No, there is no right to appeal against decisions made through the selection process. We operate our processes in line with the Civil Service Commissioners’ Recruitment Principles where appointment is open, fair and on merit.
Nac oes, nid oes unrhyw hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir drwy'r broses ddethol. Rydym yn gweithredu ein prosesau yn unol ag Egwyddorion Recriwtio Comisiynwyr y Gwasanaeth Sifil lle mae prosesau penodi yn agored, yn deg ac yn digwydd yn ôl teilyngdod.
Mae gan y Comisiwn ddwy brif swyddogaeth:
Y swyddogaeth gyntaf yw cynnal yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodi i'r Gwasanaeth Sifil yn ôl teilyngdod, ar sail cystadleuaeth agored a theg. Ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi, mae'r Comisiwn yn cyflawni ei gyfrifoldebau drwy'r Egwyddorion Recriwtio sy'n llywodraethu'r broses recriwtio ac yn rhoi gofynion gorfodol ar adrannau. Mae'r rhain ar gael ar wefan comisiwn y Gwasanaeth Sifil. Ar gyfer y rhan fwyaf o uwch-swyddi yn y Gwasanaeth Sifil, bydd Comisiynydd yn cadeirio'r broses ar gyfer y gystadleuaeth recriwtio yn cynnwys y panel dethol terfynol.
Os bydd ymgeiswyr o'r farn nad yw eu cais wedi'i drin yn unol â'r Egwyddorion a'u bod am wneud cwyn, dylent gysylltu ag Ofgem yn y lle cyntaf. Os na fyddant yn fodlon ar yr ymateb a geir gan Ofgem, gellir anfon apeliadau i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil yn info@csc.gsi.gov.uk.
Ail swyddogaeth y Comisiwn yw hyrwyddo dealltwriaeth o God y Gwasanaeth Sifil sy'n nodi'r fframwaith cyfansoddiadol y mae pob gwas sifil yn gweithio o'i fewn a'r gwerthoedd y disgwylir iddynt eu harfer, a chlywed a phennu apeliadau a wneir oddi tano. Ceir copïau o'r dogfennau ar wefan comisiwn y Gwasanaeth Sifil neu gellir cael copi caled o: Civil Service Commission, Room G/8, 1 Horse Guards Road, London SW1A 2HQ
Ceir copi o God y Gwasanaeth Sifil ar wefan y Gwasanaeth Sifil.