Dod o hyd i'ch cyflenwr ynni
Gwybod pryd a sut i gysylltu â'ch cyflenwr ynni neu weithredwr rhwydwaith.
Pwy y dylech gysylltu â nhw
Efallai y bydd angen i chi gysylltu naill ai â'ch cyflenwr ynni (y cwmni sy'n darparu eich ynni) neu'ch gweithredwr rhwydwaith (y cwmni sy’n gyfrifol am y pibellau a'r gwifrau sy'n cario trydan a nwy).
Cysylltwch â'ch cyflenwr ynni:
- os oes gennych gwestiynau am eich bil
- os hoffech wneud cwyn i'ch cyflenwr
- os ydych yn symud allan o'ch eiddo
Cysylltwch â'ch gweithredwr rhwydwaith:
- os oes angen i chi roi gwybod am achos o nwy yn gollwng (os byddwch yn arogleuo nwy, ffoniwch 0800 111 999 ar unwaith)
- os ceir toriad yn eich cyflenwad
- os oes angen i chi gael eich cysylltu â'r prif bibellau
- os oes angen i chi ddod o hyd i'ch cyflenwr trydan
Dod o hyd i gyflenwr nwy neu drydan
Os oes gennych fil ynni diweddar neu gyfrif ar-lein, dylech allu dod o hyd i fanylion cyswllt eich cyflenwr ynni cyfredol yma.
Pwy yw fy nghyflenwr trydan?
Os nad oes gennych fil trydan diweddar, bydd angen i chi yn gyntaf ganfod pwy yw eich gweithredwr rhwydwaith, ac yna gofyn iddo am fanylion eich cyflenwr. Dilynwch y camau hyn:
- ewch i adnodd chwilio'r Gymdeithas Rhwydweithiau Ynni
- rhowch eich cod post
- cysylltwch â'ch gweithredwr rhwydwaith lleol i gael manylion eich cyflenwr
Gallwch hefyd gael gwybod eich Rhif Gweinyddu Pwynt Mesurydd (MPAN) trydan, sy'n dweud wrth eich cyflenwr ynni ble mae eich mesurydd a rhif eich cyflenwad trydan.
Pwy yw fy nghyflenwr nwy?
Gall y Gwasanaeth Gweinyddu Pwynt Mesurydd ddweud wrthych pwy yw eich cyflenwr nwy.
Gallwch wneud y canlynol:
- defnyddio ei adnodd chwilio ar-lein Find My Supplier
- ei ffonio ar 0870 608 1524 (codir tâl o 7c y funud, ynghyd â thâl mynediad eich cwmni ffôn ar gyfer galwadau i'r rhif hwn)
- cael gwybod eich Rhif Cyfeirnod Pwynt Mesurydd (MPRN), sy'n dweud wrth eich cyflenwr ynni ble mae eich mesurydd a rhif eich cyflenwad nwy.