Cwyno am eich cyflenwr ynni
Gwneud cwyn am eich cyflenwr ynni neu weithredwr rhwydwaith, a dod o hyd i gymorth ychwanegol
Os bydd gennych broblem gyda'ch cyflenwr ynni neu os byddwch yn anfodlon ar y gwasanaeth a gawsoch, mae gennych hawl i gwyno.
Gan ddibynnu ar y broblem, gallwch gwyno naill ai i'ch cyflenwr ynni (y cwmni sy'n darparu eich ynni) neu i'r gweithredwr rhwydwaith (y cwmni sy’n gyfrifol am y pibellau a'r gwifrau sy'n cario trydan a nwy).
Os nad ydych yn siŵr gyda phwy i gysylltu, dilynwch y cyfarwyddiadau ar ein tudalen Canfod eich cyflenwr ynni.
Gwneud cwyn
Os oes gennych broblem gyda'ch cyflenwr ynni neu weithredwr rhwydwaith, cysylltwch â nhw ac esboniwch beth yr hoffech iddynt ei wneud i'w datrys.
Dylai fod ganddynt broses gwyno ffurfiol ar eu gwefan neu ar eich biliau ynni sy'n egluro sut i wneud hyn. Gallant hefyd egluro'r broses gwyno os byddwch yn cysylltu â nhw dros y ffôn.
Os hoffech ysgrifennu atynt neu anfon e-bost atynt, gallwch ddefnyddio templed llythyr cwyno Cyngor ar Bopeth.
Rhaid i gyflenwyr a gweithredwyr rhwydweithiau geisio datrys unrhyw broblemau y gwnaethoch roi gwybod amdanynt o fewn wyth wythnos. Gwnewch nodyn o'r dyddiad y gwnaethoch gysylltu â nhw gyntaf rhag ofn y bydd angen i chi wirio hyn yn ddiweddarach.
Mynd â'ch cwyn i'r Ombwdsmon Ynni
Nod yr Ombwdsmon Ynni yw helpu i ddatrys problemau rhwng cwsmeriaid a chyflenwyr neu rai gweithredwyr rhwydwaith.
Gweler rhestr o'r gweithredwyr rhwydwaith y gall yr Ombwdsmon adolygu anghydfodau gyda nhw ar eu gwefan.
Gallwch gwyno i'r Ombwdsmon Ynni am y canlynol:
- os oes gennych broblem rydych chi wedi rhoi gwybod i'ch cyflenwr neu weithredwr rhwydwaith amdani sydd heb gael ei datrys o fewn wyth wythnos
- os ydych wedi cael “llythyr ddiddatrys”, sy'n nodi na ellir datrys eich problem
- os nad ydych yn fodlon ar yr ymateb a gawsoch
Rhaid i gyflenwyr a gweithredwyr rhwydweithiau gyflawni'r camau a gaiff eu rhestru ym mhenderfyniad yr Ombwdsmon. Gall y camau hyn gynnwys datrys eich problem, egluro'r hyn a ddigwyddodd neu dalu iawndal.
Mae Ofgem yn annibynnol ar yr Ombwdsmon Ynni. Ni allwn gymryd rhan mewn ymchwiliadau na phenderfyniadau a wneir gan yr Ombwdsmon.
Os ydych yn anfodlon ar benderfyniad yr Ombwdsmon, bydd yn rhoi gwybod i chi beth i'w wneud nesaf.
Cymorth gyda'ch cwyn
Os ydych yn byw yng Nghymru neu yn Lloegr, gallwch gysylltu â Cyngor ar Bopeth i gael cyngor rhad ac am ddim a diduedd ar ddatrys problemau gyda'ch cyflenwr ynni.
Os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch gael cyngor a gwybodaeth am ynni ar energyadvice.scot.
Cyngor ar Bopeth Uned Help Ychwanegol
Gall Cyngor ar Bopeth eich cyfeirio at ei Uned Help Ychwanegol os bydd angen cymorth arnoch gyda chwyn gymhleth neu frys.
Gall yr Uned Help Ychwanegol hefyd gynnig cymorth os na allwch ymdrin â'ch cyflenwr ynni oherwydd amgylchiadau personol.
Edrychwch i weld a oes angen cymorth arnoch gan yr Uned Help Ychwanegol.
Cwynion am Ofgem
Fel y rheoleiddiwr ynni annibynnol ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban (Prydain Fawr), nid oes gennym rôl uniongyrchol wrth ymchwilio i gwynion cwsmeriaid neu eu datrys.
Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydym yn gwneud rhywbeth neu os ydych yn credu ein bod wedi gwneud rhywbeth o'i le, gallwch gwyno am Ofgem.