Cael ynni ar gyfer eich busnes

Gweld a oes angen contract ynni busnes arnoch, costau sydd wedi'u cynnwys mewn contractau ynni busnes a symud eich busnes i safle newydd.

Mae angen contract ynni busnes ar fusnesau ar gyfer yr ynni y byddant yn ei ddefnyddio 

Os ydych yn rhedeg busnes, mae'r ffordd y byddwch yn talu am yr ynni y bydd yn ei ddefnyddio a'r math o gontract y bydd ei angen arnoch yn dibynnu ar y canlynol:  

  • y nifer o bobl rydych chi'n eu cyflogi
  • yr incwm y mae eich busnes yn ei wneud dros flwyddyn
  • swm y trydan a'r nwy y bydd eich busnes yn defnyddio y flwyddyn

Os ydych ch'n cael eich trydan a'ch nwy gan gyflenwyr ynni gwahanol, byddwch yn cael bil ar wahân ar gyfer pob math o ynni y mae eich busnes yn ei ddefnyddio. Os ydych chi'n cael trydan a nwy gan yr un cyflenwr, efallai mai un bil a gewch.  

Os ydych chi'n gweithio gartref

Bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio gartref ar gontract domestig ac ni fydd angen contract ynni busnes ar wahân arnynt. 

Microfusnesau

Os oes gan eich busnes lai na 10 cyflogai a bod y trosiant yn llai na 2 filiwn o ewros (tua £1.8 miliwn), caiff ei ddisgrifio fel microfusnes. 

Mae eich busnes hefyd yn ficrofusnes os oes ganddo fwy na 10 cyflogai ond ei fod yn defnyddio llai na 100,000 awr cilowat (kwH) o drydan y flwyddyn neu 293,000 o oriau cilowat (kWh  o nwy y flwyddyn.

Os caiff eich busnes ei ddisgrifio'n ficrofusnes, bydd angen i chi sefydlu contract ynni busnes
 

Mae'n bosibl y cewch eich galw'n ficrofusnes ar gyfer un math o ynni ac nid y llall, yn dibynnu ar faint o ynni y byddwch yn ei ddefnyddio. Bydd angen i chi gael dyfynbrisiau ar gyfer trydan a nwy. Edrychwch ar eich bil neu cysylltwch â'ch cyflenwr ynni os nad ydych yn siŵr faint o ynni mae eich busnes yn ei ddefnyddio mewn blwyddyn. 
 

Y costau sydd wedi'u cynnwys mewn contractau ynni busnes

There are different costs included in business energy bills. These costs make up the unit rate that you are charged per unit of electricity or gas you use measured in kilowatt hours (kWh). The costs also include a standing charge if you have one, depending on which type of contract you have.

These costs include:

  • taxes like VAT, Climate change levy (CCL)
  • government schemes and levies, for example:
    • renewable obligations scheme
    • contract for difference
    • Feed-in Tariffs (FIT) (electricity only)
    • Green Gas Levy (gas only)
    • Green Gas Support scheme (gas only)
    • Renewable Energy Guarantees of Origin (REGO) (Great Britain and Northern Ireland)
  • wholesale costs, the cost to buy energy for customers
  • network costs:
    • Transmission Network use of System charge (TNUoS)
    • Balancing Services Use of System charges  (BSUoS)
    • Distribution Use of System charges  (DUoS)
    • Transmission and Distribution Losses (Tloss and Dloss)
    • Assistance for Areas with High Electricity Distribution Costs (AAHEDC)
    • Reactive power charge
  • third-party services like sales commissions and brokerage
  • other supplier costs, like:
    • bad debt, a cost to cover a customer’s debt that they cannot afford to pay back
    • excess capacity charge, a cost to cover when customers use more than their agreed supply capacity
    • costs to serve, a cost to cover energy suppliers cost to run their business and get energy to you, such as administrative and operational costs
    • Meter Operator Charge (MOP), a charge for providing your electricity meter, maintaining it and communications

Caiff costau gwahanol eu cynnwys mewn biliau ynni busnes. Mae'r costau hyn yn cynnwys y gyfradd fesul uned a godir am bob uned o drydan neu nwy a ddefnyddiwch, a fesurir fesul awr cilowat (kWh). Mae'r costau hyn hefyd yn cynnwys tâl sefydlog os oes gennych un, yn dibynnu ar ba fath o gontract sydd gennych. 

