Cysylltu â ni
Cwynion ynglyn â chyflenwyr ynni
I gael help a chyngor ar sut i gwyno am eich bil neu'ch cyflenwr ynni, cliciwch ar y botwm isod.
Mae Cyngor ar Bopeth hefyd yn cynnig gwasanaeth llinell gymorth ddiduedd yn rhad ac am ddim sy'n cwmpasu amrywiaeth o faterion ar 0808 223 1133.
Ymholiadau cyffredinol
Rydym yn cael niferoedd mawr o ymholiadau ar hyn o bryd, felly efallai y bydd yn cymryd ychydig mwy o amser na'r arfer i ateb eich galwad neu ymateb i'ch e-bost. Mae'r atebion i lawer o gwestiynau cyffredin yn ein hadran gwybodaeth i ddefnyddwyr.
Os yw eich cyflenwad wedi cael ei ddatgysylltu neu os ydych heb gyflenwad, cysylltwch â:
- Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs. Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rhif y llinell gymorth.
- Advice Direct Scotland ar 0808 196 8660 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs.
Os oes gennych ymholiad ynghylch polisïau neu swyddogaethau Ofgem, cysylltwch â ni ar consumeraffairs@ofgem.gov.uk, ar 020 7901 7295 neu gan ddefnyddio'r cyfeiriadau isod.
Os oes gennych ymholiad ynghylch cynllun amgylcheddol neu gymdeithasol a weinyddir gan Ofgem, cliciwch yma i gael gwybodaeth gyswllt.
Oriau agor y llinellau ffôn
Os oes gennych gais i aelod o Ofgem siarad mewn digwyddiad, gwnewch gais am siaradwr. Rydym hefyd yn rhannu newyddion corfforaethol a chyngor cyffredinol i helpu defnyddwyr i gael y gorau o'u gwasanaethau ynni drwy ein tudalennau newyddion a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol: @Ofgem Twitter, @Ofgem Linkedin, @Ofgem facebook.
Sgamiau ynni
Weithiau, efallai y bydd sgamiwr yn ceisio cysylltu â chi drwy guro ar eich drws, eich ffonio, cysylltu â chi drwy'r cyfryngau cymdeithasol, e-bost, neges naid ar wefan, neu neges destun yn esgus bod o Ofgem. Er enghraifft, efallai y bydd yn awgrymu y dylech newid eich cyflenwr ynni neu ofyn am eich manylion banc.
Cadarnhewch a ydych wedi cael ei sgamio
Dyma rai pethau i fod yn ymwybodol ohonynt:
- ni fydd Ofgem byth yn gwerthu ynni i chi, yn gofyn am wybodaeth bersonol na'ch manylion banc personol nac yn dod i'ch eiddo
- os byddwch yn amau bod rhywun wedi cysylltu â chi yn esgus ei fod o Ofgem, gwrthodwch neu anwybyddwch y cyswllt
Os byddwch yn meddwl eich bod wedi cael eich twyllo
Dylech wneud y canlynol:
- cysylltu â'ch banc ar unwaith
- ffonio Action Fraud ar 0300 123 2040 neu ddefnyddio ei ffurflen ar-lein
- rhoi gwybod am sgamiau rhyngrwyd ac achosion o we-rwydo drwy anfon negeseuon e-bost amheus ymlaen i report@phishing.gov.uk
- ffonio 999 mewn argyfwng bob amser, os byddwch yn teimlo dan fygythiad neu'n anniogel
- dweud wrthym drwy e-bost consumeraffairs@ofgem.gov.uk neu drwy ffonio 020 7901 7295
Delio ag ymddygiad afresymol
Mae Ofgem yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth ardderchog i bawb sy'n cysylltu â ni. Mae gan ein timau yr hawl i weithio mewn amgylchedd diogel ac mae gan bawb hawl i gael eu trin â pharch a chwrteisi. Rydym yn cydnabod y bydd adegau pan fyddwch yn rhwystredig neu wedi cynhyrfu, fodd bynnag, gall ymddwyn yn afresymol ei gwneud yn anodd i ni eich helpu ac nid yw'n dderbyniol.
Mae'r polisi hwn yn amlinellu beth rydym yn ystyried ei fod yn ymddygiad afresymol a sut y byddwn yn ymateb iddo.
