ddefnyddwyr. Ym mis Chwefror 2023, gwnaethom gyhoeddi ein penderfyniad blynyddol ar gostau’r Cwmni Data a Chysylltiadau, a wrthododd werth £6.8 miliwn o gostau yr aed iddynt a gwerth £281 miliwn o gostau rhagamcanol. Caiff y rhain eu trosglwyddo’n ôl i’r diwydiant ac, yn eu tro, i’r defnyddwyr. Gwnaethom hefyd roi cyfundrefn cymhellion i newid newydd ar waith a phenderfynu ar lwfans is o 7% ar gyfer costau mewnol newid.
Ym mis Medi 2022, gwnaethom gyhoeddi ymgynghoriad mawr ar ddyfodol y fframwaith rheoleiddio ar gyfer y Cwmni Data a Chysylltiadau (ar ôl 2025). Mae ymatebion o’r ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd ac rydym yn anelu at gyhoeddi’r penderfyniad ar y fframwaith rheoleiddio newydd a chyfnod yr estyniad yn ystod haf 2023.
Goruchwyliaeth Reoleiddiol Cyflwyno Mesuryddion Deallus
Mae gan Ofgem oruchwyliaeth reoleiddiol dros y broses o gyflwyno mesuryddion deallus a gaiff ei chyflawni gan gyflenwyr ynni. Daw mesuryddion deallus â manteision sylweddol i ddefnyddwyr ac maent yn rhan allweddol o’r broses o bontio i farchnad ynni fwy hyblyg a sicrhau allyriadau sero net mewn ffordd gosteffeithiol erbyn 2050. Erbyn diwedd 2022, roedd 55% o’r holl fesuryddion ym Mhrydain Fawr yn fesuryddion deallus neu uwch.
Ym mis Ionawr 2022, dechreuodd fframwaith mesuryddion deallus pedair blynedd newydd, sy’n pennu targedau cyfrwymol ar gyfer gosod mesuryddion deallus yn nhrwyddedau cyflenwyr nwy a thrydan. Mae gan gyflenwyr sawl rhwymedigaeth drwydded o ran mesuryddion deallus, er enghaifft i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod mesuryddion eu cwsmeriaid yn gweithredu yn y modd deallus a chofrestru eu mesuryddion â’r Cwmni Data a Chysylltiadau. Yn ystod y flwyddyn, parhaodd Ofgem i fonitro cydymffurfiaeth cyflenwyr â’r rhwymedigaethau trwydded hyn. Ym mis Rhagfyr 2022, gwnaethom gyhoeddi llythyr i gyflenwyr, yn nodi dull cadarn o ymdrin ag achosion o ddiffyg cydymffurfio.
Cefnogi Arloesedd
Mae Ofgem yn defnyddio nifer o gymhellion i annog a hyrwyddo arloesi, fel ffordd o gyflawni targed 2035 y llywodraeth ar gyfer pŵer glân, ynghyd â’r biliau ynni isaf yn Ewrop.
Drwy’r Gronfa Arloesedd Strategol, rydym yn disgwyl dod o hyd i ddatblygiadau arloesol allweddol a fydd yn galluogi system ynni ratach a glanach ac ariannu’r datblygiadau hynny. Mae’r Gronfa Arloesedd Strategol yn rhaglen gwerth £450 miliwn a fydd ar waith tan 2026. Ar hyn o bryd, rydym yn ariannu datblygiadau arloesol yn amrywio o wneud hydrogen yn raddadwy ac yn gosteffeithiol i sicrhau y gall y rhwydweithiau ddefnyddio hyblygrwydd fel adnodd wrth ateb y galw.
Rydym hefyd yn helpu arloeswyr i dreialu cynhyrchion, gwasanaethau, modelau busnes a methodolegau newydd a’u cyflwyno i’r farchnad. Mae ein Cyswllt Arloesi yn cynnig dau brif wasanaeth i arloeswyr, sef:
TY ‘sandbox’, sy’n lleihau rheolau rheoleiddiol arferol, pan gawn ein darbwyllo y gallai cynnig sicrhau manteision i ddefnyddwyr.
Mae Fast, Frank Feedback (‘FFF’) yn rhoi cyngor wedi’i deilwra, gan helpu arloeswyr i ddelio â’r sector a deall goblygiadau rheoleiddiol eu cynigion.
Hyd yma, rydym wedi cefnogi mwy na 470 o sefydliadau drwy’r FFF a’r ‘sandbox’
Rheoleiddio Rhwydweithiau Gwres
Gwnaethom barhau i gydweithio â BEIS ac ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid ynghylch dylunio fframwaith y farchnad a rheoleiddio ar gyfer rhwydweithiau gwres. Gwnaethom hefyd ymgysylltu â Llywodraeth yr Alban ynghylch y dull o drwyddedu rhwydweithiau gwres. Rhoesom gyngor a mewnbwn i BEIS ar y darpariaethau yn y Bil Ynni, sydd eu hangen i gyflwyno’r fframwaith rheoleiddio newydd hwn. Gwnaethom fwrw ymlaen â’r gwaith o baratoi ar gyfer cyflwyno’r fframweithiau awdurdodi, cydymffurfio a monitro newydd, gan gynnwys datblygu’r adnoddau digidol a fydd yn sail i’r prosesau awdurdodi a thrwyddedu.
Cynnal Sicrwydd Cyflenwad
Yn ogystal â sicrhau bod marchnadoedd ynni yn parhau i fod yn effeithiol yn ystod yr argyfwng ynni, gwnaethom hefyd gynyddu adnoddau yn sylweddol er mwyn cynnal sicrwydd cyflenwad, gan ymateb i faint yr argyfwng. Drwy gydol y flwyddyn, gwnaethom gyflawni cyfres o ymyriadau er mwyn gwella cadernid rhwydweithiau trydan a nwy ym mhob rhan o farchnad Prydain Fawr, gan gynnwys drwy wneud y canlynol:
cynyddu ein gweithgarwch monitro marchnadoedd, er mwyn nodi risgiau posibl i sicrwydd cyflenwad a mynd i’r afael â nhw
diweddaru ein prosesau ar gyfer ymateb i argyfwng
ymgysylltu â phrosesau’r diwydiant ar gyfer cynllunio a phrofi protocolau brys.
Yr Awdurdod Cymwys Seiber
Drwy rôl Awdurdod Cymwys a gyflawnir ar y cyd â BEIS/DESNZ, rydym yn parhau i ddiogelu defnyddwyr drwy ysgogi cynnydd yn nifer y mesurau seibergadernid a sicrwydd cyflenwad a fabwysiedir gan gwmnïau a reoleiddir gan Ofgem. Mae hyn yn cynnwys rhaglen o ymchwiliadau Rheoleiddio Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth (NIS) er mwyn asesu lefel seibergadernid ym mhob rhan o’r sector, yn ogystal â defnyddio canllawiau ac ymgysylltu’n rhagweithiol â’r diwydiant, er mwyn cynnal a gwella safonau.
Marchnadoedd Cyfanwerthu
Yn ystod gaeaf 2022-23, aethom ati i helpu’r llywodraeth i reoli’r risgiau i farchnadoedd cyfanwerthu a achoswyd gan yr argyfwng ynni. Roedd hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn fforymau megis Grŵp Sefydlogrwydd Marchnadoedd Ynni Trysorlys EF a thrwy weithio’n agos gyda Banc Lloegr a Thrysorlys EF ar ddylunio a sefydlu’r Cynllun Cyllido Marchnadoedd Ynni. Rhoddwyd y cynllun ar waith er mwyn annog banciau i gynnig benthyciadau i gwmnïau ynni os oedd eu hangen arnynt i osgoi risgiau yn gysylltiedig â hylifedd arian parod. Gwnaethom hefyd fonitro data sicrwydd cyflenwad allweddol marchnadoedd, er mwyn tracio risgiau yn gysylltiedig â chadernid marchnadoedd a’u rhannu ar draws y llywodraeth.
Sicrhau bod Trefniadau Domestig a Thrawsffiniol yn Effeithlon
Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom barhau i ddatblygu trefniadau, addasiadau i godau a’u diwygiadau a’u rhoi ar waith, er mwyn helpu i sicrhau bod marchnadoedd ynni yn gweithio’n effeithiol.
Ymhlith y rhain roedd:
datblygu Amod y Drwydded Cynigion Anhyblyg (‘IOLC’) ac ymgynghori arno, gan gynnwys:
‘Cais am Dystiolaeth’ ar amrywiaeth o opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â phryderon am ymddygiadau yn y System Gydbwyso, ac
ymgynghoriad ar ffurf amod newydd y drwydded IOLC
datrys anghydfodau yn y Farchnad Gapasiti, gan gynnwys apeliadau gan GridBeyond a Kiwi Power
gwneud penderfyniadau brys a phenderfyniadau ar addasiadau mewn perthynas â chodau diwydiant er mwyn mynd i’r afael â risgiau i’r farchnad a allai effeithio ar solfedd cyfranogwyr a sicrwydd cyflenwad (P448 a GC0160)
parhau â’n cynllun peilot ar gyfer rhyng-gysylltwyr amlbwrpas (gweler yr adran ‘Seilwaith Carbon Isel’) ac asesu rheolau mynediad rhyng-gysylltwyr ar gyfer penderfyniad a phenderfyniadau rheoleiddiol craidd eraill sy’n ymwneud â threfniadau masnachu mewn rhyng-gysylltwyr
rhoi caniatâd i addasu Rheolau Mynediad Rhyng-gysylltwyr Nemo Link.
Hefyd, gwnaethom fwy na 45 o benderfyniadau ar daliadau rhwydweithiau nwy a thrydan, er mwyn sicrhau bod y fethodoleg yn addas at y diben a’i bod yn gweithio, gan gynnwys ar gyfer:
diwygio taliadau cydbwyso
rhoi’r Adolygiad o Daliadau Wedi’u Targedu ar waith
asesu sut y dylid codi costau ar gyfer proses y ‘Cyflenwr Pan Fetho Popeth Arall’ (gweler yr adran ‘Gwybodaeth am y Sector Manwerthu a Sefydlogrwydd Marchnadoedd’ , a mynd i’r afael â chanlyniadau anfwriadol
datblygu newidiadau i drefniadau marchnadoedd a threfniadau taliadau er mwyn helpu i gynnal sicrwydd cyflenwadau nwy
rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Tasglu Taliadau Defnydd o System Rhwydwaith Trawsyrru (‘TNUoS’).
Er i rywfaint o’n gwaith trawsffiniol gael ei ddadflaenoriaethu yn ystod y flwyddyn, ailgyfeiriwyd yr adnoddau hyn i bweru hylifedd marchnadoedd a sicrwydd cyflenwad, mewn ymateb i’r argyfwng ynni.
Sicrhau cadernid systemau
Collodd bron i filiwn o gartrefi ym Mhrydain Fawr bŵer ym mis Tachwedd 2021 o ganlyniad i Storm Arwen, gyda bron i 4,000 o gartrefi yn gorfod ymdopi heb bŵer o dan amodau heriol am fwy nag wythnos. Ym mis Mehefin 2022, gwnaethom gyhoeddi ein canfyddiadau yn dilyn adolygiad chwe mis i ganfod beth aeth o’i le a’r hyn roedd angen i’r diwydiant ei newid er mwyn sicrhau ymateb mwy effeithiol i dywydd garw. Nododd yr adolygiad 20 o gamau gweithredu i sicrhau rhwydweithiau cadarnach a gwell gwasanaeth i gwsmeriaid tywydd garw yn taro, gyda Gweithredwyr Rhwydweithiau Dosbarthu yn talu cyfanswm o fwy na £44 miliwn yn ystod y storm.
Sefydliadau dros sero net
Drwy oruchwylio’r ffordd y mae systemau trydan a nwy yn gweithio, ein nodau parhaus yw: sicrhau sicrwydd cyflenwad; sicrhau gwerth am arian drwy systemau rheoli prisiau; hwyluso’r broses o gyflawni amcanion sero net.
Rheoleiddio Gweithredwr y System Drydan
Ym mis Mawrth, gwnaethom gyhoeddi’r Penderfyniad Terfynol ar ail gynllun busnes RIIO-2 Gweithredwr y System Drydan, sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 2022 a 2023, yn ogystal â nifer o benderfyniadau rheoleiddiol sy’n ymwneud â marchnadoedd gwasanaethau cydbwyso Gweithredwr y System Drydan. Roedd y rhain yn cynnwys penderfyniad roedd ei angen er mwyn rhoi Gwasanaeth Wrth Gefn y Gaeaf a Gwasanaeth Hyblygrwydd Galw Gweithredwr y System Drydan, a oedd yn adnoddau newydd i weithredwr y system, ar waith er mwyn sicrhau sicrwydd cyflenwad yn ystod yr argyfwng ynni.
Rheoleiddio Gweithredwr y System Nwy
Mewn ymateb i risgiau a oedd yn gysylltiedig â sicrwydd cyflenwad yn ystod y gaeaf, gwnaethom adolygu ac egluro rolau a chyfrifoldebau unigol rhwng Gweithredwr y System Nwy, BEIS ac Ofgem, ac er i rywfaint o’n rhaglen waith arfaethedig mewn perthynas â Gweithredwr y System Nwy gael ei ddadflaenoriaethu er mwyn cefnogi’r gweithgarwch hwn a gweithgareddau eraill a oedd yn ymwneud â sicrwydd cyflenwad, gwnaethom barhau i gyflawni ein swyddogaethau craidd mewn perthynas â Gweithredwr y System Nwy.
Roedd hyn yn cynnwys cwblhau asesiadau chwarterol o berfformiad Gweithredwr y System Nwy yn erbyn ei gymhellion o dan RIIO-2 a chyhoeddi addasiadau i godau rheoleiddio a chymeradwyaethau. Yn benodol, cyhoeddwyd penderfyniad i addasu cod ar fyrder er mwyn cynyddu cyfranogiad yn yr adnodd ‘Ymateb ar Ochr y Galw am Nwy’ ym mis Rhagfyr 2022.
Rheoleiddio Gweithredwr y System Ddosbarthu
Er mwyn cyflawni ein nodau ynni, mae hefyd angen i ni symud tuag at y system ynni fwy integredig ddeallus honno, gan gynnwys mwy o waith cynllunio, cydgysylltu a chreu marchnadoedd yn rhanbarthol ac yn lleol. Ym mis Mehefin 2022, gwnaethom ddechrau adolygiad o’r fframwaith sefydliadol lleol a threfniadau llywodraethu, gan edrych ar rolau ehangach marchnadoedd a sefydliadau yn lleol er mwyn cyflawni sero net am y gost isaf. Dechreuodd systemau rheoli prisiau RIIO-ED2 yn unol â’r amserlen ar 1 Ebrill 2023, ar ôl i’r Penderfyniadau Terfynol gael eu cadarnhau ym mis Tachwedd 2022. Roedd hyn yn cynnwys fframwaith rheoleiddio a chymhellion newydd ar gyfer Gweithredwr y System Ddosbarthu, a fydd yn ysgogi gweithredwyr rhwydweithiau dosbarthu i ddatblygu a defnyddio eu rhwydweithiau yn fwy effeithlon, gan gynnwys ystyried sut y gallai dewisiadau amgen hyblyg a deallus leihau’r angen i fuddsoddi mewn rhwydweithiau ac, yn y pen draw, leihau biliau defnyddwyr. Roedd hyn yn cynnwys darparu cyllid ymlaen llaw gwerth tua £800 miliwn, gyda pherfformiad yn denu gwobr neu gosb ariannol yn seiliedig ar asesiad o’r hyn a gyflawnwyd.
Rheoli Prisiau ar y Tir
Bob blwyddyn, mae perchenogion rhwydweithiau trawsyrru a dosbarthu yn cyflwyno adroddiad blynyddol i Ofgem ar eu perfformiad yn erbyn allbynnau a chymhellion y cytunwyd arnynt, eu gweithgareddau arloesol a’u perfformiad ariannol yn gyffredinol. Cofnododd perchenogion rhwydweithiau dosbarthu trydan eu perfformiad ar gyfer blwyddyn olaf RIIO-ED1, tra cofnododd perchenogion rhwydweithiau trawsyrru trydan a nwy, yn ogystal â Gweithredwr y System Drydan, eu perfformiad yn erbyn systemau rheoli prisiau RIIO-2 am y tro cyntaf yn 2022. Rhoddir crynodeb o’r canfyddiadau isod.
Dosbarthu Trydan
Allbynnau blynyddol: Parhaodd yr holl grwpiau o weithredwyr rhwydweithiau dosbarthu i berfformio’n gadarn yn erbyn targedau o ran allbynnau ac maent ar y trywydd cywir i gyflawni’r targedau hyn neu ragori arnynt erbyn diwedd RIIO-ED1.
Perfformiad yn erbyn RIIO-ED1: Yn ystod 2021-22, gorwariodd tri o’r chwe grŵp o rwydweithiau dosbarthu yn erbyn eu lwfans blynyddol ac, ar draws y system rheoli prisiau hyd yma, mae tri grŵp o weithredwyr rhwydweithiau dosbarthu wedi gorwario yn erbyn eu lwfans. Mae tri grŵp o weithredwyr rhwydweithiau dosbarthu yn disgwyl defnyddio eu holl lwfans neu orwario yn ei erbyn dros gyfnod cyfan RIIO-ED1.
Trawsyrru Trydan
Allbynnau blynyddol: Cyflawnodd pob gweithredwr trawsyrru y targedau blynyddol o ran allbynnau ym Mlwyddyn 1 RIIO-2 neu ragori ar y targedau hynny. Eithriad i hyn yw NGET, sydd hyd yma wedi methu â chyflawni’r targed ar gyfer ‘Cysylltiadau Amserol’, a ddenodd gosb.
Perfformiad yn erbyn RIIO-ED2: Yn 2021-22, tanwariodd yr holl berchenogion rhwydweithiau trawsyrru yn erbyn eu lwfans blynyddol ym Mlwyddyn 1 ond maent yn disgwyl defnyddio eu holl lwfans, fwy neu lai, dros gyfnod cyfan RIIO-2.
Dosbarthu Nwy
Allbynnau blynyddol: Cyflawnodd yr holl grwpiau rhwydwaith dosbarthu nwy y rhan fwyaf o’r targedau o ran allbynnau, gyda rhai eithriadau, gan gynnwys ar gyfer ‘Cysylltiadau’ (lle y tanberfformiodd pob grŵp) a rhai is-gategorïau o ‘Foddhad Cwsmeriaid’.
Perfformiad yn erbyn RIIO-ED2: Yn 2021-22, tanwariodd pob grŵp yn erbyn ei lwfans blynyddol ym Mlwyddyn 1.
Trawsyrru Nwy
Allbynnau blynyddol: Tanberfformiodd National Gas (sef ‘National Grid Gas Transmission’ gynt) yn erbyn nifer o dargedau o ran allbynnau ym Mlwyddyn 1 RIIO-2 ond disgwylir iddo adfer o’r sefyllfa bresennol dros gyfnod RIIO-2. Methwyd â chyflawni’r targedau o ran perfformiad yn erbyn, er enghraifft, ‘NARM’, ‘Cadernid Ffisegol’ ac elfennau o ‘Sicrhau Iechyd Asedau’.
Perfformiad yn erbyn RIIO-ED2: Yn 2021-22, tanwariodd National Gas yn erbyn ei lwfans blynyddol ym Mlwyddyn 1.
Dirwyn RIIO-1 i Ben
Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom gyhoeddi penderfyniadau ar gyfer methodolegau dirwyn systemau rheoli prisiau RIIO-1 i ben mewn perthynas â thrydan a thrawsyrru nwy, a dosbarthu nwy. Ataliwyd asesiadau perfformiad terfynol dros dro yn ystod y flwyddyn er mwyn canolbwyntio adnoddau Ofgem ar yr argyfwng ynni. Cynhelir yr asesiadau perfformiad hyn yn ystod hanner cyntaf 2023-24. Gwneir addasiadau canlyniadol i fodel ariannol rheoli prisiau a newidiadau i drwyddedau yn ystod ail hanner 2023-24.
Seilwaith Trawsyrru ar y Môr
Asedau Perchenogion Gweithrediadau Trawsyrru ar y Môr
Yn ystod y flwyddyn, rydym yn parhau i gynnal prosesau tendro ar gyfer perchenogaeth asedau perchenogion gweithrediadau trawsyrru ar y môr a’r broses o’u rhoi ar waith, er mwyn sicrhau bod costau adeiladu prosiectau arfaethedig yn cynnig gwerth am arian. Ceir pob un o’n cyhoeddiadau tendro yma. Ceir pob un o’n cyhoeddiadau tendro yma. Yn ystod 2022-23, roedd dau Gylch Tendro yn weithredol.
Cylch Tendro 9 – Cysylltu capasiti cynhyrchu o 1075 MW
Er i’r cylch tendro hwn gael ei lansio yn y flwyddyn ariannol flaenorol (Ionawr 2022), daeth y broses werthuso i ben ym mis Mehefin 2022, pan gyhoeddwyd y cynigwyr ar y rhestr fer. Lansiwyd y ‘Gwahoddiad i Dendro’ ar gyfer Seagreen Cam 1 ym mis Ionawr 2023 a daw i ben yn 2023-24.
Cylch Tendro 10 – Cysylltu capasiti cynhyrchu cyfunol o 2.53 MW
Mae’r cylch tendro hwn, a lansiwyd ym mis Ionawr 2023, yn cynnwys tri phrosiect: Fferm Wynt ar y Môr Dogger Bank A Cam 1; Fferm Wynt ar y Môr Moray West; Fferm Wynt ar y Môr Neart na Gaoithe. Dechreuodd y cam ‘Cyn Cymhwyso Uwch’ ym
mis Ionawr 2023 a disgwylir cyflwyniadau ym mis
Ebrill 2023.
Rhyng-gysylltwyr
Yn ogystal â bwrw ymlaen â’n cylchoedd tendro, gwnaethom gytuno ar brosiectau rhyng-gysylltwyr newydd drwy ein cyfundrefn Cap a Therfyn Isaf yn 2022-23. Rhwydwaith o geblau tanfor yw rhyng-gysylltwyr, sy’n ein galluogi i gyfnewid trydan â gwledydd cyfagos.
Cyhoeddwyd canllawiau ar gyfer trydydd cyfnod gwneud cais Cap a Therfyn Isaf ym mis Gorffennaf 2022, ac yna y gofynion cymhwysedd ar gyfer cyflwyno’r asesiad cychwynnol o’r prosiect, a oedd ar agor rhwng mis Medi 2022 a mis Ionawr 2023; cafwyd saith cais. Caiff y ceisiadau eu hasesu yn ystod haf 2023 a disgwylir i’r ymgynghoriad ar yr ‘Asesiad Cychwynnol o’r Prosiect’ gael ei gynnal yn ystod hydref 2023.
Gwnaethom nifer o benderfyniadau yn ystod y flwyddyn, wrth i brosiectau rhyng-gysylltwyr symud drwy’r camau datblygu ac adeiladu. Hefyd, cyrhaeddwyd carreg filltir bwysig ym mis Mai 2022 pan aeth rhyng-gysylltydd ElecLink â Ffrainc yn fyw, gan gynyddu ein capasiti rhyng-gysylltwyr i 8.4GW. Gwnaed penderfyniadau terfynol ynghylch buddsoddi mewn dau brosiect arall, sef NeuConnect a Greenlink, yn 2022-23. Arweiniodd hyn at fuddsoddiad pellach gwerth tua £2.5bn yn y sector ac mae’r ddau brosiect bellach yn cael eu hadeiladu. Ceir gwybodaeth a chyhoeddiadau allweddol gan gynnwys rhai ar gyfer gweithgareddau sy’n ymwneud â rhyng-gysylltwyr yma, ar ein gwefan.
Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy
Lansiwyd y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy yn 2002 fel un o’r prif ddulliau o gefnogi prosiectau trydan adnewyddadwy ar raddfa fawr yn y DU. Ar hyn o bryd, mae’r cynllun yn cefnogi ~30% o’r trydan adnewyddadwy a gyflenwir yn y DU; sy’n sylweddol uwch na’r 3% pan ddechreuodd.
