Dwyn ynni ac ymyrryd â mesuryddion
Mae rhai pobl yn ceisio talu llai am eu nwy a'u trydan drwy ymyrryd â'u mesuryddion. Gelwir hyn yn 'dwyn ynni'.
Mae ymyrryd â mesurydd yn anghyfreithlon ac yn beryglus. Gall achosi difrod i'r eiddo, anaf, neu farwolaeth.
Mae dwyn ynni hefyd yn costio mwy na £1.4 biliwn y flwyddyn i ddefnyddwyr ynni ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban).
Rhoi gwybod am achosion o ddwyn ynni
Os byddwch yn gweld arwyddion o ymyrryd â mesurydd, dylech roi gwybod amdano.
Pan fyddwch yn rhoi gwybod am achos o ddwyn ynni, gallwch aros yn gwbl ddienw.
Gallwch roi gwybod am achosion o ddwyn ynni ar-lein drwy Stay Energy Safe neu drwy ffonio 0800 023 2777.
Sut i nodi achosion o ymyrryd â mesurydd
Byddwch yn wyliadwrus os bydd pobl yn cynnig lleihau eich biliau ynni drwy wneud newidiadau i'ch mesurydd.
Mae yna rai arwyddion cyffredin o ymyrryd â mesurydd i gadw golwg amdanynt.
Arwyddion o ymyrryd â mesurydd nwy
Mae arwyddion cyffredin o ymyrryd â mesurydd nwy yn cynnwys:
- pibellau sy'n ymddangos yn anghydnaws
- deialau sydd ddim yn symud neu sydd ddim yn weladwy
- cyflenwad nwy heb gredyd ar fesuryddion rhagdalu
- mesurydd wedi'i osod o chwith heb fod modd gweld unrhyw ddeialau
- arogl nwy wrth y bocs mesurydd
- pibellau rwber a ddylai fod yn fetelaidd
Arwyddion o ymyrryd â mesurydd trydan
Mae arwyddion cyffredin o ymyrryd â mesurydd trydan yn cynnwys:
- gwifrau allan, wedi'u lapio o amgylch neu wedi'u hychwanegu â chlipiau
- casin sydd wedi'i ddifrodi
- cyflenwad trydan heb gredyd ar fesuryddion rhagdalu
- arogl llosgi
- mwg neu wreichion wrth y mesurydd
Ymyrryd â mesurydd mewn mannau cyhoeddus
Efallai y byddwch yn dod ar draws achos o ymyrryd â mesurydd mewn mannau cyhoeddus yn ogystal â chartrefi pobl. Er enghraifft, mewn neuaddau cymunedol, caffis a thafarndai.
Os byddwch yn sylwi ar gownteri, drysau neu switsys golau yn tanio, gallai hyn fod yn arwydd o fesurydd yn cael ei addasu.
Os bydd eich cyflogwr yn cloi'r cwpwrdd mesurydd neu'n gwrthod mynediad at y mesurydd, gallai hyn hefyd fod yn arwydd o ymyrryd â mesurydd.
Risgiau ymyrryd â mesurydd
Gall ymyrryd â mesurydd arwain at nifer o broblemau a all achosi difrod i eiddo, anaf neu farwolaeth.
Gall ymyrryd â mesurydd nwy achosi:
- gollyngiadau nwy
- problemau anadlu
- colli ymwybyddiaeth
- tân mewn cartref
- cyfarpar yn y cartref neu switsys golau yn ffrwydro
Gall ymyrryd â mesurydd trydan achosi:
- mesurydd yn gorboethi
- diffygion mesurydd
- sioc a llosgi
- lladd â thrydan
- tân mewn cartref
Beth sy'n digwydd os byddwch yn cael eich dal
Mae dwyn ynni yn drosedd ddifrifol â goblygiadau difrifol. Mae cosbau yn cynnwys dirwyon a hyd at 5 mlynedd yn y carchar.