Canfod grantiau a chynlluniau effeithlonrwydd ynni i fusnesau
Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ganfod grantiau, cynlluniau a chyngor ar ynni i fusnesau bach er mwyn lleihau eich allyriadau carbon a bod yn fwy darbodus â'ch defnydd o ynni masnachol. Gall hyn eich helpu i arbed arian a dod yn fwy ecogyfeillgar.
-
Cyngor ar effeithlonrwydd ynni
Mae'r Ymddiriedolaeth Garbon yn cynnig cyngor annibynnol am ddim i fusnesau ar ddefnydd effeithlon o ynni a gosod ffynonellau ynni adnewyddadwy. Defnyddiwch ei Chyfeiriadur Busnesau Gwyrdd i ganfod cyflenwyr achrededig. Mae gwefan YouGen y Sefydliad Ynni Cenedlaethol yn cynnig adnodd tebyg.
Mae gwefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn rhestru astudiaethau achos enghreifftiol, adnoddau ar effeithlonrwydd ynni ac mae'n cynnal digwyddiadau i helpu busnesau i wneud dewisiadau hyddysg, yn cynnwys cyngor ar gadwyni cyflenwi.
Mae gwefan Smallbusiness.co.uk hefyd yn darparu amrywiaeth o newyddion ar-lein ar effeithlonrwydd ynni i berchenogion busnesau bach, yn cynnwys busnesau newydd.
Gallwch edrych ar restr Technoleg Ynni GOV.UK os ydych yn cynllunio cyfarpar gwaith newydd. Mae'n cynnwys cynhyrchion ynni effeithlon a ardystiwyd yn annibynnol fel boeleri, goleuadau, cyfarpar aerdymheru ac oeri.
Yna ymchwiliwch i gynlluniau cymorth cyllid busnes a gynigir gan gyflenwyr a'r llywodraeth a all dalu am welliannau. Gall rhai asiantaethau neu elusennau arbenigol gynnig cynlluniau cyllido a chymorth hefyd. Gofynnwch am wybodaeth yn eich rhwydweithiau busnes.
-
Cynlluniau, benthyciadau a grantiau ynni i fusnesau gan y llywodraeth
Mae llawer o gynlluniau'r llywodraeth yn cynnig benthyciadau, grantiau neu fesurau arbed ynni er mwyn helpu busnesau bach i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Fel arfer, mae'r rhain yn helpu gyda'r canlynol:
- mesurau effeithlonrwydd ynni – fel adolygu prosesau cynhyrchu
- costau ymlaen llaw buddsoddi mewn cyfarpar sy'n effeithlon o ran ynni
- mentrau rheoli a lleihau gwastraff
- mentrau datblygu cynaliadwy.
Dechreuwch drwy chwilio ar y cyfleuster canfod cyllid a chymorth i fusnesau ar GOV.UK.
Gofynnwch i'ch cyngor lleol a yw'n darparu cyllid effeithlonrwydd ynni neu grantiau tyfu busnes cynaliadwy. Fel arfer, bydd angen i chi gyflwyno achos busnes i wneud cais. Gall rhai mentrau fod yn gymwys i gael cyllid arloesedd i fusnesau hefyd.
Cadarnhewch a allwch gael eich talu i gynhyrchu eich pŵer a'ch gwres adnewyddadwy eich hun drwy'r cynllun Gwarant Allforio Clyfar cenedlaethol.
Mae'r llywodraeth hefyd yn cynnig dau gynllun effeithlonrwydd ynni newydd o 2022 i ddisodli'r cymhellion gwres adnewyddadwy domestig ac annomestig presennol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n hardal ar Gynlluniau Amgylcheddol a Chymdeithasol.
- Grant Gwres Glân: cyllid cyfalaf ymlaen llaw ar gyfer cwsmeriaid preswyl neu fusnesau sy'n integreiddio technolegau gwres gwyrdd fel pympiau gwres a biomas mewn rhai amgylchiadau.
- Cynllun Cymorth Nwy Gwyrdd: cymorth cyllid i chwistrellu biomethan er mwyn cynyddu'r nwy gwyrdd yn y grid cenedlaethol.
Y bwriad yw i Ofgem weinyddu'r cynlluniau. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth wrth i'r Llywodraeth ddatblygu ei chynigion.
-
Grantiau a gwasanaethau busnes gan gyflenwyr ynni
Gall cwmnïau ynni gynnig cynlluniau neu grantiau effeithlonrwydd ynni i fusnesau bach.
Bydd meini prawf cymhwystra ac argaeledd yn amrywio, yn dibynnu ar bethau fel:
- maint eich busnes
- eich lleoliad
- eich sector busnes.
Cysylltwch â'ch cyflenwr i gael gwybod beth mae'n ei gynnig.
-
Grantiau ynni busnes a gwasanaethau cymorth eraill
Rhowch gynnig ar wasanaethau canfod grantiau am ddim, fel Grants Online.
Mae gan Gadewch i ni Siarad wybodaeth am y cronfeydd busnes a gynigir gan rai elusennau a sut i wneud cais.
Gall WRAP gynnig grantiau a buddsoddiadau sy'n cefnogi costau lleihau gwastraff busnes.
Os byddwch yn rhedeg eich busnes gartref, darllenwch ein cyngor ar gynlluniau, grantiau a budd-daliadau i'ch helpu ag ynni yn y cartref hefyd.
Rhagor o help
Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor annibynnol am ddim ar gontractau ynni busnes a'ch hawliau.
- Ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs.
- Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rhif y llinell gymorth.
- Gallai rhywun yn yr Uned Help Ychwanegol ddelio â'ch achos os byddwch yn cael anawsterau â chyflenwr a'ch bod mewn sefyllfa fregus.
Gallwch hefyd gysylltu â Llinellau Cymorth Busnes am ddim y llywodraeth.
Canfod grantiau a chynlluniau effeithlonrwydd ynni i fusnesau.