Er bod y cynllun bellach wedi rhoi’r gorau i dderbyn ymgeiswyr newydd, byddwn yn parhau i weithredu’r Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy tan fis Mawrth 2037, pan fydd y cyfnod o gymorth wedi dod i ben ar gyfer pob gosodiad achrededig. Gellir gweld adroddiad blynyddol 2021-22 ar y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy yma.
Tariff Cyflenwi Trydan
Mae prosesau cynhyrchu ynni adnewyddadwy carbon isel ar raddfa lai wedi’u cefnogi’n bennaf drwy’r cynllun Tariff Cyflenwi Trydan, sy’n gwneud taliadau i gyfranogwyr sy’n gosod gosodiadau cynhyrchu trydan, fel paneli ffotofoltäig. Er bod y cynllun bellach wedi rhoi’r gorau i dderbyn ymgeiswyr newydd, byddwn yn parhau i weithredu’r Tariff Cyflenwi Trydan tan fis Mawrth 2040, pan fydd yr holl daliadau cymwys wedi’u gwneud -. Gellir gweld yr adroddiad blynyddol ar y Tariff Cyflenwi Trydan yma.
26,609 o orsafoedd cynhyrchu yn rhan o gynllun Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy ym mis Mawrth 2022
35.4 GW o gapasiti trydan adnewyddadwy wedi’i achredu yn rhan o gynllun Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy ym mis Mawrth 2022
78.0 TWh o gyfanswm y cyflenwad o ffynonellau adnewyddadwy yn cael eu cynhyrchu o’r Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy yn ystod 2021-22
869,956 o osodiadau achrededig
£12.63 biliwn o daliadau wedi’u gwneud i gynhyrchwyr ynniDros oes y cynllun Tariff Cyflenwi Trydan, hyd at fis Mawrth 2022:
1 Yn cyfateb i 29.5% o gyflenwad y DU
Mae’r Cynllun Uwchraddio Boeleri, a lansiwyd ym mis Mai 2023, yn helpu i ddatgarboneiddio gwres mewn adeiladau. Mae gan y cynllun hwn gyllideb o £450 miliwn dros dair blynedd, a fydd yn helpu i dalu am dechnolegau gwresogi carbon isel mewn hyd at 90,000 o gartrefi ledled Cymru a Lloegr. Mae’n rhoi grantiau cyfalaf ymlaen llaw er mwyn helpu i dalu costau gosod pympiau gwres a boeleri biomas mewn cartrefi ac adeiladau annomestig.
Mae’r cynllun yn cynnig grantiau i leihau’r costau cyfalaf ymlaen llaw i gwsmeriaid a busnesau er mwyn cefnogi’r broses o osod technolegau gwresogi carbon isel. Ar 31 Mawrth 2023, roedd 15,768 o geisiadau am dalebau wedi dod i law ac roedd 11,996 o dalebau wedi’u rhoi o dan y Cynllun Uwchraddio Boeleri. Mae 10,249 o geisiadau eraill i gyfnewid talebau’r Cynllun Uwchraddio Boeleri am arian wedi’u cyflwyno; mae 9,981 o’r ceisiadau hyn wedi’u cymeradwyo. mae grantiau gwerth £50,157,000 wedi’u talu yn ystod 2022-23.
Ar 31 Mawrth 2023, cyhoeddodd yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net ei bod yn bwriadu ymestyn y Cynllun Uwchraddio Boeleri am dair blynedd arall, tan 2028.
Ceir canllawiau ar y Cynllun Uwchraddio Boeleri yma i osodwyr a pherchenogion eiddo. Gellir gweld diweddariadau misol ar y Cynllun Uwchraddio
Boeleri yma.
Cynllun Cymorth ac Ardoll Nwy Gwyrdd
Mae’r cynllun, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2021 ac a fydd ar waith am bedair blynedd, yn rhoi cymorth ariannol i gynhyrchwyr biofethan sy’n awyddus i gynyddu’r gyfran o nwy gwyrdd yn y grid nwy, drwy godi ardoll ar gyflenwyr nwy trwyddedig. Caiff cyfranogwyr cofrestredig daliadau bob chwarter dros gyfnod o 15 mlynedd, gyda thaliadau yn seiliedig ar y swm o fiofethan cymwys y bydd cyfranogwr yn ei gyfrannu at y grid nwy. Dros oes y cynllun, disgwylir iddo arwain at arbedion carbon sy’n cyfateb i 8.2 miliwn o dunelli o nwyon tŷ gwydr. Cofrestrwyd y cyfranogwr cyntaf ar y cynllun ym mis Awst 2022.
Ceir canllawiau ar y Cynllun Cymorth Nwy Gwyrdd, adroddiad Chwarter Pump a chanllawiau ar yr
ardoll yma.
Cynlluniau Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Domestig ac Annomestig
Sefydlwyd cynlluniau Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy i helpu defnyddwyr – domestig ac annomestig – i oresgyn y costau sy’n gysylltiedig â gosod systemau gwresogi adnewyddadwy, o gymharu â systemau gwresogi tanwydd ffosil mwy confensiynol. Mae’r cynlluniau wedi helpu addaswyr cynnar i gyfrannu at nodau’r DU o sicrhau statws sero net, drwy osod technolegau fel pympiau gwres a chwistrellu bionwy.
Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Domestig
Caewyd y cynllun hwn i geisiadau newydd ar 31 Mawrth 2022. Cafwyd 33% yn fwy o geisiadau nag a ragwelwyd yn ystod 2021-22 (38,800 o geisiadau unigryw). Byddwn yn parhau i helpu cyfranogwyr i wneud taliadau lle bo hynny’n briodol yn ystod eu cyfnod cymhwysedd (sef hyd at saith mlynedd).
Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Annomestig
ER bod y cynllun bellach wedi cau, caniatawyd estyniadau deddfwriaethol er mwyn cydnabod y problemau a wynebir gan y diwydiant o ganlyniad i bandemig COVID-19 yn 2021. Cawsant eu hymestyn ymhellach er mwyn comisiynu gwarant tariff cymwys ac ar gyfer ceisiadau am estyniad rhwng 31 Mawrth 2022 a 31 Mawrth 2023.
Roedd yr estyniadau hyn ond yn gymwys i ymgeiswyr yr oedd ganddynt warant tariff eisoes neu a oedd wedi gwneud cais llwyddiannus am estyniad (neu a wnaeth gais ar 31 Mawrth 2021 neu cyn hynny, ac a oedd yn dal i gael eu hasesu ac sydd wedi cael eu cymeradwyo ers hynny neu y mae cyllideb bellach ar gael iddynt).
Byddwn yn parhau i helpu cyfranogwyr i wneud taliadau lle bo hynny’n briodol yn ystod eu cyfnod cymhwysedd. Bydd cyfranogwyr sy’n defnyddio estyniadau yn cael cymorth tan 31 Mawrth 2041.
Graffeg Cynlluniau Gwres Adnewyddadwy:Ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun Uwchraddio Boeleri, mae mwy na £50 miliwn wedi’i dalu er mwyn cefnogi’r gwaith o osod bron i 10,000 o systemau gwresogi carbon isel
Yn ystod oes y cynlluniau Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy hyd at fis Mawrth 2023:Taliadau gwerth tua £134.3 miliwn wedi’u gwneud i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y cynllun (RHI Gogledd Iwerddon)
74.7 TWh o wres thermol wedi’i gynhyrchu (NDRHI-GB and DRHI)
5,980MW o gapasiti gwres thermol wedi’i achredu (NDRHI-GB)
316,793 o daliadau gwerth tua
£124 miliwn (DRHI) wedi’u rhoi yn ystod 2022-23
Dros 78,953 mil o daliadau gwerth tua £886 miliwn (NDRHI-GB) wedi’u rhoi yn ystod 2022-23
3,114 GWh o wres wedi’i gynhyrchu (RHI Gogledd Iwerddon – yn ystod oes y cynllun hyd at fis Mawrth 2022, caewyd y cynllun i geiswyr newydd ym mis Chwefror 2016)
Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni – ECO4
Roedd pedwaredd fersiwn y cynllun, a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn 2013, ar agor i ymgeiswyr ar 1 Ebrill 2022 a disodlodd ECO3 (a oedd yn gymwys i fesurau a osodwyd rhwng 1 Hydref 2018 a 31 Mawrth 2022). Mae cynllun ECO yn gosod rhwymedigaethau cyfreithiol ar gyflenwyr ynni mawr i roi mesurau effeithlonrwydd ynni ar waith ar gyfer safleoedd domestig.
Lansiwyd ECO4 ar 1 Ebrill, gan ei gwneud yn ofynnol i waith ôl-osod sylweddol gael ei wneud ar gyfer aelwydydd mewn tlodi tanwydd. Yn ystod y cyfnod hwn, gwnaethom ymgynghori ar y trefniadau gweinyddol ar gyfer ein cynllun a’u sefydlu, ar ôl i BEIS gyhoeddi Design of the Energy Company Obligation ECO4: 2022-2026 - GOV.UK (www.gov.uk)] a oedd yn cynnwys ymateb y llywodraeth i ddyluniad y cynllun.
Gwnaethom ddechrau ar brosiect mawr i ddiweddaru’r gofrestr o gyflenwyr ar gyfer mesurau prosesu yn ystod y cyfnod hwn â phethau allweddol i’w cyflawni a fyddai’n ei gwneud yn bosibl i reolau ECO3 gael eu Cyflawni Dros Dro a hysbysiadau i set reolau newydd ECO4 ynghyd â phrosesu mesurau. Mae mwy na 50,000 o fesurau wedi’u nodi ar gyfer mwy na 14,000 o brosiectau cyn diwedd y flwyddyn ariannol, gyda mwy na 90% o fesurau Cyflawni Dros Dro ECO3 yn cael eu cymeradwyo.
Cyflwyno Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr
Mae Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr yn gynllun effeithlonrwydd ynni newydd (a elwid yn ECO+ gynt), a lansiwyd gan y llywodraeth ac a weinyddir gan Ofgem. Bwriedir iddo sicrhau gwelliannau i’r cartrefi lleiaf ynni-effeithlon ym Mhrydain Fawr, er mwyn mynd i’r afael â thlodi tanwydd a helpu i leihau biliau ynni. Mae’r cynllun yn ategu cynllun Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO4) ond, yn wahanol i ddull ‘tŷ cyfan’ ECO4, darparu mesurau inswleiddio unigol yn bennaf fydd y cynllun hwn.
Yn ogystal â chefnogi aelwydydd incwm isel ac aelwydydd sy’n agored i niwed, bydd hefyd ar gael i’r rhai sy’n byw mewn cartrefi â gradd Tystysgrif Perfformiad Ynni o D-G, ac sydd ym mandiau A-D y Dreth Gyngor yn Lloegr ac A-E yng Nghymru a’r Alban. Bydd y cynllun yn gweithio drwy osod rhwymedigaeth ar gwmnïau ynni canolig a mawr i ddarparu mesurau sy’n lleihau’r defnydd o ynni a bwriedir iddo fod ar waith rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2026.
Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Mae’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes hefyd yn parhau i roi cymorth gyda chostau ynni i’r rhai sydd mewn tlodi tanwydd neu’n wynebu risg o dlodi tanwydd, yn bennaf ar ffurf ad-daliad o £150. O’r flwyddyn cynllun 2022 ymlaen, mae dau gynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes gwahanol: un i Gymru a Lloegr ac un arall i’r Alban. Mae canllawiau wedi’u datblygu ar gyfer y ddau gynllun, ynghyd â chyfnod adolygu pan all rhanddeiliaid gyflwyno sylwadau.
Yn ystod oes y cynlluniau Rhwymedigaethau Cwmnïau Ynni hyd at fis Mawrth 2022:
Dros 3.54m o fesurau wedi’u gosod i 2.41 miliwn o aelwydydd
Cyfraniad amcangyfrifedig o
58.15 MtCO2 mewn arbedion carbon
Amcangyfrif o £19.3 biliwn o arbedion biliau gydol oes yn gyflawnadwy i aelwydydd sydd mewn sefyllfa fregus
£3.5 biliwn o gymorth i gwsmeriaid sydd mewn tlodi tanwydd neu’n wynebu risg o dlodi tanwydd
25.4 miliwn o ad-daliadau biliau ynni
Mae Ofgem yn parhau i fod yn ymrwymedig i Ymrwymiadau Gwyrddu’r Llywodraeth sydd wedi cael eu diweddaru â llinell sylfaen, targedau ac is-dargedau newydd. Mae’r targedau newydd ar gyfer y cyfnod rhwng 2021 a 2025. Isod ceir y targedau a’r hyn y mae’r adran yn ei wneud i’w cyrraedd.
Y newidiadau allweddol i’r Ymrwymiadau o gymharu â 2016-2020 yw:
Mae ffigurau’r flwyddyn hon yn cynnwys data ar gyfer swyddfa Ofgem yn Glasgow (yn flaenorol dim ond data ar gyfer y swyddfa yn Llundain oedd ar gael). Mae defnydd adeiladau o ynni a gofnodwyd wedi cynyddu gan nad oes llinell sylfaen newydd wedi’i phennu ar gyfer data 2017-18, ond mae’r ffigurau bellach yn cynnwys bron ddwbl yr arwynebedd llawro gymharu â’r hyn a gofnodwyd yn flaenorol. Nid yw allyriadau nwy (Cwmpas 1) wedi cynyddu, am fod gan y swyddfa yn Glasgow fesuryddion trydan a gwres. Mae’r cynnydd mewn allyriadau cwmpas 2 o gymharu â’r llynedd i’w briodoli’n llwyr i’r ffaith bod data ar gael ar gyfer y swyddfa yn Glasgow. Rydym wedi dewis peidio â phennu llinell sylfaen newydd oherwydd dyma’r flwyddyn gyntaf y mae gennym ddata ar gyfer Glasgow. Mae defnydd adeiladau o ynni a gofnodwyd gennym ac, felly, yr allyriadau cwmpas 2 a gofnodwyd gennym, wedi cynyddu oherwydd y data newydd hyn. Gwariodd Ofgem £0.2 miliwn ar gost ynni yn ystod y flwyddyn. Mae a wnelo’r rhan fwyaf o’r gost â’r defnydd o drydan.
Yn 2022-23 bu gostyngiad sylweddol mewn allyriadau carbon yn gyffredinol a mesurau eraill o gymharu â lefelau cyn y pandemig. Mae hyn i’w briodoli i ddau ffactor allweddol, sef:
Gostyngiad o 32%. yn gyffredinol
carbon
Lleihau tirlenwi i 10% o gyfanswm y gwastraff
Cynyddu cyfran y gwastraff sy’n cael ei ailgylchu
Lleihau’r defnydd o bapur gan 50%
Gostwng
defnydd o ddŵr
Prif darged: Lleihau cyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr o linell sylfaen 2017-2018 yn ogystal â lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr uniongyrchol o’r ystad a gweithrediadau o gymharu â llinell sylfaen 2017-2018.
Gan fod pobl bellach yn ôl mewn swyddfeydd ac yn ymweld â swyddfeydd eraill mae’r defnydd o garbon yn gyffredinol wedi cynyddu’n sylweddol o gymharu â blynyddoedd y pandemig. Fodd bynnag, gyda chynnydd
o 20% yn nifer y staff, nid yw carbon fesul aelod o staff cyfwerth ag amser llawn (CALl) wedi newid.
Mae data teithio Ofgem ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf yn adlewyrchu’r ffaith bod yn pandemig wedi dod yn endemig a bod pethau wedi dychwelyd i’r arfer, yn ogystal â chynnydd yn nifer y staff. Er mwyn atal ein carbon teithio rhag dychwelyd i’r uchafbwynt a gyrhaeddodd yn 2018-19, mae’r Polisi Teithio a Threuliau wedi’i ddiweddaru â rheolau llymach ynglŷn â theithio a mathau o deithiau.
Cyfanswm pellter teithiau hedfan (mewn cilomedrau) ar gyfer 2022-23 oedd:
Prif darged: Lleihau cyfanswm y gwastraff a gynhyrchir 15% o linell sylfaen 2017-2018.
Is-dargedau:
Prif darged: Lleihau’r defnydd o ddŵr o leiaf 8% o linell sylfaen 2017-2018.
Fel y dengys y graff, gwnaethom gyflawni nod 8% cyn y pandemig. Ni ddisgwylir i’r defnydd o ddŵr ddychwelyd i’r lefelau a welwyd cyn pandemig COVID-19. Mae’r cynnydd bach a welwyd y llynedd i’w briodoli i’r cynnydd yn nifer y bobl a oedd yn mynd i mewn i’r swyddfeydd, sy’n cael ei leihau gan y cynnydd o 20% yn nifer y staff dros yr un cyfnod. Gwariwyd £0.02 miliwn ar ddŵr yn ystod y flwyddyn (nid oes gwybodaeth gymaradwy ar gael).
Is-dargedau:
Prif ymrwymiad: Parhau i brynu cynhyrchion a gwasanaethau mwy cynaliadwy gyda’r nod o sicrhau’r gwerth am arian hirdymor cyffredinol gorau i gymdeithas.
Bydd adrannau’n adrodd ar y systemau y maent wedi’u rhoi ar waith a’r camau a gymerwyd i brynu’n gynaliadwy, gan gynnwys:
Gan fod Ofgem yn prynu’r nwyddau a’r gwasanaethau sy’n berthnasol i Safon Prynu orfodol sylfaenol y Llywodraeth o gytundebau’r fframwaith Dal a Storio Carbon, cydymffurfir â’r safonau hyn gan y bydd yn rhaid i gyflenwyr fod wedi dangos eu bod yn cyrraedd y safonau hyn o leiaf er mwyn cael bod yn rhan o’r fframwaith Dal a Storio Carbon. Bydd Ofgem hefyd yn cynnwys cwestiynau ychwanegol am gynaliadwyedd mewn tendrau perthnasol lle bo modd.
Gweledigaeth Ofgem yw sicrhau bod y system ynni ar y trywydd cywir i gyrraedd statws sero net, a gyflawnir er budd defnyddwyr, erbyn 2025 ac, felly, mae ystyried yr effaith ar yr hinsawdd yn rhan annatod o brosesau gwneud penderfyniadau a llunio polisi. Mae Ofgem yn edrych yn barhaus ar opsiynau i wella’r ystad a bydd ffactorau cynaliadwyedd yn ystyriaeth allweddol ar gyfer lleoliadau unrhyw swyddfeydd yn y dyfodol.
Prif ymrwymiad: Dylai adrannau adrodd ar fabwysiadu Strategaeth Gwyrddu: TGCh a Gwasanaethau Digidol y Llywodraeth a thargedau cysylltiedig a sicrhau eu bod yn cynnig aelodaeth i’r tîm Cyngor ac Adroddiadau ar Dechnoleg Gynaliadwy sy’n rheoli ac yn paratoi adroddiadau Ymrwymiadau Gwyrddu TGCh y Llywodraeth.
I grynhoi, bydd hyn yn cynnwys cyflwyno data blynyddol ar ôl troed TGCh a digidol, gwastraff ac arferion gorau ar gyfer pob adran a’i sefydliadau partner.
Mae’r Gwasanaeth Digidol yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cynaliadwy a lleihau ein hôl troed carbon, drwy wneud y defnydd gorau posibl o seilwaith TG a thrwy feini prawf cynaliadwyedd ar gyfer caffael nwyddau a gwasanaethau yn y gadwyn gyflenwi TGCh. Eleni, mae Ofgem wedi cau’r hen seilwaith ffisegol wedi’i gydleoli i lawr, gan symud data i Ganolfan Ddata Rithwir neu’r Cwmwl. Yn y Cwmwl, nododd yr adolygiad archwilio mewnol ddull arfer gorau’r adran o wneud y mwyaf o’r Cwmwl, sydd wedi lleihau gwastraff drwy ddefnydd darbodus. Ar hyn o bryd, mae Ofgem yn gwahodd tendrau i adnewyddu ein gliniaduron ac rydym wedi cynnwys cynaliadwyedd y cynnyrch yn y meini prawf gwerthuso. Mae’r ystad gliniaduron presennol yn cynnwys HP Dragonflies, sydd wedi’u gwneud o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu.
Yn ystod y flwyddyn, defnyddiodd Ofgem ei chyllideb i gefnogi ei Blaenraglen Waith ar gyfer 2022-23, gan wario cyfanswm o £143.7 miliwn ar wariant gweithredu yn erbyn cyfanswm incwm gweithredu o £206.2 miliwn. Felly, ar ddiwedd y flwyddyn, cyfanswm alldro adnoddau Ofgem oedd £62.3 miliwn o incwm net (2021-22: £12.9 miliwn o incwm net), sydd wedi’i gysoni i alldro adnoddau yn nodyn 2 SOPS.
Mae’r ffigur hyn yn cynnwys yn bennaf incwm gweithredu net o £49.7 miliwn (2021-22: £13.7 miliwn) ar gyfer yr Ardoll Nwy Gwyrdd. Mae’r alldro hwn yn danwariant o £63.3 miliwn (2021-22: tanwariant o £88.5 miliwn) o gymharu â’r amcangyfrif cyllideb adnoddau o £6.9 miliwn (2021-22: £78 miliwn), yn bennaf o ganlyniad i’r ffaith bod gwerth y darpariaethau ariannol gryn dipyn yn is na’r amcangyfrifon ar eu cyfer a bod yr incwm o’r Ardoll Nwy Gwyrdd yn uwch na’r amcangyfrif ar ei gyfer. Mae’r Ardoll Nwy Gwyrdd yn gosod rhwymedigaethau ar gyflenwyr nwy trwyddedig, gan gynnwys gofyniad i wneud taliadau ardoll bob chwarter, er mwyn ariannu’r Cynllun Cymorth Nwy Gwyrdd.
Mae’r incwm a’r gwariant ar gyfer Nwy Gwyrdd i’w gweld ar linell ar wahân yn Natganiad Ofgem o Alldro yn erbyn y Cyflenwad Seneddol. Mae incwm yr ardoll yn seiliedig ar amcangyfrifon, ac mae taliadau’r Cynllun Cymorth yn seiliedig ar y galw (sy’n dibynnu ar gofrestriadau a chwistrelliadau o fiofethan). Caiff unrhyw warged yn ystod y flwyddyn ei hystyried wrth gyfrifo cyfradd ardoll y flwyddyn ganlynol; bydd arian yn parhau i fod ar gael ar gyfer taliadau’r Cynllun Cymorth Nwy Gwyrdd ac yn lleihau taliadau cyflenwyr o dan rwymedigaeth yn y dyfodol. Prif ffynhonnell incwm Ofgem yw’r ffioedd trwyddedu sy’n daladwy gan y sector. Caiff unrhyw warged (dros adennill ffioedd, lle mae’r gwariant yn llai na’r gyllideb) ei ad-dalu i’r sector.
Mae gwarged o £4.0 miliwn o ffioedd trwyddedu 2022-23 a godwyd ar y sector (o gymharu â gwarged o £6.9 miliwn yn 2021-22). Costau staff yw’r rhan fwyaf o gostau Ofgem. Yn gyffredinol, roedd gwariant gweithredu Ofgem £13.8 miliwn (11%) yn fwy yn 2022-23 (£143.7 miliwn) o gymharu â 2021-22 (£129.9 miliwn), yn bennaf o ganlyniad i gynnydd yn nifer y staff a gwariant ar wasanaethau ymgynghori er mwyn ymateb i argyfwng y marchnadoedd nwy a chynnal cynlluniau ynni adnewyddadwy newydd. Gan mwyaf, roedd gwariant cyfalaf yn cynnwys cyfarpar TG a datblygu meddalwedd bwrpasol i gefnogi cynlluniau a weinyddir gan Ofgem, a’r gwariant net oedd £2.2 miliwn o gymharu â chyllideb o £5.1 miliwn (gan gynnwys yr incwm cyfalaf a drosglwyddwyd gan BEIS).
Nid yw aelodau’r bwrdd rheoli yn gyfarwyddwyr mewn unrhyw gwmni arall nac yn meddu ar fuddiannau arwyddocaol eraill a all wrthdaro â chyfrifoldebau rheoli.
