Cysylltu â chyflenwad nwy neu drydan
Sut i gysylltu â'r prif bibellau neu newid cysylltiad.
Bydd angen i chi gysylltu â'r prif bibellau os:
- byddwch yn adeiladu eiddo neu safle busnes newydd
- na fydd gennych nwy neu drydan yn eich eiddo
- byddwch am osod eich dull cynhyrchu eich hun
- bydd angen i chi symud mesurydd ynni
Gweithredwyr rhwydwaith sy'n berchen ar y pibellau nwy a'r ceblau pŵer sy'n cludo ynni i gartrefi a busnesau ac yn eu rhedeg. Mewn rhai achosion, gall darparwyr annibynnol wneud hyn. Er mwyn gosod nwy neu drydan, cysylltwch â'ch gweithredwr rhwydwaith lleol.
Gall peiriannydd nwy neu drydanwr cofrestredig wneud rhywfaint o'r gwaith cysylltu (a elwir yn ‘waith sy'n destun cystadleuaeth’). Gall hyn helpu i leihau costau, felly mae'n werth gofyn am ddyfynbrisiau er mwyn rhannu'r gwaith cysylltu yn gostau gwaith sy'n destun cystadleuaeth a chostau gwaith nad yw'n destun cystadleuaeth. Efallai y bydd angen i weithredwyr rhwydwaith gytuno ar y gwaith hwn neu ei archwilio.
Bydd angen i chi ddewis cyflenwr ynni er mwyn trefnu i fesurydd gael ei osod.
Trefnwch hyn ar yr un pryd ag y byddwch yn trefnu eich cysylltiad â'r gweithredwr rhwydwaith er mwyn osgoi oedi.
Bydd eich cyflenwr ynni hefyd yn eich bilio am eich defnydd.
Deall eich costau cysylltu
Bydd y cwmni rhwydwaith yn rhoi dyfynbris ar gyfer cost y gwaith i gysylltu eich cartref neu fusnes.
Mae'n debygol y bydd angen i chi dalu am y cysylltiad ymlaen llaw.
Bydd eich dyfynbris yn dibynnu ar y canlynol:
- faint o waith y mae'n rhaid iddo ei wneud a faint o amser y bydd yn ei gymryd
- eich lleoliad
- faint o ynni y bydd angen ei gyflenwi i'r eiddo
Caiff costau eu cyfrifo gan ddefnyddio ‘methodoleg codi tâl am gysylltu’. Gallwch weld y fethodoleg hon ar wefan eich gweithredwr rhwydwaith.
Ofgem sy'n cymeradwyo'r fethodoleg. Nid ydym yn cymeradwyo unrhyw daliadau unigol.
Yr hyn y mae'n rhaid i'ch gweithredwr rhwydwaith ei wneud
Mae gan eich gweithredwr rhwydwaith gyfrifoldebau penodol. Mae'n rhaid iddo:
- rhoi telerau i chi ar gyfer cysylltiad ynni o fewn tri mis, gan gynnwys gwybodaeth am y ffordd y mae'n cyfrifo'r tâl cysylltu
- rhoi gwybodaeth dryloyw i chi er mwyn ei gwneud yn hawdd i chi gysylltu â'r prif bibellau a gwybod sut i wneud cwyn os byddwch yn anfodlon ar ei wasanaeth
eich digolledu os na fydd yn cyrraedd safonau perfformiad gwarantedig
Newid cysylltiad nwy neu drydan
Os byddwch am newid cysylltiad â'r prif bibellau, dylech gysylltu â'ch gweithredwr rhwydwaith yn gyntaf.
Os byddwch am symud eich mesurydd ynni, dylech gysylltu â'ch cyflenwr ynni.
Mae'n anghyfreithlon symud eich mesurydd ynni eich hun.
Cael cymorth pellach
Efallai y byddwch yn cael anawsterau gyda gweithredwr rhwydwaith neu na fyddwch yn gallu datrys mater.
Gwnewch gŵyn am weithredwr rhwydwaith yma.
Yng Nghymru a Lloegr, gall Cyngor ar Bopeth gynnig rhagor o gyngor os bydd ei angen arnoch. Cymorth:
- ffoniwch 0808 223 1133
- ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rif y llinell gymorth
- defnyddiwch ei gwe-sgwrs ar-lein
Yn yr Alban, gall Advice Direct Scotland helpu:
- ewch i wefan energyadvice.scot
- ffoniwch 0808 196 8660
- e-bostiwch energyadvice.scot
Gall Ofgem hefyd ddatrys anghydfodau â gweithredwyr rhwydwaith mewn rhai sefyllfaoedd. Gweler ein canllaw ar anghydfodau ynghylch cysylltiadau â rhwydweithiau ynni.