Landlordiaid cymdeithasol a phreifat cofrestredig a'r RHI Domestig
Landlordiaid cymdeithasol a phreifat cofrestredig a'r RHI Domestig
Os ydych yn landlord cymdeithasol neu breifat cofrestredig gyda mwy nag un eiddo â thenantiaid ac rydych am gael rhagor o wybodaeth am ymuno â'r Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy (RHI) Domestig, hon yw'r adran i chi.
Bydd dal angen i chi ddarllen ein gwe-dudalen 'Ymgeiswyr' a'r Canllaw Hanfodol i Ymgeiswyr. Fodd bynnag, mae'r dudalen hon yn mynd i'r afael â'r ffactorau ychwanegol y mae angen i landlordiaid fod yn ymwybodol ohonynt.
Gwahaniaethau allweddol i landlordiaid
Os yw eich sefydliad wedi adeiladu cartrefi newydd gyda systemau gwresogi adnewyddadwy, yn anffodus, ni allwch wneud cais ar gyfer y rhain. Ni all y dechnoleg adnewyddadwy fod yn yr eiddo cyn i rhywun fyw yno am y tro cyntaf.
Gwybod pa gynllun i wneud cais amdano
Y peth pwysicaf am wneud cais am RHI Domestig yw bod yn rhaid i'ch system wresogi adnewyddadwy fod ar gyfer cartref sengl mewn eiddo sy'n gymwys i gael Tystysgrif Perfformiad Ynni ( Energy Performance Certificate (EPC) open key term pop-up) domestig. Bydd angen hwn arnom i gadarnhau bod yr eiddo yn 'aelwyd ddomestig', a heb y dystysgrif, ni allwch wneud cais.
Ar gyfer system sy'n gwasanaethu mwy nag un eiddo, fel system wresogi dosbarth, efallai y byddwch am ystyried yr RHI Annomestig
Gwirio rheolau'r cynllun
Mae'n rhaid i bawb sy'n ymuno â RHI Domestig lynu at reolau'r cynllun dros y cyfnod talu saith mlynedd cyfan fesul system wresogi. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn parhau i fod yn gymwys. Gan fod taliadau'r cynllun yn dod o arian cyhoeddus, rydym yn cynnal rhaglen archwilio lawn o wiriadau ac ymweliadau. Gallwn ddewis unrhyw un ar unrhyw adeg a gall hyn olygu bod yn rhaid i ni ymweld â'r eiddo. Felly eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich tenantiaid yn ymwybodol o hyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ymweld â'n gwe-dudalen ar archwilio a rhwymedigaethau parhaus.
Pwy all gwblhau'r cais am RHI Domestig?
Mae'n rhaid i sefydliadau enwebu un unigolyn i ymddwyn ar eu rhan a bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y cyfrif. Bydd angen i'r unigolyn ddarparu gwybodaeth bersonol er mwyn i ni gwblhau ein gwiriadau adnabod ynghyd â Llythyr Awdurdodi. Gall y cyswllt hwn ychwanegu defnyddiwr ychwanegol i gwblhau'r ceisiadau.
Cyflwyno mwy nag un cais
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais cyntaf, byddwch yn derbyn neges awtomatig ar y sgrîn yn dweud bod eich cais yn cael ei adolygu. Mae hyn yn digwydd am fod angen i ni gwblhau gwiriadau pan fydd unigolyn yn gwneud cais ar ran sefydliad. Ar ôl hynny byddwn naill ai'n cymeradwyo eich cais, gofyn i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol neu'n ei wrthod.
Pan fyddwch yn ateb y cwestiynau cychwynnol ar y ffurflen gais, gofynnir i chi greu enw defnyddiwr a chyfrinair a sefydlu cyfrif. Yna bydd gennych fynediad i MyRHI, sef adran aelodau'r wefan, i weld a rheoli eich cyfrif. Gallwch hefyd ei defnyddio i wneud ceisiadau dilynol. Gall ein Canllaw i MyRHI eich helpu gyda hyn.
Unwaith y bydd eich cais cyntaf wedi'i gymeradwyo, ni fydd yn rhaid i chi fynd drwy'r broses gyfan eto ar gyfer y ceisiadau sy'n weddill. Os gallwn wirio eich ceisiadau yn y dyfodol yn awtomatig, byddwch yn derbyn neges ar y sgrîn yn dweud eu bod wedi'u cymeradwyo. Os na fyddwch yn eu derbyn, byddwch yn derbyn neges 'i'w adolygu'.