Ni hysbyswyd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn ffurfiol am unrhyw ddigwyddiadau yn ymwneud â data personol yn ystod y flwyddyn
Yn 2022-23, mae’r Bwrdd a’i is-bwyllgorau wedi parhau i ganolbwyntio ar ddiogelu cwsmeriaid yn ystod argyfwng costau byw nas gwelwyd mo’i debyg o’r blaen. Yn ystod y cyfnod hwn, canolbwyntiwyd yn benodol ar reoleiddio marchnadoedd manwerthu ac ar seilwaith a sicrwydd cyflenwad.
Mewn marchnadoedd manwerthu, buom yn gweithio gyda’r llywodraeth er mwyn sicrhau bod eu rhaglenni cymorth i ddefnyddwyr yn cael eu cyflwyno’n effeithiol. Gwnaethom fynnu bod cyflenwyr yn adolygu debydau uniongyrchol a chywiro unrhyw rai a oedd yn gynyddol afresymol. Gwnaethom adolygu lefelau gwasanaeth a phrosesau cysylltu â chwsmeriaid cyflenwyr sy’n ei chael hi’n anodd talu biliau yr oedd angen gwneud dwsinau o welliannau iddynt. Rydym wedi cyhoeddi ein bod yn bwriadu dileu’r premiwm a delir gan gwsmeriaid â mesuryddion rhagdalu am eu hynni ac rydym yn edrych ar y ffordd y caiff cwsmeriaid annomestig eu trin er mwyn sicrhau bod y rheolau wedi’u dilyn.
Fel rhan o’n ffocws ar sicrwydd cyflenwad, gwnaethom sefydlu trefniadau gweithio amlasiantaethol a threfniadau llywodraethu ar draws y llywodraeth, Gweithredwr y System Nwy a Gweithredwr y System Nwy ac Ofgem er mwyn asesu’r risgiau i sicrwydd cyflenwadau nwy a thrydan; a rhoi mesurau ar waith i liniaru risgiau ar ochr y galw a’r ochr gyflenwi; a pharatoi ar gyfer unrhyw ymatebion brys os bydd prinder cyflenwad.
Yr Awdurdod Marchnadoedd Nwy a Thrydan (GEMA) yw Bwrdd Ofgem. Cyfeirir at yr Awdurdod fel y Bwrdd yn y ddogfen hon. Ar hyn o bryd, mae’n cynnwys pum aelod anweithredol, gan gynnwys Cadeirydd anweithredol, ac un aelod gweithredol, sef y Prif Weithredwr. Ceir rhestr o aelodau Bwrdd Ofgem ar wefan Ofgem. Mae tri aelod gweithredol arall hefyd yn mynychu holl gyfarfodydd y Bwrdd, ac mae aelodau eraill o staff Ofgem yn bresennol ar gyfer eitemau penodol, yn ôl yr angen.
Darperir ar gyfer pwerau a dyletswyddau’r Bwrdd drwy statud yn bennaf. Mae’r statud yn pennu mai Ofgem yw’r ‘Awdurdod’, ac wrth gyfeirio at yr Awdurdod, mae’n golygu Cadeirydd ac aelodau eraill
Bwrdd Ofgem. Mae hyn yn golygu pan fydd deddfwriaeth yn rhoi pŵer penodol i Ofgem, mater i Fwrdd Ofgem yw arfer y pŵer hwnnw, oni bai bod dirprwyaeth ddilys ar waith.
Mater i’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net yw penodi aelodau anweithredol yr Awdurdod, ar ôl ymgynghori â’r Cadeirydd. Penodir aelodau gweithredol yr Awdurdod gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â Chod Rheoli’r Gwasanaeth Sifil. Maent yn dal eu swyddi gyhyd ag y byddant yn dal eu huwch-swyddi yn Ofgem, yn amodol ar yr uchafswm cyfnodau swydd.
Ni wnaed unrhyw benodiadau i’r Bwrdd yn 2022-23. Ymddiswyddodd un aelod anweithredol o’r Bwrdd, sef Christine Farnish.
Mae’r Bwrdd wedi cadw rhai penderfyniadau yn ôl. Mae’r rhain wedi’u nodi mewn atodlen i Reolau Trefniadaeth y Bwrdd a chyfeirir atynt hefyd fel “Swyddogaethau a Gadwyd yn Ôl’.
Mater i’r Bwrdd yw gwneud penderfyniadau yn ymwneud ag unrhyw un o’r Swyddogaethau hyn a Gadwyd yn Ôl, oni bai bod y Bwrdd yn dirprwyo’r penderfyniad hwnnw i un o gyflogeion Ofgem, neu un o Bwyllgorau’r Bwrdd, yn benodol.
Gall dirprwyaeth gan y Bwrdd fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau. Caiff unrhyw ddirprwyaeth ychwanegol gan y Bwrdd ei chofnodi yng nghofnodion y Bwrdd. Yr unig eithriad i hyn yw llunio Offeryn Statudol. Ni all y Bwrdd – yn ôl y gyfraith – wneud dirprwyaeth o’r fath.
Cyfeirir at holl swyddogaethau’r Bwrdd nad ydynt yn Swyddogaethau a Gadwyd yn Ôl, a ddirprwyir i un o Bwyllgorau’r Bwrdd, neu gan Drysorlys EF i’r Swyddog Cyfrifyddu, fel “Swyddogaethau Cyffredinol’.
Ar ôl i’w Swyddogaethau a Gadwyd yn Ôl gael eu diweddaru y flwyddyn flaenorol, ym mis Gorffennaf 2022 rhoddodd y Bwrdd ganllawiau ychwanegol i’r pwyllgor gweithredol ar sut a phryd i ymgynghori â’r Bwrdd ar faterion dirprwyedig, yn enwedig y rhai sy’n cael effaith sylweddol ar ddefnyddwyr.
Cyhoeddir Rheolau Trefniadaeth y Bwrdd, gan gynnwys ei Faterion a Gadwyd yn Ôl, ar wefan Ofgem.
Mae’r Bwrdd wedi sefydlu nifer o is-bwyllgorau i gefnogi ei waith, sef: y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, y Pwyllgor Pobl a Chydnabyddiaeth, Pwyllgor RIIO-2, a’r Panel Penderfyniadau Gorfodi.
Ceir rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau a gwaith y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a’r Pwyllgor Pobl a Chydnabyddiaeth mewn adran ddiweddarach yn yr adroddiad hwn.
Cyfarfu Pwyllgor RIIO-2 chwe gwaith yn ystod y flwyddyn er mwyn sicrhau y caiff proses gwneud penderfyniadau’r Bwrdd mewn perthynas â RIIO-2, sy’n gosod systemau rheoli prisiau ar
y cwmnïau sy’n gweithredu’r rhwydweithiau nwy a thrydan ym Mhrydain Fawr, ei chynnal yn effeithlon ac yn effeithiol. Gan fod systemau rheoli prisiau RIIO-2 wedi’u mabwysiadu, diddymwyd y Pwyllgor ar 30 Tachwedd 2022.
Un o bwyllgorau’r Bwrdd yw’r Panel Penderfyniadau Gorfodi, a sefydlwyd ym mis Mehefin 2014 er mwyn gwneud penderfyniadau gorfodi ar ran y Bwrdd ei hun. Cafodd ei sefydlu er mwyn gwneud penderfyniadau ynghylch achosion gorfodi fel bod gwahaniad gweladwy rhwng y swyddogaethau ymchwilio a’r swyddogaethau gwneud penderfyniadau. Mae aelodau’r panel a’i ysgrifenyddiaeth yn gyflogeion Ofgem sy’n annibynnol ar dîm yr achos. Mae’r Panel Penderfyniadau Gorfodi yn cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ei hun, sydd ar gael ar wefan Ofgem.
Ym mis Mawrth 2023, diwygiwyd Cylch Gorchwyl y Panel Penderfyniadau Gorfodi er mwyn rhoi mwy o ddisgresiwn i’r Cyfarwyddwr Gorfodi ynglŷn â pha faterion i’w cyfeirio at y Panel, gan alluogi’r pwyllgor gweithredol i ymdrin â materion arferol yn gyflym a chanolbwyntio adnoddau’r Panel ar benderfyniadau pwysig a dadleuol. Cyhoeddir cylch gorchwyl Pwyllgorau’r Bwrdd ar wefan Ofgem.
Mae’r Bwrdd yn cyfarfod tua deg gwaith y flwyddyn ar gyfer cyfarfodydd ffurfiol. At hynny, defnyddir cyfarfodydd ad hoc a phenderfyniadau drwy ohebiaeth pan fydd materion brys yn codi rhwng cyfarfodydd.
Yn ei gyfarfodydd, mae’r Bwrdd fel arfer yn ystyried amrywiaeth o faterion. Mae hyn fel arfer yn cynnwys diweddariadau gan y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr, diweddariadau gan Gadeiryddion ei Bwyllgorau ar unrhyw gyfarfodydd diweddar, trafodaethau am strategaeth Ofgem, ei hamcanion strategol a’r dirwedd ehangach, materion sefydliadol, gan gynnwys amrywiaeth a chynhwysiant, a phenderfyniadau ynghylch materion penodol nad ydynt wedi’u dirprwyo.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Bwrdd wedi ystyried y materion canlynol:
At hynny, ac fel arfer cyn pob cyfarfod ffurfiol, mae’r Bwrdd yn cynnal sesiwn friffio lai ffurfiol. Mae’r sesiwn hon yn gyfle i’r Bwrdd drafod materion sy’n dod i’r amlwg, cael gwybodaeth am agweddau penodol ar waith Ofgem, a chlywed gan randdeiliaid ar faterion amserol. Eleni, roedd y Bwrdd yn falch o groesawu nifer o randdeiliaid i’w gyfarfodydd, gan gynnwys Cyngor ar Bopeth, y Catapwlt Systemau Ynni, yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net a Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddir cofnodion ac agendâu’r Bwrdd ar wefan Ofgem.
Mae’r Cadeirydd a’r aelodau anweithredol eraill yn chwarae rhan lawn ym musnes y Bwrdd. Buont yn bresennol yng nghyfarfodydd llawn y Bwrdd a chyfarfodydd Pwyllgorau fel a ganlyn:
Nodyn:
Ymddiswyddodd Christine Farnish fel aelod o’r Bwrdd ym mis Awst 2022. Arweiniodd hyn at ad-drefnu aelodaeth y Pwyllgor.
Yn ogystal â’r cyfarfodydd arferol rheolaidd a restrwyd uchod, cyfarfu’r Bwrdd sawl gwaith ar fyr rybudd er mwyn ymdrin â materion brys.
Caiff effeithiolrwydd y Bwrdd ei werthuso’n flynyddol. Mae’n arfer dda o safbwynt llywodraethu corfforaethol gynnal Adolygiad allanol o Effeithiolrwydd y Bwrdd o leiaf unwaith bob tair blynedd a disgwylir i Ofgem gynnal un yn 2023/24. Gwnaeth adroddiadau ar ymateb Ofgem i’r argyfwng prisiau ynni, gan gynnwys gan Oxera, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a Phwyllgor Dethol BEIS, argymhellion ar drefniadau Llywodraethu’r Bwrdd. Mae Ofgem yn tracio ei hymateb i’r camau gweithredu hynny ac ym mis Ionawr 2023 dechreuodd ar adolygiad mewnol o drefniadau Llywodraethu, gan gynnwys effeithiolrwydd y Bwrdd.
Mae gan Ofgem bolisi gwrthdaro buddiannau, sydd wedi’i chyhoeddi ar wefan Ofgem. Mae canllawiau pellach i’r staff hefyd ar gael ar fewnrwyd staff Ofgem. O dan y polisi, mae’n ofynnol i bob aelod o staff ein hysbysu am unrhyw achosion posibl o wrthdaro buddiannau pan fyddant yn ymuno â’r sefydliad, a’n hysbysu am unrhyw newidiadau wedi hynny.
Mae’r polisi’n gymwys i bob aelod o staff, ni waeth a yw’n aelod o staff parhaol, achlysurol, cyfnod penodol, asiantaeth neu gontractwr.
Caiff unrhyw achosion posibl o wrthdaro buddiannau eu hasesu gan y tîm Sicrwydd Busnes, sy’n ystyried a oes achos o wrthdaro ac, os felly, pa gamau y dylid eu cymryd, ac erbyn pryd.
Mae’r polisi hefyd yn nodi y caiff camau disgyblu eu cymryd yn erbyn unrhyw aelod o staff y canfyddir nad yw wedi cydymffurfio â’r trefniadau hyn.
Cyhoeddir cofrestr buddiannau aelodau ein Bwrdd ar wefan Ofgem.
Pan fydd staff yn gadael y sefydliad, mae gennym broses ar waith i ystyried a oes angen cais o dan y Rheolau Penodiadau Busnes cyn iddynt dderbyn penodiad newydd y tu allan i’r Gwasanaeth Sifil.
Diben hyn yw sicrhau na ddylai fod achos cyfiawn dros bryder, beirniadaeth na chamddehongliad cyhoeddus pan fydd cyn aelod o staff yn ymgymryd â phenodiad neu gyflogaeth allanol.
Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn cynnwys tri aelod anweithredol o’r Bwrdd, sef Myriam Madden (Cadeirydd), Martin Cave a John Crackett a gymerodd le Lynne Embleton o’r cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2022 ymlaen. Mae’n cynnal pedwar prif gyfarfod y flwyddyn, yn ogystal â chyfarfod penodol i adolygu’r adroddiad blynyddol a chyfrifon drafft. Gwahoddir y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, y Cwnsler Cyffredinol, y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, Caffael a Risg, a’r Pennaeth Sicrwydd i fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor, yn ogystal ag aelodau eraill o staff yn ôl yr angen.
Gwahoddir cynrychiolwyr o Archwilwyr Allanol Ofgem, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, a chynrychiolwyr o Archwilwyr Mewnol Ofgem, Mazars, i fynychu holl gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg hefyd. Yn unol ag arfer da, bydd aelodau anweithredol y Pwyllgor fel arfer yn cynnal sesiwn breifat â’r archwilwyr ar ddiwedd pob cyfarfod. At hynny, mae’r Archwilwyr Mewnol a’r Archwilwyr Allanol yn cynnal trafodaethau rheolaidd ac yn cadw mewn cysylltiad uniongyrchol â Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
Mae gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg gylch gorchwyl, sydd wedi’i gyhoeddi ar wefan Ofgem.
Ei brif gyfrifoldebau yw cynghori’r Swyddog Cyfrifyddu a’r Bwrdd ynghylch effeithiolrwydd rheolaethau mewnol a threfniadau rheoli risg a llywodraethu Ofgem. Bydd yn archwilio’r ffordd y mae Ofgem yn sicrhau ac yn monitro digonolrwydd y systemau rheoli ariannol ac yn argymell unrhyw welliannau angenrheidiol.
Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn cynghori’r Bwrdd ac yn gwneud argymhellion ynghylch y rhaglen o adolygiadau archwilio sy’n cwmpasu prosesau ariannol a rheoli allweddol, gan ystyried y risgiau sy’n wynebu Ofgem. Mae hyn yn cynnwys rhoi cyngor ar y polisïau cyfrifyddu, y cyfrifon, gan gynnwys y broses o adolygu’r cyfrifon cyn eu cyflwyno i’w harchwilio, lefelau’r gwallau a nodwyd a llythyr sylwadau rheolwyr i’r archwilwyr allanol.
Yn ystod y flwyddyn, prif feysydd gweithgarwch y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg oedd:
Rhennir cofnodion y Pwyllgor â’r Bwrdd yn ei gyfarfod nesaf, a chaiff Cadeirydd y Pwyllgor gyfle i roi diweddariad i’r Bwrdd ar unrhyw faterion y mae’n dymuno eu codi.
Mae’r Pwyllgor Pobl a Chydnabyddiaeth yn cynnwys tri aelod anweithredol o’r Bwrdd, sef Lynne Embleton (Cadeirydd), Barry Panayi a Martin Cave.
Cyn iddi adael ym mis Awst 2022 roedd Christine Farnish yn cadeirio’r pwyllgor. Mae’n cynnal pedwar prif gyfarfod y flwyddyn.
Gwahoddir y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol a’r Dirprwy Gyfarwyddwr Pobl ac Ystadau i fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Pobl a Chydnabyddiaeth hefyd, yn ogystal ag aelodau eraill o staff yn ôl yr angen.
Mae gan y Pwyllgor Pobl a Chydnabyddiaeth gylch gorchwyl sydd wedi’i gyhoeddi ar wefan Ofgem.
Cyfrifoldebau allweddol eraill y Pwyllgor Pobl a Chydnabyddiaeth yw cynghori’r Bwrdd a’r Prif Weithredwr ar gydnabyddiaeth yr Uwch-wasanaeth Sifil, a dulliau strategol o ymdrin â materion sy’n gysylltiedig â phobl sy’n effeithio ar berfformiad a llwyddiant Ofgem, ynghyd â pholisïau ar faterion o’r fath.
Yn ystod y flwyddyn, prif feysydd gweithgarwch y Pwyllgor Pobl a Chydnabyddiaeth oedd:
Rhennir cofnodion y Pwyllgor â’r Bwrdd yn ei gyfarfod nesaf, a chaiff Cadeirydd y Pwyllgor gyfle i roi diweddariad i’r Bwrdd ar unrhyw faterion y mae’n dymuno eu codi.
Mae’r Pwyllgor Gweithredol yn cefnogi’r Prif Weithredwr yn y gwaith o redeg y sefydliad, ac nid yw’n un o bwyllgorau ffurfiol y Bwrdd. Caiff ei gadeirio gan y Prif Weithredwr ac mae’n cyfarfod yn fisol. Mae hefyd yn cynnal sesiwn dal i fyny wythnosol anffurfiol. Mae aelodau’r Pwyllgor Gweithredol wedi’u rhestru ar wefan Ofgem. Gwahoddir aelodau eraill o staff Ofgem i fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Gweithredol yn ôl yr angen.
Mae’r Pwyllgor Gweithredol yn cynnig un fforwm rheoli i drafod materion rheoleiddio a materion sefydliadol.
Yn ystod y flwyddyn, prif feysydd gweithgarwch y Pwyllgor Gweithredol oedd rhoi cyngor i’r Prif Weithredwr mewn perthynas â’r canlynol:
Mae’r Prif Swyddog Gweithredol yn darparu adroddiad misol i’r Bwrdd, gan grynhoi materion proffil uchel a materion llosg sy’n wynebu’r sefydliad, gan gynnwys gweithgareddau’r Pwyllgor Gweithredol fel y bo’n briodol. Bob chwarter mae’r Prif Swyddog Gweithredol yn adrodd ar gyflawni ac iechyd y sefydliad.
Mae ein tîm yn yr Alban yn ei sefyllfa gryfaf hyd yma gyda mwy na 600 o aelodau yn gweithio o Glasgow, sy’n golygu bod bron i hanner holl staff Ofgem wedi’u lleoli i’r gogledd o’r ffin. Mae ein Canolfan yn Commonwealth House, sydd wedi’i hadnewyddu, yn parhau i gynnig amgylchedd modern a chydweithiol i’n timau ddod at ei gilydd, gan annog pobl i ddod i mewn i’r swyddfa i weithio’n rheolaidd. Mae ein cydweithwyr yn yr Alban yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau, yn fewnol ac yn allanol, gyda thimau allweddol megis Cyflawni a Chynlluniau yn gweithio i gyflwyno cynlluniau ynni cynaliadwy a chynlluniau amgylcheddol i ddefnyddwyr ledled Prydain Fawr. Mae Ofgem hefyd wedi cynnal lefel uchel o ymgysylltu â rhanddeiliaid a grwpiau defnyddwyr ledled yr Alban. Ymddangosodd Ofgem gerbron Pwyllgor Senedd yr Alban ar Sero Net, Ynni a Thrafnidiaeth er mwyn rhoi cyngor arbenigol ar sefyllfa bresennol y grid cenedlaethol yn yr Alban a’r ffordd orau y gall ateb yr her sy’n gysylltiedig â chyflawni targedau sero net statudol yr Alban. Yn sgil ethol Prif Weinidog newydd, mae sawl Gweinidog newydd wedi’u penodi sydd ag agweddau ar ynni yn eu portffolios. Rhoddodd hyn gyfle delfrydol i’n tîm Materion Allanol i adeiladu ar gydberthnasau da presennol Ofgem ag adrannau Llywodraeth yr Alban, gan hyrwyddo ein huchelgeisiau a rennir ar gyfer y sector ynni, sero net a phroses bontio deg â’r Gweinidogion newydd. Mae uwch-aelodau o’n tîm hefyd yn parhau i ymgysylltu ag arbenigwyr ym maes ynni, y diwydiant, arloeswyr a grwpiau defnyddwyr yn rheolaidd ledled yr Alban.
Ymwelodd Prif Weithredwr Ofgem, Jonathan Brearley, a’i Gadeirydd, Martin Cave, â’r swyddfa yng Nghaerdydd ar ddiwedd 2022. Gwnaethant fanteisio ar y cyfle i gyfarfod ag aelodau o’r tîm, hen a newydd yn y gweithlu hwn sy’n tyfu a leolir yng nghanol Caerdydd ar ôl symud o ganolfan Tŷ William Morgan. Mae’r ehangu hwn yn pwysleisio ymrwymiad Ofgem yng Nghymru ac, am fod rolau wedi’u lleoli yng Nghaerdydd bellach yn cael eu hysbysebu’n rheolaidd, gobaith Ofgem yw croesawu hyd yn oed mwy o gydweithwyr yn ystod yr wythnosau a’r misoedd i ddod. Mae’r arbenigedd a’r sgiliau sydd gan ein tîm yng Ngyhymru o fudd mawr i waith Ofgem a’i hymdrechion i ddeall defnyddwyr ledled Prydain Fawr ac mae gweithredu darpariaeth Gymraeg y bwriedir iddi sicrhau bod gohebiaeth yng Nghymru ar gael yn y ddwy iaith yn enghraifft amlwg o’r gwaith hwn.
Am y tro cyntaf ers pandemig COVID-19, cynhaliodd GEMA gyfarfod o’i fwrdd yng Nghaerdydd ym mis Chwefror 2023, a ddarparodd hefyd ar gyfer ymweliad safle yn Ne Cymru lle cyfarfu’r bwrdd â Tata Steel i ddysgu am eu proses o symud tuag at dechnoleg wyrddach. Manteisiodd y bwrdd ar y cyfle i gyfarfod â chynrychiolwyr etholedig, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt AS ac arweinydd Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr hefyd. Ochr yn ochr â hyn, mae Mr Jonathan Brearley wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol dros y flwyddyn ddiwethaf, ynglŷn â’r argyfwng yn y farchnad ynni, yn enwedig yn wyneb yr heriau y mae defnyddwyr mewn sefyllfa fregus wedi’u hwynebu mewn perthynas â mesuryddion rhagdalu.
P’un a yw’n ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru mewn perthynas â mesuryddion rhagdalu, ED2, ASTI, rhwystrau sy’n wynebu prosiectau yn y Môr Celtaidd neu’r ffordd y mae Ofgem yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid er mwyn helpu i gyflawni targedau newid yn yr hinsawdd, mae gweladwyedd a dull adeiladol ein tîm yng Nghymru a’r uwch-aelodau sy’n mynd i gyfarfodydd rheolaidd â Gweinidogion ac Aelodau o’r Senedd er mwyn rhoi diweddariadau, eglurder ac atebion lle y bo’n bosibl er budd defnyddwyr, oll yn hanfodol i gyflawni nodau Ofgem yng Nghymru.
O dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth, mae Trysorlys EF wedi cyfarwyddo Ofgem i baratoi ar gyfer pob blwyddyn ariannol, gyfrifon adnoddau sy’n nodi’r adnoddau a gafwyd, a ddaliwyd neu a waredwyd yn ystod y flwyddyn a’r defnydd a wnaed o adnoddau gan yr adran yn ystod y flwyddyn.
Paratoir y cyfrifon ar sail croniadau a rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa Ofgem a’i hincwm a’i gwariant, ei Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol a’i llifau arian parod ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Wrth baratoi’r cyfrifon, mae’n ofynnol i’r Swyddog Cyfrifyddu fodloni gofynion Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gwneud y canlynol yn benodol:
Mae Trysorlys EF wedi penodi’r Prif Swyddog Gweithredol yn Swyddog Cyfrifyddu Ofgem. Mae cyfrifoldebau Swyddog Cyfrifyddu, gan gynnwys cyfrifoldeb am briodoldeb a rheoleidd-dra’r arian cyhoeddus y mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn atebol amdano, am gadw cofnodion cywir ac am ddiogelu asedau Ofgem, wedi’u nodi yn Rheoli Arian Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF.
