Darllenwch am eich hawliau ynni yn ein canllawiau am gyflenwad nwy a thrydan yn y cartref. Gallwch hefyd gael cyngor os bydd angen help ychwanegol arnoch, os byddwch yn cael anhawster â’ch cyflenwad neu os byddwch am gwyno. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am pa bryd y gall sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth a’r Ombwdsmon Ynni helpu pan aiff pethau o chwith. Gall ein hawgrymiadau ar newid cyflenwyr, grantiau’r llywodraeth, budd-daliadau a chynlluniau effeithlonrwydd ynni eich helpu i arbed arian a bod yn fwy gwyrdd o ran eich defnydd o ynni hefyd.