Ymuno â Chofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth eich cyflenwr

Dysgwch fwy am ymuno â Chofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth eich cyflenwr ynni neu'ch gweithredwr rhwydwaith, a'r cymorth ychwanegol y byddwch yn ei gael.

Bydd eich cyflenwr ynni (y cwmni sy'n darparu'ch trydan a'ch nwy) a'ch gweithredwr rhwydwaith (y cwmni sy'n gyfrifol am y pibellau a'r gwifrau sy'n cludo trydan a nwy) yn cadw Cofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth. 

Pa help sydd ar gael

Drwy ymuno â'u Cofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth byddwch yn gallu cael sawl math o gymorth ychwanegol pan fydd ei angen arnoch. Gallai hyn fod drwy'r amser, neu am gyfnod byr o ganlyniad i rywbeth sydd wedi digwydd yn eich bywyd. 

Mae'r mathau o gymorth y gallwch ei gael yn cynnwys: 

  • cymorth â blaenoriaeth mewn argyfwng
  • pryd bynnag y bo'n bosibl, dylid rhoi rhybudd ymlaen llaw o doriadau trydan wedi'u cynllunio
  • cynllun adnabod a chyfrinair os bydd angen i rywun ymweld neu gysylltu â chi, gan eich helpu i deimlo'n hyderus bod yr unigolyn yn ddilys 
  • y gallu i enwebu rhywun i gael gwybodaeth a biliau gan eich cyflenwr, er enghraifft aelod o'r teulu, gofalwr neu rywun rydych yn ymddiried ynddo/ynddi 
  • y cyfle i symud eich mesurydd rhagdalu os na allwch ei gyrraedd yn ddiogel i ychwanegu credyd
  • gwasanaethau darllen mesurydd rheolaidd
  • gwybodaeth am gyfrifon a biliau mewn print bras neu mewn braille
  • cymorth i ailgysylltu'ch cyflenwad nwy, os oes angen hynny arnoch. 

Pwy sy'n gallu ymuno

Gallwch ofyn am gael ymuno â Chofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth eich cyflenwr neu'ch gweithredwr rhwydwaith: 

  • os ydych wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth
  • os ydych yn feichiog, neu os oes gennych blant bach
  • os ydych yn cael trafferth siarad neu ddarllen Saesneg

Gallwch hefyd ymuno os ydych yn byw gydag anabledd neu gyflwr meddygol hirdymor, gan gynnwys:

  • cyflyrau iechyd meddwl
  • cyflyrau sy'n effeithio ar eich golwg, eich clyw neu'ch synnwyr arogleuo
  • cyflyrau sy'n golygu bod angen i chi ddefnyddio cyfarpar meddygol sy'n gofyn am gyflenwad pŵer

Mae help ar gael hefyd os yw eich amgylchiadau wedi newid yn ddiweddar, er enghraifft: 

  • os ydych yn gwella ar ôl anaf, neu os oes angen cymorth arnoch ar ôl bod yn yr ysbyty
  • os ydych wedi cael profedigaeth
  • os ydych wedi colli'ch swydd

Sut i ymuno

Cysylltwch â'ch cyflenwr neu'ch gweithredwr rhwydwaith yn uniongyrchol a rhowch gymaint o wybodaeth am eich anghenion ag y gallwch. 

Gallwch gysylltu â'ch cyflenwr ar-lein, yn ysgrifenedig neu dros y ffôn. Dylai manylion ynglŷn â sut i wneud hyn fod ar ei wefan neu ar eich biliau ynni.

Os nad ydych yn siŵr gyda phwy i gysylltu, dilynwch y cyfarwyddiadau ar ein tudalen Canfod eich cyflenwr ynni.

Pethau i'w cofio

Os oes gennych gyflenwr gwahanol ar gyfer eich nwy a'ch trydan, mae angen i chi gysylltu â'r ddau ohonynt.

Os byddwch yn newid cyflenwr, bydd angen i chi ofyn am gael ymuno â'i Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth.

Mae gwasanaethau am ddim tebyg ar gael yn y sector dŵr, y sector telathrebu a'r sector trafnidiaeth gyhoeddus. Holwch eich cyflenwr amdanynt.