Fel y Swyddog Cyfrifyddu, rwyf wedi cymryd yr holl gamau y dylwn fod wedi eu cymryd er mwyn sicrhau fy mod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol ac i gadarnhau bod archwilwyr Ofgem yn ymwybodol o’r wybodaeth honno. Hyd y gwn, nid oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad yw’r archwilwyr yn ymwybodol ohoni
Mae’r datganiad llywodraethu yn nodi trefniadau rheoli risg a rheolaeth fewnol Ofgem, sy’n dilyn egwyddorion llywodraethu da a nodir yng nghanllawiau Trysorlys EF a Swyddfa’r Cabinet. Rydym yn parhau i werthuso ein trefniadau llywodraethu a chyflwyno newidiadau er mwyn helpu i sicrhau y caiff yr Adran ei rheoli’n fwy effeithiol a gwella prosesau gwneud penderfyniadau ar y cyd ac effeithiolrwydd ein systemau rheolaeth fewnol, rheoli risg ac atebolrwydd. Ein gweledigaeth ar gyfer llywodraethu corfforaethol yw creu strwythur gwneud penderfyniadau effeithlon ac effeithiol sy’n gynhwysol, yn atebol ac yn dryloyw.
Yn 2022-23, cyflwynodd Ofgem swyddogaeth Sicrwydd Busnes er mwyn rhoi darlun cynhwysfawr i’r pwyllgor gweithredol o’r sicrwydd sydd ar gael ynglŷn ag effeithiolrwydd y trefniadau sydd ar waith er mwyn sicrhau y caiff amcanion busnes eu cyflawni mewn ffordd reoledig. Hyd yma, canolbwyntiwyd ar sicrwydd ynglŷn â chyflawni amrywiaeth o themâu allweddol sy’n ymwneud â rheolaeth fewnol megis cydymffurfiaeth â pholisïau corfforaethol ym meysydd Rheoli Risg, Cyllid, Caffael, Pobl, Rheoli Gwybodaeth, Rheoli Prosiectau a Rhaglenni ac amrywiaeth o themâu sy’n ymwneud â rheoli. Fel rhan o waith datblygu pellach, caiff y dull gweithredu ei ymestyn i gynnwys sicrwydd mwy penodol ynglŷn â chyflawni amcanion busnes allweddol Ofgem.Dangosir elfennau pwysig o’r Fframwaith Sicrwydd Busnes isod:Mae hyn yn cymhwyso fframwaith clir a chynhwysfawr, gan adlewyrchu’r dull gweithredu a argymhellir gan Drysorlys EF ar gyfer holl adrannau Llywodraeth EF. Mae’n nodi’r egwyddorion, y polisïau a’r arferion y mae Ofgem yn eu mabwysiadu er mwyn sicrhau bod prosesau Sicrwydd Busnes a Rheoli Risg digonol ym mhob rhan o’r Adran. Mae’n rhoi rolau a chyfrifoldebau clir i’r rhai sy’n ymwneud â darpariaeth rheng flaen a goruchwyliaeth gorfforaethol gysylltiedig ac yn adeiladu ar Safonau Swyddogaethol y Llywodraeth.
Crynhoir y sicrwydd a geir o amrywiaeth eang o ffynonellau gan gynnwys goruchwyliaeth gorfforaethol ac adolygiadau rheolaidd gyda chyfarwyddwyr mewn Map Gwres o Ffynonellau Sicrwydd sy’n defnyddio’r model 3 Llinell Amddiffyn er mwyn cyfleu’r sicrwydd sydd ar gael ynglŷn ag effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu, risg a chydymffurfiaeth ar draws amrywiaeth o themâu rheolaeth fewnol allweddol.
Er i’r gweithgareddau sicrwydd ddod i’r casgliad bod rheolaeth fewnol yn ddigonol ar gyfer pob un o’r themâu rheolaeth fewnol, mae meysydd pwysig i’w gwella a nodwyd drwy adolygiad sicrwydd 2022/23 yn cynnwys:
Er bod y Fframwaith Sicrwydd yn sicrhau bod cryfderau a gwendidau mewn trefniadau rheolaeth fewnol a rheoli yn fwy amlwg ym mhob rhan o’r adran, mae angen newid diwylliant i ategu hyn: er mwyn ystyried bod sicrwydd yn ffordd o weithio, gan ei gysylltu â gwerthoedd, sydd wedi’i ymgorffori yn yr hyn y mae timau yn ei wneud ac nad yw’n cael ei ystyried yn flaenoriaeth groes.
Mae fframwaith risg Ofgem yn hanfodol i gyflawni’r uchelgeisiau yn ein strategaeth. Mae’n helpu’r sefydliad i gynllunio a blaenoriaethu ac yn gwella ein gallu i ymateb mewn ffordd ystwyth i heriau sy’n dod i’r amlwg. Mae Ofgem yn parhau i adeiladu ar yr hyn sydd eisoes ar waith er mwyn mynd â’i dull o reoli risg i lefel uwch o aeddfedrwydd. Gwnaethom fuddsoddi er mwyn gwella ein gallu rheoli risg ym mhob rhan o’r sefydliad eleni, drwy feithrin cymuned gryfach o reolwyr risg a gefnogir gan bolisïau, canllawiau ac adnoddau gwell. Mae hyn wedi arwain at well trafodaethau rhwng arweinwyr ynghylch risg, gan gynnwys goruchwyliaeth reolaidd gan uwch-reolwyr ym mhob cyfarwyddiaeth, trafodaethau misol ymhlith aelodau’r Pwyllgor Gweithredol ac adolygiadau chwarterol gan ARAC.
Mae gwaith ar risgiau a sicrwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn parhau i nodi bod y senarios y mae Ofgem yn eu hwynebu yn rhai cymhleth ac amwys ar y cyfan, heb unrhyw atebion syml na phendant. Mae’r amgylchedd risg yn parhau i ddatblygu’n gyflym. Mae’r fframwaith rheoli risg wedi’i ddatblygu er mwyn cefnogi meddylfryd system gyfan a phrosesau gwneud penderfyniadau seiliedig ar risg da ac mae’n hyrwyddo cydweithio, arloesi ac ystwythder.
Mae fframwaith risg Ofgem yn hanfodol i gyflawni’r uchelgeisiau yn ein strategaeth. Mae’n helpu’r sefydliad i gynllunio a blaenoriaethu ac yn gwella ein gallu i ymateb mewn ffordd ystwyth i heriau sy’n dod i’r amlwg. Mae Ofgem yn parhau i adeiladu ar yr hyn sydd eisoes ar waith er mwyn mynd â’i dull o reoli risg i lefel uwch o aeddfedrwydd. Gwnaethom fuddsoddi er mwyn gwella ein gallu rheoli risg ym mhob rhan o’r sefydliad eleni, drwy feithrin cymuned gryfach o reolwyr risg a gefnogir gan bolisïau, canllawiau ac adnoddau gwell. Mae hyn wedi arwain at well trafodaethau rhwng arweinwyr ynghylch risg, gan gynnwys goruchwyliaeth reolaidd gan uwch-reolwyr ym mhob cyfarwyddiaeth, trafodaethau misol ymhlith aelodau’r Pwyllgor Gweithredol ac adolygiadau chwarterol gan ARAC.
Mae gwaith ar risgiau a sicrwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn parhau i nodi bod y senarios y mae Ofgem yn eu hwynebu yn rhai cymhleth ac amwys ar y cyfan, heb unrhyw atebion syml na phendant. Mae’r amgylchedd risg yn parhau i ddatblygu’n gyflym. Mae’r fframwaith rheoli risg wedi’i ddatblygu er mwyn cefnogi meddylfryd system gyfan a phrosesau gwneud penderfyniadau seiliedig ar risg da ac mae’n hyrwyddo cydweithio, arloesi ac ystwythder.
Mae risgiau strategol yn risgiau a all rwystro gallu Ofgem i gyflawni nodau ac uchelgeisiau strategol. Mae llwyddiant y sefydliad yn dibynnu ar ganolbwyntio gweithgareddau a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i ddefnyddwyr a’r amgylchedd ac ar reoli’r ffordd y cânt eu cyflawni yn dda. Drwy ymateb rheoli penodol ac effeithiol, gall Ofgem sicrhau ein bod yn rheoli ein hunain yn dda wrth gyflawni cyfrifoldebau cyfreithiol, ariannol a moesegol a chyfrifoldebau o ran atebolrwydd cyhoeddus.
Roedd y tri maes risg cyffredinol y gwnaethom ganolbwyntio arnynt yn ystod y flwyddyn fel a ganlyn:
Ein dull rheoleiddio
Risgiau sy’n gysylltiedig â ph’un a yw ein dull, ein fframwaith a’n hadnoddau rheoleiddio yn effeithiol ac yn berthnasol ac yn gallu addasu i heriau hirdymor sy’n bwysig i ddefnyddwyr ynni, cymdeithas a’r amgylchedd.
Mae rheoli’r risgiau hyn yn effeithiol yn hanfodol i gynnal ymddiriedaeth yn Ofgem a’n gallu i wneud gwaith rheoleiddio effeithiol. Mae angen i ni ganolbwyntio’n ddiwyro ar y canlyniadau rydym yn ceisio eu cyflawni a’r hyn rydym yn disgwyl i gwmnïau a’u buddsoddwyr ei wneud.
Cydberthnasau allanol a ffactorau eraill
Risgiau sy’n gysylltiedig â ph’un a ydym yn mynd ati’n rhagweithiol i ragweld a dadansoddi gwybodaeth, data a thueddiadau, ac yn ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau allanol a allai gael effaith sylweddol ar berfformiad Ofgem a’n gallu i gyflawni, hyd yn oed digwyddiadau nad ydynt o dan ein rheolaeth uniongyrchol.
Mae ein gallu i weithredu ein strategaeth yn dibynnu ar ein gallu i gydweithio ag amrywiaeth o randdeiliaid a gweithio mewn partneriaeth â nhw, yn enwedig y llywodraeth, ond hefyd y diwydiant ei hun, rheoleiddwyr eraill a rhanddeiliaid.
Y ffordd rydym yn gweithio
Risgiau sy’n gysylltiedig â’n heffeithiolrwydd fel sefydliad sy’n perfformio’n dda. Mae angen i ni gyflawni ein strategaeth er mwyn i ni allu ysgogi newid a bod yn lle gwych i weithio.
Mae angen i’n diwylliant, ein hymddygiadau a’n gwerthoedd gyd-fynd â’r broses o gyflawni ein nodau strategol, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau, grymuso ein staff, annog cydweithio ac effeithlonrwydd a sicrhau cadernid nawr ac yn y dyfodol.
Mae’r risgiau hyn yn rhyngddibynnol ac, felly, cânt eu rheoli mewn ffordd integredig ar draws y portffolio. Roedd rheoli risgiau a phroblemau rheoleiddiol a gododd yn sgil Ymadawiad y DU â’r UE a’r rhyfel yn Wcráin gyda’r bygythiad i sicrwydd cyflenwad a ddeilliodd o hynny hefyd yn rhan annatod o’n dull o reoli risg yn ystod y flwyddyn.
Rhoddir crynodeb o’r prif risgiau a wynebwyd yn ystod 2022-23 isod:
Dull rheoleiddio
factorau allanol
Y ffordd rydym yn gweithio
Rydym yn bwriadu gwneud rhagor o waith yn 2023/24 i wella ac ymgorffori Sicrwydd Busnes a Rheoli Risg yn llawnach ym mhob rhan o’r sefydliad. Bydd hyn yn cynnwys datblygu gallu ym mhob un o’n timau ymhellach a gwelliannau i atebolrwydd uwch-reolwyr am reolaeth a chydymffurfiaeth.
Bydd ymestyn cwmpas Sicrwydd Busnes tuag at amcanion gweithredol ehangach wrth barhau i adrodd ar weithgareddau rheolaeth fewnol a gwmpesir gan y dull gweithredu presennol, yn rhoi sicrwydd mwy cyfannol ym mhob un o’n gweithgareddau.
Parhaodd Ofgem i gynnal prosesau sicrhau ansawdd mewn perthynas â gwaith dadansoddi’r adran. Mae hyn yn cynnwys helpu timau polisi i ddatblygu ac adolygu eu gwaith dadansoddi, gan gynnwys modelau sy’n hanfodol i’r busnes, modelau eraill, gwaith gwerthuso, dadansoddiadau cost a budd ac asesiadau effaith. Mae gweithdrefnau sicrhau ansawdd Ofgem yn dilyn y canllawiau a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF yn ei adolygiad yn 2013 (https://www.gov.uk/government/publications/review-of-quality-assurance-of-government-models). Mae hyn yn parhau i sicrhau bod gwaith dadansoddi’r adran yn gywir ac yn gadarn a’i fod yn cael ei wneud i’r safonau uchaf.
Mae polisi chwythu’r chwiban mewnol Ofgem yn cynnig proses i’r staff godi unrhyw bryderon chwythu’r chwiban ac yn cefnogi diwylliant lle mae cyflogeion yn teimlo’n hyderus i godi materion sy’n achos pryder. Mae’n gyson â’r argymhellion a’r arferion da a gyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Sifil a Protect.
Ni chodwyd yr un mater o dan y polisi hwn yn ystod y flwyddyn.
Derbyniwyd tri achos gan yr Ombwdsmon Seneddol i ymchwilio iddynt yn ystod y flwyddyn ac roedd un achos yn dal i fod ar agor o flwyddyn flaenorol. Ni chadarnhawyd yr un o’r achosion yn llawn, ni chadarnhawyd tri achos a chadarnhawyd un achos yn rhannol lle y rhoddodd Ofgem lythyr ymddiheuro am nad oedd y cyfranogwr wedi cael ei gyfeirio at y broses gwyno yn ystod canlyniad ei adolygiad statudol.
Comisiynodd Bwrdd Ofgem adolygiad o achosion sylfaenol methiannau cyflenwyr a ddigwyddodd
yn ystod hydref a gaeaf 2021-22 ac, yn benodol, y rhan a chwaraewyd gan y ffordd y caiff y diwydiant ei reoleiddio. Cyhoeddwyd canfyddiadau’r adolygiad, a gynhaliwyd gan gwmni annibynnol o ymgynghorwyr, Oxera, ym mis Mai 2022. Cynhaliodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol astudiaeth i’r farchnad cyflenwyr ynni hefyd, yn sgil y methiannau a welwyd o ran cyflenwyr yn ystod hydref a gaeaf 2021-22. Cyhoeddodd ei hadroddiad ym mis Mehefin 2022. Dilynwyd yr adroddiadau gan adroddiad gan Bwyllgor Dethol BEIS Energy pricing and the future of the energy market - Business, Energy and Industrial Strategy Committee (parliament.uk) ym mis Gorffennaf 2022 a gwrandawiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ym mis Tachwedd 2022.
Argymhellodd yr adroddiadau nifer o fesurau, yr oedd llawer ohonynt eisoes wedi’u rhoi ar waith pan gyhoeddwyd yr adroddiadau ac y mae’r gwelliannau a wnaed gennym eleni mewn perthynas â rheoli risg a sicrwydd busnes yn eu hymgorffori ymhellach. Ymhlith rhai o’r ffyrdd y mae Ofgem wedi ymateb i’r argymhellion mae:
Yn ogystal â’i hastudiaeth o fethiannau’r cyflenwyr, cynhaliodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol dri adolygiad gwerth am arian â chysylltiadau â’r marchnadoedd ynni yn 2022-23;
Roedd argymhellion allweddol y ddau adolygiad a gwblhawyd yn canolbwyntio ar y Llywodraeth, heb unrhyw argymhellion pwysig i Ofgem.
Mae Ofgem yn adolygu ei threfniadau llywodraethu er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben wrth i’r sefydliad dyfu a gwneud newidiadau i’r ffordd y mae’n gweithredu. Mae’r adolygiad hwn hefyd yn cyd-fynd â’r gofyniad yn adroddiad Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Tŷ’r Cyffredin ar brisiau ynni a dyfodol y farchnad ynni.
Caiff tair swydd Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd eu cyflwyno i strwythur llywodraethu Ofgem yn ystod 2023-24.
Cwblhaodd ein Harchwilydd Mewnol, Mazars LLP, amserlen y cytunwyd arni o adolygiadau yn ystod y flwyddyn. Nodwyd yr adolygiadau hyn drwy waith cynllunio Archwilio Mewnol yn seiliedig ar risg a chyfweliadau â rheolwyr Ofgem a’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
Roedd y rhaglen Archwilio Mewnol yn cynnwys 12 o archwiliadau a dau adolyigad i nodi statws camau gweithredu blaenorol. Rhoddodd 11 o adroddiadau ‘Sicrwydd Cymedrol’ ac un set o “weithdrefnau y cytunwyd arnynt” nad oeddent yn cynnwys barn, ond nad oeddent yn nodi unrhyw argymhellion â blaenoriaeth yn y canfyddiadau. Argymhellodd yr adolygiadau gyfanswm o un argymhelliad â blaenoriaeth uchel a 75 o argymhellion eraill. Gwnaethom fonitro’r gwaith o roi’r camau dilynol ar waith, ac roedd y mwyafrif o’r camau a oedd ar agor yn ystod y flwyddyn naill ai wedi’u cwblhau’n foddhaol erbyn 31 Mawrth 2023 neu’n dal i fynd rhagddynt o fewn y dyddiadau y cytunwyd arnynt yn yr adroddiadau archwilio (neu o fewn dyddiadau estyniadau y cytunwyd arnynt), er bod nifer bach wedi’u rhoi ar waith yn rhannol gyda chynlluniau gweithredu i’w rhoi ar waith yn llawn o fewn amserlen briodol. Mae hyn yn cynnwys y cam gweithredu â blaenoriaeth uchel, a oedd wedi’i rhoi ar waith yn rhannol ar ddiwedd y flwyddyn.
Ar sail gwaith archwilio Mazar, ei farn ar y fframwaith llywodraethu, gwaith rheoli risg a rheolaeth yw Cymedrol o ran eu digonolrwydd a’u heffeithiolrwydd cyffredinol ac, felly, nid oes unrhyw newid o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Ar y cyfan, mae angen gwneud gwelliannau er mwyn gwella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth.
Tynnodd ei waith archwilio sylw at rai gwendidau ac eithriadau penodol, lle y gwnaeth argymhellion Blaenoriaeth 2. Mae’r materion hyn wedi’u trafod â’r rheolwyr, y mae wedi gwneud argymhellion iddynt. Mae’r holl argymhellion wedi cael eu rhoi ar waith, neu mae hynny’n mynd rhagddo ar hyn o bryd.
Ni chafodd unrhyw farn sicrwydd Anfoddhaol na Chyfyngedig yn 2022/23, sy’n well na’r flwyddyn flaenorol (2021/22), lle y rhoddodd Mazars un farn Anfoddhaol a phedair barn Gyfyngedig a rhoi barn sicrwydd Cymedrol ar gyfer y flwyddyn yn gyffredinol. Gwnaeth waith dilynol ar yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad ar y farn Anfoddhaol ar Systemau Rheoli Prisiau Rhwydweithiau, a gyhoeddwyd yn 2021/22, drwy adroddiad archwilio ED2, a roddodd farn sicrwydd Cymedrol a chadarnhau bod camau yn cael eu cymryd i roi’r argymhellion hyn ar waith. Er nad yw’r gwaith dilynol mwyaf diweddar wedi llwyddo i gadarnhau bod yr holl argymhellion bellach wedi’u rhoi ar waith, nid oes unrhyw argymhellion Blaenoriaeth 1 sydd heb eu rhoi ar waith.
Mae systemau rheoli prosiectau wedi bod yn destun pryder i Ofgem yn y gorffennol ac mae Mazars yn nodi bod yr archwiliad o’r Rhaglen Drawsnewid wedi cadarnhau bod yr holl argymhellion blaenorol ynglŷn â rheoli prosiectau wedi’u rhoi ar waith, ochr yn ochr â barn sicrwydd ‘cymedrol’ ar gyfer ein hadolygiad sicrwydd prosiect o ePMO Ofgem.
Rwyf wedi ystyried y dystiolaeth sy’n ategu’r datganiad hwn gan y Llywodraeth, gan gynnwys o strwythurau llywodraethu’r adran a’r cyngor annibynnol a roddwyd gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol. Dof i’r casgliad bod gan Ofgem systemau llywodraethu a rheoli risg ar waith ynghyd â chynlluniau effeithiol er mwyn sicrhau gwelliant parhaus i fynd i’r afael â’r gwendidau a nodwyd. Rwy’n ymrwymedig i sicrhau y caiff ein systemau llywodraethu a rheoli risg eu hatgyfnerthu ymhellach yn 2023/24.
Jonathan Brearley
Prif Swyddog Gweithredol
6 Gorffennaf 2023
Mae Deddf Diwygio a Llywodraethu Cyfansoddiadol 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i benodiadau’r Gwasanaeth Sifil gael eu gwneud ar sail teilyngdod a thrwy gystadleuaeth deg ac agored. Mae’r Egwyddorion Recriwtio a gyhoeddir gan Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil yn nodi dan be amgylchiadau y gellir gwneud penodiadau fel arall.
Oni nodir fel arall isod, mae’r swyddogion a gwmpesir yn yr adroddiad hwn yn dal penodiadau sy’n benagored. Byddai terfynu penodiad yn gynnar, ac eithrio o ganlyniad i gamymddwyn, yn arwain at roi iawndal i’r unigolyn fel y nodir yng Nghynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil.
Ceir rhagor o wybodaeth am waith Comisiwn y Gwasanaeth Sifil ynwww.civilservicecommission.org.uk
Nodir cydnabyddiaeth pob un o’r cyflogeion yn eu contractau a chaiff ei hadolygu’n flynyddol yn unol â’r dyfarniadau y cytunwyd arnynt gan Swyddfa’r Cabinet ac, ar gyfer uwch-weision sifil, yn unol ag argymhellion y Corff Adolygu Cyflogau Uwch. Ar wahân i’r Cadeirydd, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol a’r Cyfarwyddwr Cadernid Ariannol a Rheolaethau, mae pob un o’n huwch-gyflogeion yn aelodau parhaol o staff. Nid oes gan yr un ohonynt gyfnod rhybudd sy’n hwy na chwe mis.
Mae pob aelod parhaol o staff yn yr Uwch Dîm Rheoli yn gymwys i fod yn rhan o gynllun bonws sy’n unol â chanllawiau Swyddfa’r Cabinet. Mae’r bonws yn seiliedig ar berfformiad yr unigolyn. Mae taliadau bonws yn rhai ar wahân i gyflog ac nid ydynt yn bensiynadwy.
Mae’r adrannau canlynol yn nodi manylion am gydnabyddiaeth a buddiannau pensiwn y rheolwyr mwyaf profiadol (h.y. aelodau’r Bwrdd) yn yr adran.
Nodiadau i dabl un cyfanswm ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol:
* Rhoddodd yr aelodau o’r Pwyllgor Gweithredol y dyfarnwyd bonws iddynt ar gyfer 2021-22 (sy’n dderbyniadwy
yn 2022-23) eu bonysau i elusen. Fodd bynnag, dangosir y bonysau hyn o hyd yn y tabl uchod er cyflawnrwydd.
**Cyfrifir gwerth buddion pensiwn a gronnwyd yn ystod y flwyddyn fel (y cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn wedi’i luosi ag 20) a (y cynnydd gwirioneddol mewn unrhyw gyfandaliad) llai (y cyfraniadau a wnaed gan yr unigolyn).
Nid yw’r cynnydd gwirioneddol yn cynnwys cynnydd oherwydd chwyddiant nac unrhyw gynnydd neu leihad sydd i’w briodoli i drosglwyddo hawliau pensiwn.
Roedd dau aelod o’r Pwyllgor Gweithredol wedi’u secondio neu roeddent ar fenthyg o sefydliadau eraill. Gwnaeth yr adrannau cartref gyfraniadau pensiwn ar gyfer y cyflogeion hyn ac, felly, nid ydynt wedi’u cynnwys yn nhabl pensiwn Ofgem.