Mae'r costau hyn yn cynnwys y canlynol:

  • trethi fel TAW, Ardoll newid hinsawdd (CCL)
  • cynlluniau ac ardollau'r llywodraeth, er enghraifft: 
    • cynllun rhwymedigaethau adnewyddadwy
    • contract ar gyfer gwahaniaeth
    • Tariffau Cyflenwi Trydan (FIT) (trydan yn unig)
    • Yr Ardoll Nwy Gwyrdd (nwy yn unig)
    • Cynllun Cymorth Nwy Gwyrdd (nwy yn unig)
    • Gwarantau Tarddiad Ynni Adnewyddadwy (REGO) (Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon)
  • costau cyfanwerthu, y gost o brynu ynni ar gyfer cwsmeriaid 
  • costau rhwydwaith:
    • Tâl Defnydd o System Rhwydwaith Trawsyrru  (TNUoS)
    • Taliadau Defnydd o System Gwasanaethau Cydbwyso   (BSUoS)
    • Taliadau Defnydd o System Ddosbarthu  (DUoS)
    • Trawsyrru a Dosbarthu Colledion (Tloss a Dloss) 
    • Cymorth ar gyfer Ardaloedd gyda Chostau Dosbarthu Trydan Uchel (AAHEDC)
    • Tâl pŵer adweithiol
  • gwasanaethau trydydd parti fel comisiynau gwerthu a broceriaeth
  • costau eraill y cyflenwr, fel:
    • dyled wael, cost i dalu am ddyled cwsmer na all fforddio ei dalu'n ôl
    • taliad capasiti gormodol, cost i gwmpasu pan fydd cwsmer yn defnyddio mwy na'r capasiti cyflenwi y cytunwyd arno
    • costau i wasanaethau, cost i gwmpasu cost cyflenwyr ynni i redeg eu busnes a chael ynni i chi, fel costau gweinyddol a gweithredol 
    • Tâl Gweithredu Mesurydd (MOP), tâl am ddarparu eich mesurydd trydan, ei gynnal a chyfathrebiadau 

Y manylion sydd ar filiau ynni

Bydd y manylion sydd ar filiau ynni busnes yn dibynnu ar y canlynol: 

  • maint eich busnes
  • y math o gontract ynni busnes sydd gennych
  • y math o fesurydd sydd gennych, er enghraifft, mesurydd bob hanner awr neu nad yw fesul awr, neu fesurydd deallus
  • eich cyflenwr ynni

Mae rhai cyflenwyr ynni yn rhoi mwy o fanylion nag eraill

Symud eich busnes i safle newydd

Pan fyddwch yn symud i safle busnes newydd, mae'n bosibl y cewch eich rhoi ar gontract cyfradd dybiedig os na fyddwch wedi cytuno ar gontract cyn symud. 

Os ydych ar gontract cyfradd dybiedig 

Os ydych ar gontract cyfradd dybiedig, gallai'r cyfraddau a dalwch fynd i fyny ac i lawr yn amlach na phan fyddwch ar gontract cyfradd sefydlog. Gallwch ddewis dechrau contract ynni gyda chyflenwr unrhyw bryd ar ôl symud. Gweld os a sut i newid cyflenwyr ynni.

Cyn symud i safle newydd, dylech wneud y canlynol: 

  • gwirio telerau ac amodau eich contract ynni busnes presennol
  • gweld a yw'ch cyfrif ynni cyfredol mewn credyd neu mewn dyled
  • gweld a allwch ddechrau contract ynni busnes ar gyfer safle newydd cyn symud
  • gweld a gaiff costau ynni eu cynnwys yn y cytundeb tenantiaeth
  • rhoi gwybod i'ch eich hen gyflenwr ynni eich bod yn symud