Egluro ôl-filio
Mae eich cyflenwr nwy neu drydan yn anfon ôl-filiau atoch pan fydd y tâl a godwyd arnoch yn anghywir. Canllaw i’ch hawliau.
-
Beth yw'r rheolau ar gyfer ôl-filio?
- Ni ellir codi tâl arnoch am nwy neu drydan a ddefnyddiwyd fwy na 12 mis yn ôl os na chawsoch fil cywir amdano o'r blaen.
- Rhaid i gyflenwyr nodi'r telerau hyn yn glir yn eu telerau ac amodau contract.
Mae'r rheolau yn gymwys i gwsmeriaid ynni cartrefi a chwsmeriaid ynni busnesau bach.
Efallai na fydd y rheolau yn gymwys os byddwch wedi ymddwyn yn lletchwith neu'n afresymol, gan atal y cyflenwr rhag eich bilio'n gywir. Gallai hyn gynnwys:
- rhwystro'r cyflenwr rhag cymryd darlleniadau mesurydd yn eich eiddo ar fwy nag un achlysur
- dwyn nwy neu drydan.
-
Os byddwch yn cael eich ôl-filio
Cysylltwch â'ch cyflenwr os byddwch yn cael bil am ynni a ddefnyddiwyd fwy na blwyddyn yn ôl.
Esboniwch eich bod yn deall eich bod wedi eich diogelu gan y rheolau ar gyfer ôl-filio. Dim ond am hyd at 12 mis o ddefnydd ynni y dylid codi tâl arnoch os nad ydych wedi cael bil cywir ers dros flwyddyn.
Defnyddiwch y llythyr enghreifftiol ôl-filio hwn gan Cyngor ar Bopeth i'ch helpu.
Gwnewch gwyn os bydd eich cyflenwr yn parhau i ofyn am y swm llawn.
-
Os nad ydych wedi cael bil ynni ers dros flwyddyn
Er mwyn helpu eich cyflenwr i anfon biliau cywir atoch, dylech geisio gwneud y canlynol:
- darparu darlleniadau mesurydd rheolaidd
- rhoi gwybod iddo pryd y byddwch yn symud i mewn ac allan o eiddo
- ystyried cael mesurydd deallus.
-
Os na allwch dalu ôl-fil
Os credwch na allwch fforddio talu, gofynnwch i'ch cyflenwr am opsiynau cynllun ad-dalu. Rhaid iddo ystyried faint rydych yn gallu ei fforddio. Bydd yn egluro eich opsiynau.
Gall Cyngor ar Bopeth hefyd eich helpu os na allwch gytuno ar gynllun talu neu os nad ydych yn fodlon ar yr opsiynau a gawsoch gan y cyflenwr.
- Ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs.
- Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rhif y llinell gymorth.
Yn yr Alban, gall Advice Direct Scotland helpu:
- Ewch i wefan energyadvice.scot
- Ffoniwch 0808 196 8660 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs
- E-bostiwch energyadvice.scot