Yn ystod y flwyddyn, cyhoeddwyd strwythur uwch newydd, gan gyflwyno tair rôl newydd ym mand 3 yr Uwch Wasanaeth Sifil. Bu Akshay Kaul yn gweithredu fel Cyfarwyddwr Dros Dro Seilwaith a Sicrwydd Cyflenwad ers mis Gorffennaf 2022. Simon Wilde oedd Cyfarwyddwr Dros Dro Marchnadoedd a’r Argyfwng Nwy rhwng mis Gorffennaf 2022 a mis Ionawr 2023 a bu Neil Kenward yn gweithredu fel Cyfarwyddwr Dros Dro Marchnadoedd ers mis Tachwedd 2022, yn ogystal â chyflawni ei rôl barhaus fel y Cyfarwyddwr Strategaeth a Datgarboneiddio. Mae Rebecca Barnett wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Gweithredol ers mis Hydref 2022 ac mae Eleanor Warburton wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Gweithredol ers mis Rhagfyr 2022; ni chynhwyswyd ffigurau cymharol am nad oeddent yn aelodau o’r Pwyllgor Gweithredol yn 2020-21.
Ymddiswyddodd Christine Farnish o’r bwrdd ar 3 Awst 2022, y ffigurau cyfwerth ag amser llawn yw honorariwm o £20,000 a lwfans o £3,000.
Daeth cyfnodau Amelia Fletcher, Andrew Long ac Elizabeth France yn y swydd i ben ym mis Mai 2022. Ymunodd Andrew Ellam â’r panel ym mis Mawrth 2023. Yn ogystal â’r gydnabyddiaeth a ddangosir yn y tabl uchod, cafodd Megan Forbes fuddiannau pensiwn gwerth £6,000 (i’r £1000 agosaf).
Cyflog
Mae “cyflog” yn cynnwys cyflog gros; goramser; lwfansau swyddfa breifat ac unrhyw lwfans arall i’r graddau y mae’n drethadwy yn y DU. Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar daliadau cronnus a wnaed gan yr Adran ac a gofnodwyd felly yn y cyfrifon hyn.
Buddiannau mewn da
Mae gwerth ariannol buddiannau mewn da yn cwmpasu unrhyw fuddiannau a ddarperir gan yr Adran ac a gaiff eu trin gan Cyllid a Thollau EF yn dâl trethadwy.
Bonysau (archwiliedig)
Mae taliadau bonws yn seiliedig ar lefelau perfformiad a gyrhaeddir a chânt eu rhoi fel rhan o’r broses arfarnu. Mae taliadau bonws yn gysylltiedig â pherfformiad yn ystod y flwyddyn pan ddônt yn daladwy i’r unigolyn. Mae’r bonysau yr adroddwyd arnynt yn 2022-23 yn gysylltiedig â pherfformiad yn 2021-22 ac mae’r bonysau cymharol yr adroddwyd arnynt yn 2021-22 yn gysylltiedig â pherfformiad yn 2020-21.
Yn 2022-23 roedd 972 o staff (2021-22: 910 o staff) a gafodd fonws. Y taliad bonws cyfartalog oedd £1,484 (2021-22: £1,301) ac roedd y cyfanswm a dalwyd mewn bonysau yn cyfateb i £1,442,699 (2021-22: £1,184,060). Cafodd pedwar unigolyn y bonws mwyaf, sef £13,000 (2021-22: cafodd dau unigolyn y bonws mwyaf, sef £14,000).
Mae’n ofynnol i gyrff adrodd ddatgelu’r gydberthynas rhwng cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf yn eu sefydliad a chydnabyddiaeth ariannol chwartel isaf, ganolrifol a chwartel uchaf gweithlu’r sefydliad. Cydnabyddiaeth ariannol cyfwerth â blwyddyn lawn wedi’i bandio’r cyfarwyddwr a gafodd y cyflog uchaf ym mlwyddyn ariannol 2022-23 oedd £325,000-330,000 (2021-22 £325,000-330,000). Yn 2021-22 a 2022-23, contractwr oedd y cyfarwyddwr a gafodd y cyflog uchaf, nid cyflogai. Gweler yr adran ‘Penodeion nad ydynt ar y Gyflogres’ ar dudalen 74 am ragor o wybodaeth). Mae’r tabl isod yn dangos cymarebau pwynt canol cydnabyddiaeth wedi’i bandio’r cyfarwyddwr a gafodd y cyflog uchaf, i ffigurau cyflog a buddiannau’r cyflogeion y mae eu cyflog a’u buddiannau ar 25ain, 50fed a 75ain ganradd cyflogeion Ofgem.
Mae cyfanswm cyflog a buddiannau ac elfen gyflog cyfanswm cyflog a buddiannau’r cyflogeion yn y 25ain, 50fed a 75ain ganradd ar gyfer 2022-23 i’w gweld isod:
Yn 2022-23, ni fu unrhyw newid yng nghyflog na lwfansau cyfwerth â blwyddyn lawn y cyfarwyddwr a gafodd y cyflog uchaf o gymharu â 2021-22. Y newid canrannol cyfartalog o gymharu â 2021-22 yng nghyflog a lwfansau cyflogeion Ofgem gyda’i gilydd oedd cynnydd o 0.8% ac, mewn taliadau perfformiad a bonws a oedd yn daladwy, gynnydd o 14.1%.
Yn 2022-23, cafodd none (2021-22: dim) o gyflogeion Ofgem gydnabyddiaeth yn fwy na’r cyfarwyddwr a gafodd y cyflog uchaf. Roedd cydnabyddiaeth yn amrywio o £19,047 to £204,227 (2021-22: £18,182 to £202,477).
Mae cyfanswm y gydnabyddiaeth yn cynnwys cyflog, tâl anghyfunol yn gysylltiedig â pherfformiad a buddiannau mewn da. Nid yw’n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr na gwerth trosglwyddo pensiynau sy’n gyfwerth ag arian parod.
*Gan ystyried chwyddiant, mae’r CETV a ariennir gan y cyflogwr wedi lleihau mewn termau real.
**Mae CETV ar 31 Mawrth 2022 wedi’i hailgyflwyno yn dilyn derbyn gwybodaeth wedi’i diweddaru gan MyCSP.
Cyfrifir ffigurau CETV gan ddefnyddio’r canllawiau ar gyfraddau disgowntio ar gyfer cyfrifo cyfraddau cyfraniadau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus nas ariennir a oedd yn bodoli ar 31 Mawrth 2023. Cyhoeddodd Trysorlys EF ganllawiau wedi’u diweddaru ar 27 Ebrill 2023; defnyddir y canllawiau hyn wrth gyfrifo ffigurau CETV ar gyfer 2023-24.
Darperir buddiannau pensiwn drwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. O 1 Ebrill 2015 cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd ar gyfer gweision sifil – Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill neu alpha, sy’n rhoi buddiannau ar sail cyfartaledd gyrfa gydag oedran pensiwn arferol sy’n cyfateb i Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yr aelod (neu 65 os yw’n uwch).
O’r dyddiad hwnnw ymunodd bron bob gwas sifil newydd ei benodi a’r rhan fwyaf o’r rhai a oedd eisoes yn weision sifil ag alpha. Cyn y dyddiad hwnnw, bu gweision sifil yn rhan o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS). Mae gan y cynllun bedair adran: tair yn rhoi buddiannau ar sail cyflog terfynol (classic, premium neu classic plus) gydag oedran pensiwn arferol o 60 oed; ac un yn rhoi buddiannau ar sail gyrfa gyfan (nuvos) gydag oedran pensiwn arferol o 65 oed.
Ni chaiff y trefniadau statudol hyn eu hariannu a chaiff costau’r buddiannau eu talu gan arian a bleidleisir gan y Senedd bob blwyddyn. Caiff pensiynau sy’n daladwy o dan y cynlluniau classic, premium, classic plus, nuvos ac alpha eu cynyddu’n flynyddol yn unol â deddfwriaeth y Cynnydd mewn Pensiynau. Arhosodd unigolion a oedd eisoes yn aelodau o’r PCSPS a oedd o fewn 10 mlynedd i’w hoedran pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 yn y PCSPS ar ôl 1 Ebrill 2015. Bydd y rhai sydd rhwng 10 mlynedd a 13 mlynedd a 5 mis i’w hoedran pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 yn newid i alpha rywbryd rhwng 1 Mehefin 2015 ac 1 Chwefror 2022.
Am fod y Llywodraeth yn bwriadu dileu gwahaniaethu a nodir gan y llysoedd yn y ffordd y cafodd diwygiadau pensiwn 2015 eu cyflwyno i rai aelodau, disgwyl y gall aelodau cymwys â chyfnod perthnasol o wasanaeth rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022 fod â hawl i gael buddiannau pensiwn gwahanol mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw maes o law (a gall hyn effeithio ar y Gwerthoedd sy’n Gyfwerth ag Arian Parod a welir yn yr adroddiad hwn - gweler isod). Mae buddiannau PCSPS pob aelod sy’n newid i alpha wedi’u ‘bancio’, gyda’r rhai sydd â buddiannau cynharach yn un o adrannau cyflog terfynol y PCSPS yn cael eu buddiannau yn seiliedig ar eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael alpha. (Mae’r ffigurau pensiwn a ddyfynnwyd ar gyfer swyddogion yn dangos bod pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha yn briodol.
Pan fydd gan y swyddog fuddiannau yn y PCSPS ac alpha, y ffigur a ddyfynnwyd yw gwerth cyfun ei fuddiannau yn y ddau gynllun.) Gall aelodau a ymunodd o fis Hydref 2002 ddewis naill ai’r trefniant buddiannau diffiniedig priodol neu gyfraniad diffiniedig (prynu arian) sy’n cynnwys cyfraniad gan y cyflogwr (cyfrif pensiwn partneriaeth).
Mae cyfraniadau cyflogeion yn gysylltiedig â’u cyflog ac yn amrywio rhwng 4.6% ac 8.05% i aelodau classic,premium, classic plus, nuvos ac alpha. Mae buddiannau classic yn cronni ar gyfradd o 1/80fed o enillion pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth. Yn ogystal, telir cyfandaliad sy’n gyfwerth â thair blynedd o bensiwn cychwynnol adeg ymddeol. Mae buddiannau’n cronni ar gyfradd o 1/60ain o enillion pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth ar gyfer premium. Yn wahanol i’r cynllun classic, ni cheir unrhyw gyfandaliad awtomatig. Yn ei hanfod, mae’r cynllun classic plus yn gynllun hybrid â buddiannau mewn perthynas â gwasanaeth cyn 1 Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo’n fras fel y cynllun classic a buddiannau mewn perthynas â gwasanaeth o fis Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo fel y cynllun premium. Bydd aelod o gynllun nuvos yn cronni pensiwn yn seiliedig ar ei enillion pensiynadwy yn ystod y cyfnod y mae’n aelod o’r cynllun. Ar ddiwedd blwyddyn y cynllun (31 Mawrth) credydir cyfrif pensiwn a enillwyd yr aelod â 2.3% o’i enillion pensiynadwy yn y flwyddyn honno a chaiff y pensiwn cronedig ei uwchraddio yn unol â deddfwriaeth y Cynnydd mewn Pensiynau. Mae buddiannau yn y cynllun alpha yn cronni mewn ffordd debyg i nuvos, ac eithrio’r ffaith y ceir cyfradd gronni o 2.32%. Ym mhob achos, gall aelodau ddewis rhoi rhan o’u pensiwn heibio (gohirio) i ddarparu cyfandaliad hyd at y terfynau a bennir gan Ddeddf Cyllid 2004.
Mae’r cyfrif pensiwn partneriaeth yn drefniant pensiwn cyfraniadau diffiniedig galwedigaethol sy’n rhan o gynllun Mastertrust Legal & General. Mae’r cyflogwr yn talu cyfraniad sylfaenol rhwng 8% a 14.75% (yn dibynnu ar oedran yr aelod). Nid oes angen i’r cyflogai gyfrannu ond os bydd yn gwneud cyfraniadau, telir cyfraniad cyfatebol gan y cyflogwr hyd at derfyn o 3% o gyflog pensiynadwy (yn ychwanegol at gyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr yn cyfrannu 0.5% pellach o gyflog pensiynadwy hefyd i gwmpasu cost yswiriant buddiant risg a ddarperir yn ganolog (marwolaeth mewn swydd ac ymddeoliad oherwydd salwch).
Y pensiwn cronedig a nodir yw’r pensiwn y mae gan yr aelod hawl i’w gael pan fydd yn cyrraedd oedran pensiwn, neu’n syth ar ôl iddo orffen bod yn aelod gweithredol o’r cynllun os yw eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn neu’n hŷn na hynny. Chwe deg oed yw’r oedran pensiwn ar gyfer aelodau classic, premium a classic plus, 65 oed ar gyfer aelodau nuvos, a 65 neu Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, p’un bynnag sydd uchaf, i aelodau alpha. (Mae’r ffigurau pensiwn a ddyfynnwyd ar gyfer swyddogion yn dangos bod pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha yn briodol. Lle mae gan y swyddog fuddiannau yn y PCSPS ac alpha, y ffigur a ddyfynnwyd yw gwerth cyfun eu buddiannau yn y ddau gynllun ond noder y gall rhan o’r pensiwn hwnnw fod yn daladwy o wahanol oedrannau.)
Ceir rhagor o fanylion am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar y wefan
www.civilservicepensionscheme.org.uk
Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd mewn CETV a ariennir gan y cyflogwr. Nid yw’n cynnwys y cynnydd mewn pensiwn cronedig oherwydd chwyddiant na chyfraniadau a dalwyd gan y cyflogai (yn cynnwys gwerth unrhyw fuddiannau a drosglwyddwyd o gynllun pensiwn neu drefniant arall) ac mae’n defnyddio ffactorau cyffredin prisio’r farchnad ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.
Ni chafodd yr un aelod o’r Pwyllgor Gweithredol iawndal am golli swydd yn ystod 2022-23
(2021-22: dim).
Gwerth Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian Parod (CETV) yw’r gwerth wedi’i gyfalafu a aseswyd yn actiwaraidd o fuddiannau’r cynllun pensiwn sydd wedi’u cronni gan aelod ar adeg benodol. Y buddiannau a gaiff eu prisio yw buddiannau cronedig yr aelod ac unrhyw bensiwn amodol priod sy’n daladwy o’r cynllun. Mae CETV yn daliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn er mwyn diogelu buddiannau pensiwn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn penderfynu trosglwyddo’r buddiannau a gronnwyd yn ei hen gynllun. Mae’r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â’r buddiannau a gronnwyd gan yr unigolyn o ganlyniad i’w aelodaeth lawn o’r cynllun pensiwn, nid dim ond ei wasanaeth mewn swydd ar lefel uwch y mae datgeliad yn gymwys iddo.
Mae’r ffigurau yn cynnwys gwerth unrhyw fuddiant pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae’r aelod wedi’i drosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddiant pensiwn ychwanegol sydd wedi’i gronni i’r aelod o ganlyniad i brynu buddiannau pensiwn ychwanegol ar ei draul ei hun. Cyfrifir CETVs yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) 2008 ac nid ydynt yn ystyried unrhyw leihad gwirioneddol neu bosibl mewn buddiannau sy’n deillio o Dreth Lwfans Oes a all fod yn ddyledus pan fydd buddiannau pensiwn yn cael eu codi.
Roedd nifer y staff cyfwerth â llawn amser a gyflogwyd yn ystod y flwyddyn fel a ganlyn:
Roedd 60 o bobl sy’n gyfwerth ag amser cyfan ar gyfartaledd ar radd SCS yn ystod y flwyddyn. O’r rhain roedd 49 ym mand cyflog 1, 10 ym mand cyflog 2, ac 1 ym mand cyflog 3.
Cynlluniau buddiannau diffiniedig aml-gyflogwr heb eu hariannu yw Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) a Chynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill (CSOPS) – a elwir yn “alpha”, ond ni all Ofgem nodi ei chyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sylfaenol.
Prisiodd actiwari’r cynllun gynllun PCSPS ar 31 Mawrth 2016. Rhoddir manylion yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa’r Cabinet: Pensiwn Sifil.
Ar gyfer 2022-23, roedd cyfraniadau cyflogwyr gwerth £17,404,994 yn daladwy i’r PCSPS (2021-22: £14,375,547) ar un o’r pedair cyfradd yn yr amrediad 26.6% i 30.3% o enillion pensiynadwy, yn seiliedig ar fandiau cyflog.
Mae Actiwari’r Cynllun yn adolygu cyfraniadau’r cyflogwr bob pedair blynedd fel arfer yn dilyn prisiad llawn o’r cynllun. Pennir y cyfraddau cyfrannu i dalu cost y buddiannau sy’n cronni yn ystod 2022-23 a delir pan fydd yr aelod yn ymddeol ac nid y buddiannau a delir yn ystod y cyfnod hwn i bensiynwyr presennol.
Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, sef pensiwn rhanddeiliaid gyda chyfraniad gan y cyflogwr. Talwyd cyfraniadau cyflogwyr gwerth £218,039 (2021/22: £180,587) i un neu ragor o’r panel o dri darparwr pensiwn rhanddeiliaid penodedig. Mae cyfraniadau’r cyflogwr yn gysylltiedig ag oedran ac roeddent yn amrywio o 8% i 14.75%.
Bydd cyflogwyr hefyd yn talu cyfraniad sy’n cyfateb i gyfraniad y cyflogai hyd at 3% o gyflog pensiynadwy. Yn ogystal, roedd y cyflogwr yn cyfrannu £8,133 (2021-22: £7,023), 0.5% o gyflog pensiynadwy, i’r PCSPS i dalu cost darparu buddiannau yn y dyfodol ar ffurf cyfandaliad ar farwolaeth mewn gwasanaeth neu ymddeoliad oherwydd salwch y cyflogeion hyn. Y cyfraniadau a oedd yn ddyledus i’r darparwyr pensiwn partneriaeth ar ddyddiad y fantolen oedd £23,050 (2021-22: £21,795). Ni thalwyd unrhyw gyfraniadau ymlaen llaw ar y dyddiad hwnnw (2021-22: dim). Ni wnaeth neb (2021-22: neb) ymddeol yn gynnar oherwydd salwch; ni chronnwyd unrhyw rwymedigaethau pensiwn ychwanegol yn ystod y flwyddyn (2021-22: dim).
Ein gwariant ar wasanaethau ymgynghori eraill yn 2022-23 oedd £29.6 miliwn, yn unol â nodyn 3 o’r cyfrifon (2021-22: £23.4 miliwn; 2019-20: £18.7 miliwn). Rydym yn ceisio lleihau ein dibyniaeth ar gymorth allanol drwy gynnal ymgyrchoedd recriwtio wedi’u targedu ar gyfer y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni ein strategaeth. Rydym yn parhau i ddefnyddio cymorth gwasanaethau proffesiynol i gael gafael ar arbenigwyr sy’n rhoi cyngor proffesiynol neu gyfreithiol mewn perthynas â chyflawni ein portffolio o waith, yn ogystal â’r rhai sy’n rhoi cymorth cyflawni arbenigol lle nad yw’n ddarbodus cynnal yr arbenigedd hwn yn fewnol.
Penodiadau gweithwyr nad ydynt ar y gyflogres am dâl uchel ar 31 Mawrth 2023, yn ennill £245 (nodyn 1) y dydd neu fwy:
Yr holl weithwyr nad ydynt ar y gyflogres a benodwyd am dâl uchel ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, yn ennill £245 y dydd neu fwy:
Ar gyfer unrhyw benodiadau aelodau’r bwrdd nad ydynt ar y gyflogres, a/neu uwch swyddogion â chyfrifoldeb ariannol sylweddol, rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023:
Nodyn 1: Mae’r trothwy £245 wedi’i bennu i fod yn agos at bwynt isaf y raddfa gyflog ar gyfer Uwch Was Sifil.
Nodyn 2: Bydd gweithiwr sy’n darparu ei wasanaethau drwy ei gwmni cyfyngedig ei hun neu fath arall o gyfryngwr i’r cleient yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth ar gyfer gweithwyr nad ydynt ar y gyflogres a bydd rhaid i’r endid gynnal asesiad er mwyn darganfod p’un a yw’r gweithiwr hwnnw o fewn cwmpas deddfwriaeth cyfryngwyr (IR35) neu y tu allan i’r cwmpas at ddibenion treth.
Nodyn 3: Roedd yr ymgyrchoedd recriwtio i benodi Cyfarwyddwr Gwasanaethau
Corfforaethol a Chyfarwyddwr Trawsnewid sydd â’r sgiliau a’r profiad
angenrheidiol yn aflwyddiannus. Daeth asesiad gwerth am arian i’r casgliad
y byddai penodi contractwr arbenigol i gyflawni’r ddwy rôl yn sicrhau
arbedion hirdymor ac yn galluogi Ofgem i gynnal rhaglen drawsnewid
hollbwysig ac uchelgeisiol. Roedd y contract yn weithredol rhwng 1 Ebrill
2021 a 31 Gorffennaf 2022.
Daeth Rheoliadau’r Undebau Llafur (Gofynion Cyhoeddi Amser Cyfleuster) 2017 i rym ar 1 Ebrill 2017. Mae’r rheoliadau hyn yn gosod gofyniad deddfwriaethol ar gyflogwyr perthnasol yn y sector cyhoeddus i gasglu a chyhoeddi amrywiaeth o ddata ar gyfanswm a chost amser cyfleuster o fewn eu sefydliad yn flynyddol.
Swyddogion undeb perthnasol
Cyfanswm nifer y cyflogeion a oedd yn swyddogion undeb perthnasol rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023:
Canran yr amser a dreuliwyd ar amser cyfleuster
Ar gyfer cyflogeion a oedd yn swyddogion undeb perthnasol a gyflogwyd rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, canran eu horiau gwaith a dreuliwyd ar amser cyfleuster:
Canran y bil cyflogau a wariwyd ar amser cyfleuster
Ar gyfer cyflogeion a oedd yn swyddogion undeb perthnasol a gyflogwyd rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, canran y bil cyflogau a wariwyd ar amser cyfleuster:
Gweithgareddau undeb llafur â thâl
Ar gyfer cyflogeion a oedd yn swyddogion undeb perthnasol a gyflogwyd rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, canran yr amser a dreuliwyd ar weithgareddau undeb llafur.
Talwyd costau dileu swyddi a chostau ymadael eraill yn unol â darpariaethau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil (CSCS), cynllun statudol a wnaed o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Mae’r tabl uchod yn dangos cyfanswm cost y pecynnau ymadael y cytunwyd arnynt ac a gyfrifwyd yn 2022-23 (rhoddir ffigurau cymharol ar gyfer 2021-22 hefyd).
Lle mae’r adran wedi cytuno ar ymddeoliadau cynnar, telir y costau ychwanegol gan yr adran yn hytrach na chynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Caiff costau ymddeol oherwydd salwch eu talu gan y cynllun pensiwn ac nid ydynt wedi’u cynnwys yn y tabl.
Eleni, cafodd ein harolwg ymgysylltu â staff gyfradd ymateb o 92%, a mynegai ymgysylltu o 58%, sef gostyngiad o un pwynt canrannol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae ein staff yn parhau i nodi bod eu rolau yn ddiddorol (88%), gan gredu bod eu gwaith yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad personol iddynt (76%) a’u bod yn cael eu herio’n ddigonol gan eu gwaith (80%).
Mewn ymateb i’r Arolwg Pobl, mae is-grŵp o gydweithwyr o bob rhan o’r sefydliad wedi’i greu er mwyn ystyried meysydd allweddol â blaenoriaeth a mynd i’r afael â nhw. Caiff y gwaith hwn ei ymgorffori yn Ofgem gydag arolygon ‘pwls’ rheolaidd o gyflogeion yn cael eu cynnal er mwyn asesu ei effaith a’i effeithiolrwydd, gan alluogi ymyriadau mwy amserol lle y bo’n berthnasol.
Rydym yn recriwtio staff ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored, yn unol ag egwyddorion recriwtio’r Gwasanaeth Sifil a lywodraethir gan Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil.
