Beth fydd yn digwydd os bydd eich cyflenwr ynni yn mynd i'r wal

Os bydd eich cyflenwr yn mynd i'r wal, bydd rhwyd ddiogelwch Ofgem yn sicrhau y bydd gennych gyflenwad ynni bob amser. Mae'r canllaw hwn yn esbonio beth i'w ddisgwyl os bydd yn digwydd i chi.

Os bydd eich cyflenwr yn mynd i'r wal, bydd rhwyd ddiogelwch Ofgem yn sicrhau y bydd gennych gyflenwad ynni bob amser. Mae'r canllaw hwn yn esbonio beth i'w ddisgwyl os bydd yn digwydd i chi.

Os bydd eich cyflenwr ynni yn mynd i'r wal, peidiwch â chynhyrfu. Byddwch yn cael eich symud i gyflenwr newydd ac ni fydd toriad yn eich cyflenwad yn y cyfamser.

Mae ein canllawiau isod yn rhoi mwy o wybodaeth am beth sy'n digwydd pan fydd cyflenwyr ynni yn mynd allan o fusnes. Os ydych yn gwsmer ynni busnes, darllenwch ein canllawiau yma: Beth fydd yn digwydd os bydd cyflenwr ynni eich busnes yn mynd i'r wal.

Os yw eich cyflenwr wedi mynd i'r wal

Cymerwch ddarlleniad mesurydd, arhoswch a pheidiwch â newid cyflenwr

Byddwch yn parhau i symud i'ch cyflenwr dewisol os byddwch eisoes wedi dechrau ar y broses o newid cyflenwr.

Arhoswch i Ofgem benodi cyflenwr newydd

Nid oes angen i chi wneud dim, ac ni therfir ar eich cyflenwad. Bydd rhwyd ddiogelwch Ofgem yn diogelu eich cyflenwad ac unrhyw falans credyd. Dim ond ychydig ddiwrnodau y dylai ei gymryd i gyflenwr newydd gael ei benodi.

Bydd eich cyflenwr newydd yn eich cychwyn ar gontract 'tybiedig' arbennig. Gall y rhain fod yn ddrutach, felly gallai eich biliau godi, ond bydd Ofgem yn ceisio sicrhau'r fargen orau posibl i chi. Ni fyddwch wedi eich clymu i'r contract tybiedig - gallwch newid tariff neu gyflenwr unrhyw bryd.

Pan fydd eich cyflenwr newydd yn cysylltu â chi

Gofynnwch i'ch cyflenwr newydd eich rhoi ar ei dariff rhataf neu chwiliwch am y fargen orau a newidiwch gyflenwr os byddwch am wneud hynny. Ni fydd angen i chi dalu ffioedd gadael.   Bydd eich cyflenwr newydd yn esbonio sut y bydd yn rheoli balans eich cyfrif, gan gynnwys unrhyw ad-daliadau credyd.

Eich cyflenwr newydd

Byddwn yn penderfynu ar eich cyflenwr newydd cyn gynted â phosibl. Byddwn yn cyhoeddi'r manylion ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol.  Dim ond ychydig ddiwrnodau y dylai ei gymryd i benodi cyflenwr newydd.

Ein cyngor yn y cyfamser yw byddwch yn amyneddgar, peidiwch â cheisio newid cyflenwr , ac arhoswch nes bod y cyflenwr newydd yn cysylltu â chi. Bydd hyn yn sicrhau bod y broses mor ddidrafferth â phosibl. Bydd hefyd yn cynnwys dychwelyd unrhyw falans credyd a all fod gennych.

Ni therfir ar eich cyflenwad ynni, ac ni fydd toriad.

Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y byddwn ni a'r llywodraeth yn penodi gweinyddwr  i redeg eich cyflenwr os bydd mewn anawsterau ariannol. Os bydd hyn yn digwydd , nid oes angen i chi wneud dim. Byddwch yn parhau i gael ynni gan eich cyflenwr, a bydd yn cysylltu â chi i roi gwybod beth sy'n digwydd.

Mesuryddion deallus

Os na all eich cyflenwr newydd weithredu eich mesurydd deallus yn y modd deallus, bydd yn parhau i weithio, ond fel mesurydd traddodiadol. Mae hyn yn golygu y gall fod angen i chi gymryd darlleniadau mesurydd â llaw a'u cyflwyno i'ch cyflenwr newydd.

