Arbedwch arian ar eich bil ynni

Arbedwch ar eich biliau drwy ddilyn y camau bob dydd hyn a'r gwelliannau hyn i'r cartref

Gallwch leihau eich biliau nwy a thrydan drwy ddefnyddio llai o ynni a gwneud eich cartref yn fwy ynni effeithlon. Mae'r swm y gallwch ei arbed yn dibynnu ar y math o dŷ rydych yn byw ynddo, y cyfarpar a'r systemau sydd gennych yn eich cartref a sut rydych yn eu defnyddio.

Camau bob dydd

Dechreuwch arbed ynni ar unwaith gyda'r newidiadau cyflym hyn.

Gostwng tymheredd y boeler

Os oes gennych foeler cyfunol, bydd gostwng tymheredd y dŵr a anfonir i'r rheiddiaduron a'r tanc dŵr poeth yn lleihau'r gost i'w redeg.

Gwnewch yr Her Arbed Arian Boeleri.

Gostwng tymheredd y gwres canolog

Gallwch ddefnyddio llai o ynni i gynhesu eich cartref drwy ostwng tymheredd eich thermostat a throi eich rheiddiaduron i lawr pan na fydd yr ystafell yn cael ei defnyddio.

Gwyliwch y fideo hwn gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar sut i ddefnyddio eich thermostats.

Gosod eich peiriant golchi i 30°C

Mae peiriannau golchi a glanedyddion dillad modern yn golchi dillad ar dymheredd is. Arbedwch ynni drwy osod eich peiriant golchi i 30°C, rhoi llwyth llawn yn eich peiriant a defnyddio cylch golchi byrrach.

Cau'r llenni yn y nos

Mae cau'r llenni yn y nos yn atal aer cynnes rhag dianc o'ch cartref drwy'r ffenestri. Mae hyn yn helpu i arbed arian ar filiau gwres.

Gwelliannau bach i'r cartref

Gwelliannau syml y gallwch eu gwneud i'ch cartref er mwyn arbed ynni.

Defnyddio bylbiau golau sy'n arbed ynni

Yn ôl Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, mae newid hen fylbiau i olau LED arbed ynni yn gallu arbed hyd at £4 y bwlb y flwyddyn.

Gallwch gael cyngor ar fylbiau arbed ynni ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Atal gwres rhag dianc o'ch cartref

Llenwi bylchau o amgylch y ffenestri a drysau er mwyn atal aer oer rhag dod i mewn ac atal aer cynnes rhag dianc. Sicrhewch nad ydych yn rhwystro sianeli awyru, fel awyrellau waliau neu ffenestri.

Darllenwch awgrymiadau ar sut i atal drafftiau yn eich cartref ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Rhoi ffilm ffenestr ar ffenestri gwydro sengl

Pan nad yw newid y ffenestri gwydro-sengl  yn opsiwn, mae ffilm ffenestri o gymorth i gadw gwres mewn ac i arbed arian ar eich bil ynni.

Dysgwch fwy am osod haen wydro arall ar wefan canolfan Ynni Cynaliadwy.

Insiwleiddio eich tanc dŵr poeth

Gall inswleiddio’r tanc dŵr poeth atal gwres rhag cael ei golli, sy'n arbed ynni. Gallwch brynu 'siaced silindr dŵr poeth' mewn siopau nwyddau metel neu ar-lein.

Darllenwch fwy am insiwleiddio tanciau dŵr poeth ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Gosod thermostat clyfar a rheolyddion gwresogi

Gyda thermostat clyfar a rheolyddion gwresogi, gallwch drefnu i'r gwres a'r dŵr poeth ddod ymlaen pan fydd eu hangen yn unig, fydd yn arbed arian ar eich biliau ynni.

Mae mwy o gyngor am reolyddion gwresogi clyfar ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Gosod mesurydd deallus

Mae mesurydd deallus yn dangos faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio, a all eich helpu i ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon. Gall eich cyflenwr ynni osod mesurydd deallus am ddim.

Darllenwch fwy am fanteision cael mesurydd deallus.

Gwelliannau mwy i'r cartref

Gallwch arbed ynni yn yr hirdymor gyda phrosiectau mwy i wella'r cartref.

Prynu cyfarpar sy'n ynni effeithlon

Mae gan bob cyfarpar trydanol sgôr ynni. Mae sgôr o 'A' yn golygu'r mwyaf ynni effeithlon, a sgôr o 'G' yn golygu'r lleiaf ynni effeithlon. Mae cyfarpar â sgôr ynni da yn costio llai i'w gynnal.

Darllenwch fwy am sut i ddewis cyfarpar ynni effeithlon ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Gosod ffenestri gwydro dwbl

Newid ffenestri gwydro sengl i leihau'r gwres a gollir ac i arbed ar filiau gwres.

Darllenwch am ffenestri a drysau ynni effeithlon ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Inswleiddio eich cartref

Inswleiddio’r cartref yw un o'r ffyrdd gorau o gadw eich cartref yn gynnes ac arbed ynni. Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth. Er enghraifft, rhoi deunydd insiwleiddio y tu ôl i reiddiaduron.

Dysgwch fwy am atal gwres rhag cael ei golli yn eich cartref ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Cael cymorth o ran effeithlonrwydd ynni a biliau ynni

Defnyddio eich Tystysgrif Perfformiad Ynni

Mae eich Tystysgrif Perfformiad Ynni yn dangos:

  • pa mor ynni effeithlon yw eich cartref
  • beth allwch chi ei wneud er mwyn gwneud eich cartref yn fwy ynni effeithlon
  • faint o arian y gallech ei arbed

Dod o hyd i'ch tystysgrif ynni ar GOV.UK.

Dod o hyd i grantiau ynni

Mae gan y Llywodraeth gynlluniau 'Help to Heat' i sicrhau bod cartrefi yn gynhesach ac yn rhatach i'w cynhesu.

Dod o hyd i grantiau ynni i'ch cartref ar GOV.UK.

Cael help gyda biliau ynni

Gwybodaeth am ble i gael help os ydych yn poeni am dalu eich biliau trydan neu nwy