Mae hyn yn sicrhau cystadleuaeth deg ac agored, heb ystyried:
Caiff yr holl weithgarwch recriwtio ei archwilio gan Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r canllawiau a nodir yn yr egwyddorion recriwtio .Mae Ofgem yn falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Rydym yn croesawu amrywiaeth ac rydym yn ymrwymedig i greu amgylchedd cynhwysol i bob cyflogai. Penderfynir ar yr holl gyflogaeth ar sail cystadleuaeth agored a theg, teilyngdod ac angen busnes. Fel rhan o’r broses recriwtio, mae Ofgem yn cynnal Cynllun Hyderus o ran Anabledd i ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf dethol gofynnol. Mae swyddi gwag hefyd yn rhan o fenter ‘Gweithle Gwych i Gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog’ y Gwasanaeth Sifil.
Rydym wir yn gwerthfawrogi ein pobl. Mae rhoi cyfleoedd iddynt ddysgu sgiliau newydd a datblygu eu gyrfaoedd yn ein helpu i’w cadw a denu pobl newydd. Mae ein proses o ddyrannu’r gyllideb yn darparu swm fesul cyflogai ar gyfer gweithgarwch dysgu a datblygu.
Yn ddiweddar, rydym wedi lansio strategaeth Dysgu a Datblygu Sefydliadol gyda’r nod o sicrhau newid sylfaenol yn null gweithredu Ofgem ar gyfer dysgu a datblygu sefydliadol drwy greu, gweithredu, cyflawni a gwreiddio Strategaeth Dysgu a Datblygu Sefydliadol sy’n gyson ag uchelgais a chanlyniadau Trawsnewid Ofgem. Bydd hyn yn sicrhau bod gan ein harweinwyr a’n rheolwyr y sgiliau, y gallu a’r hyder i ddatblygu timau sy’n perfformio i safon uchel ac sy’n cyflawni’n gyflym, a bod gan ein pobl y sgiliau, y gallu a’r hyder i gyflawni nodau strategol Ofgem.
Rydym yn mynd ati i gefnogi cyflogeion sy’n rhoi o’u hamser neu eu harian eu hunain i helpu elusennau, neu weithgareddau cymunedol neu wirfoddol eraill. Er enghraifft, efallai y byddem yn rhoi amser i ffwrdd i rywun sy’n gweithredu fel llywodraethwr ysgol, ynad heddwch, aelod o banel tribiwnlys cyflogaeth, neu rywun sy’n gwirfoddoli’n rheolaidd. Rydym yn parhau i weithio gyda Career Ready ac mae aelodau o’n staff yn rhoi cymorth ac arweiniad un i un i bobl ifanc 16-19 oed drwy gynllun mentora.
Yn Llundain, rydym wedi parhau i ddatblygu ein gwaith ymgysylltu â’r gymuned drwy Ganolfan Bromley-by-Bow (BBC). Elusen leol yw BBC sy’n rhoi cymorth cymunedol a chyfleoedd i ddysgu a gwella llesiant i drigolion Tower Hamlets.
Yn ein rôl ddeuol fel cyflogwr a rheoleiddiwr, rydym yn ymrwymedig i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ymhlith ein gweithlu, yn y ffordd rydym yn gweithio ac yn y diwydiant rydym yn ei reoleiddio.
Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gwaith: wrth recriwtio ac mewn cyflogaeth, hyfforddiant a datblygu gyrfa. Ni ddylai neb wynebu gwahaniaethu oherwydd oedran, anabledd, ailbennu rhyw, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Nid ydym yn goddef gwahaniaethu, bwlio nac aflonyddu. Yn arolwg ymgysylltu â staff 2021 cawsom sgôr o 79% ar gyfer cynhwysiant a thriniaeth deg. Yn 2022-23, gwnaethom ddiweddaru ein Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac mae canolbwyntio ar greu gweithlu amrywiol a chynhwysol a diwylliant cynhwysol wedi bod yn un o flaenoriaethau allweddol y broses hon. Rydym wedi dechrau defnyddio prosesau recriwtio dienw a phaneli cyfweld amrywiol.
Rydym wedi lansio cynllun symudedd cymdeithasol cynhwysfawr ac wedi parhau â rhaglen mentora a hyfforddi o chwith i fenywod a chydweithwyr DU ac Ethnig lleiafrifol.
Yn 2022, mae ein sgôr ar gyfer cynhwysiant a thriniaeth deg wedi cynyddu i 83%.
Rydym wedi gwneud cynnydd da tuag at gyrraedd ein targedau uchelgeisiol o sicrhau gweithlu cytbwys o ran y rhywiau, a chynyddu cynrychiolaeth pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig. Rydym hefyd wedi cyflwyno targed uchelgeisiol newydd i gynyddu cynrychiolaeth pobl ar anabledd ar lefelau uwch.
Hefyd, mae Ofgem wedi parhau i gefnogi ein rhwydweithiau amrywiaeth sy’n cwmpasu menywod, LHDT+, ethnigrwydd, anabledd, iechyd meddwl a gofalwyr.
Yn 2022-23, parhawyd i ddarparu hyfforddiant ar amrywiaeth a chynhwysiant i staff. Mae hyn yn rhan o’n hymrwymiad i sicrhau bod ein staff yn deall ac yn cyflawni eu rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb ym mhopeth a wnânt. Ar 31 Mawrth 2023:
Mae ein datganiad polisi am gyfle cyfartal ar gael i bob cyflogai.
Gellir gweld data ar fwlch cyflog Ofgem rhwng y rhywiau yn: https://www.ofgem.gov.uk/sites/default/files/2022-10/DI%20Dashboard%20accessible_0.pdf
Roedd Amrywiaeth a Chynhwysiant yn agwedd allweddol ar ein gwaith ymgysylltu y flwyddyn hon.
Gwnaethom barhau â’n partneriaeth â Phrosiect Cydraddoldeb y BBC, 50/50, gan fonitro a sicrhau cydraddoldeb o ran cynrychiolaeth ar draws ein cynnwys a’n gwaith ymgysylltu a chyrraedd ein targed 50:50 erbyn Ch4.
Ym mis Mehefin 2022, roedd yn bleser gennym weithio mewn partneriaeth ag Energy UK, Cymdeithas y Rhwydweithiau Ynni a’r Sefydliad Ynni i gynnal yr ail gynhadledd flynyddol ar Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant, a arweiniodd at greu menter ar draws y diwydiant i wella cynhwysiant ac amrywiaeth ym mhob rhan o’r sector ynni, sef ‘Mynd i’r Afael â Chynhwysiant ac Amrywiaeth yn y Sector Ynni (TIDE)’.
Nod y fenter yw cyfuno gwybodaeth a thystiolaeth draws-sector am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant er mwyn llywio canlyniadau cadarn, gan adeiladu ar brofiad ac arbenigedd er mwyn rhannu arferion gofalu a chefnogi newidiadau ym mhob rhan o’r diwydiant.
Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb cyfreithiol am iechyd, diogelwch a lles ein cyflogeion o ddifrif. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n gweithio gyda ni neu i ni, ac unrhyw un arall sy’n defnyddio ein safleoedd. Ein nod yw atal unrhyw ddamwain sy’n cynnwys anaf personol, salwch neu niwed.
Rydym yn cydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 ac unrhyw ddeddfwriaeth arall. Mae ein datganiad polisi am iechyd a diogelwch yn disgrifio ein cyfrifoldebau a’n nodau yn fanylach. Mae ar gael i bob cyflogai.
Yn ein swyddfeydd yn Commonwealth House a Canary Wharf, rydym wedi llwyddo i ddarparu amgylcheddau gwaith i gefnogi llesiant ein staff. Mae hyn yn cynnwys cynnig amgylcheddau gwaith gwahanol, desgiau eistedd/sefyll ac offer arbenigol eraill.
Yn 2022-23, collwyd 4.2 diwrnod y flwyddyn fesul cyflogai ar gyfartaledd (2021-22: 3.1 diwrnod). Mae hyn yn cymharu’n ffafriol â chyfartaledd y sector cyhoeddus sef 6.1 diwrnod y flwyddyn fesul cyflogai.
Yn 2022-23, trosiant staff oedd 24% (2021-22: 26%).
Jonathan Brearley
Prif Swyddog Gweithredol
6 Gorffennaf 2023
Yn ogystal â’r prif ddatganiadau a baratowyd o dan IFRS, mae Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth yn ei gwneud yn ofynnol i’r adran baratoi Datganiad ynghylch Alldro yn erbyn y Cyflenwad Seneddol (SoPS) a nodiadau ategol.
Mae’r Datganiad ynghylch y Cyflenwad Seneddol a’r nodiadau cysylltiedig yn cael eu harchwilio, fel y nodwyd yn Nhystysgrif ac Adroddiad Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol Tŷ’r Cyffredin.
Mae’r Datganiad ynghylch y Cyflenwad Seneddol yn ddatganiad atebolrwydd allweddol sy’n dangos, yn fanwl, sut mae endid wedi gwario yn erbyn eu Hamcangyfrif o Gyflenwad. Cyflenwad yw’r ddarpariaeth ariannol (at ddibenion adnoddau a chyfalaf) ac arian parod (a ddaw o’r Gronfa Gyfunol yn bennaf), y mae Senedd y DU yn rhoi awdurdod statudol i endidau ei defnyddio. Mae’r Amcangyfrif yn manylu ar y cyflenwad ac mae Senedd y DU yn ei gymeradwyo drwy bleidlais ar ddechrau’r flwyddyn ariannol.
Os bydd endid yn mynd dros y terfynau a bennir gan eu Hamcangyfrif o Gyflenwad, a elwir yn derfynau rheoli, bydd barn amodol yn cael ei rhoi ar eu cyfrifon.
Mae fformat y Datganiad ynghylch y Cyflenwad Seneddol yn adlewyrchu’r Amcangyfrifon o’r Cyflenwad, a gyhoeddir ar gov.uk, er mwyn ei gwneud yn bosibl cymharu’r hyn y mae Senedd y DU yn ei gymeradwyo a’r alldro terfynol.
Mae’r Datganiad ynghylch y Cyflenwad Seneddol yn cynnwys tabl cryno, sy’n manylu ar berfformiad yn erbyn y terfynau rheoli y mae Senedd y DU wedi’u cymeradwyo drwy bleidlais, arian parod a wariwyd (llunnir cyllidebau ar sail croniadau ac felly ni fyddai alldro yn cyfateb yn union i’r arian parod a wariwyd) a gweinyddiaeth.
Mae’r nodiadau ategol yn manylu ar y canlynol: Alldro fesul llinell o’r Amcangyfrif, sy’n rhoi dadansoddiad manylach (nodyn 1); cysoni alldro â gwariant gweithredu net yn y SOCNE, i gysylltu’r Datganiad ynghylch y Cyflenwad Seneddol â’r datganiadau ariannol (nodyn 2); cysoni alldro â’r gofyniad arian parod net (nodyn 3); a, dadansoddiad o’r incwm sy’n daladwy at y Gronfa Gyfunol (nodyn 4).
Mae’r Datganiad ynghylch y Cyflenwad Seneddol yn cyflwyno darlun manwl o berfformiad ariannol, ar ffurf y bydd Senedd y DU yn ei chymeradwyo drwy bleidlais. Mae’r adolygiad ariannol, yn yr Adroddiad ar Atebolrwydd, yn cynnwys trafodaeth gryno ar alldro yn erbyn yr amcangyfrif ac mae’n gweithredu fel cyflwyniad i ddatgeliadau’r Datganiad ynghylch y Cyflenwad Seneddol.
Mae rhagor o wybodaeth am y Fframwaith Gwariant Cyhoeddus a’r rhesymau pam mae rheolau cyllidebu’n wahanol i IFRS hefyd i’w gweld ym mhennod 1 y Canllawiau Cyllidebu Cyfunol, sydd ar gael ar gov.uk.”
Tablau cryno – yn adlewyrchu rhan 1 o’r Amcangyfrifon
Tabl cryno, 2022-23, pob ffigur wedi’i gyflwyno mewn £000oedd
Mae’r ffigurau yn y meysydd wedi’u hamlinellu â llinell drwchus yn cwmpasu’r terfynau rheoli a gymeradwywyd drwy bleidlais gan Senedd y DU. Gweler y llawlyfr canllawiau ar Amcangyfrifon o’r Cyflenwad, sydd ar gael ar gov.uk, am fanylion y terfynau rheoli a gymeradwywyd drwy bleidlais gan Senedd y DU.
Gofyniad arian parod net 2022-23, pob ffigur wedi’i gyflwyno mewn £000oedd
Costau gweinyddol 2022-23, pob ffigur wedi’i gyflwyno mewn £000oedd
Er nad yw hwn yn derfyn a gymeradwyir drwy bleidlais ar wahân, bydd unrhyw achos o dorri’r gyllideb weinyddol hefyd yn arwain at bleidlais ar gostau ychwanegol.
Mae gan yr Adran Addasiadau Cyfnod Blaenorol o ganlyniad i gydnabod treth a gwariant priodoledig mewn perthynas ar ardoll y Cyflenwr Pan Fetho Popeth Arall. Mae’n briodol i’r adran geisio awdurdod seneddol ar gyfer y ddarpariaeth y dylid bod wedi’i cheisio’n flaenorol. Yn 2021-22, mae’r cyfryw addasiadau cyfnod blaenorol canlynol wedi’u gwneud, sydd wedi’u cynnwys yn y Cyflenwad a gymeradwywyd drwy bleidlais yn yr Amcangyfrif.
Mae’n briodol i’r adran geisio awdurdod Seneddol ar gyfer addasiadau cyfnod blaenorol sy’n deillio o benderfyniad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i newid dosbarthiad penderfyniadau ynghylch ardoll y Cyflenwr Pan Fetho Popeth Arall. Mae addasiadau cyfnod blaenorol wedi’u cynnwys yn y Datganiad ynghylch Alldro yn erbyn y Cyflenwad Seneddol 2022-23 fel y nodir isod, sydd wedi’u cynnwys yn y Cyflenwad a gymeradwywyd drwy bleidlais yn Amcangyfrif Ofgem.
Mae penderfyniadau a wnaed gan Ofgem ym mis Rhagfyr 2022 ynghylch hawliadau ardoll y Cyflenwr Pan Fetho Popeth wedi’u hadlewyrchu yng Nghyflenwad yr Adran. Roedd £405 miliwn o’r hawliadau a gymeradwywyd ym mis Rhagfyr 2022 yn hawliadau i unioni’r penderfyniad blaenorol a wnaed ym mis Rhagfyr 2021. Mae’r dreth a’r gwariant priodoledig sy’n ymwneud â hawliadau unioni wedi’u cynnwys fel Addasiad Cyfnod Blaenorol i gyllidebau 2021-22 (gydag effaith net o ddim, a ddangosir fel £1,000 symbolaidd er mwyn i’r Senedd bleidleisio’r Addasiad Cyfnod Blaenorol).
Roedd £94 miliwn o’r hawliadau a gymeradwywyd ym mis Rhagfyr 2022 yn hawliadau cychwynnol neu unigol. Mae’r dreth a’r gwariant priodoledig sy’n ymwneud â’r hawliadau cychwynnol ac unigol wedi’u cydnabod yng nghyllidebau 2022-23 (gydag effaith net o ddim). Ni chafodd hyn unrhyw effaith ar y datganiadau ariannol am ei fod yn addasiad cyllidebol (alldro) yn unig.
Caiff hawliadau ardoll y Cyflenwr Pan Fetho Popeth eu dosbarthu’n dreth a gwariant i Ofgem yn y flwyddyn y mae’r penderfyniad yn ymwneud â hi, sy’n golygu y caiff unrhyw addasiadau unioni i hawliadau cychwynnol Rhagfyr 2022 yn y dyfodol eu trin fel Addasiadau Cyfnod Blaenorol.
Alldro Adnoddau 2021-22 (ailddatganwyd) (£000’s)
Cyn eu hailddatgan, Gwariant Gros y Rhaglen oedd £642,000 ac Incwm y Rhaglen oedd £dim. Ceir y tabl cyn iddo gael ei ailddatgan yng nghyfrifon cyhoeddedig 2021-22: https://www.ofgem.gov.uk/publications/ofgem-annual-report-and-accounts-2021-22
Alldro Adnoddau
Mae colofnau cyfanswm yr Amcangyfrif yn cynnwys amrywiannau. Amrywiannau yw ailddyrannu darpariaeth yn yr Amcangyfrifon nad oes angen awdurdod seneddol ar eu cyfer (am nad yw Senedd y DU yn pleidleisio ar lefelau mor fanwl â hynny ac yn dirprwyo i Drysorlys EF). Rhoddir rhagor o wybodaeth am amrywiannau yn y Llawlyfr ar Amcangyfrifon o’r Cyflenwad, sydd ar gael yn gov.uk.
Mae’r golofn alldro v amcangyfrif yn seiliedig ar y cyfanswm, gan gynnwys amrywiannau. Mae cyfanswm yr amcangyfrif cyn amrywiannau wedi’i gynnwys fel y gall defnyddwyr gysylltu’r amcangyfrif â’r Amcangyfrifon a osodwyd gerbron Senedd y DU.
Fel y nodir yn y cyflwyniad i’r SoPS uchod, caiff alldro a’r Amcangyfrifon eu llunio yn erbyn y fframwaith cyllidebu, sy’n debyg i’r Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) ond yn wahanol iddynt. Felly, mae’r cysoniad hwn yn pontio’r alldro adnoddau â’r (incwm)/gwariant gweithredu net, gan gysylltu’r SoPS â’r datganiadau ariannol.
Caiff incwm cyfalaf ei gyllidebu fel cyfalaf DEL ond rhoddir cyfrif amdano fel incwm ar wyneb y SOCNE ac felly mae’n eitem gysoni rhwng cyfanswm yr alldro adnoddau ac incwm gweithredu net.
Cafodd ardoll y Cyflenwr Pan Fetho Popeth ei dosbarthu’n fath o dreth a gwariant priodoledig yn ystod 2022-23 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cydnabyddir hawliadau ardoll y Cyflenwr Pan Fetho Popeth Arall ar ôl y dyddiad dosbarthu mewn cyllidebau. Fodd bynnag, nid oes unrhyw fewnlifau nac all-lifau i Ofgem oherwydd ardoll y Cyflenwr Pan Fetho Popeth Arall. O dan IFRS, nid yw hawliadau ardoll y Cyflenwr Pan Fetho Popeth Arall yn bodloni’r meini prawf cydnabod i gael eu hystyried yn incwm a gwariant i Ofgem ac, felly, ni chydnabyddir yr hawliadau yn Natganiad Ofgem o Wariant Net Cynhwysfawr na’r nodiadau cysylltiedig.
Fel y nodir yn y cyflwyniad i’r SoPS uchod, caiff alldro a’r Amcangyfrifon eu llunio yn erbyn y fframwaith cyllidebu, yn hytrach nag ar sail arian parod. Felly, mae’r cysoniad hwn yn pontio rhwng yr alldro adnoddau a chyfalaf a’r gofyniad arian parod net.
Ni chasglwyd unrhyw incwm o’r gronfa gyfunol gennym yn 2022-23.
Rheoleiddio gwariant
Cymhwyswyd gwariant Ofgem at y dibenion a fwriadwyd gan Senedd y DU.
Taliadau arbennnig
Manylion taliadau arbennig sy’n fwy na £300,000:
Nid oes gan Ofgem ddim i’w nodi mewn perthynas â’r canlynol:
Jonathan Brearley
Prif Swyddog Gweithredol
6 Gorffennaf 2023
Barn ar y datganiadau ariannol
Ardystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Swyddfa’r Marchnadoedd Nwy a Thrydan (Ofgem) am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023 o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000.
Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys y canlynol gan Ofgem
Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth baratoi’r datganiadau ariannol yw’r gyfraith berthnasol a’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd gan y DU.
Yn fy marn i, mae’r datganiadau ariannol:
Barn ar reoleidd-dra
Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol:
Sail y farn
Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r Safonau Archwilio Rhyngwladol (y DU) (ISAs UK), cyfraith berthnasol a Nodyn Ymarfer 10 ‘Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol a Rheoleidd-dra Cyrff y Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig (2022)’. Mae fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny wedi’u disgrifio’n fanylach o dan gyfrifoldebau’r Archwilydd ar gyfer yr archwiliad yn adran datganiadau ariannol fy nhystysgrif.
Mae’r safonau hynny yn ei gwneud yn ofynnol i mi a’m staff gydymffurfio â Safon Foesegol Ddiwygiedig y Cyngor Adrodd Ariannol 2019. Rwy’n annibynnol ar Ofgem yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad o’r datganiadau ariannol yn y DU. Rwyf i a’m staff wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn.
Credaf fod y dystiolaeth archwilio a gafwyd gennyf yn ddigonol ac yn briodol i gynnig sail dros fy marn.
Casgliadau sy’n ymwneud â busnes gweithredol
Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i’r casgliad bod Ofgem yn gwneud defnydd priodol o’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol.
Yn seiliedig ar y gwaith rwyf wedi’i gyflawni, nid wyf wedi nodi unrhyw ansicrwydd perthnasol yn ymwneud â digwyddiadau nac achosion a allai, yn unigol neu ar y cyd, daflu amheuon sylweddol ar allu Ofgem i barhau fel busnes gweithredol am gyfnod o 12 mis o leiaf o ddyddiad awdurdodi’r datganiadau ariannol i’w cyhoeddi.
Disgrifir fy nghyfrifoldebau i a chyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes gweithredol yn adrannau perthnasol y dystysgrif hon.
Mabwysiadir sail gyfrifyddu busnes gweithredol Ofgem wrth ystyried y gofynion a nodir yn Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth Trysorlys EM, sy’n ei gwneud yn ofynnol i endidau fabwysiadu’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol lle y disgwylir y bydd y gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn parhau yn y dyfodol.
Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol, ond nid yw’n cynnwys y datganiadau ariannol na thystysgrif yr archwilydd wedi hynny. Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am y wybodaeth arall.
Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cynnwys y wybodaeth arall ac nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sy’n rhoi sicrwydd ar y wybodaeth honno, ac eithrio i’r graddau a nodir yn benodol fel arall yn fy nhystysgrif.
Fy nghyfrifoldeb i yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried p’un a yw’r wybodaeth arall yn berthnasol anghyson â’r datganiadau ariannol neu’r wybodaeth a gafwyd gennyf yn yr archwiliad neu sy’n ymddangos ei bod wedi’i chamddatgan yn berthnasol fel arall.
Os byddaf yn nodi anghysondebau perthnasol neu gamddatganiadau perthnasol amlwg o’r fath, mae’n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad perthnasol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Yn seiliedig ar y gwaith rwyf wedi’i gyflawni, os dof i gasgliad bod y wybodaeth arall wedi’i chamddatgan yn berthnasol, mae’n ofynnol i mi roi gwybod am hynny.
Nid oes gennyf ddim i’w nodi yn hyn o beth.
Yn fy marn i, mae’r rhan o’r Adroddiad ar Gydnabyddiaeth a Staff i’w harchwilio wedi cael ei pharatoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Trysorlys EM a wnaed o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000.
Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod yr archwiliad:
Yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o Ofgem a’i hamgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi canfod unrhyw gamddatganiadau perthnasol yn yr Adroddiad ar Berfformiad na’r Adroddiad ar Atebolrwydd.
Nid oes gennyf ddim i’w nodi o ran y materion canlynol yr wyf yn cyflwyno adroddiad i chi yn eu cylch os, yn fy marn i:
Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer y datganiadau ariannol
Fel yr eglurwyd yn llawnach yn Natganiad Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am:
Cyfrifoldebau’r Archwilydd ar gyfer yr archwiliad o’r datganiadau ariannol
Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio, ardystio ac adrodd ar y datganiadau ariannol yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000.
Fy nod yw cael sicrwydd rhesymol nad yw’r datganiadau ariannol yn cynnwys unrhyw gamddatganiadau perthnasol, boed o ganlyniad i dwyll neu wall, a chyhoeddi tystysgrif sy’n cynnwys ein barn mewn adroddiad archwilydd. Mae sicrwydd rhesymol yn cynnig lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw’n gwarantu y bydd archwiliad a gynhelir yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol (y DU) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol lle y bydd yn bodoli. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wall ac ystyrir eu bod yn berthnasol os gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu ar y cyd, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wnaed ar sail y datganiadau ariannol hyn.
