Mewngofnodi i gofrestr eich cynllun
Cofrestr Ynni Adnewyddadwy a Gwres a Phŵer Cyfunedig
Mae'r gofrestr hon yn cwmpasu'r rhaglenni amgylcheddol canlynol a weinyddir gennym ar ran y llywodraeth:
- Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy (RO)
- eithriadau Ardoll Newid yn yr Hinsawdd (CCL) ar gyfer Ynni Adnewyddadwy a Gwres a Phŵer Cyfunedig o ansawdd da
- Gwarantau Tarddiad Ynni Adnewyddadwy (REGO)
- Tariff Cyflenwi Trydan (FIT)
Defnyddiwch y gofrestr i wneud cais i gymryd rhan mewn cynllun ac i reoli'r broses. Mae'n cynnwys adroddiadau cyhoeddus a gyhoeddir gennym ar berfformiad cynlluniau. Dysgwch fwy yn Gwybodaeth am y gofrestr Ynni Adnewyddadwy a Gwres a Phŵer Cyfunedig.
Gweld y gofrestr Ynni Adnewyddadwy a Gwres a Phŵer Cyfunedig
Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Domestig: Porth ar gyfer gwneud cais a MyRHI
Defnyddiwch y porth ar gyfer gwneud cais i ddechrau'r broses o ymuno â'r Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Domestig (RHI Domestig).
Pan fyddwch wedi gwneud cais, mewngofnodwch i MyRHI er mwyn:
- gweld a chadarnhau statws eich ceisiadau presennol a newydd
- cadarnhau eich amserlen dalu
- cyflwyno darlleniadau mesurydd
- diweddaru manylion personol.
Cofrestr y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Annomestig
Defnyddiwch gofrestr y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Annomestig (RHI Annomestig) i weld adroddiadau cyhoeddus ar berfformiad cynlluniau ac i reoli'r ffordd rydych yn cymryd rhan mewn cynllun, yn cynnwys:
- gwneud cais am achrediad ar gyfer gosodiad sy'n gymwys ar gyfer y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy a chofrestru fel cynhyrchydd biomethan
- cynnal manylion gosodiadau achrededig/cofrestredig
- cyflwyno darlleniadau mesurydd, mesuriadau tanwydd a data cyfnodol eraill, yn cynnwys datganiadau blynyddol.
Cofrestr y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO)
Mae cofrestr y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni yn galluogi cyflenwyr ynni sydd dan rwymedigaeth i'n hysbysu am fesurau effeithlonrwydd ynni a osodwyd ganddynt.