Cwcis
Cwcis ar Ofgem.gov.uk
Ffeiliau testun bach yw cwcis a osodir ar eich cyfrifiadur neu ffôn symudol pan fyddwch yn pori gwefan. Mae bron bob gwefan yn eu defnyddio.
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis. Maent yn ein helpu i ddarparu, diogelu a gwella eich profiad ar-lein â ni.
Er enghraifft, rydym yn defnyddio cwcis i gofio'r canlynol:
- eich gosodiadau chwilio
- p'un a ydych wedi derbyn ein telerau ac amodau.
Y mathau o gwcis a ddefnyddiwn
Cwcis angenrheidiol
Cwcis yw'r rhain sy'n galluogi gweithrediad craidd ein gwefan. Gallwch eu hanalluogi drwy newid eich gosodiadau pori, ond gallai hyn effeithio ar eich profiad o weithrediadau penodol y wefan.
Pe baech am ddileu cwcis angenrheidiol o'n gwefan neu beidio â'u defnyddio, gallwch ddysgu sut i wneud hyn yn ‘Diffodd Cwcis’ isod.
Cwcis dadansoddol
Mae'r cwcis hyn yn ein helpu i ddeall y ffordd y mae pobl yn defnyddio ein gwefan, sy'n ein helpu i wella eich profiad. Mae'r data a gasglwn gan ddefnyddio cwcis dadansoddol yn ddienw.
Google Analytics yw'r adnodd a ddefnyddiwn. Am ragor o wybodaeth am y cwcis a ddefnyddir gan Google, ewch i dudalen Preifatrwydd a Thelerau Cwcis Google. Gallwch ddewis peidio â derbyn mesurau olrhain Google Analytics drwy osod yr ategyn hwn.
Cwcis ymchwilio i ddefnyddwyr
Mae'r cwcis hyn yn ein helpu i gasglu adborth gennych chi er mwyn gwella'r wefan. Mae hyn yn cynnwys arolygon, mapiau gwres a weithiau, sesiynau wedi'u recordio, a fydd yn ein helpu i ddeall y ffordd rydych yn defnyddio'r wefan.
Cwcis a ddefnyddiwn
Mae'r tabl isod yn dangos y cwcis a ddefnyddiwn ar ein gwefan a'r categori y mae pob un yn berthnasol iddo.
Rheoli cwcis
Mae pob porwr mawr yn caniatáu i chi ddiffodd a rheoli'r cwcis y mae'n eu derbyn ac yn eu storio. Am ragor o wybodaeth am sut i ddefnyddio'r opsiynau hyn, dilynwch y ddolen briodol ar gyfer eich porwr:
Rydym yn adolygu ein polisi ar gwcis yn rheolaidd. Gwnaethom ddiweddaru ein polisi ar gwcis ddiwethaf ar 1 Ebrill 2020.
Pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan, bydd neges am gwcis yn ymddangos ar ochr chwith y dudalen yn gofyn i chi dderbyn neu wrthod y gosodiadau a argymhellir gennym. Yn unol â gofynion ICO, ni fyddwch yn gallu pori'r wefan nes i chi wneud penderfyniad.
Mae'r tabl isod yn rhoi crynodeb o'r cwcis sy'n cael eu gweithredu neu eu diffodd pan fyddwch yn derbyn neu'n gwrthod ein gosodiadau.
Cysylltiadau a Chwynion
Os hoffech wneud y canlynol:
- gwneud cwyn am Ofgem, cyfeiriwch at yr adran Cwynion am Ofgem.
- arfer unrhyw un o'ch hawliau a/neu ofyn am wybodaeth am ein polisi preifatrwydd, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data drwy e-bost ar dpo@ofgem.gov.uk neu, fel arall, ysgrifennwch atom yn:
The Data Protection Officer
Ofgem
10 South Colonnade
Canary Wharf
London
E14 4PU
Cwynion
Mae gennych hawl i gwyno i'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Os ydych am gwyno am y ffordd rydym wedi trin eich gwybodaeth, gallwch roi gwybod i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am hyn yn:
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Telephone: 0303 123 1113
Ar-lein: Trafod yn fyw