Cael help os na allwch fforddio eich biliau ynni

Gwybodaeth am ble i gael help os ydych yn poeni am dalu eich biliau trydan neu nwy.

Os ydych yn cael trafferth talu am ynni neu os credwch y gallwch fynd i anawsterau o bosibl, gallwch gael help gan: 

  • eich cyflenwr ynni
  • llywodraeth y DU, a'r llywodraethau yng Nghymru a'r Alban
  • nifer o elusennau, gan gynnwys Cyngor ar Bopeth

Cael help gan eich cyflenwr ynni

Cysylltwch â'ch cyflenwr cyn gynted ag y gallwch os ydych yn poeni am dalu eich biliau. 

Mae rheolau Ofgem yn golygu bod yn rhaid i'ch cyflenwr weithio gyda chi i gytuno ar gynllun talu y gallwch ei fforddio. 

Gallwch hefyd ofyn i'ch cyflenwr am: 

  • adolygiad o'ch taliadau a'ch ad-daliadau o ddyledion
  • seibiannau talu neu ostyngiadau 
  • mwy o amser i chi dalu
  • arian o gronfeydd caledi
  • cyngor ar sut i ddefnyddio llai o ynni

Os na allwch gytuno ar ffordd o dalu, dilynwch y camau ar ein tudalen cwyno am eich cyflenwr ynni

Ymuno â Chofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth

Mae gan bob cyflenwr Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth. 

Mae hon yn rhestr o gwsmeriaid y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt, naill ai drwy'r amser neu o ganlyniad i rywbeth sydd wedi digwydd yn eu bywydau. 

Cadarnhewch a fydd ymuno â'r rhestr hon yn iawn i chi.

Cynlluniau a grantiau cyflenwyr

Cysylltwch â'ch cyflenwr i gael gwybod am unrhyw gynlluniau neu grantiau a gynigir ganddo er mwyn helpu gyda chostau ynni, talu dyledion ynni, neu wneud gwelliannau arbed ynni i'ch cartref. 

Gallwch gysylltu â'ch cyflenwr ar-lein, yn ysgrifenedig neu dros y ffôn. Dylai manylion ynglŷn â sut i wneud hyn fod ar ei wefan neu ar eich biliau ynni. 

Os nad ydych yn siŵr gyda phwy i gysylltu, dilynwch y cyfarwyddiadau ar ein tudalen Canfod eich cyflenwr ynni.

Mae Cyngor ar Bopeth yn cadw rhestr o grantiau a gynigir gan rai cyflenwyr mwy o faint

Help gan y llywodraeth

Mae llywodraeth y DU yn cynnig nifer o opsiynau o ran cymorth i bobl sy'n cael trafferth talu eu biliau. 

Edrychwch i weld a allwch gael: 

Gall y Cynllun Tanwydd Uniongyrchol helpu os ydych yn bwriadu ad-dalu dyled i gyflenwr o fudd-daliadau. Cysylltwch â'ch cyflenwr yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth neu i wneud cais. 

Gallwch hefyd gael help gyda chostau ynni cynyddol gan eich cyngor lleol.

Os ydych yn byw yn yr Alban, efallai y byddwch yn gallu cael Taliad Gwresogi Gaeaf ar gyfer Plant. Mae'r taliad hwn yn helpu plant a phobl ifanc anabl a'u teuluoedd gyda chostau gwresogi cynyddol dros y gaeaf. 

Cymorth gan y llywodraeth i ddelio â dyledion

Os ydych yn poeni am ddyled, gallwch fynd i MoneyHelper, sef gwasanaeth sy'n cynnig cyngor ar faterion ariannol a gefnogir gan y llywodraeth. 

Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, gallwch wneud cais o dan gynllun Lle i Anadlu (a elwir hefyd yn Gynllun Seibiant Dyledion)

sef cyfnod diogelu dros dro, er mwyn rhoi amser i chi gael cyngor ar ddyledion a dod o hyd i ateb. Mae'n golygu am hyd at 60 diwrnod: 

  • bydd yn rhaid i'ch credydwyr (y bobl y mae arnoch arian iddynt) roi'r gorau i geisio casglu eich dyled. 
  • bydd yn rhaid i'ch credydwyr rewi'r rhan fwyaf o'r llog, ffioedd a thaliadau a godir ar eich dyled.
  • ni all eich cyflenwr ynni osod mesurydd rhagdalu heb eich caniatâd, ac ni allwch gasglu unrhyw ddyled drwy ddefnyddio'ch mesurydd rhagdalu 

Os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch wneud cais am foratoriwm dyled. Yn ystod y cyfnod diogelu dros dro hwn, ni fydd eich credydwyr yn gallu cymryd unrhyw gamau i adennill unrhyw symiau sy'n ddyledus gennych. 

