Ein strategaeth a'n blaenoriaethau
Ein gweledigaeth strategol
Erbyn 2025, ein gweledigaeth yw sicrhau bod y system ynni ar y trywydd cywir i gyrraedd statws sero net, a gyflawnir er budd defnyddwyr, yn cynnwys:
- Bod defnyddwyr ynni yn cael gwasanaethau ynni sy'n cynnig gwerth da a'u bod yn cael eu trin yn dda gan gwmnïau ynni arloesol, o'r radd flaenaf, gyda mesurau i ddiogelu pobl sy'n agored i niwed
- Sector trydan sy'n gallu gweithredu heb danwyddau ffosil, gyda chyfran gynyddol o ynni adnewyddadwy cost isel, ynghyd â datblygu a defnyddio ffynonellau eraill o bŵer carbon isel
- Twf cyflym yn y defnydd o gerbydau trydan, pympiau gwres a rhwydweithiau gwers, a gwneud penderfyniadau ar rôl hydrogen
- Lleihau costau, cynyddu lefelau hyblygrwydd ym mhob rhan o'r system, gyda defnyddwyr ynni yn defnyddio technoleg ddeallus i symud y galw fel mater o drefn
- Sector ynni sy'n defnyddio data gyda mesuryddion deallus a ddefnyddir yn eang a mynediad agored i ddata sy'n ysgogi gwasanaethau a marchnadoedd newydd, ac yn lleihau costau.
Ein blaenoriaethau a'n hamcanion
Rydym wedi nodi pum maes lle rydym o'r farn y dylem ganolbwyntio ein hymdrechion er mwyn cyflawni'r effaith fwyaf, ynghyd â'n cyfrifoldebau rheoleiddiol craidd.
Mae gan ein fframwaith strategol newydd ddwy flaenoriaeth barhaus a phum rhaglen newid strategol er mwyn helpu i gyflawni'r trawsnewid i statws sero net er budd defnyddwyr.
Blaenoriaethau parhaus
- Diogelu buddiannau defnyddwyr drwy reoleiddio'r sector ynni.
- Rhoi cynlluniau presennol y llywodraeth a rhai newydd ar waith er mwyn cefnogi defnyddwyr sy'n agored i niwed ac ysgogi'r broses datgarboneiddio.
Rhaglenni newid strategol
- Hwyluso buddsoddiad mewn seilwaith carbon isel am bris teg.
- Sicrhau hyblygrwydd y gadwyn gyflawn o ran y ffordd rydym yn cynhyrchu, yn defnyddio ac yn storio ynni.
- Darparu marchnad fanwerthu yn y dyfodol sy'n gweithio i bob defnyddiwr a'r blaned.
- Gwireddu manteision data a digideiddio.
- Sicrhau bod trefniadau llywodraethu systemau ynni, gan gynnwys Ofgem, yn addas ar gyfer y dyfodol.
Rydym yn cyhoeddi Blaenraglen Waith bob blwyddyn. Rydym yn defnyddio'r Flaenraglen Waith i esbonio'n fanwl y gwaith y byddwn yn ei wneud dros y 12 mis nesaf i'n helpu i gyflawni ein hamcanion.
Blaenraglen Waith 2021/22
Darllenwch fwy am nod Ofgem o adeiladu system ynni werddach a thecach ar gyfer cartrefi a busnesau ym Mhrydain Fawr.