I ba raddau yr ystyriwyd bod yr archwiliad yn
gallu canfod diffyg cydymffurfiaeth â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twill
Rwy’n llunio gweithdrefnau yn unol â’m cyfrifoldebau, a amlinellir uchod, i ganfod unrhyw gamddatganiadau perthnasol mewn perthynas â diffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll. Nodir isod i ba raddau y mae fy ngweithdrefnau yn gallu canfod diffyg cydymffurfiaeth â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll.
Nodi ac asesu risgiau posibl sy’n gysylltiedig â diffyg cydymffurfiaeth â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twill
Wrth nodi ac asesu risgiau posibl o gamddatganiad perthnasol mewn perthynas â diffyg cydymffurfiaeth â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll, ystyriais y canlynol:
Ganlyniad i’r gweithdrefnau hyn, ystyriais y cyfleoedd a’r cymhellion a all fodoli o fewn Ofgem ar gyfer twyll a nodais fod y potensial mwyaf ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: cydnabod refeniw, cyhoeddi cyfnodolion anarferol, trafodion cymhletthuedd mewn amcangyfrifon rheoli. Yn debyg i bob archwiliad o dan ISAs (y DU), mae hefyd yn ofynnol i mi ddilyn gweithdrefnau penodol i ymateb i’r risg y gall rheolwyr ddiystyru rheolaethau.
Gwnes i hefyd ddeall fframwaith awdurdod Ofgem yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddio eraill y mae Ofgem yn gweithredu yn unol â nhw, gan ganolbwyntio ar y cyfreithiau a’r rheoliadau a gafodd effaith uniongyrchol ar y symiau perthnasol yn y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Ofgem. Ymhlith y cyfreithiau a’r rheoliadau allweddol a ystyriwyd gennyf yn y cyd- destun hwn roedd Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000, Rheoli Arian Cyhoeddus, Deddf Cyflenwi a Dyrannu (Prif Amcangyfrifon) 2022, cyfraith cyflogaeth a deddfwriaeth treth berthnasol.
Ymateb archwilio i’r risgiau a nodwyd
O anlyniad i wneud yr uchod, roedd y gweithdrefnau a roddais ar waith i ymateb i’r risgiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol:
Hefyd, rhannais y cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a nodwyd a’r risgiau posibl o dwyll â holl aelodau’r tîm ymgysylltu, gan barhau i fod yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad.
Gellir gweld disgrifiad pellach o’m cyfrifoldebau am archwilio’r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol yn: www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae’r disgrifiad hwn yn rhan o’m tystysgrif.
Cyfrifoldebau eraill yr archwilydd
Mae hefyd yn ofynnol i mi gael tystiolaeth briodol sy’n ddigonol i roi sicrwydd rhesymol bod y Datganiad ynghylch Alldro yn erbyn y Cyflenwad Seneddol yn cyflwyno’n briodol yr alldro yn erbyn y cyfansymiau rheoli Seneddol a gymeradwywyd drwy bleidlais ac nad aed uwchlaw’r cyfansymiau hynny. Mae’r cyfansymiau rheoli Seneddol a gymeradwywyd drwy bleidlais yn Derfynau Gwariant Adrannol (Adnoddau a Chyfalaf), Gwariant a Reolir yn Flynyddol (Adnoddau a Chyfalaf), (Adnodd) Nad yw’n Gyllidebol a Gofyniad Arian Parod Net.
Mae hefyd yn ofynnol i mi gael tystiolaeth sy’n ddigonol i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol wedi’u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan Senedd y DU a bod y trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.
Rwy’n cyfathrebu’r â’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu mewn perthynas ag, ymhlith materion eraill, y cwmpas a’r amseru a gynlluniwyd ar gyfer yr archwiliad a chanfyddiadau sylweddol o’r archwiliad, gan gynnwys unrhyw ddiffygion sylweddol ym maes rheolaeth fewnol rwyf yn eu canfod yn ystod fy archwiliad.
Adroddiad
Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.
Cyfieithiad Cymraeg
Rwyf wedi ardystio ac adrodd ar y datganiadau ariannol hyn yn eu ffurf wreiddoil. Mae’r fersiwn hon yn gyfieithiad o’r fersiwn Saesneg wreiddiol. Mae Ofgem yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad hyn.
Gareth Davies Y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol
Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol
157-197 Buckingham Palace Road Victoria, Llundain SW1W 9SP
12 Gorffennaf 2023
Mae’r cyfrif hwn yn crynhoi’r gwariant a’r incwm a gynhyrchwyd ac a ddefnyddiwyd ar sail croniadau. Mae hefyd yn cynnwys incwm a gwariant cynhwysfawr arall, sy’n cynnwys newidiadau i werthoedd asedau anghyfredol ac offerynnau ariannol eraill na ellir eu cydnabod fel incwm na gwariant eto.
Mae’r nodiadau ar dudalennau 97 i 114 yn rhan o’r cyfrifon hyn.
Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno sefyllfa ariannol yr adran. Mae iddo dair prif ran: asedau a berchenogir neu a reolir; rhwymedigaethau sy’n ddyledus i gyrff eraill; ac ecwiti, sef gwerth gweddilliol yr endid.
Jonathan Brearley
Prif Swyddog Gweithredol
6 Gorffennaf 2023
Mae’r nodiadau ar dudalennau 97 i 114 yn rhan o’r cyfrifon hyn.
Mae’r Datganiad o Lifau Arian Parod yn dangos y newidiadau mewn arian parod a’r hyn sy’n cyfateb iddo ar gyfer yr adran yn ystod y cyfnod adrodd. Mae’r datganiad yn dangos sut mae’r adran yn cynhyrchu ac yn defnyddio arian parod a’r hyn sy’n cyfateb iddo drwy ddosbarthu llifau arian parod fel gweithgareddau gweithredu, buddsoddi ac ariannu. Mae swm y llif arian parod net sy’n deillio o weithgareddau gweithredu yn ddangosydd allweddol o gostau gwasanaeth a’r graddau y caiff y gweithrediadau hyn eu hariannu drwy incwm gan dderbynyddion gwasanaethau a ddarparwyd gan yr adran. Mae gweithgareddau buddsoddi yn cynrychioli i ba raddau y mae llifau arian parod i mewn ac allan wedi cael eu gwneud ar gyfer adnoddau y bwriedir iddynt gyfrannu at y broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gan yr adran yn y dyfodol.
Mae’r nodiadau ar dudalennau 97 i 114 yn rhan o’r cyfrifon hyn.
Mae’r datganiad hwn yn dangos y symudiad yn ystod y flwyddyn ar y cronfeydd wrth gefn gwahanol a ddelir gan yr adran, wedi’u dadansoddi’n ‘gronfeydd cyffredinol wrth gefn’ (h.y. y cronfeydd wrth gefn hynny sy’n adlewyrchu cyfraniad o’r Gronfa Gyfunol). Mae’r Gronfa Gyffredinol yn cynrychioli cyfanswm asedau adran llai rhwymedigaethau, i’r graddau nad yw’r cyfanswm wedi ei gynrychioli gan gronfeydd wrth gefn nac eitemau ariannu eraill.
Mae’r nodiadau ar dudalennau 97 i 114 yn rhan o’r cyfrifon hyn.
Paratowyd y datganiadau ariannol hyn yn unol â Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF. Mae’r polisïau cyfrifyddu a nodir yn y Llawlyfr Adrodd Ariannol yn cymhwyso Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y’u haddaswyd neu y’u dehonglwyd yng nghyd-destun y sector cyhoeddus. Pan fo’r Llawlyfr yn caniatáu dewis o bolisi cyfrifyddu, mae Ofgem wedi dewis y polisi cyfrifyddu y bernir ei fod yn fwyaf priodol i’r amgylchiadau penodol at ddiben rhoi darlun gwir a theg. Disgrifir y polisïau penodol a fabwysiadwyd gennym isod. Fe’u cymhwyswyd yn gyson wrth ymdrin ag eitemau a ystyrir yn berthnasol i’r cyfrifon.
Yn ogystal â’r prif ddatganiadau a baratowyd o dan IFRS, mae’r Llawlyfr Adrodd Ariannol hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r adran baratoi un prif ddatganiad ychwanegol. Mae’r Datganiad ynghylch Alldro yn erbyn y Cyflenwad Seneddol (SoPS) a’r nodiadau cysylltiedig yn dangos alldro yn erbyn amcangyfrif o ran y gofyniad adnoddau net a’r gofyniad arian parod net, ac maent wedi’u cynnwys yn yr adran ar yr Adroddiad ar Atebolrwydd Seneddol ac Archwiliad sy’n dechrau ar dudalen 81.
Paratowyd y datganiadau hyn ar sail busnes gweithredol o dan y confensiwn cost hanesyddol. Cyflwynir y cyfrifon i’r £’000 agosaf.
Busnes gweithredol
Yn debyg i adrannau eraill y llywodraeth, caiff ein rhwymedigaethau eu hariannu yn y dyfodol drwy grantiau cyflenwi yn y dyfodol a defnyddio incwm yn y dyfodol, y ddau i’w cymeradwyo’n flynyddol gan Senedd y DU. Mae’r symiau sydd eu hangen ar gyfer 2023-24 eisoes wedi’u cymeradwyo ac nid oes unrhyw reswm dros gredu na chaiff symiau yn y dyfodol eu cymeradwyo. Rydym yn disgwyl parhau i ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol. Felly rydym wedi ystyried ei bod yn briodol mabwysiadu sail busnes gweithredol ar gyfer paratoi’r datganiadau ariannol hyn.
Incwm sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gweithgareddau gweithredu Ofgem yw incwm gweithredu. Yn bennaf, mae’n cynnwys ffioedd am drwyddedau a ffioedd a thaliadau a godir am wasanaethau a ddarperir ar sail cost lawn.
Cwmpesir cyn-gyflogeion a chyflogeion presennol gan ddarpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) a Chynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill (CSOPS). Disgrifir y rhain yn yr Adroddiad ar Staff. Mae’r ddau gynllun yn anghyfrannol a heb eu hariannu. Mae adrannau, asiantaethau a chyrff eraill a gwmpesir gan y ddau gynllun yn cyflawni cost pensiynau a ddarperir ar gyfer y staff a gyflogir ganddynt drwy dalu taliadau a gyfrifir ar sail croniadau. Mae rhwymedigaeth i dalu buddiannau yn y dyfodol yn arwystl ar y cynlluniau. Ceir datganiad cynllun ar wahân ar gyfeAr y PCSPS a’r CSOPS yn eu cyfanrwydd.
Mae’n ofynnol i Ofgem dalu cost buddiannau ychwanegol y tu hwnt i fuddiannau arferol y PCSPS i gyflogeion sy’n ymddeol yn gynnar. Darparwyd ar gyfer y gost lawn pan fydd y rhaglen ymddeol yn gynnar wedi’i chyhoeddi a’i bod yn gyfrwymol.
Property, Delir eiddo, offer a chyfarpar ar gost hanesyddol wedi’i dibrisio fel procsi am werth cyfredol, gan fod hyn yn adlewyrchu’r defnydd o’r ased yn realistig Ni fyddai ailbrisiadau yn achosi gwahaniaeth perthnasol.
Darperir dibrisiant ar gyfraddau a gyfrifir i ddileu eiddo, offer a chyfarpar mewn rhandaliadau hafal dros eu hoes ddefnyddiol amcangyfrifedig, ar ôl ystyried gwerth gweddilliol. Mae oes asedau o fewn yr amrediadau canlynol:
Gwelliannau lesddaliadol Oes y brydles
Cyfarpar, dodrefn a ffitiadau swyddfa Pedair blynedd
Cyfarpar TG Tair blynedd
Yr isafswm lefel ar gyfer cyfalafu eiddo, offer a chyfarpar yw £2,000. Caiff cyfarpar TG a dodrefn, lle y gall asedau unigol gostio llai nag £2,000, eu cyfalafu ar sail grŵp.
Caiff asedau anniriaethol sy’n gysylltiedig â meddalwedd bwrpasol a ddatblygwyd gan Ofgem i’w defnyddio i redeg amryw gynlluniau eu cydnabod fel costau hanesyddol a’u hamorteiddio dros oes y cynllun, neu bedair blynedd, pa un bynnag sydd fyrraf.
Wrth iddynt gael eu datblygu, cânt eu dosbarthu fel asedau sy’n cael eu hadeiladau ac ni chânt eu hamorteiddio nes y cânt eu comisiynu. Caiff costau datblygu sy’n uniongyrchol briodoladwy i’r gwaith o ddylunio a phrofi’r feddalwedd bwrpasol eu cyfalafu pan fyddant yn bodloni’r meini prawf a nodir yn IAS 38 Asedau Anniriaethol (fel y’u haddaswyd gan y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol). Caiff gwariant nad yw’n bodloni’r meini prawf ei gydnabod fel gwariant pan eir iddo.
Mae IFRS 16 Prydlesau wedi’i mabwysiadu o 1 Ebrill 2022 (gohiriedig ers 1 Ebrill 2021) i gyrff FReM ac yn disodli IAS 17 Prydlesau. Mae IFRS 16 Prydlesau yn cynnig model cyfrifyddu un prydlesai, sy’n ei gwneud yn ofynnol i brydleseion gydnabod asedau a rhwymedigaethau ar gyfer pob prydles oni fydd tymor y brydles yn para 12 mis neu lai, neu os bydd yr ased sylfaenol yn bodloni meini prawf IFRS 16 i gael ei ddosbarthu’n ased “gwerth isel”. Mae Ofgem wedi pennu gwerth isel i fod yn unol â’r trothwy cyfalafu ar gyfer eiddo, offer a chyfarpar, sef £2,000. Ar gyfer prydlesau sy’n para 12 mis neu lai a phrydlesau asedau gwerth isel, cydnabyddir y taliadau prydles fel traul ar sail llinell syth dros dymor y brydles.
Mae IFRS 16 yn ei gwneud yn ofynnol i asedau a rhwymedigaethau gael eu cydnabod ar werth wedi’i ddisgowntio’r isafswm taliadau prydles. Felly, bydd gweithredu IFRS 16 yn cynyddu gwerth asedau (asedau hawl defnyddio) a rhwymedigaethau (rhwymedigaethau prydles) ar y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol. Mae Ofgem yn defnyddio cyfradd ddisgowntio Trysorlys EF fel y gyfradd fenthyca gynyddrannol wrth gyfrifo’r gwerth wedi’i ddisgowntio (0.95%).
Ar ôl cael eu cydnabod i ddechrau, caiff asedau hawl defnyddio eu dibrisio ar sail llinell syth dros dymor disgwyliedig y brydles a chaiff llog ei gydnabod ar y rhwymedigaethau. O ganlyniad, bydd amseriad cydnabod cyfanswm costau prydlesau yn newid, gan y bydd costau llog yn uwch ar ddechrau prydles. Caiff taliadau prydles eu gwrthbwyso yn erbyn y rhwymedigaethau prydlesau sy’n ddyledus.
Mae IFRS 16 wedi’i rhoi ar waith gan ddefnyddio’r dull dal i fyny cronnus, sy’n golygu nad yw’r ffigurau cymharol ar gyfer 2021-22 yn cael eu hailddatgan a bod yr addasiad i asedau net wedi’i wneud i fod yn weithredol o 1 Ebrill 2022. Mae’r dull hwn wedi’i fandadu gan Drysorlys Ei Mawrhydi. Mae prydlesau perthnasol Ofgem yn gysylltiedig â rhentu eiddo ar gyfer swyddfeydd. Cynyddodd y broses o roi IFRS 16 ar waith asedau £19.0 miliwn a rhwymedigaethau £18.7 miliwn ar 1 Ebrill 2022. Y cyfanswm a godwyd ar y Datganiad o Incwm Cynhwysfawr Net mewn perthynas ag IFRS 16 oedd £2.2 miliwn yn ystod 2022-23.
Mae arian parod a’r hyn sy’n cyfateb iddo yn y datganiad o’r sefyllfa ariannol yn cynnwys arian parod yn y banc ac mewn llaw. At ddiben y datganiad llif arian parod, mae arian parod a’r hyn sy’n cyfateb iddo yn cynnwys arian parod yn unig.
Lle mae gan Ofgem rwymedigaeth gyfreithiol neu ddeongladwy i dalu rhai costau, bydd Ofgem yn darparu ar gyfer hynny ar sail amcangyfrif y rheolwyr o werth, tebygolrwydd ac amseru taliadau yn y dyfodol. Er bod mwy o ansicrwydd ynglŷn ag amcangyfrif yn gysylltiedig â darpariaethau cyfreithiol, bydd rheolwyr yn llunio eu hamcangyfrif gorau yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael.
Pan fo gwerth amser arian yn berthnasol, caiff y ddarpariaeth ei disgowntio i’w gwerth presennol gan ddefnyddio cyfradd ddisgowntio safonol y llywodraeth (sef ar hyn o bryd cyfradd enwol o 4.15% ar gyfer rhwymedigaethau sy’n ymwneud â buddiannau ôl-gyflogaeth a chyfradd enwol o 3.27% ar gyfer darpariaethau cyffredinol byrdymor). Bob blwyddyn mae’r taliadau ariannol yn y datganiad o (incwm)/gwariant net cynhwysfawr yn cynnwys yr addasiadau i amorteiddio disgownt blwyddyn ac ailddatgan rhwymedigaethau i lefelau prisiau presennol.
Dangosir symiau llai treth ar werth (TAW), ac eithrio’r canlynol:
Caiff trafodion mewn arian cyfred tramor eu trosi’n sterling ar y gyfradd gyfnewid gyfredol ar ddyddiad pob trafodyn.
Nid yw Ofgem yn sylweddol agored i risgiau sy’n gysylltiedig â hylifedd, cyfradd llog nac arian cyfred. Oherwydd natur ei gweithgareddau a’r ffordd y caiff Ofgem ei hariannu, ni chaiff ei hamlygu i’r un graddau o risg ariannol ag y mae endidau busnes yn eu hwynebu.
Yn ogystal â rhwymedigaethau digwyddiadol a ddatgelir yn unol ag IAS 37 Darpariaethau, Rhwymedigaethau Digwyddiadol ac Asedau Amodol, cyflwynir adroddiad ar rwymedigaethau digwyddiadol statudol ac anstatudol penodol at ddibenion adrodd ac atebolrwydd seneddol. Digwydd hyn lle cred y rheolwyr ei bod yn annhebygol iawn y caiff budd economaidd ei drosglwyddo, ond lle mae adroddiad ar y rhwymedigaethau wedi cael ei gyflwyno i Senedd y DU yn unol â gofynion Rheoli Arian Cyhoeddus.
Ni chaiff asedau sy’n eiddo i drydydd partïon fel y’u datgelir yn Nodyn 15 (megis arian a ddelir mewn perthynas â’r Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy a chynlluniau Tariff Cyflenwi Trydan) eu cydnabod yn y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol gan nad oes gan Ofgem unrhyw fudd ynddynt.
IFRS 16
Mabwysiadwyd IFRS 16 Prydlesau o 1 Ebrill 2022. Ceir rhagor o fanylion yn nodyn 1.7 Prydlesau.
• IFRS 17
Nid yw’n debygol y caiff IFRS 17 Contractau yswiriant ei mabwysiadu gan y sector cyhoeddus tan 2023 neu ar ôl hynny. Ni ddisgwylir i’r effaith fod yn berthnasol i’r adran.
Mae adroddiadau cylchrannol yn cael eu cyflwyno ar sail gweithgarwch, yn unol ag adroddiadau misol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y sefydliad.
* Ceir rhagor o ddadansoddiad o gostau staff yn yr Adroddiad ar Staff ar dudalen 73
** Nid oedd unrhyw gydnabyddiaeth i archwilwyr am waith nad oedd yn waith archwilio.
* Mae incwm amrywiol yn cynnwys ffioedd ar gyfer ceisiadau am drwydded, a mân eitemau eraill.
Mae’r holl eiddo, offer a chyfarpar yn eiddo i Ofgem.
Asedau meddalwedd gyfrifiadurol bwrpasol a grëwyd yn fewnol i’w defnyddio wrth redeg amryw gynlluniau Ofgem yw’r asedau anniriaethol. Cânt eu dosbarthu i ddechrau fel asedau sy’n cael eu hadeiladau ac ni chânt eu hamorteiddio nes iddynt gael eu defnyddio.
Fel yr esbonnir yn Nodyn 1.7, mabwysiadodd yr adran IFRS 16 ‘Prydlesau’ o 1 Ebrill 2022. Fel sy’n ofynnol gan Lawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth, rydym wedi’i rhoi ar waith gan ddefnyddio’r dull dal i fyny cronnus, heb ailddatgan ffigurau blynyddoedd blaenorol. Mae’r mwyafrif o brydlesau, a oedd yn cael eu trin fel prydlesau gweithredu tan 31 Mawrth 2022, bellach wedi’u cydnabod ar y fantolen fel asedau hawl i ddefnyddio a rhwymedigaethau prydlesau. O ganlyniad, gwnaethom gydnabod asedau hawl i ddefnyddio gwerth £19.0 miliwn a rhwymedigaethau prydlesau gwerth £18.7 miliwn ar ôl mabwysiadu IFRS 16.
Mae contractau prydlesau Ofgem yn cynnwys prydlesau adeiladu gweithredol.
Mae’r tabl isod yn cysoni symiau ymrwymiadau prydlesau.
Ofgem ar 31 Mawrth 2022 i rwymedigaethau prydlesau ar 1 Ebrill 2022 yn union ar ôl mabwysiadu IFRS 16.
Gan fod gofynion arian parod yr adran yn cael eu bodloni drwy’r broses Amcangyfrifon, mae offerynnau ariannol yn chwarae rhan fwy cyfyngedig o ran creu a rheoli risg nag a fyddai’n gymwys i gorff o faint tebyg nad yw yn y sector cyhoeddus. Mae’r mwyafrif o’r offerynnau ariannol yn ymwneud â chontractau ar gyfer eitemau anariannol yn unol â gofynion prynu a defnyddio disgwyliedig yr Adran ac felly fel arfer nid yw’r Adran yn agored i fawr ddim risg o ran credyd, hylifedd na’r farchnad.
Caiff y gwarannau a’r llythyrau credyd a ddisgrifir yn Nodyn 15 eu dal er mwyn rheoli risg yn y broses tendro ar y môr a’r Ardoll Nwy Gwyrdd a gynhelir gan Ofgem ar ran y llywodraeth. Nid yw Ofgem yn agored i risg yn gysylltiedig â’r gwarannau a ddelir ganddi mewn perthynas â’r broses hon.
Yn ogystal â’r arian parod a’r hyn sy’n cyfateb iddo a ddatgelir uchod, mae Ofgem yn dal asedau trydydd parti ar ffurf arian parod a llythyrau credyd sy’n ymwneud â gwarannau datblygwyr tendrau ar y môr, y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy, a chronfeydd y Tariffau Cyflenwi.
Trydan, y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy, y cynlluniau Cymorth Nwy Gwyrdd a’r Cynllun Uwchraddio Boeleri.
Disgrifir y rhain yn nodyn 15.
Y symiau derbyniadwy eraill yw benthyciadau staff sy’n ddyledus, megis y rhai sy’n gysylltiedig â’r cynllun beicio i’r gwaith.
Mae Ofgem yn annog staff i ddefnyddio eu hawl lawn i wyliau bob blwyddyn. Fodd bynnag, gall staff gario hyd at ddeg diwrnod o wyliau nas defnyddiwyd drosodd i’r flwyddyn nesaf. Caiff symiau nas defnyddiwyd ar 31 Mawrth eu cronni o fewn “symiau taladwy eraill”.
Ymddeol yn gynnar
Yr adran sy’n talu costau ychwanegol buddiannau y tu hwnt i fuddiannau arferol PCSPS i gyflogeion, a oedd yn gweithio yn swyddfa Ofgem yng Nghaerlŷr, drwy dalu’r symiau gofynnol yn fisol i’r PCSPS.