Help gan elusennau

Mae nifer o elusennau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn cynnig cyngor a chymorth i bobl sy'n cael trafferth talu biliau ynni. 

Rydym wedi rhestru rhai o'r rhain isod. Dylech hefyd edrych ar wefan eich cyngor lleol i weld pa gymorth sydd ar gael yn eich ardal. 

Os nad ydych yn siŵr gyda phwy i gysylltu, defnyddiwch adnodd chwilio cynghorau lleol llywodraeth y DU.

Os ydych yn byw gydag anabledd

Mae Scope yn cynnig cyngor i bobl sy'n byw gydag anabledd yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys cyngor ar bynciau fel talu'ch biliau ynni, ac ymdrin â chyflenwyr a gweithredwyr rhwydwaith. 

Ewch i wefan Scope neu ffoniwch 0808 800 3333.

Os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch fynd i wefan Disability Information Scotland am gyngor, neu ffoniwch 0300 323 9961.

Os ydych yn byw gyda chyflwr iechyd meddwl

Os ydych yn byw gyda chyflwr iechyd meddwl a phroblemau ariannol, gallwch gael cyngor ymarferol, clir ar wefan Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian. Gwasanaeth ar-lein yn unig ar gyfer y DU gyfan yw hwn. 

Gallwch hefyd gael gwybodaeth a chymorth gan elusennau eraill yn dibynnu ar ble rydych yn byw. Er enghraifft:

  • os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, gallwch fynd i wefan Mind, neu ffoniwch 0208 215 2243
  • os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch fynd i wefan Change Mental Health, neu ffoniwch 0808 8010 515

Sefydliad Banc Tanwydd

Os ydych yn cael trafferth ychwanegu credyd at eich mesurydd rhagdalu, mae'r Sefydliad Banc Tanwydd yn rhoi talebau tanwydd y gallwch eu defnyddio i ychwanegu credyd at eich cerdyn nwy neu'ch allwedd drydan. 

Am ragor o wybodaeth am gael taleb, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth.

Cyngor ar Bopeth

Os nad ydych yn siŵr am eich opsiynau neu os oes angen mwy o gymorth arnoch, cysylltwch â Cyngor ar Bopeth. Mae'r ffordd rydych yn gwneud hyn yn dibynnu ar ble rydych yn byw. 

Yn Lloegr, dylech fynd i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch 0808 223 1133.

Yn yr Alban, dylech fynd i wefan Advice Direct Scotland neu ffoniwch 0808 196 8660. 

Yng Nghymru, dylech fynd i wefan Advicelink Cymru neu ffoniwch 0800 702 2020. 

StepChange

Gallwch gael gwybodaeth am ddyled a sut i ddelio â hi ar wefan StepChange, neu ffoniwch 0800 138 1111. 

Gall StepChange hefyd gynnig cymorth i lenwi ceisiadau Lle i Anadlu.

Llinell Ddyled Genedlaethol

Gallwch gael cyngor diduedd am ddim i'ch helpu i reoli'ch dyled. 

Ewch i wefan y Llinell Ddyled Genedlaethol  neu ffoniwch 0808 808 4000 i gael mwy o wybodaeth am sut y gall ei harbenigwyr eich helpu. 

Charis

Mae Charis yn ymdrin â grantiau i bobl sy'n cael trafferth talu biliau ynni ar ran rhai elusennau a chyflenwyr ynni. 

Ewch i wefan Charis i gael manylion y grantiau hyn, a gweld a allwch wneud cais. 

Turn2us

Elusen genedlaethol yw Turn2us, sy'n cynnig gwybodaeth a chymorth ymarferol i bobl sy'n wynebu ansicrwydd ariannol. 

Defnyddiwch y cyfrifwr budd-daliadau a'r adnodd chwilio am grantiau yma i'ch helpu i gael gwybod pa gymorth y gallwch ei gael. 

Lleihau eich biliau drwy arbed ynni

Gall defnyddio llai o ynni a gwneud eich cartref yn fwy ynni effeithlon helpu i ostwng eich biliau. 

Am awgrymiadau ynglŷn â sut y gallwch wneud hyn, gweler ein rhestr o gamau gweithredu i arbed ynni.