Cael ynni os ydych yn symud tŷ neu adeilad busnes
Mae'n cynnwys cysylltu eich eiddo newydd â chyflenwad nwy neu drydan, dod o hyd i'ch cyflenwr a newid cyflenwr, a threfnu contract ynni busnes.
Cyn i chi symud i mewn i'ch cartref neu adeilad busnes newydd, efallai y bydd angen i chi gysylltu â chyflenwad nwy neu drydan.
Os bydd gan yr eiddo gyflenwad ynni, gallwch ddilyn y camau hyn i ddod o hyd i'ch cyflenwr ynni.
Os bydd gan yr eiddo fesurydd rhagdalu, darllenwch ein canllawiau i ddefnyddwyr ar fesuryddion rhagdalu.
Symud i gartref newydd
Gallwch ddewis tariff newydd gyda chyflenwr presennol yr eiddo ar ôl i chi symud i mewn. Gallwch hefyd newid i gyflenwr newydd.
Symud i eiddo rhent newydd
Edrychwch ar eich cytundeb rhentu neu gofynnwch i'ch landlord er mwyn cael gwybod pwy yw eich cyflenwr, a phwy sy'n talu'r biliau ynni ar gyfer yr eiddo.
Os bydd yn rhaid i chi dalu eich biliau ynni, gallwch ddewis newid eich cyflenwr a'ch tariff ar gyfer yr eiddo ar unrhyw adeg.
Os mai eich landlord sy'n talu, dylai wneud y canlynol:
- cynnwys cost yr ynni y byddwch yn ei ddefnyddio yn eich rhent
- delio â'r cyflenwr ynni yn uniongyrchol
- talu am y cyflenwad ynni i'r eiddo rhwng tenantiaethau.
Edrychwch ar ganllawiau Cyngor ar Bopeth am beth y gall eich landlord ei godi am eich ynni.
Cyn newid eich cyflenwr, dylech gadarnhau'r canlynol:
- a yw eich cytundeb rhentu yn cynnwys rhestr o gyflenwyr y gallwch ddewis ohonynt, a elwir yn ‘gymal cyflenwr diofyn’
- a ellir newid y rhestr o gyflenwyr yn eich cytundeb rhentu
- a oes angen i chi roi gwybod i'ch asiant gosod neu'ch landlord eich bod am newid cyflenwr
- a yw eich cytundeb rhentu yn cynnwys cymal hysbysu a dychwelyd, sy'n golygu y bydd angen i chi newid y cyflenwad ynni yn ei ôl pan ddaw eich tenantiaeth i ben.
Symud eich busnes i safle newydd
Cyn symud i safle busnes newydd, dylech wneud y canlynol:
- cadarnhau telerau ac amodau eich contract ynni busnes presennol
- gweld a yw'ch cyfrif ynni cyfredol mewn credyd neu mewn dyled
- cadarnhau a gaiff costau ynni eu cynnwys yn eich cytundeb tenantiaeth
- rhoi gwybod i'ch eich hen gyflenwr ynni eich bod yn symud
Efallai y bydd angen i chi ddewis a threfnu contract ynni busnes newydd â chyflenwr ar gyfer eich safle newydd. Dylech gadarnhau a allwch wneud hyn cyn i chi symud i'r safle newydd. Fel arall, gallwch wneud hyn unrhyw bryd ar ôl symud.
Chi sy'n gyfrifol am unrhyw ynni y byddwch yn ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod cyn i'ch contract newydd ddechrau. Os byddwch yn defnyddio ynni yn y cyfnod hwn, gallai eich cyflenwr eich gosod ar gontract cyfradd dybiedig. Mae hyn yn golygu y gallai'r cyfraddau rydych yn eu talu gynyddu neu ostwng.
Cofiwch fod yn ymwybodol bod rhai mesurau diogelu gwahanol yn gymwys i ddefnyddwyr ynni domestig, er enghraifft pan fyddant yn cael cymorth gan gyfryngwyr trydydd parti (TPIs).
Newid i gyflenwr ynni busnes newydd
Ni fydd y rhan fwyaf o gyflenwyr ynni yn caniatáu i chi newid cyn diwedd eich contract.
Dilynwch y camau hyn i weld pryd a sut y gallwch newid cyflenwyr ynni busnes.