Dadfeiliadau
Mae darpariaethau dadfeiliadau yn rhagweld cost adfer eiddo a brydlesir gan yr adran i’w gyflwr fel yr oedd ar ddechrau’r brydles yn y dyfodol.
Cyfreithiol
Roedd nifer o’n penderfyniadau o ran system rheoli prisiau RIIO-2 ar gyfer y sectorau dosbarthu a thrawsyrru nwy yn destun apêl ger bron yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA). Cyhoeddwyd penderfyniad terfynol a gorchymyn ar 1 Tachwedd 2021 ond mae costau yn parhau i gael eu trafod ac nid oes unrhyw setliad costau terfynol y cytunwyd arno o hyd ar 31 Mawrth 2023.
Cododd nifer o risgiau cyfreithiol o ganlyniad i ymateb Ofgem i argyfwng y farchnad nwy yn ystod 2021-22 a 2022-23. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, effeithiau ar y cap ar brisiau a heriau cyfreithiol mewn perthynas i’r broses Cyflenwr Pan Fetho Popeth Arall. Amcangyfrifwyd gwerth y ddarpariaeth yn seiliedig ar yr asesiad gan weithwyr cyfreithiol proffesiynol o’r tebygolrwydd o her a pha mor llwyddiannus y gallai fod. Mae’r amcangyfrif o’r gost yn ystyried ffactorau fel y lefel o gymhlethdod ac amcangyfrif o’r adnoddau y bydd eu hangen i ymateb i her.
O bryd i’w gilydd byddwn yn destun her gyfreithiol ac adolygiad barnwrol o benderfyniadau a wneir yn ystod ein busnes arferol fel rheoleiddiwr y marchnadoedd nwy a thrydan. Gallai dyfarniadau cyfreithiol arwain at atebolrwydd i dalu costau cyfreithiol ond ni ellir mesur y rhain gan y byddai canlyniad yr achos yn anhysbys. Felly, mae cryn ansicrwydd ynglŷn â natur a graddau unrhyw rwymedigaeth ganlyniadol.
Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw rwymedigaethau digwyddiadol y mae’n ofynnol eu datgelu o dan IAS 37.
Yn ystod y flwyddyn, trosglwyddwyd £14.810 miliwn i’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) (2021-22: £12.303 miliwn). roedd £13.892 miliwn o’r swm hwn ar gyfer gwasanaethau eirioli (2021-22: £11.440 miliwn). Trosglwyddwyd y £0.918 miliwn oedd yn weddill ar gyfer gwasanaethau mhetroleg (2021-22: £0.863 miliwn). Caiff yr arian hwn ei gasglu gan Ofgem drwy ffi’r drwydded, ar ran BEIS.
Rydym yn gweinyddu rhaglenni amgylcheddol ar ran BEIS, ac yn secondio staff i’r adran honno. Cyfanswm yr incwm oddi wrth BEIS a gydnabuwyd yn ystod y flwyddyn oedd £39.446 miliwn, yr oedd £9.353 miliwn ohono wedi’i gronni ar 31 Mawrth 2023 (incwm o £27.685 miliwn yn 2021-22 gyda £4.834 miliwn wedi’i gronni ar 31 Mawrth 2022).
Rydym yn gweinyddu Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Gogledd Iwerddon ar ran Adran yr Economi, ac yn gweinyddu Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy Gogledd Iwerddon ar ran Awdurdod Gogledd Iwerddon dros Reoleiddio Cyfleustodau. Cydnabuwyd incwm o £1.459 miliwn yn ystod y flwyddyn oddi wrth Awdurdod Rheoleiddio Cyfleustodau Gogledd Iwerddon (£1.084 miliwn yn 2021-22), a £0.923 miliwn o incwm gan Adran yr Economi (£1.240 miliwn yn 2021-22). Mae’r incwm hwn wedi’i gynnwys yn ffigur y Taliadau a Ailgodir drwy Gynlluniau yn Nodyn 4.
Yn ogystal, rydym wedi ymgymryd â nifer fach o drafodion gydag adrannau eraill o’r llywodraeth a chyrff llywodraeth ganolog.
Nid oes dim un o aelodau’r Awdurdod, staff rheoli allweddol na phartïon cysylltiedig wedi ymgymryd ag unrhyw drafodion perthnasol ag Ofgem yn ystod y flwyddyn a nodir ar dudalen 67.
Ynghyd â’r llywodraeth, rydym wedi sefydlu cyfundrefn reoleiddio trawsyrru ar y môr gystadleuol i benodi perchennog Trawsyrru ar y Môr drwy broses dendro gystadleuol.
Ni sy’n gyfrifol am reoli’r broses dendro gystadleuol y rhoddir trwyddedau trawsyrru ar y môr drwyddi.
Mae rhoi trwyddedau i weithredu asedau trawsyrru ar y môr newydd drwy broses dendro gystadleuol yn golygu y caiff cynhyrchwyr ynni eu partneru â’r chwaraewyr mwyaf effeithlon a chystadleuol yn y farchnad. Dylai hyn arwain at gostau is a safonau gwasanaeth uwch i gynhyrchwyr ynni ac, yn y pen draw, y defnyddwyr.
Rhan o strategaeth rheoli risg Ofgem ar gyfer y broses dendro gystadleuol yw dal sicred at ddibenion adennill costau os na chwblheir proses dendro. Mae’r sicred hwn ar ffurf llythyr credyd neu arian parod. Ar 31 Mawrth 2023 roedd Ofgem yn dal £13.00 miliwn mewn llythyrau credyd a £dim mewn arian parod (31 Mawrth 2022: £10.95 miliwn mewn llythyrau credyd, £dim mewn arian parod).
Mae’r Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy yn un o’r prif ddulliau o gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yn y DU, a gweinyddir y cynllun gan Ofgem. Caeodd y cynllun i ymgeiswyr yn 2017. Ceir rhagor o wybodaeth am y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy yn https://www.ofgem.gov.uk/environmental-programmes/ro/about-ro
Defnyddir sawl cyfrif banc i weinyddu’r cynllun:
Cronfeydd allbrynu - Gall cyflenwyr gyflawni eu rhwymedigaeth ynni adnewyddadwy drwy dalu i mewn i’r gronfa allbrynu. Caiff enillion y gronfa allbrynu eu had-dalu ar sail pro-rata i’r cyflenwyr hynny sy’n cyflawni eu rhwymedigaeth yn llawn.
Taliadau hwyr – Bydd unrhyw daliadau sy’n dod i law ar ôl 31 Awst yn daliadau hwyr. Mae’r rhain yn destun cosb llog ddyddiol flynyddol (5% a chyfradd sylfaenol Banc Lloegr).
Cilyddu – Pan fydd diffyg cyffredinol yn swm y rhwymedigaeth, mae’n ofynnol i gyflenwyr wneud taliad tuag at gilyddu. Caiff cronfeydd cilyddu eu hailddosbarthu i gyflenwyr sy’n cyflawni eu rhwymedigaeth yn llawn.
Roedd cyfanswm o £53.17m o arian parod yn cael ei ddal yn y cyfrifon banc hyn ar 31 Mawrth 2023 (31 Mawrth 2022: £14.84 miliwn). Cydnabuwyd incwm o £5.01 miliwn yn 2022-23 mewn perthynas â chynlluniau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy, yr oedd £0.47 miliwn ohono wedi’i gronni ar 31 Mawrth 2023 (incwm o £6.96 miliwn yn 2021-22 gydag £1.06 miliwn wedi’i gronni ar 31 Mawrth 2022). Mae’r incwm hwn wedi’i gynnwys yn ffigur y Taliadau a Ailgodir drwy Gynlluniau yn Nodyn 4.
Rhaglen gan y llywodraeth yw’r cynllun Tariff Cyflenwi Trydan (FIT), a gyflwynwyd ar 1 Ebrill 2010, gyda’r nod o hyrwyddo’r defnydd o dechnolegau cynhyrchu trydan adnewyddadwy a charbon isel ar raddfa fach.
Mae Ofgem yn gweinyddu’r cynllun ar ran yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), sy’n gyfrifol am bolisi a deddfwriaeth y cynllun Tariff Cyflenwi Trydan, tra bod Cyflenwyr Trydan Trwyddedig (Trwyddedeion FIT) yn gweithredu’r agwedd ar y cynllun sy’n wynebu’r cyhoedd. Os bydd gan ddeiliad tŷ, cymuned neu fusnes osodiad cymwys, telir tariff iddynt am y trydan a gynhyrchir ganddynt a thariff am y trydan a allforir ganddynt yn ôl i’r grid gan eu Trwyddedai FIT.
Mae’r broses lefelu a weithredir gan Ofgem yn ailddosbarthu cost y cynllun ymhlith yr holl Gyflenwyr Trydan. Trwyddedig, yn seiliedig ar eu cyfran o Farchnad Drydan Prydain Fawr ac unrhyw Daliadau FIT a wnaed ganddynt i osodiadau achrededig. Proses chwarterol yw hon, gyda phroses gysoni flynyddol a gwblheir erbyn mis Medi bob blwyddyn. Fel arfer, mae’r balans yn y gronfa lefelu yn werth bach ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol.
Cyfanswm y balansau banc a ddaliwyd mewn perthynas â FIT ar 31 Mawrth 2023 oedd £0.94 miliwn (31 Mawrth 2022: £0.05 miliwn).
Mae’r cynllun RHI domestig yn gymhelliad ariannol gan y llywodraeth i annog newid i systemau gwresogi adnewyddadwy. Mae’n ffordd o helpu’r DU i leihau allyriadau carbon ac mae ar gael i gartrefi oddi ar y grid nwy ac ar y grid nwy. Mae’r cynllun RHI annomestig yn rhaglen amgylcheddol gan y llywodraeth sy’n rhoi cymhellion ariannol i gynyddu’r defnydd o wres adnewyddadwy gan fusnesau, y sector cyhoeddus a sefydliadau nid er elw.
Mae Ofgem yn gweinyddu’r ddau gynllun ar ran BEIS ym Mhrydain Fawr, ac yn gweinyddu’r cynllun RHI annomestig yng Ngogledd. Iwerddon ar ran Adran yr Economi.
Y balansau banc a ddaliwyd mewn perthynas â’r cynlluniau ar 31 Mawrth 2023 oedd: RHI domestig: £5.113 miliwn; RHI annomestig Prydain Fawr: £2.918 miliwn ; RHI annomestig Gogledd Iwerddon: £0.023 miliwn (31 Mawrth 2022: £4.540 miliwn; £9.673 miliwn; £0.021 miliwn).
Cynllun amgylcheddol gan y llywodraeth sy’n cynnig cymhellion ariannol ar gyfer safleoedd biofethan treulio anerobig newydd er mwyn cynyddu cyfran y nwy gwyrdd yn y grid nwy yw’r Cynllun Cymorth Nwy Gwyrdd. Agorwyd y cynllun i gyfranogwyr ar 30 Tachwedd 2021 a bydd ar agor i geisiadau am bedair blynedd. Gwneir taliadau bob chwarter i gyfranogwyr cofrestredig dros gyfnod o 15 mlynedd, ar sail y swm o fiofethan cymwys y bydd cyfranogwr yn ei gyfrannu at y grid nwy.
Yn unol â Rheoliadau Cynllun Cymorth Nwy Gwyrdd 2021, mae’r Ardoll Nwy Gwyrdd yn gosod rhwymedigaethau ar gyflenwyr nwy trwyddedig, gan gynnwys gofyniad i wneud taliadau ardoll bob chwarter i Ofgem er mwyn ariannu’r Cynllun Cymorth Nwy Gwyrdd. Rhaid i gyflenwyr nwy trwyddedig hefyd gynnig yswiriant credyd, naill ai ar ffurf arian parod neu drwy gyflwyno llythyr credyd dilys, er mwyn helpu i sicrhau y caiff yr arian ei gasglu’n brydlon ac er mwyn lleihau’r tebygolrwydd y bydd angen digwyddiadau cilyddu.
Rhaid i’r yswiriant credyd bara o leiaf chwarter a’r pedair wythnos ddilynol. Pan fydd ar waith, gall Ofgem ddefnyddio yswiriant credyd cyflenwyr mewn achosion pan fydd cyflenwr yn peidio â thalu taliad ardoll neu daliad cilyddu cyfan neu ran ohono erbyn y dyddiad dyledus. Caiff yswiriant credyd nas defnyddiwyd ei gyflwyno o hyd, a’i ystyried wrth gadarnhau a fydd angen cyflwyno yswiriant credyd ychwanegol ar gyfer y chwarter canlynol. Yn y dyfodol, caiff unrhyw yswiriant credyd arian parod dros ben a ddelir y tu hwnt i’r lefelau gofynnol ar gyfer pob cyflenwr ei ddychwelyd i’r cyflenwyr ym mis Mawrth fel mater o drefn. Ar 31 Mawrth 2023, roedd Ofgem yn dal £6.125m mewn yswiriant credyd arian parod ac £10.188 miliwn mewn llythyrau credyd (31 Mawrth 2022: £5.958 miliwn mewn llythyrau credyd, £11.171 miliwn mewn arian parod).
BEIS sy’n pennu’r polisi ar gyfer y Cynllun Cymorth Nwy Gwyrdd a’r Ardoll Nwy Gwyrdd gysylltiedig, ond Ofgem sy’n gweinyddu’r cynllun.
Cynllun amgylcheddol gan y Llywodraeth sy’n helpu i ddatgarboneiddio gwres mewn adeiladau yw’r Cynllun Uwchraddio Boeleri. Mae’n rhoi grantiau cyfalaf ymlaen llaw er mwyn helpu i dalu costau gosod pympiau gwres a boeleri biomas mewn cartrefi ac adeiladau annomestig yng Nghymru a Lloegr. Agorwyd y cynllun yn 2022, gyda £450 miliwn o arian grant ar gael tan 2025. Ar 30 Mawrth 2023, cyhoeddodd y llywodraeth y caiff y cynllun ei ymestyn am dair blynedd tan 2028. Ofgem yw gweinyddwr y cynllun, tra bod BEIS yn gyfrifol am bolisi a deddfwriaeth y cynllun a nodir yn Rheoliadau Cynllun Uwchraddio Boeleri (Cymru Lloegr) 2022.
Y balans banc a ddaliwyd mewn perthynas â’r cynllun ar 31 Mawrth 2023 oedd £1.364 miliwn.
Rheolir Ofgem gan yr Awdurdod Marchnadoedd Nwy a Thrydan. Mae’r Awdurdod yn gyfrifol am gymryd camau gorfodi, gan gynnwys rhoi cosbau ariannol, mewn perthynas â’r cwmnïau ynni y mae’n eu rheoleiddio. Casglwn y symiau hyn er mwyn eu talu i’r Gronfa Gyfunol. Mae crynodeb o’r ymchwiliadau a’r camau gorfodi ar gyfer y flwyddyn i’w weld yn Atodiad II.
Cyfanswm y cosbau a osodwyd yn ystod y flwyddyn oedd £70,005 (yr oedd £70,001 ohono yn dderbyniadwy).
Cafodd y broses o gyhoeddi’r datganiadau ariannol hyn ei hawdurdodi’n briodol gan y Swyddog Cyfrifyddu ar ddyddiad tystysgrif archwilio’r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol. Nid yw’r datganiadau ariannol yn adlewyrchu digwyddiadau ar ôl y dyddiad hwn.
* Mae’r cyfnodau penodedig yn amrywio ar gyfer mathau gwahanol o geisiadau ac fe’u cyhoeddir yn y canllawiau ar geisiadau am drwyddedau nwy a trydan. Gall Ofgem ymestyn y cyfnod a ragnodwyd ar gyfer ceisiadau unigol unwaith os bydd cymhlethdod y mater yn cyfiawnhau hynny.
Mae Ofgem yn mabwysiadu dull dim goddefiant o ymdrin â thwyll ar y cynlluniau amgylcheddol a chymdeithasol a weinyddir ganddi ac mae gan Ofgem dîm Atal Twyll pwrpasol i ganfod, atal a rhwystro twyll ar y cynlluniau. Y ffordd fwyaf effeithiol o leihau nifer yr achosion o dwyll ar y cynlluniau yw atal ac, felly, mae Ofgem yn gweithio’n agos gyda llunwyr polisi er mewn asesu risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll a rhoi systemau rheoli cadarn ar waith er mwyn ei gwneud yn fwy anodd byth i dwyllwyr osgoi cael eu dal.
Er mwyn canfod twyll yn fwy effeithiol, mae’r Tîm Atal Twyll yn monitro risgiau a thueddiadau ac yn defnyddio dadansoddeg data, sy’n galluogi’r tîm i dargedu adnoddau at feysydd risg uchel a nodi meysydd newydd sy’n destun pryder cyn gynted â phosibl Mae hyn yn arf ataliol cryf i rwystro twyllwyr eraill yn y meysydd lle rydym yn gweld y nifer mwyaf o achosion o dwyll ar yr adeg honno ac atal problemau sy’n dod i’r amlwg rhag troi’n feysydd risg uchel.
Rydym yn monitro tueddiadau o ran diffyg cydymffurfio a lefel y gwallau mewn cynlluniau cyfrannog drwy ein cynlluniau archwilio. Amcangyfrifir mai gwerth y taliadau a wnaed drwy gamgymeriad yn ystod 2022-23 o dan y Cynllun Uwchraddio Boeleri yw £1.7 miliwn (33% o gyfanswm y taliadau) o fewn cyfyng hyder o £0.8 i £2.5 miliwn. Amcangyfrifir mai gwerth y taliadau a wnaed drwy gamgymeriad yn ystod 2022-23 o dan Gynlluniau Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Prydain Fawr yw £7.2 miliwn 0.7% o gyfanswm y taliadau) o fewn cyfyng hyder o £5.1 miliwn i £9.3 miliwn (2021-22: £10.4 miliwn (1.1% o gyfanswm y taliadau) o fewn cyfyng hyder 95% o £6.2 miliwn i £14.6 miliwn). Caiff hyn ei ddatgelu yn adroddiad blynyddol a chyfrifon 2022-23 BEIS hefyd.
Mae manylion ein hachosion ar gael ar ein gwefan1 yn unol â’n polisi fel y’i nodir yn ein Canllawiau Gorfodi.2 Byddwn fel arfer yn cyhoeddi manylion byr y ffeithiau a natur yr ymchwiliadau ar ein gwefan,3 er bod polisi yn wahanol ar gyfer achosion sy’n gysylltiedig â’r Rheoliad4 ar Uniondeb a Thryloywder y Farchnad Ynni Cyfanwerthu (REMIT)5 a Rheoliadau Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth (NIS). 6 Isod ceir manylion yr ymchwiliadau7 a gwblhawyd gennym eleni. Mewn ymchwiliadau lle rydym wedi sicrhau taliadau unioni, gwnaeth y cwmnïau daliadau naill ai’n uniongyrchol i ddefnyddwyr a/neu i raglenni a chronfeydd a fyddai o fudd i ddefnyddwyr.
1 Compliance and enforcement - Investigations, orders and penalties | Ofgem ; Compliance and enforcement - Compliance and enforcement - REMIT compliance and enforcement | Ofgem
2 The Enforcement Guidelines | Ofgem
3 Nid yw’r ffaith ein bod wedi agor ymchwiliad yn awgrymu bod y cwmnïau dan sylw wedi torri amodau’r drwydded neu rwymedigaethau eraill.
4 Rheoliad 1227/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor Ewropeaidd 25 Hydref 2011
5 Mae ein Canllawiau Gweithdrefnol ar gyfer REMIT ar gael yn: Decision on changes to REMIT Penalties Statement and REMIT Procedural Guidelines | Ofgem
6 NIS Directive and NIS Regulations 2018: Ofgem guidance for Operators of Essential Services | Ofgem
7 Rydym yn defnyddio’r term ymchwiliadau yma i ddisgrifio ymchwiliadau lle rydym wedi defnyddio ein pwerau ffurfiol.
Isod ceir manylion y taliadau unioni a sicrhaodd Ofgem drwy gamau gweithredu amgen neu waith cydymffurfio.
Mae hyn yn rhoi cyfle i gwmni unioni pethau’n gyflym i ddefnyddwyr heb i ni arfer ein pwerau gorfodi statudol.
Yn ogystal â hyn, arweiniodd achosion eraill o ymgysylltu ynghylch cydymffurfio at y canlynol.
Isod ceir yr ymchwiliadau agored fel yr oeddent ar ddiwedd mis Mawrth 2023. Noder, nid yw agor ymchwiliad yn awgrymu ein bod wedi gwneud unrhyw ganfyddiad(au) ynghylch diffyg cydymffurfiaeth. Nid yw Ofgem yn cyhoeddi gwybodaeth am bob ymchwiliad agored, yn arbennig pan fydd Ofgem yn cynnal ymchwiliadau i achosion posibl o fethu â chydymffurfio â gofynion REMIT neu Reoliadau NIS. Fel rheol, nid ydym yn rhoi sylwadau pellach ar yr ymchwiliadau hyn, gan gynnwys pwy rydym yn ymchwilio iddo, oni chredwn fod angen gwneud hynny er budd defnyddwyr neu hyder y farchnad.
Isod ceir manylion y gorchymyn terfynol a wnaed yn ystod y flwyddyn o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023. Rhoesom un gorchymyn terfynol i’r cyflenwr a nodir isod.
Yn ogystal â hyn, rhestrir isod fanylion yr Hysbysiadau o Fwriad i wneud Gorchymyn Terfynol lle na wnaethom Orchymyn Terfynol.
Isod ceir manylion y gorchmynion terfynol a wnaed yn ystod y flwyddyn o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023. Rhoesom 11 o orchmynion dros dro.
Rydym hefyd wedi nodi canlyniad y Gorchymyn Dros Dro a ddaeth i ben yn ystod y cyfnod hwn ond lle y rhoddwyd y Gorchymyn Dros Dro yn ystod y cyfnod adrodd blaenorol ac y daeth i ben yn ystod y cyfnod adrodd hwn.
8 Rhoddwyd y Gorchymyn Dros Dro yn yr achos hwn yn ystod y cyfnod adrodd blaenorol, gyda’r mater yn cael ei gwblhau yn ystod y cyfnod adrodd presennol.
Mae Adran 5(1) o Ddeddf Cyfleustodau 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod gyflwyno adroddiad i’r Ysgrifennydd Gwladol bob blwyddyn ar y canlynol:
Adroddir ar weithgareddau’r Awdurdod yn ystod y flwyddyn drwy gydol yr adroddiad hwn. [Ni wnaeth yr Awdurdod unrhyw gyfeiriadau at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd y mae angen adrodd arnynt]
Mae Adran 5(2) o Ddeddf Cyfleustodau 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod gynnwys y canlynol yn ei adroddiad blynyddol:
Mae Adran 5(2A) o Ddeddf Cyfleustodau 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod gynnwys adroddiad ar y canlynol yn ei adroddiad blynyddol
(a) y ffyrdd y mae’r Awdurdod wedi cyflawni ei ddyletswyddau yn unol ag adran 132(1) a (2) o Ddeddf Ynni 2013 mewn perthynas â datganiad strategaeth a pholisi a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol (i’r graddau yr oedd y dynodiad datganiadau mewn grym am y flwyddyn gyfan neu ran ohoni);
(b) i ba raddau y mae’r Awdurdod wedi gwneud yr hyn a nodir mewn blaenraglen waith neu ddogfennau eraill fel y pethau y cynigiodd yr Awdurdod eu gwneud yn ystod y flwyddyn wrth roi ei strategaeth ar waith ar gyfer datblygu’r gwaith o gyflawni’r canlyniadau polisi yn y datganiad strategaeth a pholisi.
(Nid yw’r Ysgrifennydd Gwladol wedi dynodi datganiad strategaeth a pholisi sy’n gymwys ar gyfer y flwyddyn adrodd hon)
Mae Adran 5(3) o’r Ddeddf Cyfleustodau yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod nodi yn ei adroddiad blynyddol unrhyw gyfarwyddiadau cyffredinol a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag a34(3) o Ddeddf Nwy 1986 neu a47(2) o Ddeddf Trydan 1989.
(Nid yw’r Ysgrifennydd Gwladol wedi gwneud unrhyw gyfarwyddiadau cyffredinol o’r fath).