Ymhlith yr enghreifftiau o ymddygiad afresymol mae:
- Bygwth neu sarhau ein timau, gan gynnwys gweiddi arnynt neu siarad drostynt ar alwad
- Defnyddio iaith sarhaus neu fygythiol, fel iaith ddifrïol neu ymosodol neu regi
- Cysylltu'n barhaus gan wrthod rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen i barhau â'n hymchwiliadau
- Gwadu neu newid datganiadau a wnaed ar gam cynharach
- Mynnu cael ymatebion o fewn amserlen afresymol
- Galw'n fynych ar Ofgem i weithredu y tu hwnt i'n cylch gwaith, neu wrthod derbyn cylch gwaith Ofgem
- Nifer gormodol o alwadau ffôn, negeseuon e-bost neu lythyron manwl ar ôl rhoi diweddariad
- Ail-fframio neu aralleirio cwyn yr ymatebwyd iddi eisoes.
- Methu derbyn na allwn gynorthwyo ymhellach, ar ôl i gŵyn/ymholiad gael ei chwblhau a/neu fethu dilyn camau gweithredu apêl/adolygiad.
Ymateb i ymddygiad afresymol
- Mewn achos o ymddygiad afresymol, gallwn gyfyngu eich gallu i gysylltu â ni. Byddwn yn ystyried unrhyw gamau a gymerir yn rhesymol a rhoi gwybod i chi, lle y bo'n bosibl, bod eich ymddygiad yn peri pryder i ni. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ailystyried eich ymddygiad tuag atom.
- Bydd Ofgem yn rhoi gwybod i'r heddlu am ddigwyddiadau difrifol, fel sylwadau ymosodol neu fygythiol.
- Ni fyddwn yn ymateb i ohebiaeth (mewn unrhyw fformat) sy'n cynnwys datganiadau sy'n sarhaus i'n tîm neu sy'n cynnwys honiadau lle nad oes tystiolaeth wirioneddol.
- Efallai y byddwn yn cysylltu i esbonio'r hyn rydym yn ei ystyried yn afresymol. Lle y bo angen, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud pa gamau rydym yn eu cymryd a pham.
- Efallai y byddwn yn rhoi'r gorau i gyfathrebu am fater neu gwestiwn penodol y byddwn eisoes wedi ymateb iddo yn ein tyb ni
- Byddwn yn dod â galwadau ffôn i ben os byddwch yn afresymol, yn ymosodol neu'n sarhaus. Mae gan bob aelod o Ofgem yr hawl i wneud y penderfyniad hwn, i ddweud wrth y sawl sy'n ffonio bod ei ymddygiad yn annerbyniol ac i ddod â'r alwad i ben os bydd yr ymddygiad yn parhau. Mewn achosion o'r fath, efallai y byddwn yn cyfyngu ar eich gallu i gysylltu â ni i ysgrifennu yn unig fel mesur diogelwch ar gyfer ein tîm.
- Gall cysylltu â ni dro ar ôl tro ar ôl galwad a gafodd ei therfynu arwain at ragor o gyfyngiadau ar eich gallu i gysylltu ag Ofgem.
- Efallai y caiff galwadau i'n Tîm Ymholiadau eu recordio. Rydym yn cadw unrhyw dystiolaeth o ymddygiad afresymol ar ffeiliau cwsmeriaid.
Apêl cysylltiad cyfyngedig
Os bydd Ofgem yn dewis cyfyngu ar eich gallu i gysylltu ag ef yn dilyn ymddygiad afresymol, os bydd gennym fanylion cyswllt ar eich cyfer, byddwn yn ysgrifennu i roi gwybod pa gyfyngiadau sydd ar waith. Mae gan gwsmer yr hawl i apelio yn erbyn y cyfyngiadau hyn o fewn 20 diwrnod gwaith. Bydd uwch-aelod o staff yn ystyried yr apêl. Byddwn yn cofnodi unrhyw gamau a gymerir mewn ymateb i ymddygiad afresymol a bydd hyn yn cael ei adolygu'n rheolaidd.
Os bydd cwsmer yn dal i fod yn anfodlon ar benderfyniad yr apêl, y cam nesaf yw cysylltu â'r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.
Ein lleoliadau
Swyddfa Llundain
Ofgem
10 South Colonnade
Canary Wharf
London
E14 4PU
Swyddfa Glasgow
Ofgem
Commonwealth House
32 Albion Street
Glasgow
G1 1LH
Swyddfa Cardiff
Ofgem
C/O HM Revenue & Customs
UK Government Hub Wales
Tŷ William Morgan
6-7 Central Square
Cardiff
CF10 1EP
Cyfeiriwch bob gohebiaeth bost i'n swyddfa yn Llundain.