Chwythu'r chwiban
Beth yw chwythwr chwiban allanol?
Mae'r polisi hwn yn gymwys i chwythwyr chwiban allanol. Rydych yn chwythwr chwiban allanol os yw'r canlynol yn gymwys:
- nid ydych yn gweithio i Ofgem
- rydych yn gweithio yn y diwydiant trydan neu nwy
- rydych am ddatgelu gwybodaeth am weithgareddau cwmnïau neu unigolion yn y diwydiant er mwyn codi pryder am enghraifft o gamwedd, risg neu gamarfer rydych yn ymwybodol ohoni drwy eich gwaith.
Mesurau diogelu ar gyfer chwythwyr chwiban
Rydym yn croesawu gwybodaeth gan chwythwyr chwiban, a byddem yn eich annog i gysylltu â ni os hoffech godi pryder.
Daeth Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998, i rym ar 2 Gorffennaf 1999 a chyfeirir ati'n gyffredin fel y ddeddfwriaeth chwythu'r chwiban.
Mae Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 yn llunio fframwaith i alluogi unigolion yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus i ddatgelu gwybodaeth sydd er lles y cyhoedd, drwy eu diogelu rhag erledigaeth neu rhag cael eu trin yn andwyol gan eu cyflogwr.
Rydym wedi ein dynodi gan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 i gael datgeliadau am y diwydiant nwy a thrydan ac rydym yn cymryd gwybodaeth a ddarperir gan chwythwyr chwiban o ddifrif.
Rydym yn trin pob datgeliad a wneir o dan y canllawiau hyn ar Chwythu'r chwiban mewn modd sensitif, a byddwn yn gwarchod hunaniaeth yr unigolyn sy'n gwneud honiad lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau penodol, efallai y bydd yn ofynnol i ni ddatgelu pwy yw rhywun, lle mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud hynny.
Pwy i ddweud wrtho
Gellir e-bostio gwybodaeth neu ddatgeliadau chwythu'r chwiban i whistle@ofgem.gov.uk.
Fel arall, ysgrifennwch atom neu ffoniwch ni yn:
Whistleblowing Desk, Consumer Affairs, 10 South Colonnade, Canary Wharf, London. E14 4PU.
Nodwch na chaiff unrhyw bost a anfonir i'n swyddfa yn Llundain ar ôl 3 Ebrill 2020 ei brosesu am gyfnod amhenodol gan fod y swyddfa honno ar gau yn sgil y Coronafeirws.
Ffôn: 020 7901 7121 (Nodwch nad llinell gyswllt i ddefnyddwyr yw hon).
Nodwch efallai y caiff galwadau eu recordio.