Newid eich mesurydd trydan Radio Teleswitch
Dysgwch am yr hyn sydd angen i chi ei wneud cyn i'r gefnogaeth ar gyfer mesuryddion Radio Teleswitch (RTS) ddod i ben yn 2025.
Bydd y dechnoleg sy'n cefnogi mesuryddion RTS yn dod i ben ar 30 Mehefin 2025. Heb y dechnoleg i roi gwybod i fesuryddion RTS pryd i newid rhwng cyfraddau brig ac allfrig, efallai na fyddant yn gweithio'n iawn mwyach, a gall hynny olygu na fydd cyflenwad gwres a dŵr poeth y defnyddiwr yn gweithio yn ôl yr arfer.
Os oes gennych fesurydd RTS, bydd eich cyflenwr trydan yn cysylltu â chi i drefnu i'w uwchraddio i fesurydd deallus cyn y dyddiad hwn.
Rhaid iddynt sicrhau bod gennych fesurydd addas ac na fydd unrhyw darfu ar eich gwasanaeth.
Rydym yn disgwyl i gyflenwyr trydan newid pob mesurydd RTS cyn i'r dechnoleg sy'n cefnogi RTS ddod i ben ym mis Mehefin 2025.
Cefnogaeth i uwchraddio mesuryddion trydan RTS
Rydym yn cydweithio â chyflenwyr ynni, gweithredwyr rhwydweithiau dosbarthu, grwpiau defnyddwyr ac eraill fel rhan o'r Tasglu RTS i gefnogi pobl sydd â mesurydd trydan RTS.
Os oes gennych fesurydd trydan RTS, bydd eich cyflenwr trydan yn cysylltu â chi er mwyn trefnu apwyntiad i uwchraddio eich mesurydd trydan. Dylech drefnu apwyntiad i uwchraddio eich mesurydd i osgoi colli gwres neu ddŵr poeth ar ôl 30 Mehefin 2025. Darllenwch fanylion am ddiwedd y RTS a'r hyn rydym yn ei wneud i helpu.
Dysgwch a oes gennych fesurydd RTS
Mae'n bosibl bod gennych fesurydd RTS:
- os yw'n newid rhwng cyfraddau tariff brig ac allfrig
- os yw'n troi eich gwres neu'ch dŵr poeth ymlaen yn awtomatig
- os caiff eich cartref ei gynhesu drwy ddefnyddio gwresogyddion trydan neu stôr
- os nad oes cyflenwad nwy i'ch ardal, gan gynnwys tai mewn ardaloedd gwledig a blociau fflatiau uchel iawn
Cysylltwch â'ch cyflenwr trydan os nad ydych yn siŵr o hyd pa fesurydd sydd yn eich cartref.
Cysylltwch â'ch cyflenwr ynni i uwchraddio eich mesurydd RTS
Os oes gennych fesurydd RTS yn eich cartref, darllenwch y manylion ar wefan eich cyflenwr ynni i uwchraddio eich mesurydd.
- Octopus
- SSE
- Nwy Prydain
- Ovo
- Scottish Power
- E
- E.On Next
- Ecotricity
- EDF Energy
- So Energy
- Utilita
- Outfox the Market
- Good Energy
- Sainsbury’s Energy
- Utility Warehouse
Os ydych yn rhedeg busnes sy'n defnyddio mesurydd RTS, gweler y manylion ar wefan eich cyflenwr ynni i uwchraddio eich mesurydd.
- Octopus
- Yu Energy
- Nwy Prydain
- Bryt Energy
- Clear Business Energy
- Pozetive
- Corona Energy
- Crown Gas and Power
- DENERGi
- E.On Next
- Ecotricity
- EDF Energy
- Good Energy
- Shell Energy
- Npower Business Solutions
- Opus Energy
- Pozetive
- Regent Gas
- Scottish Power
- SEFE Energy
- Simple Gas
- SSE Energy Solutions
- Total Energies Gas and Power
- United Gas and Power
- Utilita Energy
- Utility Warehouse
- Yorkshire Gas and Power
Os nad ydych yn gwybod pwy yw eich cyflenwr, dilynwch y camau ar ein tudalen canfod eich cyflenwr ynni.
Uwchraddio i fesurydd deallus
Bydd mesurydd deallus yn rhoi gwasanaeth sy'n debyg i'ch mesurydd RTS. Mae manteision eraill hefyd, gan gynnwys:
- darlleniadau trydan yn cael eu cyflwyno'n awtomatig
- tariffau ar gyfer 'mesuryddion deallus yn unig'
- y gallu i fonitro faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio
- biliau cywir yn seiliedig ar y trydan rydych wedi'i ddefnyddio, nid amcangyfrifon
Darllenwch fwy am gael mesurydd deallus.
Os na allwch uwchraddio
Mewn rhai achosion, efallai na all eich cyflenwr gynnig mesurydd deallus i chi ar hyn o bryd.
Yn yr achos hwn, bydd yn rhaid iddynt sicrhau bod gennych fesurydd addas ac nad oes unrhyw darfu ar eich gwasanaeth.
Dylech gysylltu â'ch cyflenwr i ddeall yr holl opsiynau sydd ar gael i chi.
Os nad ydych eisiau mesurydd deallus
Uwchraddio i fesurydd deallus yw'r dewis gorau i gwsmeriaid RTS. Os byddwch yn dewis peidio ag uwchraddio:
- gall eich gwres a'ch dŵr poeth gael eu gadael ymlaen neu i ffwrdd yn barhaus
- gall eich gwresogyddion stôr trydan wefru ar yr adeg anghywir o'r diwrnod, gan arwain at filiau uwch o bosibl
- efallai na fydd eich cyflenwr yn gallu cadarnhau eich defnydd o drydan yn ystod oriau brig ac allfrig, ac efallai y bydd eich costau trydan yn uwch nag o'r blaen
- bydd eich dewis o dariffau yn fwy cyfyngedig
Siaradwch â'ch cyflenwr i gael rhagor o wybodaeth.
Ceisiwch gyngor gan Gyngor ar Bopeth
Os ydych yn byw yng Nghymru neu yn Lloegr, gallwch gysylltu â Chyngor ar Bopeth i gael cyngor diduedd am ddim ar eich cyflenwad ynni.
Os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch gael cyngor a gwybodaeth yn energyadvice.scot.