Os byddwch yn dewis siopa o gwmpas, gall eich mesurydd weithio mewn modd deallus unwaith eto yn y dyfodol yn dibynnu ar eich tariff neu'r cyflenwr rydych yn symud iddo.

Mesuryddion rhagdalu

Dylech allu ychwanegu credyd at eich mesurydd rhagdalu fel y byddech yn ei wneud fel arfer wrth i ni benodi cyflenwr newydd i chi. Ar ôl i ni benodi cyflenwr newydd i chi, bydd yn gallu rhoi cyngor ar gardiau allwedd a thocynnau newydd. Yn y cyfamser, ni ddylech golli cyflenwad.

Gall Cyngor ar Bopeth neu Advice Direct Scotland  os ydych yn yr Alban, gynnig cymorth os:

  • ydych yn cael problemau yn ychwanegu credyd neu os nad yw eich cerdyn neu eich tocyn yn gweithio
  • yw eich mesurydd rhagdalu wedi rhoi'r gorau i weithio ac nid oes gennych bŵer
  • na allwch fforddio ychwanegu credyd i fesurydd rhagdalu ac angen credyd mewn argyfwng arnoch

Cyngor ar Bopeth:

  • ffoniwch 0808 223 1133  neu defnyddiwch y cyfleuster gwe-sgwrs
  • ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001  ac yna rif y llinell gymorth

Advice Direct Scotland:

  • ffoniwch 0808 800 9060, defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs neu cysylltwch dros e-bost
  • gwybodaeth Iaith Arwyddion Prydain

Cynlluniau'r llywodraeth a chynlluniau cymdeithasol

Tariff Gwarant Allforio Clyfar

Os oes gennych dariff Gwarant Allforio Clyfar rydych chi'n gyfrifol am chwilio am dariff Gwarant Allforio Clyfar newydd ar gyfer trydan a allforir. Ni fyddwn yn penodi un i chi. Gweld y rhestr o drwyddedeion Gwarant Allforio Clyfar cyfredol.

Dylech ddelio â hyn ar frys,  fel y byddwch yn gallu parhau i gael taliadau Gwarant Allforio Clyfar. Bydd trwyddedai Gwarant Allforio Clyfar newydd ond yn gallu gwneud taliadau ar gyfer trydan a allforir unwaith y bydd eich contract Gwarant Allforio Clyfar newydd ar waith.

Beth fydd yn digwydd i fy Nhariff Cyflenwi Trydan?

Os oedd gennych Dariff Cyflenwi Trydan (FIT), ni fydd eich taliadau FIT yn trosglwyddo yn awtomatig.

Bydd eich cyflenwr newydd yn cysylltu â chi i gadarnhau gwybodaeth am eich tariff. Rhaid i'r cyflenwr hefyd gadarnhau a yw'n un o drwyddedeion FIT.Mae'n bosibl y bydd angen i chi ddod o hyd i gyflenwr FIT arall er mwyn parhau i gael taliadau os nad yw'r cyflenwr newydd yn un o drwyddedeion FIT.

Cwynion a chysylltiadau

Cwynion wedi'u cyflwyno i'ch hen gyflenwr

Nid yw'n ofynnol i'ch cyflenwr newydd ystyried cwynion sy'n gysylltiedig â'ch hen gyflenwr.
Os yw'r gwyn yn gysylltiedig â phroblem barhaus, gallwch drafod hyn gyda'ch cyflenwr newydd pan fydd yn cysylltu â chi.

Os oedd eich cwyn yn agored â'r Ombwdsmon, bydd yn cysylltu â chi maes o law i drafod y camau nesaf.

Rhagor o help

Yng Nghymru a Lloegr, gall Cyngor ar Bopeth gynnig rhagor o gyngor os bydd ei angen arnoch.

  • Ffoniwch 0808 223 1133   neu defnyddiwch gyfleuster Gwe-sgwrs Cyngor ar Bopeth
  • Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001   ac yna rif y llinell gymorth

Yn yr Alban, gall Advice Direct Scotland helpu.