Cael cyngor ar rwydweithiau gwresogi
Beth yw rhwydweithiau gwresogi, a ble i gael cyngor a chymorth.
Mae rhwydwaith gwresogi yn darparu gwres a dŵr poeth i adeiladau a chartrefi o ffynhonnell ganolog. Mae hyn yn golygu nad oes angen system wresogi ar wahân fel boeler cyfunol neu bwmp gwres ar eiddo sydd wedi'i gysylltu â rhwydwaith.
Mae dau fath o rwydwaith gwresogi:
- mae rhwydweithiau gwresogi cymunedol yn cyflenwi cwsmeriaid mewn adeilad unigol, er enghraifft, bloc o fflatiau - hwn yw'r math mwyaf cyffredin o rwydwaith gwresogi yn y DU ar hyn o bryd
- mae rhwydweithiau gwresogi ardal yn cyflenwi mwy nag un adeilad, er enghraifft, datblygiadau tai, busnesau, swyddfeydd a siopau
Cyngor a chymorth i gwsmeriaid rhwydweithiau gwresogi
I gael cyngor a chymorth diduedd am ddim er mwyn helpu i ddatrys problemau gyda'ch rhwydwaith gwresogi, gallwch wneud y canlynol:
- mynd i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffonio 0800 223 1133 (os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr)
- mynd i wefan energyadvice.scot, neu ffonio 0808 196 8660 (os ydych yn byw yn yr Alban)
Cwyno i'r Ombwdsmon Ynni
Gallwch wneud cwyn i'r Ombwdsmon Ynni am y canlynol:
- os oes gennych broblem rydych wedi rhoi gwybod i'ch gweithredwr rhwydwaith gwresogi amdani sydd heb gael ei datrys o fewn wyth wythnos
- os ydych wedi cael “llythyr diddatrys”, sy'n nodi na ellir datrys eich problem
- os nad ydych yn fodlon ar yr ymateb gan eich gweithredwr rhwydwaith gwresogi
Rheoleiddio rhwydweithiau gwresogi
O 2026, byddwn yn rheoleiddio rhwydweithiau gwresogi ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr, a'r Alban). Rydym am sicrhau bod cwsmeriaid rhwydweithiau gwresogi yn cael mesurau diogelu tebyg i gwsmeriaid nwy a thrydan. Bydd ein rheoliadau yn canolbwyntio ar y canlynol:
- gwasanaeth cwsmeriaid da
- gwella dibynadwyedd y cyflenwad ynni
- biliau ynni tryloyw sy'n hawdd eu deall
- prisiau teg