Cwyno am Ofgem
Cwynion am gyflenwyr ynni
I gael help a chyngor ar sut i gwyno am eich bil ynni neu eich cyflenwr, cliciwch ar y botwm isod.
Mae Cyngor ar Bopeth hefyd yn darparu gwasanaeth llinell gymorth ddiduedd yn rhad ac am ddim sy'n ymdrin ag amrywiaeth o faterion ar 0808 223 1133.
Gwneud cwyn
Mae'r wybodaeth isod yn esbonio sut i roi gwybod i Ofgem os oes gennych gŵyn am y ffordd rydym wedi gwneud rhywbeth neu os ydych yn credu ein bod wedi gwneud rhywbeth o'i le. Mae hefyd yn esbonio sut y byddwn yn delio â'ch cwyn.
Pryd i ddweud wrthym am eich cwyn
Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydym yn gwneud rhywbeth neu os ydych yn credu ein bod wedi gwneud rhywbeth o'i le, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn geisio unioni pethau. Bydd eich adborth yn ein helpu i wella ein gwasanaethau ar gyfer eraill.
Gellir gwneud cwynion am safon y gwasanaeth rydym wedi'i ddarparu, sut rydym wedi perfformio, sut rydym yn gweithredu neu'r ffordd rydym wedi dod i benderfyniad. Ein nod yw datrys cwynion yn brydlon ac efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am ragor o wybodaeth i sicrhau ein bod yn cyfeirio eich cwyn at faes cywir y busnes.
Ein nod yw datrys pob cwyn y tro cyntaf. Fodd bynnag, os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb, gallwch ofyn am adolygiad gan uwch-reolwr.
Beth sydd angen i chi ei ddweud wrthym
Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i ni er mwyn ein helpu i ddeall eich cwyn ac ymchwilio iddi. Amlinellwch:
- Beth sydd o'i le yn eich barn chi
- Pryd ddigwyddodd hyn
- Pwy wnaethoch chi ddelio ag ef
- Sut yr hoffech i ni ddatrys y mater
- Eich manylion cyswllt a ffafrir ar gyfer cysylltu â chi – e-bost, ffôn neu gyfeiriad post.
Beth y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn ceisio datrys unrhyw gŵyn yn gyflym ac yn esbonio beth rydym wedi'i wneud a pham. Dyma beth y gallwch ei ddisgwyl pan fyddwch yn gwneud cwyn i ni a'r amserlen sy'n gysylltiedig â hynny.
Mynd â'ch cwyn ymhellach
Mae'r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (PHSO) yn gorff annibynnol sy'n gallu camu i mewn os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb. Mae ganddo'r pwerau i ymchwilio i gwynion am gyrff cyhoeddus.
I wneud cwyn i'r PHSO, mae'n rhaid i chi ysgrifennu at eich AS yn gyntaf. Gofynnwch iddo/iddi gyfeirio'r gŵyn at yr Ombwdsmon. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich AS, gweler Cysylltu â'ch AS.
Cwynion am y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy (RHI)
Ar gyfer cwynion am gynlluniau'r Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy, gallwch ddefnyddio'r cyfeiriadau e-bost isod:
- Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Domestig: DRHIResolutions@ofgem.gov.uk
- Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Annomestig: RHI.Complaint@ofgem.gov.uk
Neu ysgrifennwch at: Ofgem Complaint, Commonwealth House, 32 Albion Street, Glasgow, G1 1LH.
Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol atom drwy'r post, gan na fyddwn yn gallu eu dychwelyd.
Gallwch hefyd ofyn i rywun arall (er enghraifft, perthynas, ffrind neu gynghorydd proffesiynol fel Cyngor ar Bopeth) gwyno ar eich rhan.
Delio ag ymddygiad afresymol
Rydym yn deall y gallwch deimlo'n rhwystredig neu wedi cynhyrfu, ond gall ymddygiad afresymol ei gwneud yn anodd i ni eich helpu. Ymhlith yr enghreifftiau mae:
- Gwrthod darparu manylion cwyn
- Gwadu neu newid datganiadau a wnaed yn gynharach
- Defnyddio iaith sarhaus neu fygythiol
- Mynnu cael ymatebion o fewn amserlen afresymol
- Gormod o alwadau ffôn, negeseuon e-bost neu lythyrau manwl ar ôl i'r wybodaeth ddiweddaraf gael ei rhoi
- Newid sylwedd cwyn dro ar ôl tro
- Methu derbyn na allwn gynorthwyo ymhellach
- Ceisiadau am wybodaeth y mae'r cwsmer eisoes wedi'i gweld neu ailagor mater sydd eisoes wedi cael ei ystyried.
Ymateb i ymddygiad afresymol
- Bydd Ofgem yn rhoi gwybod i'r heddlu am ddigwyddiadau difrifol
- Efallai y byddwn yn cysylltu i esbonio'r hyn rydym yn ei ystyried yn afresymol. Lle y bo angen, byddwn yn ysgrifennu at y cwsmer i ddweud pa gamau rydym yn eu cymryd a pham
- Byddwn yn dod â galwadau ffôn i ben os bydd iaith neu ymddygiad yr unigolyn yn annerbyniol. Mae gan bob aelod o staff yr hawl i wneud y penderfyniad hwn
- Caiff galwadau i'n Tîm Ymholiadau eu recordio. Rydym yn cadw unrhyw dystiolaeth o ymddygiad afresymol ar ffeiliau cwsmeriaid.
Apelio penderfyniad i gyfyngu ar gysylltiad
Efallai y bydd Ofgem yn dewis cyfyngu ar gysylltiad yn dilyn ymddygiad afresymol. Byddwn yn ysgrifennu i roi gwybod pa gyfyngiadau sydd ar waith. Mae gan gwsmer yr hawl i apelio yn erbyn y cyfyngiadau hyn o fewn 20 diwrnod gwaith. Bydd uwch-aelod o'r staff nad oedd yn rhan o'r penderfyniad gwreiddiol yn ystyried yr apêl a bydd yn rhoi gwybod am ei benderfyniad.
Os yw cwsmer yn dal i fod yn anfodlon ar benderfyniad yr apêl, y cam nesaf yw cysylltu â'r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.