Ein strwythur a'n harweinyddiaeth
Ein strwythur
GEMA
Y corff sy'n ein llywodraethu yw'r Awdurdod Marchnadoedd Nwy a Thrydan a chyfeirir ato fel GEMA neu'r Awdurdod. Mae'n cynnwys aelodau anweithredol a gweithredol, a chadeirydd anweithredol.
Caiff aelodau'r Awdurdod eu penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac mae'n cynnwys pum Cyfarwyddwr Anweithredol.
Pwyllgor Gweithredol
Caiff ein Pwyllgor Gweithredol ei gadeirio gan ein Prif Swyddog Gweithredol ac mae'n gyfrifol am ein perfformiad cyffredinol.
Deg cyfarwyddwr o bob rhan o'n sefydliad yw aelodau'r pwyllgor.
Pwerau a dyletswyddau GEMA
Ceir gwybodaeth lawn am bwerau a dyletswyddau’r Awdurdod, ei reolau a'i weithdrefnau a'i bwyllgorau amrywiol yn y cyhoeddiadau canlynol:
Cyfarfodydd
Mae'r Awdurdod yn cyfarfod o leiaf 10 gwaith y flwyddyn, bob mis fel arfer heblaw mis Ionawr a mis Awst. Gwneir llawer o'i waith gan ei Bwyllgorau a thrwy'r cyngor a roddir ganddynt i'r Awdurdod.
Ceir manylion llawn y materion a drafodir yn y cyfarfodydd hyn yn agendâu a chofnodion y Bwrdd.
Mae dyddiadau cyfarfodydd ar gyfer 2021 fel a ganlyn: