Gweithio i Ofgem
Gweithio i Ofgem
Ofgem yw Swyddfa'r Marchnadoedd Nwy a Thrydan. Rydym yn adran anweinidogol o'r llywodraeth ac yn Awdurdod Rheoleiddio Cenedlaethol annibynnol, a gydnabyddir gan Gyfarwyddebau'r UE. Ein rôl yw diogelu defnyddwyr nawr ac yn y dyfodol drwy weithio i sicrhau system ynni werddach a thecach.
Sut i wneud cais
Mae holl swyddi gwag Ofgem i'w gweld ar wefan Swyddi'r Gwasanaeth Sifil.
Os hoffech wneud cais am rôl, bydd angen i chi lanlwytho eich CV ynghyd â datganiad addasrwydd cyn y dyddiad cau.
Pan fyddwch wedi dechrau'r broses gwneud cais gallwch arbed eich manylion a gadael y safle heb orfod cwblhau'r cais mewn un sesiwn.
Beth a gynigir gennym
Mae cyflogeion Ofgem yn cael amrywiaeth o fuddiannau, yn cynnwys:
- cyfleoedd datblygiad a hyfforddiant i gyflogeion gyda thîm Dysgu a Datblygu penodedig
- amrywiaeth eang o grwpiau a sefydliadau proffesiynol, cymdeithasol a hamdden
- swyddfeydd bywiog a modern yn Canary Wharf yn Llundain, Merchant City yn Glasgow, a Chaerdydd.
- gostyngiadau'r Gwasanaeth Sifil ar gyfer sefydliadau lleol, rhanbarthol, a chenedlaethol
- cynllun pensiwn gwerth uchel
Gallwch gael gwybod am ein hamrywiaeth lawn o fuddiannau yn ein pecyn buddiannau, a gaiff ei atodi i bob swydd wag ac sydd ar gael ar gais gan ein tîm recriwtio.
Rhaglen Datblygu Graddedigion Ofgem
Os ydych yn awyddus i gael effaith barhaol ar dirwedd ynni y DU a'n helpu i gyrraedd Sero Net, cadwch olwg am swyddi gwag ar ein Rhaglen Datblygu Graddedigion.
Bydd y swyddi gwag hyn yn cael eu hysbysebu ar wefan Swyddi'r Gwasanaeth Sifil.